Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Bala/Ysgol Rad y Bala

Oddi ar Wicidestun
Siarl Wyn-Ioan Tegid Beirdd y Bala

gan Charles Saunderson (Siarl Wyn o Benllyn)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Bedd John Evans


YSGOL RAD Y BALA.

A fyfyriwyd wrth ymweled ag Ysgol Rad y Bala, yn ol marwolaeth fy hen athraw,
a diffuant gyfaill, Mr. Evan Harries.

Mil henffych iti, orhoffusaf dud!
Anwylach wyt nag unman yn y byd!
Wyt anwyl im, wrth gofio'r athraw cu
A'm dysgai ynnot—yr ieuenctyd lu
O'th gylch chwareuai, 'n nyddiau llon fy rwyf,
Fy ysgafn fron, ddieithr i boen a chlwyf.
Mae pob rhyw lwyn, a phob rhyw garreg bron,
Yn dwyn i'm cof ryw adgofiadau llon,
Neu anhap gas—neu ryw chwar'yddiaeth fwyn
Y digwyddiadau fu yng nghil y llwyn.
 Hyn oll aeth heibio—'n awr eu coffa fydd
Yn llenwi'm bron â pharchedigaeth prudd.
Y wig oedd wech, delwedig ydyw'n awr,
Yr ardd oedd hardd, anurddawl yw ei gwawr,
A llaw 'r gormeilydd Amser, amlwg yw,
Ar oll o'th gylch, ar bob planhigyn gwyw;
Ond uwch pob dim sydd yn anurddo'th wedd
Y mwyaf oll, fod Harries yn y bedd.

Un athraw mwynach, gyfaill purach, gwn
Ni cheid o fewn yr holl fydysawd crwn.
Mor wych cryfhai bob amgyffrediad gwan,
Meithrinai ddeall ei ddisgyblion mân:
Ond angau certh, gormesydd dynol had,
A'i torrodd ymaith—Ow! fy athraw mâd!
Dy golli oedd yn golled mawr i mi,
Ond ennill mawr ac elw yw i ti.
Pa le mae'm cyd 'sgolheigion oll i gyd?
Nid dau o'r gloch a'u cyrcha'n awr ynghyd.
Gofynnais, P'le mae hwn oedd lon ei wedd?"
"Er's amser maith mae ef y'ngwaelod bedd." "
Pa le mae hwn a hwn, oedd un di goll ?"
"Y tad fu farw, a'r teulu chwalwyd oll."
Fy hen gyfeillion gwasgaredig ynt,
Prin y mae tri, y lle bu degau gynt.
Yr athraw gwiw, a'r ysgolheigion oll,
O'r hen drigfannau aethant oll ar goll.
Nid sefydledig ym, ond ar ein taith,
Ein cartref ydyw'r tragwyddoldeb maith.

Nodiadau[golygu]