Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Bala/Morwynion glân Meirionydd

Oddi ar Wicidestun
Cân i gariad Beirdd y Bala

gan John Jones (Ioan Tegid)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Llyn Tegid (3)


MORWYNION GLAN MEIRIONNYDD.

"But what Bala is most famous for is the beauty of its women, and indeed I saw there one of the
prettiest girls I ever beheld."—Lord Lyttleton in his letter to Archibald Bower.

Morwynion glân Meirionnydd!
Eich mawl yn anfarwawl fydd;
Anfarwawl tra mawl ym Mon,
A Morus yn caru Meirion.
Eich clod a fydd beunydd byw,
Mawredig gem aur ydyw.

Llon ynt oll, a hoen ynt hwy,
Pob un fun sydd Fyfanwy,
Uchelfryd, llawnserch, haelfron,
Gwên ddibaid a llygaid llon;
Ond gwŷl er hyn ydyw gwedd
Eu llygaid a'u holl agwedd.
O cymaint eu braint a'u bri,
Miloedd yn eu canmoli.

Na henwer, mae o honynt
Fun goeg, ail Myfanwy gynt,
Na châr, mae'n fyddar i fardd,
Yn anfwyn wrth awenfardd.

Yn more f' oes ym Meirion,
A phen hurt yr hoffwn hon;
A phan hŷn hoffwn o'i hol
Rhoad ei throed ar heol.
Er ei mwyn os anfwyn fydd,
Mor anwyl im' Meirionnydd.

Morwynion glân Meirionnydd!
Eich mawl yn anfarwawl fydd.
Cafwyd gwiwfeirdd i'ch cyfarch,
Goreu beirdd, a gwyr o barch;
A beirdd gwiwfeirdd a gyfyd
I'ch cyfarch, trwy barch, tra byd,
Yn eich heniaith berffaith bur,
Hoffusaidd heb gloff fesur.
O enau bardd hardd yw hon,
Dynodir, llawn deniadon;
 Ond melusach hoffach hi,
Y brifiaith, ond gwiw brofi
Mor drefnus, mor felus fwyn,
Y mera o fin morwyn.

Morwynion glân Meirionnydd!
Eich mawl yn anfarwawl fydd.
Yn hardd llawer bardd a'i bill
A'ch annerch er eich ennill;
A minnau hyn ddymunaf
Tros fy ngwlad, o cennad caf,
Gael gennych chwi hoffi'ch hiaith,
Un hynod yw ein heniaith;
A heniaith yw 'n iaith yn wir
Pur hefyd os ei profir;
Trwyadl, hardd ei chystrawen,
A gwir hardd ei geiriau hen.


Iaith deg, iaith y duwiau gynt,
Dwned Homer am danynt;
Iaith enaid y Celtiaid coeth
Dynion nad oeddynt annoeth;
Iaith derwyddon, dyfnion dysg,
Aur heddyw mêr eu haddysg;
Iaith brenhinoedd, llysoedd llawn,
Iaith hen gyfreithiau uniawn;
Iaith y beirdd doeth eu hurddas
Drwy y byd iaith uchel dras,
Eich iaith, O! mynweswch hi!
A bydded rhwydd-deb iddi.
A'i marw a gaiff ym Meirion?
Marw? O, na! na marw ym Mon.

Daear yn uchel gwelir
Yn lle nef, mae 'n llawn o wir;
Unfodd y try 'r nef wenfawr
O'i lle i le daear lawr;
Cyn marw o'r iaith heniaith hon,
Bleth dinam, o blith dynion.


Nodiadau[golygu]