Neidio i'r cynnwys

Ysbryd y Gwirionedd, tyred

Oddi ar Wicidestun
Mae dy Ysbryd Di yn fywyd Ysbryd y Gwirionedd, tyred

gan John Hughes (Glanystwyth)

Beth yw'r cwmwl gwyn sy'n esgyn
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

262[1] Ysbryd y Gwirionedd.
87.87.47.

1 YSBRYD y Gwirionedd, tyred
Yn dy nerthol ddwyfol ddawn;
Mwyda'r ddaear sech a chaled,
A bywha yr egin grawn:
Rho i Seion
Eto wanwyn siriol iawn.

2 Agor gyndyn ddorau'r galon,
A chwâl nythle pechod cas;
Bwrw bob rhyw ysbryd aflan
Sy'n llochesu ynddi i maes:
Gwna hi'n gartref
I feddyliau prydferth gras.


3 Tywys Seion i'r gwirionedd,
At oludoedd meddwl Duw ;
Dyro'r manna, gad in yfed
O ffynhonnau'r dyfroedd byw :
Dawn yr Ysbryd―
Bywyd a thangnefedd yw.

John Hughes (Glanystwyth)



Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 262, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930