Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Bala/Bedd John Evans

Oddi ar Wicidestun
Ysgol Rad y Bala Beirdd y Bala

gan Charles Saunderson (Siarl Wyn o Benllyn)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Hiraeth


BEDD JOHN EVANS.

A gyfansoddwyd ym Mynwent Llanecil, Ionawr, 1829, wrth weled beddrod yr hybarchus a'r
duwiol John Evans, gynt o'r Bala, heb un bedd-faen arno.[1]


Pan y dychwel rhyw ariannog
Wr galluog balch i'r llawr,
Rhoddir mynor faen arddercheg
Ar ei fedd, yn golofn fawr;
Arni cerfir ei urdd-enwau.
Ei holl achau, nghyd a'i foes,
A chanmoliaeth am rinweddau
Na chyflawnodd hyd ei oes.


Yma gorwedd un mwy 'i urddas
Na bon'ddigion beilchion byd,
Cydetifedd Crist mewn teyrnas
Nefol, gaed trwy aberth drud:
Yma'n gorwedd heb un garreg
Ar ei feddrod yn y llan;
Gellir hyn a dim ychwaneg
Er cof a pharch i'w farwol fan.

Ei enw'n unig fydd yn ddigon,
Ofer cerfio 'i barch a'i glod,
Cerfiwyd hynny ar bob calon
A'i hadwaenai is y rhod:
Nid eill carreg byth m 'r cynnwys
Ei rinweddau tra 'n y byd,
Na cherfier ond ei enw gwiwlwys,
Hwn a'i cynnwys oll i gyd.

Gwn fod llawer yn chwenychu
Gweld ei fedd-faen, o'r rhai fu
Cyd ag ef yn cyd-ddyrchafu
Baner waedlyd Calfari;
Fel y gallai gyd â'i ddagrau
Wlychu a golchi godre hon,
Er parch mwyn i'w deg rinweddau,
Ac ysgafnu'i lwythawg fron.

Ac fe allai aml lencyn
Gadd ei gyngor tadol ef,
I ado'r ffordd oedd yn ei dilyn,
Ac i ddilyn llwybrau nef;
Ga'i ddiddanwch mawr wrth wylo,
Ac wrth roddi arni 'i bwys;
Wrth ei gweled wnae adgofio
Ei gynghorion tirion dwys.


Nodiadau[golygu]

  1. Y mae carreg yn awr wedi ei gosod wrth ben beddrod yr henafgwr parchedig hwn.