Beirdd y Bala/Daw terfyn ar fy ngofid
Gwedd
← Cywydd yr Haf | Beirdd y Bala gan Elin Huw golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Y Graienyn → |
ELIN HUW
[Cyfansoddwyd y ddau bennill hyn gan Elin Huw, chwaer Rowland Huw o'r Graienyn, ar ddiwedd dwy flynedd o afiechyd, Rhag. 31, 1762.]
I
DAW terfyn ar fy ngofid,
Cai fynd yn goncrwr llawn,
Waith Iesu ar Galfaria,
Fu'n talu troswy 'r iawn;
Er teimlo ynw i luoedd
O bob rhyw lygredd llym,
Mi gana i dragwyddoldeb
Er pechod mawr ei rym.
II.
Er bod gofidiau yma,
A'r tonau mawr eu stwr,
Yn rhoddi f'enaid egwan
Yn fynych tan y dŵr;
Er maint yw rhwydau Satan,
A'i saethau mawr eu llid,
Cai lechu yn mynwes Iesu
Tra byddwyf yn y byd.