Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014/Rheoli’r pwerau i godi trethi
← Creu trethi datganoledig newydd | Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014 gan Llywodraeth y DU |
Benthyca cyfalaf → |
Rheoli’r Pwerau i Godi Trethi
77. Byddai gan Lywodraeth Cymru offer newydd i reoli ansefydlogrwydd unrhyw refeniw o drethi datganoledig[1] ac i ddelio ag unrhyw wall darogan (hy, lle mae’r derbynebion gwirioneddol yn wahanol i’r hyn oedd wedi’i ddarogan). Mae hyn yn cynnwys creu cronfa arian parod i Gymru ac ehangu ei phwerau benthyca i ariannu ei gwariant cyfredol. Bydd y trefniadau manwl ar gyfer rheoli pwerau trethu’n cael eu trafod â Llywodraeth Cymru a, maes o law, yn cael eu cyflwyno mewn Polisi Datganiad Cyllid diwygiedig.
78. Pe bai gwahaniaeth dros dro rhwng trethi a gwariant yn ystod y flwyddyn (ee, oherwydd ansefydlogrwydd y refeniw o drethi datganoledig) neu pe bai'r refeniw o drethi datganoledig yn is na'r darogan, gallai Llywodraeth Cymru:
- naill ai ddefnyddio arian a dalwyd yn flaenorol i’r gronfa arian
parod; neu
- defnyddio ei phwerau benthyca cyfredol tymor byr (os na
fyddai’r arian yn y gronfa wrth gefn yn ddigon i ateb y diffyg).
Cronfa wrth gefn
79. Bydd Llywodraeth y DU yn rhoi hawl i Lywodraeth Cymru dalu unrhyw refeniw trethi dros ben i mewn i gronfa wrth gefn, i’w ddefnyddio pan fydd refeniw yn y dyfodol yn is na’r hyn oedd wedi’i ddarogan. Bydd hyn yn ffordd i Lywodraeth Cymru reoli unrhyw ansefydlogrwydd yn ei chyllideb o ganlyniad i’w phwerau trethu newydd.
80. Gallai Llywodraeth Cymru gynhyrchu arian dros ben mewn dwy ffordd: pan fydd y refeniw o drethi datganoledig yn uwch na’r hyn oedd wedi’i ddarogan; neu pan fydd y cysoni diwedd blwyddyn ar gyfer y gyfradd treth incwm Gymreig a'r addasiad cyfatebol i'r grant bloc yn penderfynu bod angen i Lywodraeth y DU dalu cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru.
81. Yr alwad gyntaf ar unrhyw refeniw trethi dros ben fydd ad-dalu unrhyw fenthyca cyfredol na chafodd ei dalu’n ôl. Gellir naill ai talu unrhyw arian sy’n weddill ar ôl ad-dalu i gronfa wrth gefn, i’w ddefnyddio pan fydd refeniw yn y dyfodol yn is na’r hyn oedd wedi'i ddarogan, neu gellir ei ddefnyddio i dalu am wariant cyhoeddus ychwanegol ar faterion datganoledig.
82. Rhaid i’r gronfa wrth gefn gael ei chadw gyda Llywodraeth y DU a bydd yn gweithredu ar wahân i'r system cyfnewid cyllidebau.
Pwerau benthyca presennol
83. Mae Bil Cymru’n rhoi hyd at £500 miliwn o bwerau benthyca presennol i Weinidogion Cymru, pwerau y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu iddynt fod ar gael ochr yn ochr â threthi datganoledig o fis Ebrill 2018 ymlaen. Mae’r trothwy hwn yn aros yr un fath â’r hyn a osodwyd yn GOWA 2006 ac ar wahân i’r trothwy benthyca cyfalaf £500 miliwn newydd (ac ni fydd yn bosibl cyfnewid rhwng y ddau). 84. O fewn y trothwy cyffredinol, mae Trysorlys EM wedi cytuno y gall Llywodraeth Cymru fenthyca hyd at £200m y flwyddyn (o 2018-19 ymlaen).
85. Mae pwerau Llywodraeth Cymru’n cael eu hehangu i gynnwys benthyca cyfredol ‘canol blwyddyn’ ac ‘ar draws blynyddoedd’. Er y bydd y Llywodraeth yn parhau i gael trafodaethau â Llywodraeth Cymru ynghylch yr union drefniadau ar gyfer rheoli arian parod, mae Bil Cymru’n darparu fel a ganlyn:
- benthyca cyfredol canol blwyddyn - o dan Fesur Cymru mae
Llywodraeth Cymru’n cael cadw ei phwerau benthyca canol blwyddyn, lle gall Gweinidogion Cymru fenthyca o’r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol (NLF) drwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru fel bod gan Gronfa Gyfunol Cymru (WCF) falans gweithio neu i reoli refeniw ansefydlog canol blwyddyn (lle mae’r incwm gwirioneddol yn wahanol i’r refeniw oedd wedi’i ddarogan am y mis hwnnw); a
- benthyca cyfredol ar draws blynyddoedd - i ddelio â’r
gwahaniaeth rhwng refeniw darogan blwyddyn lawn a'r refeniw terfynol ar gyfer trethi datganoledig, mae Bil Cymru hefyd yn rhoi hawl i Lywodraeth Cymru fenthyca o'r NLF drwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar draws blynyddoedd. Rhaid addalu’r benthyca 'ar draws blynyddoedd' hwn o fewn 4 blynedd.
86. Mae Bil Cymru hefyd yn cynnwys pŵer lle gall Llywodraeth y DU amrywio’r trothwy cyffredinol i fyny ac i lawr (ond nid o dan y £500 miliwn cychwynnol) drwy is-ddeddfwriaeth.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Ni fydd angen i Lywodraeth Cymru ddelio ag ansefydlogrwydd canol blwyddyn yng nghyswllt y gyfradd treth incwm Gymreig oherwydd bydd Llywodraeth y DU yn talu dros unrhyw refeniw darogan fel bo angen yn ystod y flwyddyn.