Beirdd y Bala/Llafur Enaid
Gwedd
← Y Gwlaw Graslawn | Beirdd y Bala gan William Jones (1764-1822) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cysgod Ion → |
LLAFUR ENAID.
"O lafur Ei enaid y gwel."
Y Meichiau a wêl,
Ei lafur dan sel
Fe'u mynn hwy o afael y llid,
Hwy garwyd yn rhad,
Fe'u prynnwyd â gwaed,
Fe'u gelwir, fe'u golchir i gyd.
Ar Galfari fryn,
Yn haeddiant Duw-ddyn,
Caed trysor, am dano bydd sôn;
Mae'n gyfoeth mor ddrud,
Fe leinw'r holl fyd;
Clodforedd am rinwedd yr Oen.