Beibl (1620)/Titus

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search

PENNOD 1 1:1 Paul, gwas Duw, ac apostol Iesu Grist, yn ôl ffydd etholedigion Duw, ac adnabyddiaeth y gwirionedd, yr hon sydd yn ôl duwioldeb;

1:2 I obaith bywyd tragwyddol, yr hon a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau’r byd;

1:3 Eithr mewn amseroedd priodol efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu, am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr;

1:4 At Titus, fy mab naturiol yn ôl y ffydd gyffredinol: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist ein Hiachawdwr ni.

1:5 Er mwyn hyn y’th adewais yn Creta, fel yr iawn drefnit y pethau sydd yn ôl, ac y gosodit henuriaid ym mhob dinas, megis yr ordeiniais i ti:

1:6 Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn w^r un wraig, a chanddo blant ffyddlon, heb gael y gair o fod yn afradlon, neu yn anufudd:

1:7 Canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd, fel goruchwyliwr Duw, nid yn gyndyn, nid yn ddicllon, nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa;

1:8 Eithr yn lletygar, yn cam daioni, yn sobr, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn dymherus;

1:9 Yn dal yn lew y gair ffyddlon yn ôl yr addysg, fel y gallo gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyhoeddi’r rhai sydd yn gwrthddywedyd.

1:10 Canys y mae llawer yn anufudd, yn ofer-siaradus, ac yn dwyllwyr meddyliau, yn enwedig y rhai o’r enwaediad:

1:11 Y rhai y mae yn rhaid cau eu safnau, y rhai sydd yn dymchwelyd tai cyfain, gan athrawiaethu’r pethau ni ddylid, er mwyn budrelw.

1:12 Un ohonynt hwy eu hunain, un o’u proffwydi hwy eu hunain, a ddywedodd, Y Cretiaid sydd bob amser yn gelwyddog, drwg fwystfilod, boliau gorddiog.

1:13 Y dystiolaeth hon sydd wir. Am ba achos argyhoedda hwy yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd,

1:14 Heb ddal ar chwedlau Iddewaidd, a gorchmynion dynion, yn troi oddi wrth y gwirionedd.

1:15 Pur yn ddiau yw pob peth i’r rhai pur: eithr i’r rhai halogedig a’r di-ffydd, nid pur dim, eithr halogedig yw hyd yn oed eu meddwl a’u cydwybod hwy.

1:16 Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw; eithr ar weithredoedd ei wadu y maent, gan fod yn ffiaidd, ac yn anufudd, ac at bob gweithred dda yn anghymeradwy.

PENNOD 2 2:1 Eithr llefara di’r pethau a weddo i athrawiaeth iachus:

2:2 Bod o’r hynafgwyr yn sobr, yn onest, yn gymesur, yn iach yn y ffydd, yng nghariad, mewn amynedd:

2:3 Bod o’r hynafwragedd yr un ffunud mewn ymddygiad fel y gweddai i sancteiddrwydd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni:

2:4 Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuainc yn bwyllog, i garu eu gwy^r, i garu eu plant,

2:5 Yn sobr, yn bur, yn gwarchod gartref, yn dda, yn ddarostyngedig i’w gwy^r priod, fel na chabler gair Duw.

2:6 Y gwy^r ieuainc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr:

2:7 Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn siampl i weithredoedd da: a dangos, mewn athrawiaeth, anllygredinaeth, gweddeidd-dra, purdeb,

2:8 Ymadrodd iachus yr hwn ni aller beio arno; fel y byddo i’r hwn sydd yn wrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg i’w ddywedyd amdanoch chwi.

2:9 Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig i’w meistriaid eu hun, ac i ryngu bodd iddynt ym mhob peth, nid yn gwrthddywedyd;

2:10 Nid yn darnguddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da; fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth.

2:11 Canys ymddangosodd gras Duw, yr hwn sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn;

2:12 Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron;

2:13 Gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a’n Hiachawdwr Iesu Grist;

2:14 Yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom, i’n prynu ni oddi wrth bob anwiredd, ac i’n puro ni iddo ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da.

2:15 Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na ddiystyred neb di.

PENNOD 3 3•1 Dwg ar gof iddynt fod yn ddarostyngedig i’r tywysogaethau a’r awdurdodau, fod yn ufudd, fod yn barod ibob gweithred dda,

3:2 Bod heb gablu neb, yn anymladdgar, yn dirion, gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn.

3:3 Canys yr oeddem ninnau hefyd gynt yn annoethion, yn anufudd, yn cyfeiliorni, yn gwasanaethu chwantau ac amryw felyswedd, gan fyw mewn drygioni a chenfigen, yn ddigasog, yn casáu ein gilydd.

3:4 Eithr pan ymddangosodd daioni a chariad Duw ein Hachubwr tuag at ddyn,

3:5 Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ôl ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glan;

3:6 Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr :

3:7 Fel, gwedi ein cyfiawnhau trwy ei ras ef, y’n gwneid yn etifeddion yn ôl gobaith bywyd tragwyddol.

3:8 Gwir yw’r gair, ac am y pethau hyn yr ewyllysiwn i ti fod yn daer, fel y byddo i’r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn gweithredoedd da. Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion.

3:9 Eithr gochel gwestiynau ffôl, ac achau, a chynhennau, ac ymrysonau ynghylch y ddeddf: canys anfuddiol ydynt ac ofer.

3:10 Gochel y dyn a fyddo heretic, wedi un ac ail rybudd:

3:11 Gan wybod fod y cyfryw un wedi ei wyrdroi, ac yn pechu, gan fod yn ei ddamnio ei hunan.

3:12 Pan ddanfonwyf Artemas atat, neu Tychicus, bydd ddyfal i ddyfod ataf i Nicopolis: canys yno yr arfaethais aeafu.

3:13 Hebrwng Senas y cyfreithiwr, ac Apolos yn ddiwyd; fel na byddo arnynt eisiau dim.

3:14 A dysged yr eiddom ninnau flaenori mewn gweithredoedd da i angenrheidiau, fel na byddont yn ddiffrwyth.

3:15 Y mae’r holl rai sydd gyda mi yn dy annerch. Annerch y rhai sydd yn ein caru ni yn y ffydd.

Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.At Titus, yr esgob cyntafa ddewiswyd ar eglwys y Cretiaid, yr ysgrifennwyd o Nicopolis ym Macedonia.