Beirdd y Bala/Daeareg
← Yr Asyn Anfoddog | Beirdd y Bala gan John Peter (Ioan Pedr) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Myfyrwyr y Bala → |
IOAN PEDR.
[Ganwyd John Peters yn y Bala, Ebrill 10, 1833. Bu gyda'i dad yn saer melinau, a gweithiodd yn galed i gael addysg. Ymhoffai yn enwedig mewn llysieueg, daeareg, a hynafiaethau. Yn 1859 daeth yn athro i Goleg yr Anibynwyr yn y Bala. Yr oedd yn hoff iawn gan ei ddisgyblion. Bu farw Ion. 17, 1877; hûn yn Llanecil.]
DAEAREG.
(Ovid, Metamorphoses. Liber xv.)
O'R llydan fôr y ganwyd sychdir gwyrdd,
O hyn yn awr ceir sicr brofion fyrdd;
Yn wasgaredig ceir (pa brawf sydd well?)
Y cregyn môr oddiwrth y môr ymhell;
A chafwyd rhydlyd angor hen cyn hyn,
Un trwm a mawr, ar uchaf gopa'r bryn;
O'r dyfnion bantiau ciliai'r dŵr ar daith,
A ffurfid yno heirdd ddyffrynoedd maith;
Yr uchel fynydd lyncid gan y môr,
Y safnrwth gynoedd lyncent eang fôr;
A'r gwlybion gorsydd, gan angerddol dân,
A droid yn sychdir cras o dywod man.