Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014/Treth dir y dreth stamp a'r dreth tirlenwi

Oddi ar Wicidestun
Datganoli ardrethi annomestig (busnes) yn llawn Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014

gan Llywodraeth y DU

Cyfradd treth incwm Gymreig

Treth dir y dreth stamp a'r dreth tirlenwi

15. Mae Bil Cymru’n darparu ar gyfer datganoli treth dir y dreth stamp (SDLT) a'r dreth tirlenwi (LfT) yn llawn. Mae hyn yn golygu y bydd gan y Cynulliad reolaeth lwyr dros benderfynu sut ac a ddylid trethu trafodion tir a gwastraff a waredir i safleoedd tirlenwi. Ni fydd y SDLF a’r LfT yn gymwys mwyach yng Nghymru a dyna pryd y cyflwynir unrhyw drethi newydd. Bydd lleihad cyfatebol yn y grant bloc i adlewyrchu’r pwerau newydd hyn i godi refeniw, rhoddir manylion am hyn ym mharagraff 26 isod).

16. Ar sail trafodaethau cychwynnol gyda Llywodraeth Cymru, y bwriad yw dirwyn i ben y trethi ‘ledled y DU’ sy’n berthnasol i Gymru, o fis Ebrill 2018 ymlaen. Bydd y grant bloc yn cael ei addasu o’r pwynt hwn ymlaen, i adlewyrchu’r lleihad mewn refeniw y bydd Llywodraeth y DU yn ei dderbyn o'r trethi datganoledig hyn. Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu ar unrhyw drethi Cymreig newydd yn eu lle, yn amodol ar gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad. Bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar ddyddiad terfynol i ddirwyn trethi’r DU i ben yng Nghymru.

Trethi Cymreig newydd

17. Bydd dyluniad y trethi datganoledig a sut y gweinyddir hwynt yn fater i’r Cynulliad ac i Weinidogion Cymru.

18. Mater i’r Cynulliad ac i Weinidogion Cymru fydd penderfynu sut y dylid casglu a rheoli’r trethi datganoledig. Mae Bil Cymru’n darparu bod HMRC yn gallu gweithredu’r trethi datganoledig ar ran Llywodraeth Cymru os yw hyn yn dderbyniol i’r ddwy ochr. Byddai telerau trefniant o'r fath yn rhai i'w cytuno arnynt rhwng HMRC a Llywodraeth Cymru.

Effaith datganoli ar drethdalwyr treth dir y dreth stamp

19. Bydd newid y baich cydymffurfio i drethdalwyr sy’n trosglwyddo tir yng Nghymru’n dibynnu ar ddyluniad y dreth ddatganoledig, sy’n fater i’r Cynulliad ei benderfynu ynghyd â Gweinidogion Cymru. Mae’r ffurflen SDLT bresennol eisoes yn nodi ym mha ardal awdurdod lleol y mae trafodiad tir yn digwydd ac, felly, bydd HMRC yn gallu nodi pa drafodion fydd y SDLT yn parhau i fod yn berthnasol iddynt. O ddyddiad y datganoli, ni fydd y ffurflen hon mwyach yn berthnasol i drafodion yng Nghymru ond bydd ei hangen o hyd, ac ni fydd angen ei diwygio, ar gyfer trafodion yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

20. Efallai y bydd angen ffurflen dreth ar wahân ar gyfer trafodion tir yng Nghymru, gan ddibynnu ar ddyluniad y dreth a’r corff fydd yn ei chasglu. Mater i'r Cynulliad ei benderfynu, drwy weithio â Gweinidogion Cymru, fydd hyn. Nid oes rheswm mewn egwyddor pam ddylai’r baich cydymffurfio i drethdalwyr sy’n prynu un eiddo, mewn rhan benodol o’r DU, gynyddu. Bydd cyfres o reolau i Gymru, un i’r Alban ac un i Loegr a Gogledd Iwerddon. Mae'n bosibl y bydd rhai sy'n prynu eiddo neu dir o boptu i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn gweld cynnydd yn eu baich cydymffurfio - os felly bydd yn cael ei drin fel dau drafodiad, un lle byddai'n rhaid talu’r SDLT a'r llall lle byddai'n rhaid talu'r dreth Gymreig ar drafodion tir. Byddai’r gwerth yna’n cael ei ddosrannu ar draws y ddau drafodiad ar sail eu gwerthoedd cymharol. Yn ogystal, gallai rhai sy’n prynu sawl eiddo yng Nghymru, yn yr Alban ac mewn rhannau eraill o’r DU fel rhan o un trafodiad weld cynnydd yn eu baich cydymffurfio oherwydd gallai fod angen hyd at dair ffurflen dreth.

