Neidio i'r cynnwys

Branwen Ferch Llŷr (Tegla)/Agor y Drws Dirgel

Oddi ar Wicidestun
Dychwelyd i Gymru Branwen Ferch Llŷr (Tegla)

gan Edward Tegla Davies

Hysbyseb

Agor y Drws Dirgel.

DAETH y gwŷr a gludai ben Bendigaid Fran o'r diwedd i Harlech. A dyna'r cipolwg a gewch o syniad yr hen Gymry am y nefoedd,—lle heb farw ynddo, a bwyta diderfyn, a chanu cyfareddol. Dechreuasant eistedd ac ymddigonni â bwyd a diod. Daeth tri aderyn gan ddech- reu canu iddynt ryw gerdd a yrrai bob canu arall yn ddiflas. Ac er bod yr adar ymhell uwchben y môr, cyn amlyced oeddynt â phe byddent gyda hwy. Buont wrth y cinio am saith mlynedd. Yna cychwynasant tua Gwalas ym Mhenfro. Ac yno yr oedd iddynt le teg brenhinaidd uwchben y môr. A neuadd fawr oedd yno iddynt, ac i'r neuadd y cyrchasant. A'i deuddrws oedd yn agored, a'r drws a wynebai Gernyw yng nghaead. Dyma eu nefoedd hwy.

"Wel di," ebe Manawyddan, "dacw'r drws na ddylem ni ei agor."

Buont yno y nos honno yn ddiwall ac yn ddifyr arnynt. Yr oeddynt uwchben eu digon,―bwyd a diod hyd ormodedd. Ac ni allent gofio am unrhyw angen nac am unrhyw alar yn y byd.

Ac yno y treuliasant y pedwar ugain mlynedd heb wybod iddynt erioed dreulio tymor cyn ddifyrred â hwnnw. Ni flinent fwy ar gwmni ei gilydd ar ddiwedd y tymor na phan ddaethant yno. Ac ni flinent fwy ar gwmni pen Bendigaid Fran, na phan oedd Bendigaid Fran ei hun gyda hwy. Galwyd y tymor neu'r ysbaid y buont yng nghwmni pen Bendigaid Fran yn Ysbaid Urddawl Ben," a'r tymor neu'r ysbaid y buont yn Iwerddon yn "Ysbaid Branwen a Matholwch."

Eithr awyddai Heilyn fab Gwyn am agor y drws a wynebai Gernyw, y drws y gorchmynnwyd hwy i beidio â'i agor os oeddynt am barhau'r tymor dedwydd. Aeth ato ac agorodd ef ac edrych ar Gernyw ac ar Aber Helen. A phan edrychasant drwy'r drws, medd yr hanes, daeth i'w cof bob colled a gollasant erioed, a phob câr a chydymdaith a gollasant, a phob drwg a ddaeth iddynt, a phob bai a gyfarfuasai â hwynt, ac yn bennaf am helynt Bendigaid Fran eu harglwydd.

Dyma'r hen hanes o hyd, onide? Yr ydych yn gyfarwydd â stori'r Iddew am y nefoedd a leolodd ef yng Ngardd Eden. Awydd dyn am fwy nag a oedd ganddo a ddinistriodd honno. A dyna, ebe'r hen Gymry, a ddinistriodd eu nefoedd hwythau. Anfodlonrwydd dyn ar ei gyflwr sy'n dinistrio ei holl ddedwyddwch. Ac eto dyna'r ffordd yr ymleda eich byd, ac y tyfwch, ac y cewch nefoedd fwy yn y diwedd, mwy cydnaws â'ch natur,—y nefoedd o chwilio am bethau allan o'ch cyrraedd. Peidiwch â beio gormod ar Adda yr hen Iddewon a Heilyn yr hen Gymry.

Bu raid cychwyn am Lundain ar eu hunion wedyn. Wedi cyrraedd yno claddasant y pen yn y Gwynfryn. Ac ni ddeuai gormes byth, ebe'r hanes, drwy fôr i'r ynys hon tra fyddai'r pen hwnnw yng nghudd.

Hanes prudd yw hanes Branwen. Ymdrech yr hen Gymry mewn cyfnod tywyll iawn ar eu hanes ydyw i geisio esbonio peth o ddirgelwch bywyd. A ffordd yr hen fyd o egluro'i feddwl oedd drwy chwedlau. Beth bynnag arall feddylient yn y stori, drwy gymysgu hanes eu hen dduwiau,-Bendigaid Fran, duw gwlad y tywyllwch, a noddwr cerddorion; Manawyddan, duw gwlad y goleuni, a meistr y crefftau; Branwen, duwies cariad a phryd- ferthwch; Efnisien, duw casineb a llid; a llawer o fân dduwiau eraill, dysgasant hyn, fod casineb ymhob oes yn gwahanu a dinistrio, ac mai mewn cariad y mae'r

unig obaith am gyfannu a gwynfydu'r byd.

WRECSAM:

HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR.


1923

Nodiadau[golygu]