Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014/Cyfradd treth incwm Gymreig

Oddi ar Wicidestun
Treth dir y dreth stamp a'r dreth tirlenwi Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014

gan Llywodraeth y DU

Creu trethi datganoledig newydd

Cyfradd treth incwm Gymreig

33. Gan ddibynnu ar ganlyniad refferendwm yng Nghymru ar gyflwyno cyfradd treth incwm Gymreig, bydd prif gyfraddau treth incwm y DU yn cael eu lleihau o 10c i rai a ddiffiniwyd fel trethdalwyr yng Nghymru, a bydd y Cynulliad yn gallu gosod, yn flynyddol, cyfradd treth incwm Gymreig newydd fydd yn cael ei hychwanegu at y cyfraddau llai ar gyfer y DU. Bydd gweddill y strwythur treth incwm yn aros yn fater na fydd wedi’i ddatganoli, ac yn parhau i gael ei benderfynu gan Senedd y DU.

34. Er bod Comisiwn Silk wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gallu gosod cyfraddau treth incwm Cymreig ar wahân ar gyfer pob un o’r tri band, barn y Llywodraeth yw mai un gyfradd Gymreig ar gyfer y tri band (fel sy’n cael ei chyflwyno yn yr Alban) yw’r system fwyaf priodol i Gymru.

35. Mae’r Llywodraeth yn credu’n bendant bod y strwythur treth incwm yn ddull allweddol o ailddosbarthu cyfoeth ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, a dyma pam mai ar lefel y DU y dylid penderfynu orau sut ddylai’r system hon symud yn ei blaen. Mae cynnwys y system ‘cydgerdded’ hefyd yn gyson â’r egwyddor na ddylai datganoli ariannol elwa un rhan o’r DU ar draul rhan arall – gallai hyn ddigwydd pe bai Llywodraeth Cymru’n gallu gosod cyfradd sylweddol is ar gyfer trethdalwyr uwch / ychwanegol heb fod angen newid y gyfradd sylfaenol (gan felly ddenu pobl sy’n ennill mwy i groesi’r ffin, gan elwa Cymru ar draul y DU yn gyffredinol).

36. Barn y Llywodraeth, felly, yw bod y system cyd-gerdded yn sicrhau’r manteision allweddol sydd mewn golwg gan y Comisiwn (gan roi hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru ar drethi a gwariant, a chynyddu hefyd ei hatebolrwydd am ariannu ei gwariant) ond eto’n cadw strwythur ailddosbarthu sy’n gyson ar draws y DU a lleihau unrhyw risg gysylltiedig o gystadlu trethi.

37. Bydd grant bloc Llywodraeth Cymru’n cael ei leihau i adlewyrchu’r pwerau newydd hyn i godi refeniw, yn defnyddio’r dull tynnu wedi’i fynegeio sy’n cael ei argymell gan Gomisiwn Silk. Rhoddir y manylion o baragraff 52 isod ymlaen. Yn dilyn pleidlais refferendwm o blaid datganoli treth incwm yn rhannol, bydd y Trysorlys yn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar ddyddiad i gyflwyno cyfradd treth incwm Gymreig.

Gweithredu cyfradd treth incwm Gymreig

38. Mae’r Bil yn pennu y byddai’r gyfradd treth incwm Gymreig newydd yn cael ei chasglu gan HMRC, yn defnyddio’r systemau treth incwm Hunanasesiad a PAYE presennol. Os cyflwynir y gyfradd Gymreig, bydd HMRC yn gweithio'n agos â'r holl bartïon y gallai'r newid hwn effeithio arnynt (yn benodol Llywodraeth Cymru, ond hefyd yn cynnwys adrannau eraill o Lywodraeth y DU). Penderfynu ar gyfradd treth incwm Gymreig

