Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Bala/Hiraeth Cymro

Oddi ar Wicidestun
Llyn Tegid (2) Beirdd y Bala

gan John Jones (Ioan Tegid)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Marwad Robert William


HIRAETH CYMRO AM EI WLAD.

Hiraeth ysywaeth y sydd—i'm dilyn
A mwy dolur beunydd;
Ni ddaw dim yn niwedd dydd
I'r enaid, ond Meirionnydd.

Am Gymru gu a'i theg iaith,
Cwyno'r wyf lawer canwaith;
Ond yn bennaf
Pan feddyliaf
A myfyriaf fi am Feirion,
A'i mynyddau,
A'i theg fryniau,
Gloewiw dyrau ein gwlad dirion.

Yn lle gwenu—synnu sydd—
Trostwyf mae eithaf tristydd,
A wna'm bron dirion dorri,
Wlad ragorol, a'r d' ol di;
Ac ar ol, nid siriol son,
Dethol a hen gymdeithion.
Pob dydd newydd
Y mae beunydd mwy o bennyd,
Mwy o ruddfan,
A mwy uban, o fy mebyd.

A'r nos drysu o wir—naws draserch
Yr wy'; gan lunio rhyw gain lannerch
O'r wlad,—a siarad o serch—yn nefíro
OW! honno heb Gymro i'm hannerch.

Ac os cysgwyf ytwyf eto,
Yn brudd odiaeth yn breuddwydio
Am lawenydd, neu am lunio
Bryn a dyffryn—yna deffro.


Ni fu fwy glwy' o fewn gwlad
Na chur hiraeth a chariad;
Gwna hyll friwiau,
Dwfn weliau
A doluriau, dial irad!
Draw o'r golwg drwy'r galon
I'r eigion—dirfawr rwygiad.

Nid oes gennyf ond dwys gwynion,
Blin wy' a gwael heb lawen galon;
O mae 'n alar, heb ddymunolion;
(O achos hiraeth) na chysuron.

Os wy i ar farw am hen sir Feirion,
Beth am filoedd tros y moroedd mawrion
A gariwyd ymaith i lefydd geirwon
Yn llwyd odiaeth i fod yn alldudion
O dir eu gwlad drwy galedion—lawer
O flinder; flinder ar foel wendon.

Gwae laweroedd mor drwm y galarant
Am nad oes obaith funud o seibiant
O'u poenau—loesion, er pan hwyliasant:
Cymru a geir ac amryw a garant,
Yn eu golwg; mynych gwelant—o'u hol
Y lle dewisol a'r llu adawsant.


Nodiadau

[golygu]