Beirdd y Bala/Llyn Tegid (2)
← Ymweliad y Bardd | Beirdd y Bala gan John Jones (Ioan Tegid) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Hiraeth Cymro → |
LLYN TEGID.
Awn i rodio at y Llyn,
Plant y Bala bach,
Lle y buom ni cyn hyn,
Plant y Bala bach,.
Pereiddiach yw ei ddwr na gwin,
Ac iach yr awel ar ei fin,
Ac O mor hyfryd yw yr hin,
Plant y Bala bach.
Awn i rodio i'r Ro Wen,
Plant y Bala bach;
Tesawg yw yr haul uwch ben,
Plant y Bala bach;
Mae'r ŵyn yn chwareu ar y bryn,
A'r gwartheg blith yn britho'r Llyn;
A llon holl anian gyda hyn,
Plant y Bala bach.
Awn i rodio i'r Cae Mawr,
Plant y Bala bach;
Ar y glaswellt dros un awr,
Plant y Bala bach;
Mae y briallu heddyw'n hardd,
Felly y rhosyn yn yr ardd,
O! clywch bellach rybudd bardd;
Plant y Bala bach.
Ni chawn rodio yma'n hir,
Plant y Bala bach;
Y mae hyn yn ddigon gwir,
Plant y Bala bach;
Berr ein hoes,—a llawn o fraw,
Mal oes yr ŵyn yn chwareu draw;
Machluda'r haul,—a'r nos a ddaw,
Plant y Bala bach.
Berr yw oes pob rhosyn gardd,
Plant y Bala bach;
Berr yw oes briallu hardd,
Plant y Bala bach:
A berr yw einioes pob dyn byw,
Er maint ei rwysg,—un marwol yw,
Cyn hir fe fydd fal rhosyn gwyw;
Plant y Bala bach.