Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Bala/Doli

Oddi ar Wicidestun
Hiraeth Beirdd y Bala

gan Charles Saunderson (Siarl Wyn o Benllyn)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Ty fy Nhad


DOLI.

Tôn: "MORWYNION GLAN MEIRIONNYDD.

Hardd ar fore haf—ddydd teg
Yw'r gwiwdeg haul wrth godi,
Gwych ymhlith y blodau gwiw
Yw hardd oleuliw'r lili;
Harddaf ar y ddaear hon
Yw du-lon lygad Doli.

Anwyl ydyw bydio 'n wych
A llonwych gyfaill heini;
Anwyl perl fo'n hardd ei liw,
Rhai anwyl yw'm rhieni;
Ond na dim y'Nghymru bach,
Anwylach yw fy Noli.

Mwyn yw'r eos ber ei llais,
Hyfrydlais ddifyr odli,
Côr o offer cerdd a rydd
Ryw fawr ddywenydd inni;
Mwynach na'r holl fiwsig hyn,
Neu'r delyn, yw llais Doli.

Diddan yw cael tân mewn ty,
Mae'n glyd mewn du galedi;

Hoffus yw cael gwely gwych,
Rhag hirnych rhew ac oerni;
Da i minnau rhag pob nam,
Fy nwylaw am fy Noli.

Hyfryd yw i'r corff fo'n freg
Gael adeg o'i galedi;
Mwyn ar daith yw'r ty neu'r llwyn
Rydd fwyn orweddfa inni;
Minnau garaf roi'm pen llesg
Rhwng dilesg ddwyfron Doli.

Melus ydyw'r mêl a dyn
Y gwenyn gwibiog heini;
Melus yw'r Tokay i'r min,
Neu flasus win Bwrgwndi;
Mil melusach, yn ddiau,
Yw diliau cusan Doli.

Gwn fod llawer lodes lân
O'r Aran i'r Eryri;
Diarhebol yw'r sir hon
Am lon forwynion heini;
Morwyn deg ym Meirion dir
Ni welir fel fy Noli.


Nodiadau[golygu]