21. Oherwydd y codir y dreth ddatganoledig ar drafodion tir yng Nghymru, bydd yn effeithio ar unrhyw un sy’n dewis prynu eiddo yng Nghymru, p’un ai ydynt yn byw yng Nghymru, yn yr Alban neu yn rhywle arall. Yn ymarferol, bydd unrhyw gynnydd neu leihad yn y baich gweinyddol yn effeithio ar weithwyr trawsgludo a chyfreithiol proffesiynol sy’n gweithredu ar ran y partïon sy’n dewis prynu eiddo yng Nghymru, cost a allai gael ei phasio ymlaen i’r prynwr.

22. Mae'r ffurflen SDLT yn casglu data ar gyfer Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) a ddefnyddir mewn rhannau eraill o’r system dreth ac ar gyfer gwaith cydymffurfio ehangach gan HMRC. O dan y Bil mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru, os bydd HMRC yn gofyn iddi, ddarparu’r data hwn yn y dyfodol ar drafodion tir yng Nghymru, o wybodaeth fydd yn ei meddiant. Bydd y VOA yn parhau i gyflawni ei swyddogaethau presennol yng Nghymru ar ôl datganoli’r dreth ar drafodion tir.

Effaith datganoli ar drethdalwyr y dreth tirlenwi

23. Nid yw’r ffurflen dreth LfT bresennol ledled y DU yn nodi lleoliad daearyddol y gweithgaredd sy'n cael ei drethu. Mae’n debyg y byddai angen ffurflen dreth ar wahân ar gyfer gwastraff i’w waredu mewn safleoedd tirlenwi yng Nghymru, gan ddibynnu ar ddyluniad y dreth a benderfynir gan y Cynulliad a pha gorff fydd yn gyfrifol am ei chasglu. Bydd y baich cydymffurfio ar weithredwyr tirlenwi yng Nghymru’n cael ei benderfynu gan y rheolau a bennir gan y Cynulliad a Llywodraeth Cymru, a benderfynir ar sail dyluniad a sut fydd y dreth Gymreig ar waredu gwastraff i safleoedd tirlenwi’n cael ei gweinyddu. Mewn egwyddor, ac yn amodol ar drefniadau manwl, ni ddylai fod llawer o gwbl neu ddim cynnydd yn y baich cydymffurfio i drethdalwyr sy'n gweithredu ar safle unigol mewn unrhyw ran o'r DU: bydd cyfres ar wahân o reolau ar gyfer Cymru, yr Alban a gweddill y DU. Gallai gweithredwyr tirlenwi sy’n rhedeg safle yng Nghymru ac mewn rhan arall o’r DU weld cynnydd yn eu baich cydymffurfio oherwydd gallai fod angen hyd at dair ffurflen dreth tirlenwi yn y dyfodol, yn lle un ar hyn o bryd.

24. Bydd angen nifer o fân-ddiwygiadau i’r gyfundrefn LfT bresennol ar ôl datganoli.

  • Cafodd y gronfa cymunedau tirlenwi (LCF) ei sefydlu ochr yn ochr â’r LfT i fynd i’r afael â rhai o effeithiau tirlenwi drwy wella’r amgylchedd yng nghyffiniau’r safleoedd tirlenwi. Ariennir y gronfa hon gan gyfraniadau oddi wrth weithredwyr safleoedd tirlenwi, sy’n derbyn credyd LfT gwerth 90% o unrhyw gyfraniad cymwys a wneir ganddynt i gyrff amgylcheddol sy’n rhan o’r cynllun. Unwaith fydd y LfT wedi’i datganoli i Gymru, ni fydd gweithredwyr safleoedd tirlenwi yng Nghymru’n gymwys mwyach i dderbyn credyd LfT y DU, fydd wedyn ond ar gael am gyfraniadau sy’n fanteisiol i’r amgylchedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Pan fydd y dreth yn cael ei datganoli, bydd gan gyrff amgylcheddol arian heb ei wario o’r cyfraniadau hyn gan weithredwyr tirlenwi ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Am ddwy flynedd ar ôl i’r dreth hon gael ei datganoli, rhoddir caniatâd i wario’r arian hwn ar brosiectau ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Golyga hyn y gellir defnyddio unrhyw gyfraniadau a wneir yn sgil gweithgareddau tirlenwi yng Nghymru ar brosiectau yn yr ardal honno.
  • Mae LfT yn un o’r prif ddulliau a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU i gyrraedd ei tharged lleihau tirlenwi yn 2020 o dan y Gyfarwyddeb Tirlenwi (ar gyfer gwastraff trefol pydradwy). Gallai Gwledydd yr UE gael eu dirwyo am fethu â chyrraedd eu targed. Mae’n annhebyg y byddai’r DU yn methu â chyrraedd ei tharged lleihau tirlenwi dim ond oherwydd y newidiadau i bolisi treth tirlenwi yng Nghymru, ond os byddai hynny’n digwydd bydd y Llywodraeth yn ceisio adennill y gost hon gan Lywodraeth Cymru.

