Beirdd y Bala/Charles o'r Bala

Oddi ar Wicidestun
Bedd Genethig Beirdd y Bala

gan Thomas Charles


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Marwnad Charles o'r Bala


CHARLES O'R BALA.

[Ganwyd Thomas Charles yn Longmoor, Llanfihangel Abercywyn, Hyd. 14. 1755. Pan yn Rhydychen daeth ir Bala gyda Simon Lloyd (1756-1836), cyd-efrydydd iddo. Yn 1783 priododd Sally Jones o'r Bala: yn 1784. wedi hir geisio lle yng Nghymru "fyth yn anwyl", cafodd guradiaeth Llan-ym-Mawddwy. Yn y Bala bu byw wedi priodi; oddi yno—gyda chymorth rhai fel Simon Lloyd, George Lewis, Thomas Jones o Ddinbych, Robert Jones, Rhoslan creodd gyfnod newydd yn haness meddwl Cymru. Y mae ei gysylltiad â'r Ysgol Sul, Y Beibl Cymraeg, y Gymdeithas Feiblau ac Ordeiniad 1811 yn rhan o hanes Cymru. Yn 1789 daeth yr Hyfforddwr allan yn ei ffurf gyntaf yn Ebrill 1799 ymddangosodd y rhifyn cyntaf y Drysorfa Ysbrydol yn 1801 daeth rhifyn cyntaf y Geiriadur. Yn ei ymgais a'i ynni dygodd Thomas Charles lu o wyr athrylithgar i weithio. Deffrodd Howell Harris gydwybod Cymru, deffrodd Thomas Charles ei meddwl. Yr oedd swyn rhyfed yn ei enw pan fu farw, Hydref 5, 1811. Claddwyd ef ym mynwent Llanecil, wrth dalcen dwyreiniol yr eglwys. Cyhoeddwyd Cofiant cynhwysfawr gan y Parch. D E Jenkins yn 1908.]

DYFAIS TRAGWYDDOL GARIAD.

DYFAIS fawr tragwyddol gariad
Ydyw'r iachawdwriaeth lawn,
Cyfamod hedd yw'r sylfaen gadarn
Yr hwn nis derfydd byth mo'i ddawn;
Dyma'r fan y gorffwys f'enaid.
Dyma'r fan y byddaf byw',
Mewn tangnefedd pur heddychol,
Ymhob rhyw stormydd gyda'm Duw.

Syfled iechyd, syfled bywyd,
Cnawd a chalon yn gytun
Byth ni syfla amod heddwch
Hen gytundeb Tri yn Un;

Dianwadal yw'r addewid,
Cadarn byth yw cyngor Duw,
Cysur cryf sy i'r neb a gredo
Yn haeddiant Iesu i gael byw.

Bum yn wyneb pob gorchymyn,
Bum yn wyneb angeu glas;
Gwelais Iesu ar Galfaria
Yn gwbl wedi cario'r maes;
Mewn cystuddiau rwyf yn dawel,
Y fuddugoliaeth sydd o'm tu,
Nid oes elyn wna i mi niwed,
Mae'r fordd yn rhydd i'r nefoedd fry.

Pethau chwerwon sydd yn felus,
T'wyllwch sydd yn oleu clir,
Mae'm cystuddiau imi'n fuddiol,
Ond darfyddant cyn bo hir;
Cyfamod hedd bereiddia'r cwbl
Cyfamod hedd a'm cwyd i'r lan,
I gael gweld fy etifeddiaeth,
A'i meddiannu yn y man.

Gwelais 'chydig o'r ardaloedd
Yr ochr draw i angeu a'r bedd
Synnodd f'enaid yn yr olwg,
Teimlais anherfynol hedd;
Iesu brynnodd imi'r cwbl,
Gwnaeth â'i waed anfedrol iawn
Dyma rym fy enaid euog.
A fy nghysur dwyfol llawn.

Nodiadau[golygu]