Beirdd y Bala/Yr Asyn Anfoddog
← Yr Afonig | Beirdd y Bala gan Roger Edwards, Yr Wyddgrug golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Daeareg → |
YR ASYN ANFODDOG.
Yn ei gut yn nhrymder gaeaf
Cwyno'n dost wnai asyn llwyd,—
"Gennyf mae y llety oeraf,
A rhyw wreiddiach sydd yn fwyd;
O na ddeuai gwanwyn bellach,
Cysur fyddai hynny'n wir;
Mi gawn wedyn hin dynerach
A chegeidiau o laswellt ir."
Daeth y gwanwyn a'i gysuron,
Do, a'i lafur yn un wedd;
Cwyna'r asyn gan orchwylion
Ar y meusydd yn ddi-hedd,—
Gyrrir fi yn awr yn erwin,
Ac esmwythder ddim ni chaf;
Cefais ddigon ar y gwanwyn,
O ra ddeuai hyfryd haf!"
Daeth yr haf; a ydyw'r asyn
Wedi caffael dyddiau gwell?
Na, nid yw foddlonach ronyn,
Hawddfyd sydd oddiwrtho ymhell;
Achwyn mae a'r nâd druanaf,—
"Och y gwaith, ac Och y gwres,
O na ddeuai y cynhaeaf
Dyna dymor llawn er lles."
Daeth yr hydref, ond siomedig
Ydyw'r asyn dan ei lwyth,
"Druan oedd fy nghefn blinedig,
Wedi'r haf rhaid cludo ci ffrwyth,
Cyrchu tanwydd erbyn gaeaf
Cario mawn a chario coed;
Och yn nhymor y cynhaeaf
Blinach ydwyf nag erioed."
Wedi troedio cylch y flwyddyn,
Mewn anghysur dwys o hyd,—
"Gwelaf bellach," medd yr asyn,
"Nad mewn tymor mae gwyn fyd;
Yn lle achwyn ar dymhorau,
Fel y maent cymeraf hwy;
Dyna fel y daw hi oreu,
Felly byddaf ddiddig mwy."