Beirdd y Bala/Y Gwlaw Graslawn

Oddi ar Wicidestun
Cwmp Babilon Beirdd y Bala

gan William Jones.—1764-1822


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Llafur Enaid


Y GWLAW GRASLAWN.

O fy Nuw, a'm tirion Arglwydd,
Rho'r cawodydd pur i lawr,
I ireiddio f'eiddil ysbryd,
Sydd yn sychlyd iawn yn awr;
Dyro'r dylanwadau nefol,
Ennyn bob rhyw ddwyfol ddawn,
Rho dy gariad a'th ymgeledd,
Difa'r llyrgedd sy' ynwy'n llawn.


Nodiadau[golygu]