Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Bala/Siarl Wyn-Ioan Tegid

Oddi ar Wicidestun
Galar y Bardd Beirdd y Bala

gan Charles Saunderson (Siarl Wyn o Benllyn)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Ysgol Rad y Bala


[Ganwyd Charles Saunderson (Siarl Wyn o Benllyn) yn y Bala yn 1819. Un o deulu y Robert Saunderson, ddaethai i'r Bala i argraffu ar anogaeth Mr. Charles oedd. Gwr ieuanc hawddgar ac athrylithgar ydoedd,—

"Ail cwrel ar yr eira gwyn oedd rhosyn tlws dy rudd,
Dy ddawn a gadd wallt aur yn do, O nid anghofio fydd."

Bu farw o'r geri marwol,[1] yn New Orleans, Hydref 24, 1832.]


IOAN TEGID.

IOAN, wr o iawn araith,
Golud ac urdd gwlad ac iaith
Cymru hen, y Cymro hardd,
A gwiw erfai gywirfardd;
Nid er mawl, na d' aur melyn,
Y gwas hardd, y gweuais hyn;
Ond o union fron ddi frad,
Sy'n curo o swyn cariad;
Cariad i fy hen wlad hon,
I Degid a'm cym'dogion;
A thra pery hynny'n hon,
Gyfaill, cei hybarch gofion;
Cefnogydd a llywydd llên #
A fuost i fy awen;
Yn hoff fardd i'm hyfforddi,
A thra mwyn athraw i mi:
Gwna'm mant, am y mwyniant mawr,
Dy foli hyd fy clawr.
Heddyw pwy sy'n fwy haeddawl,
A phwy mwy a gaiff y mawl?
Mwy gwr nid oes am gronni dysg.
A threiddiawl ieithwr hyddysg:

Iaith ei wlad a'i theleidion,
A wyr y bardd, ie o'r bôn:
Hoffi yr wyf ei gân ffraeth,
A'i ber ddawn mewn barddoniaeth.
Ond, Ow'r modd dwedir i mi.
'N gadarn, fod Saeson gwedi
Dwyn ei awen fwyn o fawl,
Mewn rhyw fodd, mae'n rhyfeddawl.
Os gwir yr iasawg eiriau,
Eirian ddyn, gyrr air neu ddau,
Mewn mawr frys i'n hyspysu,
Ioan Fardd, os hynny fu:
Ond os ydwyt, was hoewdeg,
Yn berchen ar d' awen deg;
Os oes ymhlith y Saeson,
Gariad at yr hen-wlad hon,
Gyrr bennill neu bill bellach,
Oddi yna i'r Bala bach.
Ai bras oes mewn bro Saeson,
Sy'n fwy mad na'r hen—wlad hon?
Neu Rydychain, gain ei gwedd,
Na gogoniant gwig Gwynedd?
Mae y llwyni meillionog,
Lle nytha brân, lle cân côg;
A'i rhianedd wawr hynod,
A'r Aran a'r Bala'n bod;
Yr un y Llyn er ein llonni,
'R un hefyd Tegid wyt ti?
Yn wir mae'n rhaid it' ai naill
Eu hanghofio, fy nghyfaill,
Neu o ddig, neu ddiogi,
Fwyn ŵr, ein hanghofio ni;
Na roddit ryw arwyddion
O'th fri hardd i'th wiw fro hon.

Nid o ddig neu gynfigen
Y gyrrais i'r geiriau sen;
Ond o gariad i gywrain
Ddawn cu dy farddoni cain,
Tawaf—gobeithiaf ca'i beth
O'th hoew—blawdd farddwaith hybleth.
Byd hyfryd boed a hoew—fri,
A gwynfyd, Tegid, i ti:
Heb ddolur, heb ddu elyn,
A siriol oes, medd Siarl Wyn.


Nodiadau[golygu]

  1. Colera