39. Byddai angen i’r Cynulliad osod cyfradd newydd Gymreig bob blwyddyn, gyda chynnig yn cael ei basio mewn pryd fel y gellid casglu'r trethi ar ddechrau pob blwyddyn dreth. Er mwyn lleihau’r gost i HMRC ac i gyflogwyr y mesurau gweinyddol a chydymffurfio angenrheidiol, byddai angen i’r gyfradd ar gyfer blwyddyn dreth benodol gael ei chyfathrebu’n ffurfiol i Lywodraeth y DU erbyn diwedd Tachwedd yn y flwyddyn galendr flaenorol. Pe bai oedi gyda chyhoeddi’r gyfradd, byddai angen i Lywodraeth Cymru gytuno ar gyfradd dybiaethol er mwyn galluogi HMRC i gyhoeddi codau TWE i gyflogwyr a gweithwyr gan ystyried y gyfradd ar gyfer Cymru. Byddai’r amserlen hon yn lleihau’r baich cydymffurfio i drethdalwyr hefyd. Yna byddai angen i’r gyfradd gael ei phasio gan y weithdrefn briodol yn y Cynulliad erbyn 5 Ebrill fan bellaf, i ddarparu sail statudol ar gyfer casglu derbynebau treth o ddechrau'r flwyddyn dreth ymlaen. (Mae’n bosibl i gynnig gael ei basio yn gosod cyfradd wahanol i’r un gafodd ei chyhoeddi’n flaenorol, er y byddai hyn yn cynyddu’r costau). Unwaith fyddai’r dyddiad hwn wedi pasio, ni fyddai’n bosibl canslo na diwygio’r cynnig.

40. Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio’n agos â’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod paramedrau cylchoedd cyllideb blynyddol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cefnogi'r broses hon.

Y gost o ddarparu cyfradd treth incwm Gymreig

41. Fel y nodir yn Natganiad Polisi Ariannu Trysorlys EM, Llywodraeth Cymru fydd yn ysgwyddo’r gost fydd yn gysylltiedig â datganoli treth incwm. Mae’r Bil yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru’n gallu ad-dalu HMRC am y gost ychwanegol a fyddai’n gysylltiedig â gweithredu a chynnal cyfradd treth incwm Gymreig. Y costau a fyddai’n cael eu codi ar Lywodraeth Cymru fyddai’r costau ychwanegol (a elwir weithiau’n gostau ‘ymylol’) o weithredu’r gyfradd Gymreig. Ni fyddai costau a fyddai wedi’n disgyn ar HMRC beth bynnag, fel yn ymwneud â threth incwm yng Nghymru’n gyffredinol, yn cael eu pasio ymlaen.

Effaith y gyfradd treth incwm Gymreig ar drethdalwyr a busnesau

42. Os cyflwynir y gyfradd Gymreig, bydd HMRC yn ymgynghori ar nifer o faterion yn ymwneud â gweithrediad manwl y gyfradd treth incwm Gymreig. Bydd hwn yn pwyso ar gasgliadau ymarferion ymgynghori tebyg ar gyflwyno cyfradd treth incwm yr Alban, a arweiniodd at gyhoeddi Nodyn Technegol HMRC[1] ym mis Mai 2012. Er mwyn lleihau’r beichiau gweinyddol ar fusnesau ac unigolion ar draws y DU, byddai HMRC yn disgwyl i'r rheolau ar gymhwyso'r cyfraddau treth incwm yng Nghymru ac yn yr Alban fod yr un fath (oni bai fod rhesymau da dros eu trin yn wahanol).

43. Mae’r Asesiad o Effaith (IA) sy’n cyd-fynd â Bil Cymru’n cynnwys asesiad o effaith y gyfradd treth incwm Gymreig newydd arfaethedig.

