Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Bala/Siarl Wyn

Oddi ar Wicidestun
Gadael Gwlad Beirdd y Bala

gan John Phillips (Tegidon)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Sul yn y Bala


TEGIDON.

Ganwyd John Phillips (Tegidon) yn y Bala, Ebrill 12, 1810; prentisiwyd ef yn argraffydd gyda Mr. Saunderson; yna bu yn arolygu swyddfa y Parch. John Parry, o Gaer; tua 1850 symudodd i Borthmadog i arolygu swyddfa cwmni llechau, ac yno bu farw, Mai 28, 1877. "Yr oedd ei fywyd," ebe Glaslyn, "yn llawn o beroriaeth, a diweddodd fel y diweddid anthem, mewn amen dyner a dwys." Rhowd ef i huno ym mynwent Llanecil, dan yw y gorllewin—"Dyma orweddfan y talentog Tegidon." Gwel Cymru VI. 111.

SIARL WYN.

OCH! fyd y gofidiau! man cerdda yr angau,
A'i eirf yn dryloewon, a'i saethau yn llym.
O'i flaen yn yr ymdrech gwroniaid yn ddiau
A gwympant y'nghanol eu dewrder a'u grym:
Pa le mae cyfeillion llon oriau fy mabiaeth.
A hoffwn eu cwmni ym mhob rhyw chwar'yddiaeth?
Yfasant o chwerwon wyllt ffrydiau marwolaeth,
Diang'sant gan gyfrif y byd yma'n ddim.

Ow Siarl! mae y newydd am awr dy farwolaeth
Yn gwneuthur i'm calon och'neidio yn brudd;
A gweled y llwybrau gerddasom ni ganwaith,
Yn dwyn rhyw adgofion i'm meddwl y sydd;
Doe yn ein hafiaeth yn llon ein hwynebau,
Heddyw ar wahan gan rwygiad yr angau;
Doe yr adroddai ei gyfansoddiadau,
Heddyw yn ddistaw mewn gwely o bridd.

Nid dawn na ffraethineb, na glendid wynepryd,
All gadw draw angau, llymfiniawg ei gledd;
Pe gall'sent ni fyddai fy nghyfaill siriolbryd
Yn llechu yn dawel yn ister y bedd.

Pan ydoedd enwogrwydd, a pharch, ac anrhydedd—
Ar fin ei goroni, a rhoi iddo fawredd,
Marwolaeth a'i dygai o'n mynwes i'r dufedd,
Yn rhwym aeth i'w garchar, newidiwyd ei wedd.

Cynghanedd ei awen a sŵn De la Plata,
Wrth olchi ei glannau oedd gymysg ber gân,
Y'nghanol gwlad estron e gofiai fro Gwalia,
A'i serch yn ei fynwes enynnai yn dân:
Meib Cymru a garant hoff sain ei ganiadau,
A chân ei benhillion adseinia ein bryniau;
Ond, O! yn ein calon mae dwysion riddfannau,
Na chawsai ei feddod o fewn ein bro lân.

Hiraethai am gaffael gorweddfan yn dawel,
Mewn mynwent y'nghanol ei frodyr ei hun;
Ond hyn ni oddefai yr Arglwydd goruchel,
Sy a'i ffyrdd yn y cwmwl uwch deall pob dyn:
Yn lle caffael marw yn nhŷ ei rieni,
Yn Orleans Newydd y bu yn ymboeni,
Dan ddyfnion arteithiau dychrynllyd glwy'r geri,
Dibenodd ei yrfa mewn gwaew a gwŷn.

O estron ! O estron ! ein serch a'th dyngheda,
I lwch ein bardd ieuanc boed iti roi parch,
O fewn i dy randir yn dawel y llecha,
Yn fud ac yn llonydd dan gaead ei arch:
Ei ben a orlenwid ag amlder o ddoniau—
Diferai gwin awen oddi ar ei wefusau,
Wrth brofi o hono llon oedd ein meddyliau—
O estron ! O estron ! gwna erom ein harch.

Yn iach i Siarl enwog—pan blethai serchawgrwydd,
Ei llawryf o amgylch ei ruddiau yn fad,

Ow! Ow! a anhuddwyd y'ngwlad y distawrwydd,
Heb gael ei ddymuniad ym mwthyn ei dad.
Ty nghobaith a ddywed fod swn ei awenydd
Ar lan afon bywyd yn seinio'n fwy celfydd,
Na phan y sibrydai ei ganau ar lennydd
La Plata, na Dyfrdwy, na nentydd ei wlad.

Nodiadau[golygu]