Neidio i'r cynnwys

Blodau Drain Duon/Dyn o Fil

Oddi ar Wicidestun
Cytgan yr Ethol Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Y Pen Bostiwr

DYN O FIL

MAE'n ddyn o fil, yn Gymro mawr,
A daw o Lundain weithiau i lawr
I'n hannog ni, werinwyr gwlad,
Sy'n ddigon isel ein hystad,
I droi ein meddwl at ddelfrydau
Yn fwy na thir, a thail, a chnydau;
A rhoddi addysg orau'r dydd
I'n plant, er mwyn yr elw y sydd
Mewn gwir ddiwylliant, nid er swydd
Na safle, nid er llog na llwydd.
Mae'n ddyn o fil, a myn rhai fod
Rhyw bymtheg cant yn nes i'r nod.


Nodiadau[golygu]