Diffiniad o drethdalwr Cymreig

44. Byddai’r gyfradd treth incwm Gymreig yn cael ei chodi ar drethdalwyr sy’n byw yn y DU ac a ddiffiniwyd fel trethdalwyr Cymreig; rhai lle mai Cymru yw eu cysylltiad agosaf. Diffinnir cysylltiad agos â Chymru fel rhywun sydd yn byw ond yng Nghymru neu, ar gyfer unigolion gyda mwy nag un man preswyl, sydd â’u prif gartref preswyl yng Nghymru am gyfnod hwy na'r un rhan arall o’r DU mewn blwyddyn dreth. Yn ogystal, bydd Aelodau'r Cynulliad, Aelodau Seneddol sy'n cynrychioli etholaeth yng Nghymru yn y Senedd neu aelod sy'n cynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop hefyd yn drethdalwyr Cymreig. Llog a chosbau

45. Un o nodweddion presennol y system dreth yn y DU yw codi llog ar drethi a delir yn hwyr. Rhaid i HMRC dalu llog ar ordaliadau treth a chodi llog ar daliadau hwyr. Oherwydd y byddai Llywodraeth Cymru’n gallu gwario trethi sydd wedi eu darogan, Trysorlys y DU ac nid Llywodraeth Cymru fyddai’n gyfrifol am reoli effaith unrhyw ordaliad treth neu dreth a delir yn hwyr. Mae hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i Lywodraeth Cymru gyda rheoli ei chyllid. Felly, ni fyddai taliadau llog yn cael eu cynnwys fel rhan o’r refeniw a fyddai’n cael ei ddyrannu i Lywodraeth Cymru. Byddai hyn hefyd yn symleiddio’r ochr weinyddol. Er enghraifft, lle byddai rhandaliad wedi’i wneud, ni fyddai angen ystyried a oedd elfen Cymru, Lloegr neu’r Alban o ddyled treth incwm wedi’i thalu. Felly hefyd, ni fyddai unrhyw log a delir gan HMRC i drethdalwyr oherwydd gordaliad treth yn cael ei godi ar Lywodraeth Cymru.

46. Mae HMRC hefyd yn gweinyddu nifer o gosbau i'r pwrpas o atal a diogelu system drethi’r DU. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, cosbau am dalu’n hwyr (ar ben y llog a godir am dalu'n hwyr), ffeilio'n hwyr a ffurflen dreth anghywir, a'u bwriad yw annog trethdalwyr i gwrdd â’u hymrwymiadau o ran llenwi ffurflenni treth neu dalu trethi sy'n ddyledus. Mae’r refeniw a gronnir o’r cosbau hyn, felly, yn gysylltiedig â gweinyddu’r system drethi gan HMRC ac ni fyddai'n cael ei ddyrannu i Lywodraeth Cymru.

Treth incwm ar gynilion a dosbarthiadau

47. Ni fyddai’r gyfradd Gymreig yn cael ei chymhwyso i incwm o gynilion a difidend. Mae Comisiwn Silk wedi cydnabod bod y newidiadau y byddai angen eu gwneud i gymhwyso'r gyfradd Gymreig i dreth incwm ar gynilion a dosbarthiadau’n afresymol. Byddai’r gyfradd Gymreig felly’n cael ei chymhwyso i incwm di-gynilion a di-ddifidend (NSND) trethadwy.

Y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a HMRC

48. Mae’r Comisiwn wedi nod bod angen perthynas ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad a HMRC, oherwydd un o swyddogaethau HMRC fyddai casglu’r gyfradd treth incwm Gymreig. Byddai’r berthynas rhwng HMRC a Llywodraeth Cymru ar dreth incwm yn cael ei gosod allan mewn Memorandwm Dealltwriaeth, a fyddai’n cael ei gyhoeddi cyn gweithredu. Byddai hefyd angen Memoranda ar wahân i ddiffinio'r berthynas rhwng HMRC a Llywodraeth Cymru ar y trethi oedd i’w datganoli'n llawn.

49. O dan y Bil, rhaid i'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol gynhyrchu adroddiad blynyddol i’r Cynulliad ar weinyddiaeth HMRC o’r gyfradd Gymreig. Byddai HMRC hefyd yn cynhyrchu detholiad o’u cyfrifon ar gyfer y Cynulliad, yn dangos yr incwm a’r gwariant oedd yn gysylltiedig â’r gyfradd treth incwm Gymreig.

