Rhys Llwyd y Lleuad (testun cyfansawdd)
← | Rhys Llwyd y Lleuad (testun cyfansawdd) gan Edward Tegla Davies |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Rhys Llwyd y Lleuad |
RHYS LLWYD Y LLEUAD
RHYS LLWYD Y LLEUAD
TRO DAU FACHGEN O GYMRY I'R LLEUAD
GAN
E. TEGLA DAVIES
Y LLUNIAU GAN
W. MITFORD DAVIES
WRECSAM
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR
1925
MADE AND PRINTED IN GREAT BRITAIN
RHAGAIR
EIN cymydog drws nesaf ni, bobl y ddaear, ymysg y bydoedd, yw'r Lleuad. Eithr yn wahanol iawn i'n harfer yn gyffredin ynglŷn â chymdogion drws nesaf, ychydig iawn a ŵyr y rhan fwyaf ohonom am y cymydog hwn, ac ychydig iawn a holwn yn ei gylch, er ei fod ymysg y caredicaf o gymdogion.
Er mwyn ceisio dangos diddordeb y byd dieithr hwn, disgrifiais daith dau fachgen o Gymry iddo ac yn ôl.
Lawer gwaith yr hiraethodd pobl mewn oed yng nghanol blinderau bywyd am ryw fyd arall i gilio iddo am orffwystra. Efallai y bydd profiad y ddau fachgen hyn yn gymorth inni oll fodloni mwy ar yr hen fyd y cawsom ein hunain ynddo, er i'r bechgyn gael cryn ddifyrrwch ar eu taith na wyddom ni ddim amdano yn ein byd ni.
Cymerodd y bechgyn eu dull eu hunain, neu'n hytrach ddull hen ddyn y Lleuad, i fynd yno ac yn ôl. Na ddyweder bod eu dull yn amhosibl, canys ni ŵyr neb, yn ein hoes ni o bob oes, beth sy'n bosibl a beth sydd heb fod felly.
Fy nghysur wrth dderbyn adroddiad pendant y bechgyn ynghylch rhai pethau rhyfedd na wn ddim amdanynt yw cofio na ŵyr neb arall ddim amdanynt chwaith.
A'm hunig esgus tros ysgrifennu'r hanes yw ddarfod imi gyfarfod â bachgen deuddeg oed ryw fin nos o aeaf, yn edrych yn ddwys ar y lleuad lawn, gan holi popeth a ddeuai i'w feddwl yn ei chylch, a datgan dymuniad dwfn am fynd yno i weld y wlad trosto'i hun. Meddyliais fod eraill yn y tir, efallai, yn gofyn yr un cwestiynau, a dymuno'r un peth. Ac am hynny y carent gael hanes dau a anturiodd yno, ac a ddaeth yn ôl yn ddiogel.CYNNWYS
I
EISIAU NEWID BYD
NOSON loergan lleuad oedd hi, yn nyfnder gaeaf, a chloch y Llan yn canu. Dywedai hi fod gwasanaeth yn yr Eglwys, ac atgoffâi'r gwrth-eglwyswyr fod eu Seiadau hwythau yn y Capeli ar yr un noson a'r un awr. Nid oedd yr hen gloch yn dal dig at neb.
Yn llechu mewn hen dwll tywod dan gysgod y Wal Newydd, ar bwys Coed y Tyno, yr oedd dau fachgen, â golwg cynllunio dwfn ar hwynebau,—un ohonynt yn edrych yn fentrus a gwridog, a'r llall yn ofnus a gwelw. Dros ben y Wal Newydd chwyfiai Coed y Tyno yn yr awel rhyngddynt a'r awyr, gan chwarae'n ôl a blaen ar draws wyneb y lleuad lawn.
Richard a Moses oedd enwau bedydd y ddau fachgen, ond eu henwau yn ôl Morus Llwyd y Gyrrwr,—am fod tad y naill yn ddaliwr adar di-ail, a thad y llall yn berchen asyn tywyll ei liw, oedd Dic y Nicol a Moi'r Mul Du. A chan mai creu glasenwau oedd galwedigaeth Morus Llwyd, a gyrru'n unig yn ei oriau hamdden, dyna enwau cyffredin y bechgyn ar dafodau'r di-ras. Deuddeg oedd oed y naill, a thair ar ddeg y llall.
Buont yn y twll tywod yn hir. Arhosent weithiau'n hollol lonydd a myfyrgar gan edrych ar eu traed. Aent allan ar dro wedyn i chwilio cwrs y wlad. Cilient yn ôl i gysgod y twll tywod pan ddeuai rhywun heibio. O'r diwedd distawodd y gloch.
"Mae hi'n rhy hwyr i fynd i'r Seiat rwan, beth bynnag," ebe Dic wrth Foses, â golwg fygythiol ar ei wyneb, fel pedfai'n barod i fathru pob blaenor ar wyneb y ddaear fel chwilen dan ei droed. Edrych yn euog ac ofnus a wnâi Moses.
"Yden ni'n gneud yn iawn trwy beidio â mynd, dywed?" eb ef, gan edrych yn syn ar y lleuad. Yr oedd y ddau wedi dyfod allan o'r twll tywod, ac yn sefyll ar y ffordd fawr erbyn hyn. Nid atebodd Dic ef am ennyd. A daliodd y ddau i edrych i fyny ar y lleuad lawn. Chwyfiai Coed y Tyno'n ôl a blaen rhyngddynt â hi. Gwelent y dyn yn y lleuad yn glir, a'r baich drain ar ei gefn, ac edrychai fel pe'n chwarae mig â hwy rhwng y canghennau. Diflannai am eiliad, a deuai i'r golwg drachefn dan wenu. Diflannai eilwaith, ac ymddangosai ymhen eiliad wedyn, yn gwenu'n fwy eiddgar nag erioed.
"Wyddost ti be," ebe Dic, a deimlai'n bur henaidd ar y funud, "mae hen ddyn y lleuad yn edrych yn llawen iawn drwy'r coed yma. Ac mae'r lleuad ei hun fel tase hi'n chwerthin. Ydi hi'n chwerthin, tybed, am fod yr hen ddyn yn hapus ? Mae o, â'i faich drain, yn edrych yn hapusach na ni heb yr un. Dydi hyd yn oed cario drain ddim yn edrych yn beth poenus bob amser."
"Wyr Wil Bach rywbeth amdano fo, tybed? ebe Moses. "Mae o 'n edrych i mi fel tase hogyn bach wrth ei sodle fo. Hwyrach mai Wil Bach ydio," yntau hefyd yn ei deimlo'i hun yn heneiddio dan ddylanwad Dic.
"Wil dy frawd ddaru farw?" ebe Dic. "Doedd o ddim ond peder oed pan ddaru o farw, ac mi fase'n rhy ifanc i hel pricie. Mae nacw'n edrych yn debycach i gi. Ond synnwn i ddim nad oes plant yn byw yno. Os oes, gobeithio na raid iddyn nhw ddim mynd i'r Seiat. Ond hwyrach nad oes yno 'run, a bod y lleuad ei hun yn hapus am fod y bobol sy'n byw arni hi yn hapus."
"Ia," ebe Moses, "ond wrth sôn am Wil Bach, d'alla i ddim wrth y peth, ond mi fydda i 'n rhyw feddwl rywsut i fod o ym mhobman y bydda i 'n edrych arno ar i fyny, yn enwedig yn y nos. Mae o fel tase fo'n chwarae o flaen fy llygid i o hyd."
