Beryl/Pennod XX
← Pennod XIX | Beryl gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod XXI → |
XX
Er y curo a'r corwynt,—er y nos,
Er niwl ar f'emrynt,
Hyderaf y caf, fel cynt,
Weld yr haul wedi'r helynt.
—ELFYN.
"BETH wnawn ni mwy?" ebe Beryl yn drist, wedi cael yr hanes gan Eric.
"Af fi ddim yn ôl i'r siop eto. Rhaid imi gael lle arall, a gwae'r sawl a wnaeth hyn â mi pan ddof i wybod pethau'n iawn. Mi fynnaf dalu'n ôl iddo."
"Paid â sôn am ddial, Eric. Os oes rhywun wedi gwneud drwg iti o'i fodd, fe ddaw'n ôl iddo heb i ti wneud dim. Gwell goddef cam na'i wneuthur."
"Nid yw Mr. Hywel wedi bod yn deg, chwaith. Cymer yn ganiataol fy mod yn euog."
"Efallai dy fod tithau wedi bod dipyn yn wyllt. Gwell iti fynd i'r siop eto yfory. Fe â hyn heibio eto."
"Dim byth!" ebe Eric. "Gweithio gyda phobl sydd yn credu fy mod yn lleidr! A allet ti wneud hynny? Amhosibl ! Deued a ddelo, af fi ddim yn ôl."
Gwelodd Beryl nad oedd troi arno. Nid oedd yn siwr ei bod hithau am iddo fynd yn ôl, ond beth a ddeuai ohonynt? Yn y tŷ y bu Eric ddydd Mawrth a dydd Mercher, yn ei ystafell wely fel petai'n sâl. Ni ddaeth neb i holi amdano. Gellid meddwl nad oedd neb wedi gweld ei eisiau.
Bore dydd Iau, aeth Beryl, heb yn wybod i Eric, i Lanilin i weld Mr. Hywel. Yr oedd yn rhaid i rywun wneud rhywbeth. Y mae dynion,—hen ac ieuainc,—yn aml yn debyg iawn i blant. Rhaid i'r fenyw,—y fam neu'r wraig, neu'r chwaer, fel y digwydd, feddwl trostynt a'u harwain.
Ychydig a a ddywedasai Beryl, ond ni theimlasai Mr. Hywel mor anghysurus wrth siarad â neb erioed. Dywedodd wrtho, ac edrych arno â'i llygaid clir, fod Eric, a hithau hefyd, wedi eu clwyfo'n enbyd gan ei eiriau gwyllt ef wrth Eric, a'i amheuaeth o'i onestrwydd. Ni allai Eric feddwl am ddyfod yn ôl, ac nid oedd hi'n ei feio am hynny. Gobeithiai y byddai Mr. Hywel mor garedig â'i helpu i gael lle arall trwy roi gair da iddo pan ofynnid am hynny.
Ni thaerodd Beryl fod ei brawd yn ddieuog. Ni ofynnodd i Mr. Hywel am chwilio a mynnu gwybod y gwir. Ni cheisiodd feio neb o'r lleill. Ni chollodd ei thymer ac wylo am y gofid a ddygesid arni. Anwybyddodd y cyhuddiad. Cymerodd yn ganiataol y gallai'r meistr roi gair da i Eric. Teimlai Mr. Hywel mai ef oedd y troseddwr. Dywedodd :
"Yr wyf wedi holi pob un o'r lleill. ŵyr neb ohonynt ddim am y peth. Cafwyd y ddau bapur punt yng nghap Eric. Beth sydd i'w gredu? Dywedwch wrtho am ddyfod yn ôl, Miss Arthur. Yr wyf yn fodlon i'w gymryd yn ôl er mwyn eich tad. Ni bydd rhagor o sôn am y digwyddiad anffortunus yma."
"Diolch ichwi, Mr. Hywel," ebe Beryl. "Dan yr amgylchiadau, y mae dyfod yn ôl allan o'r cwestiwn."
"Plant od, uchel, ond y mae rhywbeth yn nobl iawn ynddynt," meddai Mr. Hywel ynddo'i hun. Ysgydwodd law â Beryl, a dywedyd y byddai'n dda ganddo wneud unrhyw beth a allai drostynt, ac os newidient eu meddwl, y byddai'n dda ganddo roi cynnig arall i Eric.
