Categori:Edward Tegla Davies
Roedd Edward Tegla Davies (1880-1967) yn Weinidog Wesleaidd ag yn awdur toreithiog. Un o Landegla, o ran ei eni, fu'n "teithio" yn ôl trefn y Wesleaid trwy Gymru fel gweinidog. Roedd yn cyfrannu’n gyson i'r wasg Gymraeg . Bu yn olygydd Y Winllan (1920-1928), cylchgrawn y Wesleaid i blant, a'r Efrydydd (1931-1935). Golygodd Gyfres Pobun.
Gwrthododd gynnig i dderbyn OBE, gan ysgrifennu at ffrind, Ni allaf ddychmygu fy hun yn "Swyddog yr Ymerodraeth Brydeinig" pan oeddwn wedi ymrwymo fy mywyd i wasanaethu Un a fu farw ar groes
Ymysg ei lyfrau mae:—
- Hunangofiant Tomi (Bangor, 1912)
- Tir Y Dyneddon (Caerdydd a Wrecsam, 1921)
- Gŵr Pen y Bryn (Wrecsam, 1923). Nofel.
- Nedw (Wrecsam, 1922)
- Rhys Llwyd Y Lleuad (Wrecsam, 1925)
- Hen Ffrindiau (Wrecsam, 1927)
- Y Doctor Bach (Wrecsam, 1930)
- Y Llwybr Arian (Wrecsam, 1934). Straeon.
- Stori Sam (1938)
- Gyda'r Glannau (Llandybïe, 1941).
- Rhyfedd o Fyd (1950). Ysgrifau.
- Y Foel Faen (Lerpwl, 1951). Ysgrifau.
- Gyda'r Blynyddoedd (1951). Hunangofiant.
- Ar Ddisberod (1954). Ysgrifau.
- Yr Hen Gwpan Cymun (1961). Pregethau.
NODYN: Gan fod Tegla wedi marw ym 1967, bydd y rhan fwyaf o'i lyfrau yn dod allan o hawlfraint ar 1 Ionawr 2038, ac eithrio'r rhai a gyhoeddwyd dros 95 o flynyddoedd yn ôl (1929). Mae pob llyfr a gyhoeddwyd dros 95 mlynedd yn ôl yn y parth cyhoeddus o dan gyfreithiau hawlfraint UDA, y wlad lle mae Wicidestun yn cael ei gyhoeddi.
Erthyglau yn y categori "Edward Tegla Davies"
Dangosir isod 9 tudalen ymhlith cyfanswm o 9 sydd yn y categori hwn.