"Oes ene Seiat yno weithie, tybed, a phobol yn holi adnode ynddi hi?—dene'r peth," ebe Dic.
"Wn i ddim," ebe Moses, dan edrych ar y creadur oedd wrth sodlau'r hen ddyn, "mae'r rhai sy'n y lleuad—y dyn, a hwnnw tu ôl iddo fo,—yn edrych yn hapus iawn, beth bynnag."
"Yden," ebe Dic, "ond falle mai hen ddyn yn holi adnode ydi dyn y lleuad ei hun, ac nid plentyn yn gorfod eu deyd nhw. Ac mae hen bobol felly, yn amal, yn leicio'u gwaith, tase fo ddim ond am eu bod nhw'n cael poeni plant heb y drafferth o'u dyrnu nhw."
"Y cwbwl ddeyda i," ebe Moses, ydi y bydd gwae i ni ar ôl mynd adre am esgeuluso'r Seiat."
Aroshasant i wrando am ennyd drachefn. Yr oedd yr ardal fel y bedd, ond y sŵn tylluan a ddeuai'n awr ac eilwaith o ddyfnder y Tyno, a gwich y coed a rygnai yn erbyn y Wal Newydd, gan chwarae rhyngddynt a'r lleuad. A chyn bo hir daeth llais ysgafn cynulleidfa'n canu emyn o'r pellter.
Gosododd hyn y ddau fachgen mewn petruster mawr. Ciliodd hynny o hyder a oedd gan Foses fel niwl oddiar fynydd, a gwelodd yn glir ganlyniadau'r anufudd-dod. Daliai Dic yn ddewr. Gwyddai'r ddau na chawsai eu tadau ddigon o ras yn y Seiat i beidio â'u curo. Ac o'u profiad ohoni, ofnent, yn hytrach, mai ennyn awydd newydd yn eu tadau at y gwaith llesol hwnnw a wnâi hi.
'Wyddest ti bê?" ebe Moses yn y man, "dydi'r Seiat ddim yn lle mor annifyr wedi'r cwbwl. Rhaid iti gofio mai yno y gwelson ni'r hen Huw Edwards y Foel yn treio darllen efo'i spectol ar ôl iti dynnu'r gwydre ohoni hi, wrth ei fod o wedi ei gadel hi ar ei ôl yn y sêt y Sul. Ac y mae hi hefyd yn dy gadw di rhag rhywbeth gwaeth na hi ei hun. Ac mi alle mai ni sy'n methu wrth feddwl y'n bod ni'n rhy fawr i ddeyd adnode."
"Felly mae nhw'n deyd, ei bod hi'n cadw pobol rhag peth gwaeth," ebe Dic, "deyd y mae nhw nad ydi plant y Seiat ddim yn mynd i'r Tân Poeth."
"Mae hi'n dy gadw di rhag peryg sy'n nes atat ti, was, na'r Tân Poeth," ebe Moses.
Bedi hwnnw?" ebe Dic.
Cwrbins," ebe Moses.
Efallai y dylid hysbysu'r anwybodus mai gair Moesenaidd am y gurfa dadol â'i hamcan i ddyrchafu cymeriad, a chreu ffyddlondeb i foddion y cysegr, hyd yn oed y moddion mwyaf anniddorol, yw "cwrbins."
Bu tawelwch mawr wedyn, a myfyrdod hir.
"Mi garwn i fod yn lle'r dyn yn y lleuad," ebe Dic yn y man, "yn cael hel pricie drwy'r dydd, a gneud coelcerth, a byta cnau, a phethe felly, heb sôn am Ysgol na Seiat nac adnod."
"Felly finne," ebe Moses yn eiddgar, "neu fod yn lle Wil Bach."
A daliai'r coed i chwarae rhyngddynt a'r lleuad, a daliai'r dyn yn y lleuad i wincio arnynt o hyd, yn ôl eu syniad hwy.
Teimlent anesmwythter newydd yn rhyw ym- gripio trostynt, ac arswyd rhag y Tyno du, dirgel, yn nesu atynt. Edrychasant i fyny drachefn i chwilio am eu hunig gwmni,-y dyn yn y lleuad, a gwelsant fod cwmwl trwm wedi dyfod o rywle yn sydyn, a chuddio'r lleuad a'i phreswylydd. Edrychasant i fyny yn hir heb ddywedyd dim wrth ei gilydd. Teimlent yn llai ofnus wrth anghofio'r Tyno a'i unigedd. A chaent gymorth Q i'w anghofio wrth chwilio am y dyn yn y lleuad yn dyfod i'r golwg drachefn. Eithr ni chiliai'r cwmwl.
Helo," ebe llais main, chwerthinllyd, yn sydyn y tu ôl iddynt. Neidiasant i'r twll tywod fel dwy gwnhingen i'w gwâl dan gyfarthiad ci. Daeth chwerthin iach o'r tuallan, ac anturiasant estyn eu pennau heibio i gongl y twll tywod am esboniad ar y dirgelwch. Beth a welent ond y creadur o ŵr bach rhyfeddaf a doniolaf a welsant erioed. Chwarddodd yr hen ŵr bach yn y modd mwyaf gobeithiol.
"Pwy ydi o, dywed?" ebe Moses yn grynedig. 'Ysbryd T'wnt i'r Afon, yn siwr iti," ebe Dic, â'i wyneb yn mynd yn debyg iawn i wyneb y lleuad, er ei waethaf.
Tros wrych uchel yr ochr arall i'r ffordd gwelent gyrn uchel simneuau fferm T'wnt i'r Afon. A dywedid yn y fro, fod i D'wnt i'r Afon ysbryd, a grwydrai oddiamgylch ar nosweithiau cannaid oleu leuad, â'i sŵn yn rhyw hanner griddfan, hanner chwerthin.
Daliai'r hen ŵr i sefyll ar ganol y ffordd gan siglo chwerthin a wincio arnynt bob yn ail.
Wyddoch chi ddim pwy ydwi?" eb ef yn y man.
Ni ddywedodd y bechgyn ddim, dim ond estyn eu pennau dipyn bach ymhellach allan, ac edrych arno'n welw a syn, heb fawr o wahaniaeth erbyn hyn rhwng dewrder y ddau.
Ysbryd T'wnt i'r Afon ydio'n siwr iti," ebe Dic dan ei lais wrth Foses, "o achos hen ddyn bach cam yn hanner hopian a hanner dawnsio ydi hwnnw, medde nhw."
Awyddai Dic braidd am fynd allan i ymgomio ag ef erbyn hyn, ond ofnai Moses,—
"Mi ddeydodd mam wrtha i lawer gwaith," eb ef wrtho'i hun,—"Moses, gofala, machgen i, paid byth â mynd am 'gom efo neb os na fyddi di'n siwr ohono fo.'
Eithr wrth glywed yr hen ddyn yn chwerthin cododd Moses dipyn ar ei galon, a sibrydodd rhyngddo ag ef ei hun,—
"Fedre neb drwg iawn chwaith chwerthin yr un fath â hwn,—ysbryd neu beidio.'
Yn gweled eu petruster chwarddodd yr hen ddyn wedyn,—
Peidiwch ag ofni, hogie," eb ef yn gariadus, y dyn yn y lleuad ydw i, newydd ddwad oddiyno am dro i edrych amdanoch chi, ac am fy nheulu. Mi ddois yma ar ddwy naid, un o'r lleuad ar y cwmwl acw, ac un oddiar y cwmwl i'r fan yma. Mi fydda i 'n dwad i'r ddaear ar fy nhro, weithie,—weithie." Ar ôl yr ail "weithie " daeth prudd-der am ennyd dros ei wyneb.
