Beirdd y Bala/Cân i gariad
Gwedd
← Merch ieuanc | Beirdd y Bala gan John Jones (Ioan Tegid) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Morwynion glân Meirionydd → |
CAN I GARIAD.
(Anacreon.)
Cariad unwaith aeth i chwareu
Ar ei daith i blith rhosynau;
Ac yno 'r oedd heb wybod iddo
Wenynen fach yn diwyd sugno.
Wrth arogli o honno'n hoew
Y rhosyn hwn, a'r rhosyn acw;
Y wenynen fach a bigai
Ben ei fys; ac ymaith hedai.
A gwaeddodd yntau rhag ei cholyn,
A chan y poen ag oedd yn dilyn;
At ei fam y gwnai brysuro,
A'r dagrau tros ei ruddiau 'n llifo.
Gwaeddai, Mam! yr wyf yn marw:
Brathwyd fi yn arw arw,
Gan ryw sarff hedegog felen;
A'i henw, meddent, yw gwenynen."
Ebai Gwener,—"Os gwenynen
A'th bigodd di mor drwm, fy machgen!
Pa faint mwy y saethau llymion
A blennaist ti yn llawer calon?"