Blodau Drain Duon/Un Gair Yn Ddigon
Gwedd
← Y Bardd a'r Barbwr | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Aelodau Newydd o'r Orsedd → |
UN GAIR YN DDIGON
Y PRYDYDD HIR:
'Rwy'n danfon i chwi ddarn
O'm "Cân Ddi-lyffetheiriau,"
A hoffwn gael eich barn
Mewn cant neu ddau o eiriau.
Y BEIRNIAD BYR:
Pa eisiau cant neu ddau, O ddyn ?
Mi fedraf ddweud fy marn mewn un.