"Be-be-ydi'ch enw chi, syr?" ebe Dic yn grynedig. A Moses yn rhyw gilio'n ôl yn araf.
"Rhys Llwyd, neu os am fy enw a 'nghyfeiriad i,—Rhys Llwyd y Lleuad," ebe'r hen ddyn yn siriol.
i'w anghofio wrth chwilio am y dyn yn y lleuad yn dyfod i'r golwg drachefn. Eithr ni chiliai'r cwmwl.
"Helo," ebe llais main, chwerthinllyd, yn sydyn y tu ôl iddynt. Neidiasant i'r twll tywod fel dwy gwnhingen i'w gwâl dan gyfarthiad ci. Daeth chwerthin iach o'r tuallan, ac anturiasant estyn eu pennau heibio i gongl y twll tywod am esboniad ar y dirgelwch. Beth a welent ond y creadur o ŵr bach rhyfeddaf a doniolaf a welsant erioed. Chwarddodd yr hen ŵr bach yn y modd mwyaf gobeithiol.
"Pwy ydi o, dywed?" ebe Moses yn grynedig. 'Ysbryd T'wnt i'r Afon, yn siwr iti," ebe Dic, â'i wyneb yn mynd yn debyg iawn i wyneb y lleuad, er ei waethaf.
Tros wrych uchel yr ochr arall i'r ffordd gwelent gyrn uchel simneuau fferm T'wnt i'r Afon. A dywedid yn y fro, fod i D'wnt i'r Afon ysbryd, a grwydrai oddiamgylch ar nosweithiau cannaid oleu leuad, â'i sŵn yn rhyw hanner griddfan, hanner chwerthin.
Daliai'r hen ŵr i sefyll ar ganol y ffordd gan siglo chwerthin a wincio arnynt bob yn ail.
"Wyddoch chi ddim pwy ydwi?" eb ef yn y man.
Ni ddywedodd y bechgyn ddim, dim ond estyn eu pennau dipyn bach ymhellach allan, ac edrych arno'n welw a syn, heb fawr o wahaniaeth erbyn hyn rhwng dewrder y ddau.
Ysbryd T'wnt i'r Afon ydio'n siwr iti," ebe Dic dan ei lais wrth Foses, "o achos hen ddyn bach cam yn hanner hopian a hanner dawnsio ydi hwnnw, medde nhw."
Awyddai Dic braidd am fynd allan i ymgomio ag ef erbyn hyn, ond ofnai Moses,—
"Mi ddeydodd mam wrtha i lawer gwaith," eb ef wrtho'i hun,—"Moses, gofala, machgen i, paid byth â mynd am 'gom efo neb os na fyddi di'n siwr ohono fo.'
Eithr wrth glywed yr hen ddyn yn chwerthin cododd Moses dipyn ar ei galon, a sibrydodd rhyngddo ag ef ei hun,—
"Fedre neb drwg iawn chwaith chwerthin yr un fath â hwn,—ysbryd neu beidio.'
Yn gweled eu petruster chwarddodd yr hen ddyn wedyn,—
Peidiwch ag ofni, hogie," eb ef yn gariadus, y dyn yn y lleuad ydw i, newydd ddwad oddiyno am dro i edrych amdanoch chi, ac am fy nheulu. Mi ddois yma ar ddwy naid, un o'r lleuad ar y cwmwl acw, ac un oddiar y cwmwl i'r fan yma. Mi fydda i 'n dwad i'r ddaear ar fy nhro, weithie,—weithie." Ar ôl yr ail "weithie " daeth prudd-der am ennyd dros ei wyneb.
"Be-be-ydi'ch enw chi, syr?" ebe Dic yn grynedig. A Moses yn rhyw gilio'n ôl yn araf.
"Rhys Llwyd, neu os am fy enw a 'nghyfeiriad i,—Rhys Llwyd y Lleuad," ebe'r hen ddyn yn siriol.
II
CYCHWYN YNO
DYN y lleuad ydoedd yr hen ŵr, mewn gwirionedd, ac ef oedd y creadur doniolaf a welodd Dic a Moses erioed. Wyneb main, crebachlyd, oedd iddo; corff cul, teneu; a'i gefn yn grwm. Ysgydwai'n ôl a blaen ac o ochr i ochr fel cangen dan gorwynt, er ei bod yn noson hollol dawel, heb chwa o wynt rhwng y Wal Newydd a'r gwrych uchel yr ochr arall i'r ffordd. A chwarddai'r hen ddyn yn barhaus.
Yn gweled golwg annedwydd eu byd arnynt, troes at y ddau fachgen a gofynnodd,—
"Fasech chi'n leicio dwad hefo mi i'r lleuad?" Edrychodd y ddau ar ei gilydd yn betrusgar,—
"Baswn i," ebe Dic yn y man.
"Oes ene Seiat yn y lleuad?" ebe Moses wrtho toc mewn rhyw hanner sibrwd.
Edrychodd y dyn bach arnynt yn syn a hurt,—
"Be ydi Seiat?" eb ef.
"Go dda," ebe Dic dan ei lais, "d'ŵyr hwn ddim hyd yn oed be ydi Seiat."
"Oes ene adnode yn y lleuad?" ebe Moses wedyn yn grynedig, ac a ydi bechgyn tair ar ddeg oed yn gorfod eu deyd nhw?"
"Be ydi adnode?" ebe'r dyn yn ofnus, "oes ene Seiat ac adnode yn y coed yma?
"Be-be ydi'ch enw chi, syr?" ebe Dic. [Tud. 15.
Er i hen ddyn y lleuad fod yn ymwneud â dynion lawer gwaith, dechreuai ofni bod pethau mwy dychrynllyd ar wyneb y ddaear nag y dychmygodd ef amdanynt, ac edrychai'n ôl a blaen yn frawychus gan ddisgwyl gweld Seiat neu adnod yn rhuthro iddo allan o'r coed. Meddyliai mai anifeiliaid gwylltion oeddynt, efallai, ac mai ymguddio rhagddynt yr oedd Dic a Moses yn y twll tywod.
"Mae hi'n goleuo arnom ni, was," ebe Dic wrth Foses, "d'ŵyr hwn ddim be ydi adnod, heb sôn am Seiat."
Atebasant y dyn bach yn unllais,—"down ni." Eithr edrych yn wyllt ac ofnus a wnai'r hen ddyn,—
"Ydi Seiat ac adnode yn bethe peryg?" eb ef, heb eu clywed gan ei fraw.
"Nag yden, pethe annifyr yden nhw," ebe Dic gan ymysgwyd.
Gwenodd yr hen ddyn. Rydwi'n dallt rwan," eb ef, "nid pethe yn y'ch byta chi yden nhw felly, ond pethe yn y'ch pigo a'ch cosi chi, aiê? Na, 'does dim ohonyn nhw yn y lleuad."
"Wyddest ti be mae o 'n ei feddwl ydi Seiat ac adnode?" ebe Dic yn ddistaw wrth Foses, a bron hollti gan chwerthin.
Ond edrych yn betrusgar a wnâi Moses.
"Wyt ti am fynd yno mewn gwirionedd, Dic?" eb ef.
Ydw, os doi di," ebe Dic.
"Mi ddo i os ei di," ebe Moses.
"Wel," ebe Dic wrth yr hen ddyn, "mi ddown ni, 'te."
