Neidio i'r cynnwys

Blodau Drain Duon/Set Ddiwifrau Gŵr Safin

Oddi ar Wicidestun
Sam a Rhys Blodau Drain Duon

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Drwgdybio'r Llaethwr

SET DDIWIFRAU GŴR SAFIN

FE brynodd set ail-law am bunt
Er mwyn cael pregeth yn ei dŷ,
A pheidio â mynd drwy'r glaw a'r gwynt
I'r cwrdd, fel yn y dyddiau fu.
Heblaw, fe arbed gost i'r dyn;
Yn ôl ei gyfraniadau llynedd
Fe dâl y set amdani ei hun
Ymhen rhyw ugain mlynedd.


Nodiadau[golygu]