Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Bala/Galar y Bardd

Oddi ar Wicidestun
Dydd y Farn Fawr Beirdd y Bala

gan John Jones (Ioan Tegid)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Siarl Wyn-Ioan Tegid


GALAR Y BARDD.

Wylaf dro; tawaf wedi.—LLYWARCH HEN.

Hiraeth y sydd i'm haros
Beunydd; och! yn nydd a nos;
Llym iawn fal blaen picell yw,
Hawdd gweyd, yr hiraeth heddyw.
Blinir fi yn hir gan hwn,
Miniog yw; ef nis mynnwn.
Hiraeth am dad, ni'm heiriach,
Ac am fam oedd fwynfam fach;
Ac am Gwen, fy chwaer wen oedd,
Mawr y tro, marw y trioedd!
Amddifad o dad ydwyf,
O Dduw ac heb fam ydd wyf.
Ni welaf yr hen aelwyd
Yn llon mwy, ond llwm a llwyd.
Delwodd cyfeillion dilyth,—Yn iach,
Bala! bellach byth;
A Llyn Tegid, hyd a lled,
Eleni ar ei laned.
Yn iach Meirion diriondeg
A roai im bur Gymraeg:
Yn iach fryniau, 'n iach fronnydd;
Hyd f'oes mwy im gofid fydd
Gorfod troi, nid o'm gwirfodd,
O'm hen fan oedd wrth fy modd.

Wylwyd o'u rhoi ar elawr,
Un fodd yn Nghaerfyrddin fawr;

Elen fy chwaer yn wylaw
Yn drwm, a'm brawd Dafydd draw.
Nid oes neb a gollodd dad,
Neu fam gywir, gwir gariad,
Neu chwaer ŵyl, anwyl eneth,
Yn y byd na wyla beth.

Heddwch i'w llwch lle llechant,
Ac angylion gwynion gant
Gwylient ef yno hefyd
Yn y bedd, tan ddiwedd byd;
A'u du fedd gwarchadwent fil
Acw yn monwent Llanycil;
A'u cyrff hwy dygent lle cânt
Fyd gwell pan adgyfodant.

I bawb a barcho eu bedd
Deued da yn y diwedd;
A barcho eu bedd a berchir,
Cyn marw ceiff hwnnw oes hir.
Sawl a blanno arno ir—
Lysiau, ef a hwylusir
Yn ei amcan; buan bydd
Ei glod ef drwy y gwledydd;
A phan fo marw hwnnw 'n hen,
A'i roi yn y ddaearen,
Ei fedd ef un fodd a fo
A gwyrdd ddail teg i'w urddo.


Nodiadau[golygu]