Beirdd y Bala/Gweled Iesu
Gwedd
← Yr Efengyl | Beirdd y Bala gan William Edwards (1773—1853) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Tyrfa Waredig → |
GWELED IESU.
Mae byw mewn gobaith am y dydd
Caf roi fy maich i lawr,
Yn llawenhau fy enaid prudd
Yng nghanol cystudd mawr;
A chael ei weled fel y mae,
Heb orchudd ar ei wedd,
A bod yn debyg iddo byth
Mewn dinas lawn o hedd.