Neidio i'r cynnwys

Blodau Drain Duon/Sam a Rhys

Oddi ar Wicidestun
Cwyn y Bardd-Bregethwrn Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Set Ddiwifrau Gŵr Safin

SAM A RHYS

'ROEDD Sam y Siopwr yn ei ddydd
Yn gampwr mewn dadleuon,
A gyrrodd rai o deulu'r ffydd
Ymhell i dir amheuon.
Ond denai Rhys yr Hendref hwy
Cyn hir yn ôl i'w llefydd
Heb drwst—na dadlau mwy na mwy—
'Roedd Rhys yn byw ei grefydd.


Nodiadau[golygu]