Beirdd y Bala/Cywydd yr Haf
Gwedd
← Gaeaf ar y Berwyn | Beirdd y Bala gan G ab Ieuan golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Daw terfyn ar fy ngofid → |
ii. DIWEDD CYWYDD YR HAF.
Er bod rhai am y gaeaf,
Minnau o hyd mynna haf;
Am y gwanwyn mi gwynaf
Er h'wn daw'n fuan yr haf;
Duw, am hynny dymunaf
Yma o hyd imi haf;
Duw, it geinwych datganaf
Gerdd hyfryd ar hyd yr haf;
A melus dant y molaf
Yr Hwn sy'n rheoli'r haf;
A thant a nabl parablaf
I'r Hwn sy’n goleuo'r haf;
Cynnes i Dduw y canaf
Os rhydd i’m Iesu, a’r haf.