Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Bala/Ty fy Nhad

Oddi ar Wicidestun
Doli Beirdd y Bala

gan Charles Saunderson (Siarl Wyn o Benllyn)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gadael Gwlad


TY FY NHAD.

Er byw mewn anrhydedd, digonedd deg wawr,
A bod im' o roddion, neu foddion, ran fawr,
Gwell ydyw byw'n isel mewn rhyw gwr o'm gwlad,
Na thrigo mewn palas—gwell bwthyn fy nhad.

Tŷ fy nhad—Tŷ fy nhad,
Di-ail Tŷ fy nhad.


Er bod aur ac urddas ym mhalas gwr mawr,
A gwych addurniadau, a gemau teg wawr,
Mae gem mwy disgleirwych, hyf eurwych hardd fâd,
A hon yw boddlonrwydd ym mhwthyn fy nhad.

Tŷ fy nhad—Tŷ fy nhad,
Di-ail Tŷ fy nhad.


Boed i mi gael trigo 'n hyf yno hyd fedd,
Yn foddlon mewn digon, a hoewlon mewn hedd
A boed im anadlu fy olaf yn fâd,
Lle anadlais gyntaf, sef bwthyn fy nhad.

Tŷ fy nhad—Tŷ fy nhad,
Di-ail Tŷ fy nhad.

Nodiadau[golygu]