Blodau Drain Duon/Ymson Nel Tŷ-Ma's

Oddi ar Wicidestun
Gwyddor, y Llawforwyn Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Byrder

YMSON NEL TŶ-MA'S

PAN wawrio bore'r codi
Ar bawb o deulu dyn,
Ac angel Duw yn dodi
Gwisg newydd am bob un;
A ddisgwyl Lady Jones y Plas
Gael gwynnach gŵn na Nel Tŷ-ma's?


Nodiadau[golygu]