Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Bala/Sul yn y Bala

Oddi ar Wicidestun
Siarl Wyn Beirdd y Bala

gan John Phillips (Tegidon)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Dinistr Cartref


SUL CYMUNDEB YN Y BALA.

Mae'r bregeth bwysigawl yn awr wedi gorffen,—
Desgrifiad cyffrous o'r Iesu ar groesbren,
Y cariad anfeidrol, yr iawn mawr a roddwyd,
A'r llwybr i gymod â Duw a agorwyd;
Elias,[1] fel angel yng nghanol y nefoedd,
Yn traethu holl gyagor Jehofa i'r lluoedd.
Y dorf a gydunant mewn emyn ddiolchus,
Ar dôn fechan wledig, ond eto soniarus.
Fe hulir y bwrdd, darllenir rhyw gyfran
Gan wr ysgolheigaidd[2] a golwg fwyneiddlan;
Ac yna ymafla Elias yn ddichlyn,
Yn bwyllog, ac araf, yn llestri y cymun.
Ei eiriau ddiferant fel gwinoedd yn felus;
A hongia y dyria yn fud wrth ei wefus.
Hen wladwyr mynyddig yn selio cyfamod
Yn aberth y groes wrth allor y Duwdod;
Hen wŷr lled fethiantus, am dro yn anghofio
Eu gwendid cynhwynol, ymron iawn a neidio;
Hen wragedd oedrannus adfywient yr awrhon,
Gan ollwng eu lleisiau fel heinyf wyryfon;
Yn ol ac ymlaen ymysgwyd wna'r dyrfa,

Fel gwenith teg, llawndwf, dan awel cynhaea.
Byrddiad ar fyrddiad yn dirif ymwasgu,
Dynion drwy'u gilydd yn gwau heb ddyrysu;
Un rhan newydd dderbyn y nefol arwyddion,
A rhan yn ymwthio i'w derbyn yn dirion;
Dwylaw ar led at ddwylaw'r gweinidog,
Un meddwl mawr, eang, drwy'r dyrfa amrywiog;
Llygaid y dorf ar Elias sefydla,
A'u ffydd yn addoli ar lethrau Calfaria.
Fe borthodd y dorf,—mae rhai ar eu gliniau,
Ac ereill yn canu nefolaidd bêr eiriau,
Yn wylo, yn canu, hyd ddengwaith yn dyblu;
A'u llaw ar eu cern, a'u llygaid i fyny;
Hen bennill melusbêr[3] a ddenodd eu hysbryd
Mewn moment i rywle i ardal y gwynfyd,—

"Gwych sain
Sydd eto am y goron ddrain,
Yr hoelion dur a'r bicell fain,
Wrth gofio rhain caff uffern glwy;
Cadwynau tynion aeth yn rhydd.
Fe gaed y dydd, Hosanna mwy."


Nodiadau[golygu]

  1. Y Parch. John Elias o Fôn.
  2. Y Parch. Simon Lloyd, B.A., awdwr yr Amseryddiaeth.
  3. Pennill o waith y Parch. John Roberts, Llangwm (1753— 1834).