Beth yw'r cwmwl gwyn sy'n esgyn
Gwedd
← Ysbryd y Gwirionedd, tyred | Beth yw'r cwmwl gwyn sy'n esgyn gan John Thomas Job |
Dros fynyddoedd y perlysiau → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
263[1] Y Sulgwyn.
87. 87. 47.
1 BETH yw'r cwmwl gwyn sy'n esgyn
O'r Olewydd tua'r nef?
Cerbyd Brenin y Gogoniant,
Sydd yn ymdaith tua thref;
Ymddyrchefwch,
Sanctaidd byrth y Ddinas Wen.
2 Beth yw'r disgwyl sy 'Nghaersalem?
Beth yw'r nerthol sŵn o'r nef?
Atsain croeso'r saith ugeinmil
I'w Ddyrchafael rhyfedd Ef
Diolch iddo,
Y mae'r Pentecost gerllaw.
3 At y lliaws yng Nghaersalem,
Daeth addewid fawr y Tad,
Syrth y miloedd yno i foli
Duw am iechydwriaeth rad;
Sanctaidd Ysbryd,
Aros mwyach gyda ni.
John Thomas Job
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 263, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930