Cost datganoli treth dir y dreth stamp a'r dreth tirlenwi i Lywodraeth Cymru

25. Bydd y ddwy dreth yn cael eu datganoli’n llwyr a’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru fydd yn gwbl gyfrifol am ddyluniad y trethi a’r trefniadau ar gyfer eu casglu. Bydd Llywodraeth y DU yn cael trafodaeth fwy manwl â Llywodraeth Cymru am y gost bosibl i HMRC o weithredu’r newidiadau i’r systemau SDLT a LfT presennol. Bydd unrhyw gostau ychwanegol sy’n ymwneud â datganoli SDLT a LfT (net o’r arbedion i Lywodraeth y DU sy’n deillio o’r ffaith na fydd y trethi hynny’n cael eu casglu na’u gweinyddu yng Nghymru mwyach) yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i leihau unrhyw gostau o’r fath.

Addasu’r grant bloc yng nghyswllt treth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi

26. Mae’r Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad Comisiwn Silk na ddylai addasu’r bloc grant gael ei fynegeio yn erbyn sylfaen drethi gyfatebol y DU.

27. Bydd hyn felly’n trosglwyddo'r cyfrifoldeb llawn am reoli natur ansefydlog y refeniw o'r trethi datganoledig (a bydd dulliau rheoli trethi newydd yn cael eu darparu i wneud hyn) i Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn llawer symlach i'w weithredu na mynegeio parhaus. Fodd bynnag, nid yw’n gwbl rwydd nodi union natur (na maint) addasiad o’r fath y byddai’r ddwy lywodraeth yn debygol o gytuno arno fel addasiad teg yn y tymor hirach.

28. Pwrpas yr addasiad yw lleihau’r grant bloc ar sail y lleihad mewn refeniw i Lywodraeth y DU o ganlyniad i ddatganoli trethi. Gall Llywodraeth Cymru yna benderfynu a ddylid (a sut) i adennill y cyllid hwn drwy godi trethi datganoledig. Y nod felly yw datblygu dull addasu sy’n adlewyrchu nid yn unig y refeniw a gynhyrchir ar yr adeg y datganolir y trethi ond hefyd y rhagolygon disgwyliedig mwy hirdymor. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod datganoli’r trethi hyn yn deg i Gymru ac i weddill y DU, er y gallai’r addasiad hefyd gael ei adolygu o bryd i’w gilydd.

29. Er nad oes cynsail i wneud cymhariaeth uniongyrchol, man cychwyn defnyddiol yw’r addasiad i’r grant bloc a wnaed ochr yn ochr â datganoli ardrethi busnes i'r Alban a Gogledd Iwerddon (ac a ddefnyddir hefyd pan ddatganolir ardrethi busnes yn llawn i Gymru). Ni ellir cymhwyso hyn yn uniongyrchol yn ehangach oherwydd mae gan wariant a ariennir gan ardrethi busnes (lle defnyddir y refeniw hwn i ariannu gwariant lleol) ffactor cymhariaeth Barnett penodol nad yw'n berthnasol i'r un dreth arall.

30. Mae’r dull o addasu'r grant bloc ar gyfer datganoli ardrethi busnes wedi'i osod allan yn adran 14. Yn fyr, mae hyn yn golygu tynnu swm o’r grant bloc sylfaenol a lleihau unrhyw symiau Barnett canlyniadol. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod y grant bloc yn ariannu cyfran lai o wariant Llywodraeth Cymru, gyda Llywodraeth Cymru wedyn yn cadw’r refeniw o ardrethi busnes (gan gynnwys unrhyw dwf yn y refeniw hwn). Yn debyg i’r cymhellion a gyflawnir drwy fynegeio’r addasiad treth incwm, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru'n elwa o'r dull hwn pan fydd ardrethi busnes yn tyfu'n gynt yng Nghymru na symiau canlyniadau Barnett yn dilyn newid ardrethi busnes yn Lloegr.

31. O weithredu egwyddorion allweddol y dull hwn, byddai’n bosibl addasu’r grant bloc ar gyfer treth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi yn ogystal â thynnu swm o’r grant bloc sylfaenol a symiau canlyniadol Barnett fymryn yn llai. Gyda’r elfen olaf, er bod gan ardrethi busnes ffactorau cymhariaeth Barnett yn berthnasol iddynt (ac nid oes gan drethi eraill), gellid cyflawni effaith debyg mewn ffordd arall – er enghraifft drwy leihau’r holl symiau canlyniadol Barnett o ganran fechan, i adlewyrchu'r gyfran o wariant Llywodraeth Cymru sy'n cael ei hariannu gan y trethi datganoledig. Byddai twf y trethi datganoledig, felly, yn llenwi’r bwlch fydd wedi’i adael gan y symiau canlyniadol Barnett llai.

32. Mae’r Llywodraeth yn parhau i drafod y cynnig hwn, ac opsiynau eraill, gyda Llywodraeth yr Alban ac erbyn hyn wedi cychwyn trafodaethau tebyg â Llywodraeth Cymru.

Nodiadau[golygu]