Chwarddodd yr hen ddyn tros y wlad. Plygodd ac estynnodd ddau beth crwn iddynt allan o fasged a orweddai wrth ei draed,
"Bytwch rhein bob tamed," eb ef. "Be yden nhw?" ebe'r bechgyn.
"Fale lleuad," ebe'r hen ddyn. "Feder neb o bobol y ddaear fyw dim yn y lleuad, heb fyta ffrwythe'r lleuad cyn cychwyn, ac mi wna'r rhein y'ch cadw chi rhag pob peryg tra byddwch chi yno.
"Pam?" ebe Dic.
"Os na fyddwch chi'n byta ffrwythe'r lleuad," eb ef, "mi gollwch y'ch gwynt cyn gynted ag y cyrhaeddwch chi yno, ac mi fyddwch farw. O achos 'does dim gwynt yn y lleuad, a rhaid i chi ddysgu byw yno heb gymryd y'ch gwynt. Ac mae'r fale ene'n cynnwys digon o wynt i'ch cadw'n fyw tra byddwch yno." Dechreuodd y ddau fwyta'r afalau lleuad,-
"'Does dim blas arnyn nhw," ebe Dic a Moses yn unllais.
"Nag oes, debyg iawn," ebe'r dyn, "'does dim blas ar wynt,—gwynt y lleuad na gwynt y ddaear, er bod y ddau'n bur wahanol. A fale gwynt ydi fale'r lleuad." Ac eb ef dan ei lais, "Mae'n rhyfedd hefyd fod y Llotyn Mawr mor hoff o fyw ar wynt, a chyn lleied o flas arno.' A daeth prudd-der tros ei wyneb am ennyd drachefn.
"Clywodd y bechgyn ef,—
"Be mae o'n i feddwl, dywed?" ebe Moses wrth Ddic yn frawychus.
"'Dwn i ar wyneb y ddaear," ebe Dic, "ond rydwi am fynd hefo fo, doed a ddelo."
Yr oedd rhinwedd yr afalau'n dechreu codi i ben Dic fel diod gadarn. O dipyn i beth cododd y rhinwedd i ben Moses hefyd. A theimlai'r ddau cyn ysgafned oni fedrent neidio llathenni i fyny heb drafferth yn y byd. Dywedodd y dyn wrthynt fod dylanwad y ddaear arnynt yn awr bron darfod, ac mai o dan ddylanwad y lleuad y byddent bellach. A hysbysodd hwy y medrai pobl yn y lleuad neidio fel adar yn ehedeg.
"Sut y cychwynnwn ni yno?" ebe'r bechgyn. Nid yn unig yr oedd yr afalau wedi eu gosod hwy dan ddylanwad y lleuad, ond gwnaethant hwy'n awyddus dros ben am fynd yno.
"Dowch hefo mi i'r coed yma," ebe'r dyn, gan neidio dros y Wal Newydd i'r Tyno,—" yma mae 'mrawd, Shonto'r Coed, yn byw. Fo ydi brenin y Tylwyth Teg."
Aethant ar ei ôl, gan ymwthio drwy'r brigau nes dyfod i lain o dir glas yng nghanol y goedwig. Ar ganol y llain yr oedd cylch o laswellt glasach o lawer na'r glaswellt o'r tuallan i'r cylch nac o'i dumewn.
"Dyma'r lle y mae teulu Shonto'n dawnsio ar noson loergan lleuad," ebe'r dyn,—" mae nhw'n dwad allan i roi croeso i mi yr adeg honno. Ond rhaid i ni gymryd gofal."
Yna rhoddodd y wich fach fwyaf annaearol. A dyna'r coed yn ferw, a Thylwyth Teg yn heidio o'u hamgylch. Yn eu harwain yr oedd yr hen ddyn bach tebycaf i'r dyn o'r lleuad a welsoch erioed.
Dyma 'mrawd,—Shonto'r Coed," ebe'r dyn o'r lleuad wrth y bechgyn dychrynedig, a dywedodd wrth ei frawd fod y bechgyn am ddyfod yn ôl gydag ef i'r lleuad. Eithr y geiriau "Seiat " ac "adnod" oedd fwyaf ar feddwl dyn y lleuad o hyd. A chyn i Shonto gael siarad,—
"Shonto," eb ef, wyddost ti oes ene Seiat neu adnode yn y coed yma?"
Ni chlywodd Shonto erioed mo'r enwau, ond nid oedd am gyfaddef ei anwybodaeth, canys caiff brenin y Tylwyth Teg y gair o fod y doethaf a'r mwyaf gwybodus yn y byd.
"Nag oes, Rhys," eb ef, gan edrych yn ddoeth. "Weles i run ohonyn nhw ers blynyddoedd. Y Seiat ola y deuthon ni ar ei thraws hi 'roedd hi'n gorwedd dan hen bren derw, wedi marw o eisio bwyd. Ac am yr adnod ola welson ni, saethodd un o'r Tylwyth Teg hi pan oedd hi'n rhedeg ar ôl rhyw fachgen bach a âi drwy'r coed yma ryw fin nos. Welson ni byth yr un arall." Edrychodd dyn y lleuad yn syn, a dyryslyd.
Cododd y bechgyn eu calonnau,—
"'Dŵyr hwn ddim be yden nhw, chwaith," ebe Dic wrth Foses, "ac y mae'n rhaid ei fod o 'n un difyr,--dyma'r gore am ddeyd clwydde a weles i rioed. Gobeithio y cawn ni lawer o'i gympeini o."
Daeth Shonto ymlaen at y bechgyn dan wenu,—
Sefwch yng nghanol y cylch yma, fechgyn," eb ef yn rhadlon.
Safasant hwythau yno gan wasgu'n dyn at ei gilydd. Dechreuodd y Tylwyth Teg ddawnsio o'u hamgylch, a dawnsiasant hwythau gyda hwynt. Neidient wrth ddawnsio i uchter anhygoel. Yr afalau lleuad oedd yn dylanwadu arnynt, yn eu cymhwyso ar gyfer eu cartref newydd. I fyny ac i lawr â hwy, dan ddawnsio'n ddiddiwedd, a mynd yn uwch bob tro. Ac âi eu gwynt—y gwynt a anedlid ganddynt yn fyrrach o hyd.
Yn y man clywent y dyn o'r lleuad yn gofyn i Shonto mewn sibrwd,—" yden nhw bron colli'u gwynt yn lân bellach? O achos chaiff neb ddwad i'r lleuad tra bydd y tipyn lleia o wynt y ddaear ynddo fo. Dydi gwynt y ddaear ddim yn dygymod â dyn mewn bydoedd erill."
"Nag ydi, Rhys," ebe Shonto, "ond welest ti rioed mor anodd ydi hi i gael pobol i 'madel â fo. Mae o 'n blino'r Llotyn Mawr heno gymint ag erioed, ond mae o 'n ddigon saff iti."
Bu'r bechgyn yn hir iawn cyn gwybod pwy oedd y Llotyn Mawr.
Cyn hir, teimlodd Moses wrth ddyfod i lawr ei fod wedi colli ei wynt yn lân, a neidiodd i fyny mor uchel y tro hwn fel na welwyd ei ddyfod yn ôl. Ai gwynt Dic, yntau, yn fyrrach, fyrrach. Ond daliai i neidio i fyny ac i lawr o hyd, a'r Tylwyth Teg o'i amgylch. Wedi colli ohono'r tipyn olaf o'i wynt ni ddaeth yn ôl o'i naid nesaf.