50. Byddai Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol yn HMRC yn benodol atebol am gasglu’r gyfradd treth incwm Gymreig. Byddai’r Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol ar gael i roi tystiolaeth i’r Cynulliad ar sut oedd HMRC yn gweithredu’r gyfradd Gymreig.

Effaith ar adrannau eraill o Lywodraeth y DU

51. Os yw’r Cynulliad yn dewis amrywio’r gyfradd treth incwm Gymreig fel bo'r cyfraddau cyfunol yng Nghymru'n wahanol i'r cyfraddau ar draws y DU, gallai hyn effeithio ar bolisïau ehangach Llywodraeth y DU lle mae anghenion unigolion yn cael eu cyfrifo net o dreth incwm, fel budddaliadau cysylltiedig ag incwm, gan gynnwys y Credyd Cynhwysol newydd. Byddai darlun mwy llawn o’r effeithiau posibl hyn yn cael ei greu gydag adrannau perthnasol o Lywodraeth y DU, wrth nesáu at refferendwm ac wrth i bolisi gael ei ddatblygu. Lle gallai gwahanol gyfraddau treth arwain at fwy neu lai o rwymedigaethau i Lywodraeth y DU, glynir wedyn at yr egwyddor a nodir yn y polisi Datganiad Cyllid sef ‘y corff y bydd ei benderfyniad yn arwain at y gost ychwanegol fydd yn cwrdd â’r gost honno’. Byddai HMRC ac adrannau perthnasol eraill yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar faint a goblygiadau unrhyw gostau o'r fath.

Addasu’r grant bloc yng nghyswllt treth incwm

52. Os gweithredir y gyfradd treth incwm Gymreig yn dilyn refferendwm, mae'r Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad Comisiwn Silk y dylid addasu'r grant bloc drwy ddefnyddio'r dull tynnu wedi'i fynegeio a gynigiwyd yn wreiddiol gan Gomisiwn Holtham. Fel y nodwn isod, mae’r dull hwn yn helpu i gynyddu atebolrwydd Llywodraeth Cymru ac yn gwarchod Cymru rhag effeithiau ledled y DU y byddai Llywodraeth y DU mewn sefyllfa well i’w rheoli, gan sicrhau y bydd cyllid sicr a sefydlog yn dal i fod ar gael i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd manylion gweithredu’r system hon yn cael eu trafod â Llywodraeth Cymru.

53. Mae dwy elfen i'r dull hwn - addasiad blwyddyn gyntaf ac yna mynegeio'r swm hwn yn erbyn twf sylfaen drethi gyfatebol y DU (hy, incwm di-gynilion a di-ddifidend trethadwy) i benderfynu’r addasiad mewn blynyddoedd i ddilyn. Drwy fynegeio yn erbyn y sylfaen drethi yn lle refeniw trethi neu gyfanswm incwm, mae Comisiwn Silk wedi cydnabod bod hyn “yn ymgorffori’n awtomatig yr egwyddor o ‘ddim niwed’" fel y gwneir hefyd yn yr Alban[2]. Mae hyn oherwydd y bydd sylfaen drethi'r DU yn adlewyrchu penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU ar drothwyon, lwfansau a gostyngiadau. 54. Cyn gweithredu’r dull hwn, mae’r Llywodraeth hefyd wedi derbyn argymhelliad Comisiwn Silk i gael cyfnod pontio “i helpu i reoli trosglwyddo risg”. Mae'r Llywodraeth yn disgwyl i'r cyfnod pontio hwn bara am ddwy neu dair blynedd. Byddai’r trefniadau grant bloc yn y blynyddoedd pontio hyn yr un fath ag yn y flwyddyn gyntaf ar ôl pontio, ac eithrio heb broses cysoni diwedd blwyddyn.

