Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Bala/Marwad Robert William

Oddi ar Wicidestun
Hiraeth Cymro Beirdd y Bala

gan John Jones (Ioan Tegid)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Ardeb fy Mam


MARWNAD ROBERT WILLIAM.

Bardd ac Amaethwr o'r Pandy Isaf, Trefrhiwedog, ger y Bala, ac athraw barddonol yr awdwr. Bu farw Awst, 1815.

O Robert, mae oer uban
A llais trist yn nhre' a llan,
O dy fod yma 'n dy fedd
Yn y gweryd yn gorwedd;

Ochain sydd im o'th achos
Och beunydd yn nydd a nos.

Da gennyf oedd dy ganiad,
Fardd arafaidd mwynaidd mad,
Diddan y rhoddaist addysg
I rai a dderbyniai ddysg;
A mwyach rhoist i minnau
Yn fwyn o'r ddysgeidiaeth fau,
A thra bo chwyth bych bythawl

Dy awen f' awen a fawl.
Ar ol im' fod yn rhodio
Dros ennyd o'r hyfryd fro,
Daethum wrth ryw ymdeithio
I'r Pandy i'w dŷ, do, do;
Ar fwriad fel arferol
Gweled y bardd hardd i'm hol
O draw a'i ddwylaw ar led
Yn fy ngalw am fy ngweled;
Er disgwyl mewn hwyl am hwn,
Ow! alar, ef ni welwn.
Och newydd achwyn awen
Hyll yw ein pyd, colli'n pen;
O chwithdod syndod im' son,
Farw prif-fardd o Feirion.

Aethum oddiyno weithian
Yn ewybr a'm llwybr i'r Llan
At y bedd, rhyfedd yr hynt,
I'w holi am ei helynt.
Er aros yn wir oriau,
Yn hir hir nes cwbl hwyrhau,
Gan ateb nid atebodd
I mi air, Och! marw oedd.


O trymaidd a fydd tramwy
I'r Pandy, o'ch fi! i mi mwy
Ni chaf hwn, och! fi hynny,
O waew dwys! o fewn ei dŷ;
Diamau ei fynd ymaith
I dŷ'r bedd, diwedd ei daith,
O'i fyned i'r nef hefyd
Ac e' yn fardd, gwyn ei fyd.


Nodiadau[golygu]