Rhaid i minne gychwyn yn ôl," ebe'r dyn o'r lleuad wrth Shonto, "neu mi fydd y bechgyn adre yn y lleuad o 'mlaen i. Ond tyrd am dro yn gyntaf."
Aeth y ddau i gongl y coed, ac eisteddasant yno'n hir i ymgomio, a'r dyn o'r lleuad yn perswadio Shonto i ddyfod i edrych amdanynt i'r lleuad cyn gynted ag y gallai. Yn y man gwelwyd yr awyr yn rhyw ddechreu glasu. Gwelwodd wyneb Shonto,-
Rhaid imi gasglu nheulu i mewn ar unweth, cyn i'r wawr dorri, neu mi fydd wedi darfod arnom ni, os unweth y bydd pelydre'r haul yn dechre clymu am ein coese ni," eb ef. Yna aeth ati am ei fywyd i gasglu ei deulu ynghyd.
Anaml iawn y gwelir yr un o'r Tylwyth Teg liw dydd. Pan ddigwydd hynny, wedi aros i ddawnsio'n rhy hir y bydd, a phelydr yr haul wedi clymu am ei goesau, a'i rwystro rhag mynd adref.
Aeth dyn y lleuad i ganol cylch y Tylwyth Teg cyn i Shonto eu casglu adref, ac adref ag yntau ar un naid. A Shonto a'i deulu yn ei wylio o'u llochesau dan ddail y coed.
III
AR Y DAITH
CLYWSAI Dic a Moses lawer gwaith am bethau'n mynd "fel y fellten," ond ni ddychmygodd yr un ohonynt erioed y deuai adeg iddynt hwythau eu hunain deithio mewn gwirionedd cyn gynted â hynny. Eithr dyna eu hanes yn awr. Aent mor gyflym nes teimlo y gallent yn hawdd ddal y fellten gyflymaf a welsant erioed. Ni wyddent nad yw mellten yn symud, fel y gwyddoch chwi, ond mai ymddangos fel pedfai'n symud y mae. Pan fyddoch yn mynd mewn trên cyflym, ac yn pasio trên arall heb fod mor gyflym, ymddengys y trên hwnnw fel pedfai'n sefyll yn ei unfan, neu, yn wir, yn mynd yn ei ôl. A chredai Dic a Moses, pe pasient fellten, yr ymddangosai hithau fel pedfai'n sefyll, neu'n cilio'n ôl. A thybient mai profiad go ddieithr fuasai gweld mellten yn aros yn ei hunfan.
Yn syth tua'r lleuad yr aent, a chwyddai hithau'n gyflym fel y neshaent ati. Yn lle goleuo fwy fwy, tywyllai, a deuai rhyw ffurfiau rhyfedd i'r golwg ar ei hwyneb. Yn sydyn, fe'u teimlent eu hunain yn dechreu arafu. Yn y man llonydd- asant mor llwyr nes methu â symud dim, a dechreuasant droi yn eu hun fan yn y gwagle. Wrth droi gwelent, er eu syndod, leuad arall y tu ôl iddynt,—fwy na'r lleuad y cychwynasant iddi. Ac yr oedd dychryn Moses yn fawr iawn, a'i alar am ei fod erioed wedi cychwyn o'r ddaear yn fwy. Buont yno am ysbaid yn troi, a throi, a throi, yn eu hunfan,—
"Wel," ebe Moses toc, â'i galon yn ei wddf, mi ddeydodd mam wrtha i lawer gwaith,—'Moses bach, machgen i, paid byth â mynd i unman na feder neb ddwad o hyd i ti,' a dyma fi rwan yn methu dwad o hyd i mi fy hun."
"Moses," ebe Dic, rydwi'n teimlo fel yr hen ddafad ddu pan oedd y bendro arni hi." Eithr er siarad â'i gilydd, ni chlywent ddim un gair. Gwelent wefusau ei gilydd yn symud, ond er eu dychryn, ni chlywent ei gilydd yn dywedyd dim. Daeth arswyd mawr iawn trostynt, yn fwy felly gan na allent fynd nac yn ôl nac ymlaen,- dim ond troi, a throi, a throi, yn eu hunfan o hyd, fel cwpan mewn dwfr.
Bob yn dipyn dechreuodd Dic fwynhau'r peth. Troent a throent, gan wynebu ei gilydd a throi eu cefnau at ei gilydd bob yn ail ym mhob tro. Bob tro yr wynebent ei gilydd chwarddai Dic, ond gwnâi Moses big dlawd fel pe am dorri i wylo, eithr cyn cael amser i hynny, troai drachefn nes bod ei gefn at Ddic, a chan y troai Dic hefyd yr oedd ei gefn yntau at gefn Moses yr un pryd. Yr oeddynt yn echryslon o oer hefyd. Yr oedd eu dillad fel dillad haearn amdanynt. Nid oeddynt yn anadlu,-collasant eu hanadl oll cyn gadael y ddaear. Yr afalau lleuad a fwytasant a'u cadwai'n fyw. Pe gallasent anadlu rhewasai'r lleithter wrth eu ffroenau. Ond cewch weld eto nad oedd dim yno iddynt i'w anadlu.
Ac yno y buont am dymor hir yn troi a throi yn eu hunfan yn y gwagle. Fel y troent gwelent y ddwy leuad bob yn ail. Dechreuodd Moses wylo o ddifrif, ond rhewodd ei ddagrau'n gorn wrth ei lygaid. Mewn braw tynnodd y dagrau ymaith, ac edrychodd arnynt, ac er ei syndod ef a difyrrwch Dic, troai pelydr yr haul, a dywynnai drwy ei ddagrau, yn seithliw'r enfys ar ei ddwylo. A dyna ddifyrrwch, yng nghanol yr ofnau, oedd defnyddio'r dagrau fel gwydrau i edrych ar bopeth drwyddynt. Ac ymddangosai popeth drwyddynt yn llawer prydferthach nag o'r blaen.
"Diaist i," ebe Dic rhyngddo ag ef ei hun, mae'r ddwy leuad yma'n bropor yn saith o liwie. Mi ddeydodd yr hen Robert Tomos y crydd nos Sul fod ene saith nefoedd yn bod, ond feddylies i ddim am y peth ar y pryd. Oedd o yn ei le, tybed, a phob un ei lliw ei hun,—neu wedi bod yn edrych ar y lleuad drwy ei ddagre yr oedd o?"
Daliasant i droi a throi, a Dic yn dal i feddwl am y seithliw oedd i'r ddwy leuad drwy ddagrau Moses,—
"Moses," eb ef, synnwn i ddim nad rhyw fath o ddwy nefoedd a welwn ni drwy dy ddagre di." Ond ni chlywodd Moses yr un gair.
"Mynd i'r nefoedd yr yden ni'n sicr ddigon iti, Moses," eb ef wedyn, " ond yn bod ni wedi stopio iddyn nhw benderfynu ym mhrun i'n rhoi ni. Gobeithio y byddwn ni hefo'n gilydd, beth bynnag. Ychydig o'r bechgyn a feddyliodd mai'r nefoedd fydde'n diwedd ni, ynte?" Ni chlywodd Moses air, ac nid atebodd air, dim ond dal i droi a gwneuthur pig dlawd bob tro yr wynebai Dic ac yntau ei gilydd.
Yr oedd Dic mewn cryn betruster. Meddyliodd lawer gwaith cyn gadael y ddaear, pe medrai ddringo'r mynydd uchaf i'w ben, y byddai yn ymyl y sêr. Ond nid oedd y sêr yn nes atynt yma, nac yn ymddangos yn fwy, nag yr ymddangosent iddynt pan oeddynt ill dau ar wyneb y ddaear.
