Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Bala/Tyrfa Waredig

Oddi ar Wicidestun
Gweled Iesu Beirdd y Bala

gan William Edwards (1773—1853)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Ioan Tegid


TYRFA WAREDIG.

Mae tyrfa hardd eu gwedd
Yn byw tu draw i'r bedd,
Ar aberth hedd Calfaria fryn;
Rhinweddol yw ei glwy,
Eu gwarth ni welwyd mwy,
Fe'u gwisgodd hwy mewn gynau gwyn.

Dilynwn ninnau 'u hol,
Nes gorffwys yn ei gôl,
Oddiyno'n ol ni ddeuwn byth;
Mewn môr o ddwyfol hedd
Cawn gyd-fwynhau y wledd
Ar siriol wedd yr Oen dilyth.


Nodiadau[golygu]