Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Bala/Yr Afonig

Oddi ar Wicidestun
Wedi'r Cwymp Beirdd y Bala

gan Roger Edwards, Yr Wyddgrug


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Yr Asyn Anfoddog


ROGER EDWARDS.

[Ganwyd Roger Edwards yn y Bala yn 1811. Bu farw, wedi bywyd o weithio ac arwain, yn y Wyddgrug, yn 1886. Meddai athrylith i gynllunio pethau newyddion, a nerth i weithio'n ddygn. Efe, yn ei Cronicl yr Oes, gychwynodd lenyddiaeth boliticaidd Cymru'r dyddiau hyn; yn 1845. gyda Dr. Lewis Edwards, cychwynodd y Traethodydd; yn 1846 daeth yn olygydd y Drysorfa. Yr oedd a fyno pobl y Bala lawer a'r Geiniogwerth, gyhoeddid yn Ninbych o 1847 i 1851; ynddi tarawyd tant hollol newydd, fwy naturiol a byw, yn y ddwy gân sy'n dilyn.]

YR AFONIG AR EI THAITH.

AFONIG fechan, fywiog, fad,
Pa le'r ai di?
"Af adref, adref at fy nhad;
Môr, môr i mi!"
Mae'r rhwystrau'n fawr, mae'r daith yn hir,
Mae'r ffordd trwy lawer diffaeth dir;
Gwell iti oedi'r hynt, yn wir;
O aros di!
"Na, na, nid all nac anial maith,
Nac unrhyw fryn na bro ychwaith,
Fy rhwystro i gyrraedd pen fy nhaith:—
Môr, môr i mi!"

Afonig fechan, aros! Paid
A choledd twyll;
Fe all mai troi yn ol fydd raid—
O cymer bwyll;
O'th flaen mae'r mynydd uchel, serth,
A'i ddringo ef nis gall dy nerth,
I'r yrfa hon beth wyt yn werth?
O aros di!

"Er mynydd mawr ni lwfrhaf,
Ond heibio iddo yn ddiddig af—
Môr, môr i mi!"

Afonig fechan, yma yn awr
Da yw dy fod;
A pham y mae am gefnfor mawr
Dy ddyfal nôd?
Mae'th eisieu ar y felin draw,
Ac ar y weithfa wlan gerllaw;
Cyd-ddeisyf wnant yn daer ddidaw,
O aros di.
"Gweinyddaf arnynt wrth fynd trwy,
Ac ar laweroedd gyda hwy,
Er hyn fy llef a fydd fwy, fwy,
Môr, môr i mi!"

Afonig fechan, peraidd sawr
Sydd ar dy lan,
Ac mae'r planhigion gwyrdd eu gwawr
Yn harddu'r fan;
Mae'r helyg ystwyth uwch dy donn,
A'r blodau hoff o'th gylch yn llon,
Yn dweyd, gan bwyso ar dy fron—
O aros di!
"Cant fy nifyrru ar fy nhaith,
Ond myned rhagof fydd fy ngwaith,
Nes myned adref dyma'm iaith,—
Mor, mor i mi !"

Afonig fechan, hardd i ni
Dy wedd yn awr;
Ond beth a ddaw o honot ti
Mewn dyfnder mawr?

Mae'r eigion yn ddirgelwch prudd;
Dychrynna rhag ei geudod cudd,
Ac na ddos iddo mor ddiludd;
O aros di !
"Gwir fod y dwfn yn ddieithr wlad,
Ond hyn a wn—mae'n gartre' nhad;
Caf fy nghroesawn yn ddi—frad,
Môr, môr i mi!"

Nodiadau[golygu]