"Does dim posib ein bod ni wedi dwad ymhell iawn," ebe Dic, "dydi'r sêr ddim yn edrych yn ddim mwy na dim nes."
Ond dyna rywbeth yn chwyrnellu heibio iddynt. Gwelsant mai carreg fawr ydoedd, fel pe buasai un o greigiau'r ddaear wedi mynd am dro i'r gwagle, fel hwythau.
"Lle peryg sy yma," ebe Moses wrth Ddic, ond ni chlywodd Dic yr un gair.
"Mi fase'n well gen i fod ar y ddaear yn treio deyd adnod yn y Seiat, na bod yn troi a throsi yma'n methu â deyd dim byd, ond nid pawb wyddost, sy'n dwad ar draws pethe fel hyn," ebe Dic. Eithr ni chlywodd Moses air, dim ond gweld ei wefusau'n symud.
Dyna ryw chwyrnellu heibio iddynt wedyn,—dwy neu dair o'r cerryg mawrion hyn oedd yn rhuthro heibio iddynt â chyflymder dychrynllyd. I gyfeiriad y lleuad fwyaf yr aent, ac yna ymhen tipyn gwelai Dic a Moses oleuadau fel y tân gwyllt a welir ar nos o rialtwch, yn disgleirio rhyngddynt â'r lleuad fawr. Dechreuodd Moses wylo eilwaith, ond rhewodd ei ddagrau gan gau ei lygaid mor dyn oni chafodd drafferth fawr iawn i'w rhyddhau. Os drwg cynt gwaeth wedyn. Yr oedd yn ddigon digalon troi yn ei unfan yn y gwagle ymhell bell uwchlaw'r ddaear, ond mwy digalon fyth oedd` bod felly heb weled dim. Ac yno y bu Dic ac yntau am ysbaid wedyn, yn troi, a throi, heb fedru mynd nac yn ôl nac ymlaen. A Moses yn ceisio dywedyd mai bod yn y Seiat oedd y peth brafiaf ar wyneb y ddaear, ac nid yn unig ar y ddaear, ond mewn unrhyw ran o'r greadigaeth fawr. Ceisiai ddywedyd hynny, ond ni allai, am na allai'r naill glywed y llall yn dywedyd cymaint â sillaf o un gair.
Lledgredai Dic yntau, erbyn hyn, nad oedd y Seiat ddim mor anghyfforddus ag y tybiai, ac y buasai hyd yn oed gwres glasonnen y scŵl yn well na'r oerfel mawr yma. Eto, yr oedd y peth yma mor newydd fel na wyddai'n iawn pa un a hoffai ef ai peidio.
Dyna rywbeth yn chwyrnellu tuagatynt wedyn, ac ni wyddent pa eiliad y malid hwy'n chwilfriw. Dyna ddwy fraich yn sydyn amdanynt, ac i ffwrdd â hwy i gyfeiriad y lleiaf o'r ddwy leuad. Pwy a afaelai ynddynt ond hen ddyn y lleuad, wedi dyfod o hyd iddynt ar ei ffordd o'r ddaear.
Ac ymlaen â hwy. Fel yr aent ymlaen âi'r lleuad fawr yn llai o hyd, ac yn oleuach, a'r lleuad fach yn fwy a thywyllach. O dipyn i beth gwelent y lleuad fach yn mwyhau nes mynd yn fyd. Deuai mynyddoedd a dyffrynnoedd a gwastadeddau mawrion i'r golwg.
Mynd yn ôl i'r ddaear yr yden ni," ebe Moses wrth Ddic, dan wenu. Ac ar unwaith ag ef, dywedai Dic, yntau, yr un peth, ond ni chlywai'r naill mo'r llall yn dywedyd dim.
Diau fod mynyddoedd, a dyffrynnoedd, a gwastadeddau mawrion yn y byd a ymagorai o'u blaenau. Eithr fel y dynesent gwelent nad yr hen ddaear annwyl a adawsant ydoedd,- nid oedd yno na môr, na llyn dwfr, nac afon; na phren, na blodeuyn, na gwelltyn; nac anifail, nac aderyn, na phryf,-dim ond anialwch diderfyn, sych, yn llawn cerryg a chreigiau moelion a hagr. Ac am sŵn, nid oedd na siw na miw yn unman.
Rhoddodd yr hen ddyn, wrth ddynesu at y byd newydd hwn, drithro fel colomen. A disgynasant ill tri yn esmwyth ar ganol gwastatir.
"Ymhle yr yden ni, Rhys Llwyd?" ebe'r ddau hogyn gyda'i gilydd. Eithr ni chlywent leisiau ei gilydd o gwbl. Er hynny, gwyddai'r dyn ar eu gwefusau pa beth a ofynnent, a gwnaeth yntau ei wefus ar ffurf y geiriau,—"Yn y lleuad."
Buont gryn amser yn dyfod atynt eu hunain ar ôl y bendro a gawsant yn y gwagle. Syrthient bob gafael, bob tro y ceisient sefyll ar eu traed, fel y gwnewch chwithau wedi troi oddiamgylch yn chwyrn am beth amser. Wedi dyfod atynt eu hunain, o'r diwedd, yr oedd ganddynt gant a mil o gwestiynau i'w gofyn i'r dyn ynghylch helyntion y daith.
"Cyn i chi ddechre holi," ebe'r dyn, "diolchwch am eich bod chi wedi cyrraedd yn ddiogel. Pan ddois i ar eich traws chi yr oedd y Trobwll Mawr wedi dechre cael gafael ynoch."
"Trobwll Mawr," ebe Moses mewn braw, "be ydi hwnnw?"
"Mae'n anodd egluro," ebe'r dyn,—" a fuoch chi mewn trobwll neu lyn tro afon rywdro pan fyddai dau lif afon yn cydgyfarfod, ac yn ymladd â'i gilydd amdanoch, a chithe mewn peryg o gael eich sugno i mewn rhwng y ddau? Yr arwydd o'r peryg ydi eich bod chi'n dechre troi yn eich unfan yn y dŵr."
"Mi fum i unweth, yn afon y Ddôl, ac mi fu agos imi foddi," ebe Dic.
"Wel, roeddech chi yn y Trobwll Mawr rhwng dau fyd pan ddois i o hyd i chi, ond mi gawn esbonio'r peth eto," ebe dyn y lleuad,—"y cwbl a ddeyda i rwan ydi mai peth digon annifyr ydi rhyw droi rhwng dau fyd, a methu â setlo yn yr un, os nad peth digon peryglus hefyd."
"Rhywbeth tebyg i fod rhwng dwy stôl ar lawr?" ebe Dic.
"Ie," ebe dyn y lleuad.
A dywedent hyn oll â'u gwefusau. Ni chlywent ei gilydd yn dywedyd dim.
IV
MEWN DYRYSWCH
WEDI cyrraedd y byd newydd hwn, edrychasant o'u hamgylch, ac ni ddisgynnodd eu llygaid erioed ar ddim cyn llymed â'r olygfa o'u blaenau. Ni welid dim ond mynyddoedd a bryniau pigfain, geirwon, caregog; cymoedd llawn cerryg a llwch caled; a gwastadeddau diffrwyth, moel, ar bob llaw. Ac ni ellid cerdded ond ychydig heb ddyfod ar draws tyllau aruthrol yn y llawr.
