Beirdd y Bala/Y Beibl
← Ystyriaethau | Beirdd y Bala gan Robert William golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Blinder ac Ymddiried → |
RHOBERT WILLIAM Y PANDY.
[Amaethwr yn y Pandy, ger y Bala, oedd Robert William. Ganwyd ef yn 1744; claddwyd ef yn Llanfor, Medi 1. 1815. Yr oedd yn ddisgybl i Rowland Huw, ac yn athro i Ioan Tegid. Codwyd y darnau sy'n canlyn o ysgrif-lyfr trwchus yn ei Law ef ei hun (dechreuodd ysgrifennu yn 1768), sy'n awr yn meddiant ei deulu. Gwel Cymru II., 21—23.]
i. Y BEIBL.
TYRED, Awen naturiol,—i gynnig
Rhyw ganiad ysbrydol;
Gwan iawn wyt i ganu'n ol
Sail addysg gwyr sylweddol.
Llyfr doeth yn gyfoeth i gyd,—wych lwyddiant
A chleddyf yr ysbryd,
A gair Duw Nef yw hefyd,
Beibl i bawb o bobl y byd.
Maes helaeth mwya sylwedd,—iawn fedrus
Anfeidrol ei rinwedd;
Gair anwyl y gwirionedd
Byd yw hwn, bywyd a hedd.
Rheol ryfeddol o foddion.—dwysgall
Yn dysgu pob dynion;
Goreu braint roddwyd ger bron,
Yn nwylaw annuwiolion.
Perl nefol pur lawn afiaeth,—gwir amod
A grymus ddysgeidiaeth;
'Rhwn oedd, sydd, a fydd iawn faeth,
Yn dirwyn iechydwriaeth.
Gair iawn di ysgog, goreu in dysgu,
Union a grasol, yn ein gwir Iesu
Deuwn o'n gw'radwydd, da i ni gredu
O gyd wiw fwriad, ag edifaru;
Boed in Nef i gartrefu—yn diwedd,
Mwya dawn rinwedd mae Duw'n ei rannu,