Bob dydd o'r wythnos ddilynol, bu Beryl ac Eric yn edrych drwy'r hysbysiadau yn y papurau. Yr oedd yno ddigon o leoedd ar gyfer bechgyn mewn siop. Ymgeisiodd Eric am dri'r un pryd. "Yr wyf yn mynd i gymryd y cyntaf a ddaw," meddai. "Hwnnw fydd ar fy nghyfer."
Ar y pumed dydd, daeth ateb o'r lle pellaf o'r tri,—tref fawr yn Lloegr. Derbyniodd Eric y cynnig. Cyn pen tair wythnos ar ôl gadael siop Hywel, yr oedd wedi dechrau ar ei waith,—yn un o gant a hanner yn Siop Fuller, yng Nghaergrawnt (Cambridge).
Y pwnc nesaf oedd cael tŷ, fel y gallai Beryl a Geraint ac Enid ei ddilyn yno. Yr oedd Eric a Beryl wedi trefnu mai hynny oedd i fod. Teimlent mai cam pwysig iawn ydoedd,— mynd allan o'u gwlad i fyw ymysg pobl o genedl arall, yn ddieithr mewn tref fawr. Ond teimlai Beryl fod rhywbeth yn ei gyrru yno. Nid oedd am fyw yn hwy yn ardal Bryngwyn a Llanilin. Nid oedd yn siwr, bellach, mai ffrindiau oedd o'i chylch yno. Gwnaethai ymadawiad sydyn Eric i bobl siarad a holi. Ni wyddai hi pa ystorïau oedd ar led. Tybiai fod pawb yn barnu Eric yn lleidr, ac yr oedd y meddwl yn annioddefol iddi. Felly, er ei chynghori gan lawer i gymryd pwyll, i aros ac ystyried, trefnodd Beryl i fynd. Ysgrifennodd at Eric i erfyn. arno frysio i gael tŷ yn barod iddynt.
Yr oedd cael tŷ mewn tref yn fwy anodd na chael lle mewn siop. Bu'n rhaid bodloni ar fflat yn y diwedd. Pedair ystafell oedd yn hon,—dwy ystafell wely, un arall i fyw ynddi, a chegin fach, fach, i wneud y bwyd a golchi'r llestri ynddi. Yr oedd grisiau cerrig mawr yn arwain i'r fflat. Byddai dau deulu arall yn byw odanynt, a hwythau ar y drydedd lofft. Rhestr o fflatiau cyffelyb oedd y stryd honno.
Bu Beryl yn ffodus i gael tenant i Faesycoed ar unwaith. Byddai'r rhent a gaent am hwnnw yn help tuag at dalu rhent y fflat. Yr oedd Eric, erbyn hyn, yn ennill digon i'w cadw i gyd mewn bwyd,—yn ôl ei gyfrif ef. Yr oedd cant a deuddeg o bunnoedd o hyd yn y banc. Bu'n rhaid tynnu'r deuddeg allan i helpu at dreuliau'r symud. Yr oedd Maesycoed ganddynt wedyn rhyngddynt â'r gwaethaf. Gellid gwerthu hwnnw os byddai rhaid.
Y dyddiau hynny, gallai Beryl ddywedyd gydag Alun Mabon :
Ar ysgwydd y gwan y daeth pwys.
Arni hi y disgynnodd trefnu popeth ynglŷn â'r symud. Bu cymdogion yn ei helpu, wrth gwrs, ac ar yr un pryd yn ceisio'i digalonni trwy sôn am y gost o fyw mewn tref, ac am yr unigrwydd a'r peryglon yng nghanol pobl ddieithr. Ond pan glywodd un ohonynt yn sibrwd wrth un arall, heb wybod ei bod hi'n clywed, "Pwy fuasai'n meddwl hyn'na am Eric?" teimlai mai hyfryd iawn a fyddai bod yn ddigon pell o'r ardal a pheidio â gweld neb o'r ardalwyr byth mwy.
Nid oedd ganddi neb i rannu ei gofid â hwy. Yr oedd Geraint ac Enid yn rhy fach, ac Eric a Nest yn rhy bell. Beth na roesai am gwmni siriol Nest! Ofer disgwyl ei gweld mwy ym Maesycoed. Yr oeddynt i symud yn ystod wythnos y Nadolig, a barnwyd y byddai'n well i Nest aros yn Llundain hyd oni allent ei chroesawu i gartref arall.