Blynyddoedd pontio

55. Yn ystod y blynyddoedd pontio, byddai’r addasiad i’r grant bloc yn cael ei benderfynu yn ôl faint o refeniw trethi a gynhyrchwyd gan gyfradd treth incwm Gymreig o 10c. Hwn yw’r swm treth incwm a fyddai’n cael ei fforffedu gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i leihau’r prif gyfraddau treth incwm o 10c yng Nghymru. Prif ganlyniadau hyn yw:

  • Os yw Llywodraeth Cymru’n gosod cyfradd o 10c yn ystod y blynyddoedd pontio hyn, ni fydd unrhyw effaith ar ei chyllideb o’i gymharu â’r trefniadau presennol.
  • Drwy osod cyfradd o 11c neu 9c, er enghraifft, gallai Llywodraeth Cymru gynyddu (gyda’r naill) neu leihau (gyda'r llall) ei chyllideb o’i gymharu â’r trefniadau presennol, oherwydd byddai’r addasiad i’r grant bloc yn dal yn seiliedig ar y 10c a fforffedwyd gan Lywodraeth y DU, h.y. mae'r gyfradd a bennir gan Lywodraeth Cymru'n newid ei refeniw trethi ond nid yw'n effeithio ar faint yr addasiad i'r grant bloc.
  • Ni fyddai unrhyw risg yn cael ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod pontio hwn, naill ai o ran twf y sylfaen drethi yng Nghymru na rheoli unrhyw wall darogan. Byddai’r ddwy risg hon yn cael eu trosglwyddo’n rhannol i Lywodraeth Cymru ar ôl y cyfnod pontio.

56. Bydd y refeniw trethi a gynhyrchir gan y gyfradd treth incwm Gymreig yn cael ei ddarogan gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) ac yn cael ei dalu i Lywodraeth Cymru. Mae dau senario ar gyfer addasu’r grant bloc:

  • Os yw Llywodraeth Cymru’n gosod cyfradd o 10c ym mlwyddyn 1, bydd darogan yr OBR yn penderfynu faint o refeniw trethi a delir i Lywodraeth Cymru a hefyd faint a dynnir o’r grant bloc. Felly ni fydd unrhyw effaith ar gyllideb Llywodraeth Cymru o'i gymharu â'r trefniadau presennol.
  • Os yw Llywodraeth Cymru’n gosod cyfradd wahanol i 10c ym mlwyddyn 1, bydd y refeniw o drethi Cymreig fydd wedi’i ddarogan gan yr OBR (yn defnyddio'r un gyfradd ag a osodwyd gan Lywodraeth Cymru) yn dal i gael ei dalu i Lywodraeth Cymru ond penderfynir yr addasiad i’r grant bloc gan ddarogan ar wahân o faint a refeniw fyddai wedi cael ei gynhyrchu gan gyfradd o 10c. Drwy osod cyfradd wahanol i 10c, gall Llywodraeth Cymru felly newid ei chyllideb (i fyny neu i lawr) o’i gymharu â’r trefniadau presennol.

57. Bydd defnyddio’r refeniw a gynhyrchir gan y gyfradd Gymreig i benderfynu’r addasiad i’r grant bloc yn golygu na fydd y risg ynghylch twf y sylfaen treth incwm yn cael ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru dros y cyfnod pontio. Felly hefyd, oherwydd nad oes cysoni diwedd blwyddyn yn ystod y blynyddoedd pontio, bydd Llywodraeth y DU hefyd yn cadw’r risg ddarogan.

58. Bydd y ddwy risg yma'n cael eu trosglwyddo’n rhannol i Lywodraeth Cymru ar ôl y cyfnod pontio, y risg ddarogan yn y flwyddyn gyntaf ar ôl pontio a’r risg dwf yn yr ail flwyddyn ar ôl pontio.

