Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014/Benthyca cyfalaf

Oddi ar Wicidestun
Rheoli’r pwerau i godi trethi Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014

gan Llywodraeth y DU

Trefniadau rhynglywodraethol

Benthyca Cyfalaf

87. Mae Bil Cymru’n datganoli dwy dreth – y SDLT a’r LfT. Bydd hyn yn golygu y gallai’r Cynulliad ddeddfu i gyflwyno trethi newydd yn lle’r rhain hyn yng Nghymru, gan ddarparu ffrwd refeniw annibynnol i Lywodraeth Cymru (gwerth tua £200 miliwn y flwyddyn) i gefnogi ei benthyca. Felly, bydd pwerau benthyca cyfalaf newydd Llywodraeth Cymru yn cael eu gweithredu ochr yn ochr â'r trethi datganoledig ym mis Ebrill 2018. Bydd benthyca yn erbyn y refeniw hwn yn darparu mwy o hyblygrwydd ac yn dod ag elfen bellach o atebolrwydd ariannol i Lywodraeth Cymru.

88. Mae Bil Cymru’n gosod trothwy benthyca cyfalaf statudol o £500 miliwn. Ar sail yr oddeutu £200 miliwn o refeniw a ddatganolir i ddechrau, mae’r trothwy hwn yn uwch na phe bai wedi’i osod ond ar sail y gymhareb trethi / benthyca a ddefnyddir yn yr Alban.

89. Yn benodol, mae trothwy benthyca cyfalaf Llywodraeth yr Alban yn £2.2bn a daw’n gyfrifol am refeniw trethi sy'n werth tua £5bn ar hyn o bryd. Felly mae’r gymhareb rhwng y ddwy fymryn yn llai, sef 1:2. Byddai cymhwyso’r un gymhareb trethi / benthyca yng Nghymru wedi rhoi trothwy o tua £100m i Lywodraeth Cymru.

90. Mae hyn wedi’i gynyddu i £500 miliwn fel bod Llywodraeth Cymru’n gallu symud ymlaen â gwelliannau i’r M4 (os yw’n dewis gwneud hynny) cyn datganoli unrhyw elfen o dreth incwm. Mae'r Llywodraeth wedi barnu bod y lefel yma o fenthyca'n fforddiadwy i Lywodraeth Cymru ac yng nghyswllt benthyca net a dyledion net y DU.

91. Mae Bil Cymru hefyd yn cynnwys pŵer lle gall Llywodraeth y DU amrywio’r trothwy cyffredinol i fyny ac i lawr (ond nid o dan y £500 miliwn cychwynnol) drwy fwy o ddeddfwriaeth sylfaenol. Yn flaenorol, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cytuno ar broses ar y cyd i adolygu lefelau cydgyfeirio gyda chyllid Cymru ym mhob Adolygiad o Wariant, ac mae Llywodraeth y DU yn cynnig ymestyn y broses i sicrhau bod y trothwy benthyca cyfalaf yn parhau i fod yn briodol. Bydd y trothwy’n cael ei osod ar lefel sydd, ym marn Llywodraeth y DU, yn briodol ar sail ei hasesiad o’r amgylchiadau economaidd ac ariannol pan gynhelir pob Adolygiad o Wariant, effaith chwyddiant ar werth go iawn y trothwy, ac ar sail faint o ffrwd refeniw annibynnol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.

92. O fewn y trothwy cyffredinol, mae Trysorlys EM wedi cytuno y gall Llywodraeth Cymru fenthyca hyd at £125 miliwn y flwyddyn (o 2018-19 ymlaen). Ynghyd â’r cap cyffredinol, mae’r trothwy blynyddol hwn yn sicrhau bod y Llywodraeth yn cadw ei rheolaeth dros gyfanswm benthyca’r sector cyhoeddus ar draws y DU. [Os caiff elfen o dreth incwm ei datganoli i Gymru, byddai’r Llywodraeth yn adolygu’r trothwy blynyddol (a’r trothwy cyffredinol) gan ddisgwyl y byddai hyn yn symud at yr hyn (10 y cant o drothwyon DEL cyfalaf pob blwyddyn) a ddefnyddir yn yr Alban.]

93. O fewn y trothwyon cyffredinol a blynyddol, bydd Llywodraeth Cymru’n gallu benthyca at unrhyw ddiben cyfalaf[1] heb ganiatâd Trysorlys EM. Felly, byddai gan Weinidogion Cymru'r rhyddid a’r hyblygrwydd i benderfynu pryd a sut i fuddsoddi’n ychwanegol mewn seilwaith yng Nghymru i helpu i ddatblygu economi’r wlad.

94. Gall Gweinidogion Cymru fenthyca gan y NLF neu gan fanciau masnachol i ariannu eu gwariant cyfalaf. Mae Bil Cymru hefyd yn darparu y gallai Llywodraeth y DU newid y ffynonellau benthyca sydd ar gael i Lywodraeth Cymru heb ddeddfwriaeth sylfaenol, er enghraifft pe bai’n penderfynu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gallu dyroddi bondiau. Yn ddiweddar, dyfarnodd y Llywodraeth fod dyroddi bondiau’n gyson â phwerau a chyfrifoldebau ariannol Llywodraeth yr Alban fel y nodir yn Neddf yr Alban 2012. Mae’n barod i ystyried ymhellach a fyddai hyn yn briodol ochr yn ochr â’r pecyn o bwerau ariannol sydd i’w ddatganoli i ddechrau gan Fesur Cymru.

95. Cyn gweithredu pwerau benthyca cyfalaf newydd Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2018, mae Llywodraeth y DU wedi cytuno y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau presennol ond mwy cyfyngedig[2] i symud ymlaen gyda gwelliannau i’r M4 (os yw’n dewis gwneud hynny). Rhaid i’r symiau a allai Llywodraeth Cymru eu benthyca dros y cyfnod hwn gael eu cymeradwyo gan Drysorlys EM. Mae’r trefniant hwn, felly, yn rhoi’r opsiwn i Lywodraeth Cymru ddechrau buddsoddi yn yr M4 cyn derbyn unrhyw refeniw o drethi datganoledig. Oherwydd bod hyn fwy neu lai’n rhoi mynediad buan i Lywodraeth Cymru at ei phwerau benthyca newydd, bydd unrhyw symiau a fenthycir o dan y pwerau presennol hyn ar ôl derbyn y Cydsyniad Brenhinol yn cyfrif tuag at y cap o £500 miliwn.[3]

Nodiadau[golygu]

  1. Gwariant a fyddai wedi'i nodi fel cyfalaf yn Consolidated Budgeting Guidance
  2. Enillwyd y pwerau hyn pan ddaeth Awdurdod Datblygu Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru.
  3. Ni fydd unrhyw fenthyca hanesyddol y mae Llywodraeth Cymru’n atebol amdano pan roddir y Cydsyniad Brenhinol yn cyfrif tuag at y cap o £55 miliwn.