Anodd iawn i'r bechgyn a syllasai gymaint ar y lleuad o'r twll tywod dan gysgod y Wal Newydd oedd credu mai dyma'r lleuad, a'r un mor anodd oedd credu mai wedi dyfod yn ôl i'r ddaear yr oeddynt, oherwydd annhebyg iawn oedd y wlad ddi-goed, di-laswellt, di-flodau, di-adar, a di-ffrydiau hon, i'r byd a adawsant ar ôl,-byd heb annifyrrwch ynddo, ond Seiat ac adnod un—waith yr wythnos, a darn diwrnod o ysgol bob dydd.
"Ymhle yr yden ni mewn gwirionedd, o ddifri, rwan?" ebe Moses yn grynedig.
Ni chlywodd yr hen ŵr ofyniad Moses, ac ni chlywid na si na sibrwd yn unman yn y wlad ryfedd hon. Gwlad ddistaw, ofnadwy ddistaw ydoedd. Llithrai cerryg mawrion i lawr y mynyddoedd, gan falu'n chwilfriw yn y gwaelod, ond mewn distawrwydd hollol.
Yn sydyn disgynnodd carreg aruthrol yn eu hymyl o rywle o'r gwagle uwch eu pennau, tebyg i'r cerryg a'u pasiai pan oeddynt ar eu taith. Yn ei chwymp gwnaeth y garreg dwll ofnadwy fawr yn y llawr, gan chwalu llwch a cherryg yn gawodydd i bob cyfeiriad,-ond yn hollol ddistaw. Lle disgwylid sŵn taran ni chlywid cymaint â sŵn gwybedyn ar ddeilen, o gwymp y garreg fawr.
Neidiodd Dic a Moses o'i ffordd, ond er eu syndod, yn lle neidio rhyw ddwylath neu dair, neidiasant ddeuddeg llath yr un, yn hollol ddidrafferth.
"'Rargien fawr, Rhys Llwyd," ebe Dic wrth y dyn, "ydi'r byd ar ben a phawb ar ddarfod amdano?" Ond yr unig arwydd o'i siarad oedd bod ei wefusau'n symud.
"Mi wn i be ydio, rwan," ebe Moses, gan neidio yn ei lawenydd, "breuddwydio yr ydwi. Rydwi'n cofio imi freuddwydio unweth mynd drwy'r awyr yn syth o 'ngwely yn fy nghrys nos, a hwnnw'n llenwi fel balŵn yn y gwynt, a mynd i wlad lle 'roedd hi'n glawio hen wragedd a ffyn, ond heb glywed dim sŵn of gwbwl. Yr unig wahaniaeth a wela i yma ydi nad oes dim gwynt yma, a finne heb fod yn fy nghrys nos."
Deallodd Dic ef ar ei wefusau,—
"Taw, was," eb ef, "yr ydw inne'n gweld yr un fath â thi, a fase dau byth yn breuddwydio'r un peth."
Daliasant i droi a throi. [Tud. 25.
"Ia," ebe Moses, "breuddwydio rydwi, a breuddwydio bod Dic yn siarad efo fi."
Ac am y tro cyntaf yn ei oes nid oedd gan Ddic ateb iddo. Yn lle ei ateb rhoddodd binsied da iddo. Gwaeddodd Moses cystal ag y gall dyn heb wneuthur dim sŵn.
"Ai breuddwyd ydi hwnene, tybed?" ebe Dic.
Nid oedd gan Foses ddim i'w wneuthur ond gobeithio mai breuddwyd oedd y pinsied hefyd.
Dyna garreg fawr arall o'r gwagle yn disgyn yn ymyl, a neidiodd Dic a Moses, breuddwyd neu beidio, o'i ffordd i bob cyfeiriad. Gwyliai'r dyn hwynt â golwg ddireidus, ac ymhyfrydai yn eu dyryswch. Dyna garreg arall wedyn i lawr, ac i mewn i ddaear y byd newydd hwn am lathenni, gan gyfodi cawod o gerryg a llwch drachefn, ond yn hollol ddistaw eto. A Dic a Moses yn neidio'n ôl a blaen o ffordd y cerryg, fel bwch gafr ar daranau, a phob naid dros ddeuddeg llath. Fe'u cawsant eu hunain, wedi un naid, yn ymyl dyn lleuad yn ôl, ac yntau'n dolennu gan chwerthin. Erbyn hyn yr oeddynt wedi arfer cymaint â siarad drwy wneuthur ffurfiau'r geiriau â'u gwefusau fel nad oedd unrhyw anhawster iddynt ddeall ei gilydd.
Aeth Dic at y dyn, a gwnaeth ffurf y geiriau, gan ofyn cwestiwn Moses,—
"Ymhle yr yden ni mewn gwirionedd?"
Edrychodd y dyn yn hir arnynt rhwng difrif a chwarae. Yn y man gwnaeth yntau ffurf y geiriau â'i wefusau, ac atebodd,—
"'Rydwi wedi deyd mai yn y lleuad."
"Ond be ydi'r lleuad acw'n te?" ebe Dic,— y lleuad fawr, fawr, acw."
"Y ddaear y daethoch ohoni hi," ebe'r dyn. "Yn y fan acw y mae'ch tade a'ch mame. Dacw gartre Shonto'r Coed, ac y mae'r pethe a alwech chi'n Seiat ac adnode i gyd wedi eu carcharu yn y fan acw. Ni chlywyd erioed am bethe felly yma. Fedre nhw ddim byw yma am nad yden. nhw'n ddigon maint i fyta fale lleuad."
"Meddylia am adnode'n byta fale lleuad," ebe Dic wrth Foses, gan wincio arno,—" un rhyfedd ydi'r dyn yma."
Eithr yn y man daeth rhyw anobaith dwys i gorddi'r bechgyn. Dechreuodd eu gwefusau grynu, a gofynnodd Moses yn wyllt,—"Sut y mae'r ddaear yn lleuad?"
"Wel," ebe'r dyn, gan ddal i siarad â'i wefusau," y byd yr yden ni'n byw ynddo rwan ydi lleuad y ddaear, a'r ddaear ydi lleuad y byd yma. Byd ydi'r lleuad, tebyg i'r ddaear, ond ei fod dipyn llai, a thywynna'r ddaear arno fel y mae yntau'n tywynnu ar y ddaear. Pan fydd y lleuad yn oleu mawr crwn, gelwir ef gan bobol y ddaear yn lleuad lawn,' a phan fydd y ddaear felly, galwaf inne hi yn ddaear lawn.'
Eisteddai'r dyn yn ei grwcwd, â'i ben ar un ochr, fel robin goch yn disgwyl am damaid. Gwybod yr oedd ef fod llu o gwestiynau'n blino'r bechgyn, ac arhosai'n amyneddgar amdanynt.
"Ond, ond, ond?" ebe Moses.
"Ond beth?" ebe'r dyn.
Yr oedd gan y bechgyn gymaint i'w ofyn nes methu â gwybod ymhle i ddechreu. Edrych yn syfrdanllyd a wnâi Moses ar y ddaear, a dywynnai i lawr arnynt fel lleuad.
"Ond, ond," ebe Dic, "pam y mae'r ddaear mor fechan?"
"Pell iawn ydi hi," ebe'r dyn. "Dyma'r byd yma a elwir yn lleuad, edrychwch fyd mor fawr ydio, ac eto, mae o mor bell o'r ddaear nes edrych ohoni mor fach â phêl droed."
