Neidio i'r cynnwys

Blodau Drain Duon/Cytgan yr Ethol

Oddi ar Wicidestun
Yr Hen Fugail Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Dyn o Fil

CYTGAN YR ETHOL

Aм fisoedd cyn hyn
Ar oriel a llawr
Sylwasom yn syn
Mor wag yw'r sêt fawr.
Mor ddof yw'r odfeuon!
Fe gwympodd y deri,
A syrthio mae Seion
O ddiffyg pileri.
O deuwch, ffyddloniaid,
Maen' hw' wedi pasio
I wneud diaconiaid,
Rhaid dechrau canfasio.


Nodiadau[golygu]