Y flwyddyn weithredol gyntaf (ar ôl pontio)

59. Yn y flwyddyn weithredol gyntaf ar ôl pontio, bydd y trefniadau grant bloc yr un fath ag yn y blynyddoedd pontio heblaw y bydd proses diwedd blwyddyn i ail-gyfrifo’r refeniw o drethi Cymreig a’r addasiad i’r grant bloc yn defnyddio ffigurau gwirioneddol (yn hytrach na darogan). 60. Bydd y broses diwedd blwyddyn hon yn trosglwyddo cyfrifoldeb rhannol am reoli’r gwall darogan i Lywodraeth Cymru. Bydd yn cymryd tua 12 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol unwaith fydd HMRC wedi casglu digon o wybodaeth, yn benodol gan drethdalwyr hunanasesiad. Bydd y broses hon yn golygu ail-gyfrifo’r refeniw a gynhyrchir gan y gyfradd Gymreig a'r addasiad i'r grant bloc, yn defnyddio ffigurau gwirioneddol.

61. Mae dau bwrpas i’r cysoni diwedd blwyddyn hwn:

  • i sicrhau’r man cychwyn cywir ar gyfer mynegeio yn yblynyddoedd i ddilyn;

  • i drosglwyddo’r risg gwall darogan gymharol i Lywodraeth Cymru, hy, cyfrifoldeb am y gwall gyda darogan y sylfaen drethi di-gynilion a di-ddifidend (NSND) yng Nghymru sy’n fwy na’r gwall darogan ar gyfer y DU yn gyffredinol.

62. Bydd unrhyw or neu dan-daliadau a nodir yn ystod y broses hon (a allai ond digwydd ym mlwyddyn 1 os gosodir cyfradd Gymreig wahanol i 10c) yn cael eu hadlewyrchu yng nghyllideb Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol ddilynol. Mae’r amserlen hon yn rhoi amser i Lywodraeth Cymru gynllunio’n dilyn y broses diwedd blwyddyn hon yn hytrach na bod angen rheoli’r risgiau canol blwyddyn (sy’n parhau i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU). 63. Er enghraifft, pe bai’r flwyddyn gyntaf ar ôl pontio’n 2013-14, byddai’r broses diwedd blwyddyn yn cael ei chyflawni ar ddechrau 2015-16 ac unrhyw or neu dan-daliadau’n cael eu cymhwyso i’r grant bloc yn 2016-17.

Blynyddoedd i ddilyn

64. Mewn blynyddoedd i ddilyn (hy, o'r ail flwyddyn ymlaen ar ôl y cyfnod pontio), bydd y swm a dynnwyd yn y flwyddyn flaenorol yn cael ei fynegeio yn erbyn unrhyw newid i sylfaen treth incwm NSND y DU. Mae hyn yn golygu pe bai sylfaen treth incwm NSND y DU yn crebachu o 2%, byddai’r addasiad i’r grant bloc yn lleihau o 2%; pe bai’r sylfaen drethi’n tyfu o 2%, byddai’r addasiad yn cynyddu o 2%. 65. Dyma brif nodweddion y dull mynegeio hwn:

  • Mae’n rhoi cymhellion ac yn gwella atebolrwydd Llywodraeth Cymru oherwydd bydd perfformiad economi Cymru yn cael effaith uniongyrchol ar ei chyllideb. Hynny yw, mae’n trosglwyddo’r risg fod y sylfaen drethi NSND yng Nghymru’n tyfu ar gyfradd wahanol i’r cyfartalog ledled y DU. Yn benodol:
    • Os yw Llywodraeth Cymru’n gosod cyfradd o 10c, bydd ganddi fwy o gyllideb (nag o dan y trefniadau presennol) os yw sylfaen drethi NSND Cymru’n tyfu’n gynt na’r cyfartalog ledled y DU, ond llai os yw’r twf yng Nghymru’n fwy araf.
    • Gall Llywodraeth Cymru amrywio maint ei chyllideb ymhellach drwy osod cyfradd Gymreig sy’n uwch neu’n is na 10c (hy, unwaith eto, mae'r gyfradd a osodir gan Lywodraeth Cymru yn effeithio ar ei refeniw trethi ond yn effeithio dim ar faint yr addasiad i'r grant bloc).

