Blodau Drain Duon/Y Bardd a'r Barbwr
Gwedd
← Ddoe, Heddiw ac Yfory | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Un Gair Yn Ddigon → |
Y BARDD A'R BARBWR
Y BARDD:
Torrwch fy ngwallt, a rhowch dipyn o raen
Arno, 'r un fath â'r tro o'r blaen.
Y BARBWR:
Y tro o'r blaen! Yr holl amynedd!
Nid wyf i yma ond ers dwy flynedd.