Blodau Drain Duon/Byrder

Oddi ar Wicidestun
Ymson Nel Tŷ-Ma's Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Y Gwael Dan Gochl y Gwir

BYRDER

PA bleser byw
Ond er ei mwyn?
Er lleied yw
Mae'n fawr ei swyn.

Holl brofion byd
I'r gred a'm gyr
Fod enfawr hud
Mewn mesur byr.


Nodiadau[golygu]