  • Mae’n gwarchod cyllideb Llywodraeth Cymru rhag ansefydlogrwydd unrhyw effeithiau macro-economaidd ledled y DU, y byddai Llywodraeth y DU mewn sefyllfa well i’w rheoli. Er enghraifft, i ddefnyddio ffigurau cwbl enghreifftiol:
    • os tybiwn fod grant bloc fformiwla Barnett Llywodraeth Cymru’n £1000 a’r addasiad i’r grant bloc yn £100 mewn blwyddyn benodol, byddai’n rhoi addasiad i’r grant bloc o £900 (£1000 llai £100);
    • yn y flwyddyn ganlynol, pe bai sylfaen drethi NSND y DU yn crebachu o 10%, byddai’r addasiad i’r grant bloc hefyd yn lleihau o 10%, o £100 i £90;
    • byddai’r addasiad i’r grant bloc felly’n cynyddu i £910 (£1000

llai £90) gan dybio nad oes symiau canlyniadol Barnett yn ddyledus. Byddai hyn, felly, yn gwrthbwyso lleihad o 10 y cant mewn refeniw o drethi Cymreig, gan sefydlogi'r gyllideb Gymreig gyfan yn erbyn effeithiau ledled y DU.

66. Fel y refeniw a gynhyrchir gan y gyfradd Gymreig, mae’r sylfaen treth incwm NSND ar gyfer y DU wedi’i darogan i ddechrau. Felly, fel ym mlwyddyn un, bydd angen cael proses diwedd blwyddyn lle caiff y refeniw o drethi Cymreig a'r addasiad i'r grant bloc eu hail-gyfrifo ar sail ffigurau gwirioneddol.

67. Ar gyfer yr ail flwyddyn ymlaen, unig bwrpas yr ail-gyfrifo hwn fydd nodi unrhyw or neu dan-daliadau gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn trosglwyddo’r risg gwall darogan gymharol, yn ogystal â’r risg dwf gymharol, i Lywodraeth Cymru o’r ail flwyddyn ymlaen.

68. Yn achos tan-daliadau, bydd cyllid ychwanegol yn cael ei dalu ochr yn ochr â grant bloc y flwyddyn ddilynol. Yr alwad gyntaf ar y cyllid ychwanegol hwn fydd ad-dalu unrhyw fenthyca cyfredol na chafodd ei dalu’n ôl. Ar ôl hyn, gall Llywodraeth Cymru gynilo’r arian hwn mewn cronfa wrth gefn neu ei ddefnyddio i gefnogi gwariant ychwanegol ar unrhyw fater datganoledig. Bydd unrhyw ordaliadau’n cael eu tynnu allan o'r grant bloc, a bydd Llywodraeth Cymru'n gallu gwrthbwyso hyn drwy ddefnyddio arian a dalwyd yn flaenorol i'r gronfa wrth gefn neu drwy fenthyca cyfredol.

69. Felly, o ddilyn y trefniadau hyn gallai Llywodraeth Cymru gadw a defnyddio cynilion mewn blynyddoedd da i wneud iawn am unrhyw ddiffyg yn y dyfodol (fel y nodwn yn fwy manwl yn yr adran ar y gronfa wrth gefn ym mharagraff 79).

Nodiadau[golygu]

  1. Technote Scot Tax Rate
  2. Roedd y cymal ‘dim niwed’ ym Mhapur Gorchymyn Bil yr Alban yn seiliedig ar ddefnyddio dull gwahanol o addasu’r grant bloc, dull na fyddai’n awtomatig wedi ymgorffori’r egwyddor o ‘ddim niwed’. Yna, cytunodd lywodraeth y DU a llywodraeth yr Alban i ddefnyddio’r dull mynegeio, fel y byddai’n digwydd yng Nghymru.