"Ond, ond," ebe Dic wedyn, gan edrych yn ddyryslyd o'i amgylch, heb fedru dywedyd gair yn ychwaneg, a daliai Moses i edrych yn syfrdanllyd i fyny ar y ddaear o hyd, a chasglai dau ddeigryn i gonglau ei lygaid.
Dyna ruthr wedyn, ac un o'r cerryg mawr, fel creigiau mwyaf ein daear ni, yn disgyn â chyflymder ofnadwy ar wyneb y lleuad. Mor fawr oedd y garreg hon nes chwalu ohoni fryn helaeth y disgynnodd arno. Yr oedd fel pe'n glawio creigiau o'r awyr ar adegau, yna ysbeidiau heb ddim. Ond er mor fawr y rhuthr a'r chwalfa, ni ddigwyddodd cymaint â siffrwd yn unman i dorri ar y distawrwydd dychrynllyd.
Wedi cael eu gwynt atynt ychydig, os priodol y gair mewn lle mor ddiwynt â'r lleuad, gofynnodd Dic,—
"Os y lleuad ydio," eb ef, "lle mae'r baich drain? 'Roedden ni'n ei weld o ar eich cefn chi o'r ddaear. Mae hi'n oer ofnatsen, ac mi ddylech roi hwnnw ar dân bellach. Mae gen i flys mynd i'w nôl o os deydwch chi lle mae o, er mwyn cael tipyn o dân."
'Waeth iti heb," ebe'r dyn, "'does dim drain yn tyfu yma chwaith."
"Mi welson ni rywbeth tebyg i fachgen bach wrth y'ch sodle chi, o'r ddaear," ebe Moses, "ac mi feddylies i falle,—falle,—mai Wil Bach oedd o."
Pruddhaodd wyneb yr hen ddyn, a rhoddodd ei law ar ben Moses, ond cyn iddo fedru ateb dyna garreg arall yn disgyn a thorri'n dipiau yn eu hymyl.
Pan ddaethant atynt eu hunain, ebe Dic,—
"Pam yr oedden ni'n troi a throi yn ein hunfan ar y ffordd yma, fel dau dop scŵl, neu ddwy ddafad efo'r bendro, heb symud oddiyno, nes i chi ddwad i'n gwthio ni o'r lle ddaru chi alw'n Drobwll Mawr?"
Fasech chi'n leicio gwybod?" ebe'r dyn dan wenu'n ddireidus.
Basen," ebe'r ddau'n unllais. Na, nid yw hynyna'n gywir chwaith, canys nid oedd ganddynt leisiau o gwbl.
Wel," ebe'r dyn dan wenu, "nod mawr y byd yr ydech chi'n byw ynddo fo rwan, ydi dysgu amynedd. Ac os byddwch chi'n amyneddgar, mi gewch wybod pan fydd cael gwybod yn lles i chi."
Disgleiriai'r ddaear fel lleuad fawr, fawr, arnynt. Carent weld rhyw arwydd arni fod gofid ynddi oherwydd eu colli hwy, ond disgleirio a wnâi mor oer a dideimlad ag y gwna'r lleuad ar y ddaear ar noson o rew. Eisteddai dyn y lleuad yn ei grwcwd, â'i ên ar ei bennaugliniau, yn edrych ar y bechgyn fel pedfai'n eu cymryd yn ysgafn. Eisteddai Dic â'i benelinoedd ar ei bennaugliniau, a'i ên yn ei ddwylo, yn syllu'n syn ar y ddaear i fyny yn y pellter yn disgleirio arnynt. Cerddai Moses yn anesmwyth oddiamgylch. Toc, cychwynnodd Moses ymaith heb ddywedyd yr un gair. Crwydrodd yn ôl a blaen, a chrwydrodd ymhell, ac yn ei grwydr anghofiodd ei ofn o'r cerryg mawrion a lawiai'n awr ac eilwaith o'r awyr. Daliai Dic i syllu ar i fyny Wrth ddal i syllu dychmygodd ei fod yn gweld rhywbeth a adwaenai ar wyneb y ddaear. Un o ofidiau mawr ei fywyd ar y ddaear oedd dysgu Daearyddiaeth yn yr ysgol bob dydd. Ond wrth weld y peth hwn ar wyneb y ddaear gofidiai na buasai wedi astudio chwaneg ar Ddaearyddiaeth, canys yr oedd yn sicr fod y peth a welai yn debyg i ryw fap a welsai yn y llyfr Daearyddiaeth yn yr ysgol.
Diaist i," eb ef yn wyllt, gan neidio ar ei draed, "os nad Sir Fôn ydio. O! na faswn i 'n nes i fechgyn y ddaear i'w cynghori nhw i roddi eu holl fywyd i astudio Daearyddiaeth, rhag ofn iddyn nhw rywdro gael eu cymryd yma. Mi fydd hyd yn oed Daearyddiaeth yn gyfleus iddyn nhw yr adeg honno. Ddaru mi 'rioed weld gwerth yn y peth o'r blaen. Mae'n rhaid bod rhywun heblaw ni wedi bod rywdro yn y lleuad, neu pwy ar wyneb y ddaear fase'n meddwl bod dim gwerth mewn Daearyddiaeth? Moses "
Edrychodd oddiamgylch am Foses, ond nid oedd ef yno. Aeth Dic ymaith mewn braw i chwilio amdano, ac wedi chwilio'n hir daeth o hyd iddo'n sefyll â'i bwysau ar garreg fawr yn edrych o'i amgylch yn synllyd.
"Moses," ebe Dic, "i be y crwydrest ti cyn belled â hyn?"
"I chwilio am Wil Bach," ebe Moses, "o achos weles i rioed ddim tebycach iddo fo na phan oeddwn i'n edrych ar y lleuad o'r twll tywod. A choeliai byth nad ydio yma'n rhywle."
V
HIRAETH
WEDI dyheu llawer am ffoi i'r lleuad o drybini'r byd, dyna hwy yno o'r diwedd. Gwahanol iawn. ydoedd i'r hyn y dychmygodd yr un ohonynt amdani. Ni feddyliasant erioed ei bod chwarter mor bell o'r ddaear, nac mor fawr o lawer iawn. Yn lle bod filoedd ar filoedd o filltiroedd i ffwrdd, ni thybiasant y gallai fod yn ddim ond rhyw dair neu bedair milltir.
Edrychasent ar y lleuad bob amser fel cylch goleu yn yr awyr, yn ddigon o faint i ddal y dyn, a rhyw ddau neu dri eraill efallai. Eithr wedi cyrraedd yno gwelsant ei bod yn fyd mawr, eang, a mynyddoedd, a gwastatiroedd, a dyffrynnoedd ynddo i bob cyfeiriad. Yr oedd yn llwyd dywyll yno pan gyraeddasant, ac ychydig o'r haul yn y golwg, ar fin diflannu, a'r ddaear yn llawn oleu, fel lleuad fawr iawn. Gwelsant adeg yno pan oedd eu byd hwy—y lleuad—yn llawn oleu, a'r ddaear i'w gweld uwchben fel rhimyn o leuad newydd, ond bu raid aros tipyn i bethau fod felly. O'r diwedd, daeth yn nos hollol ar y lleuad, a'r ddaear yn tywynnu yn y gwagle fel lleuad lawn,—yr unig oleuni iddynt ond goleuni'r sêr.
Collasant lawer ar eu cysgu yn ystod y cyfnod goleu, canys er bod yr haul fel pe ar fin mynd i lawr pan gyraeddasant yno, bu ddeuddydd neu dri o hyd dyddiau'r ddaear cyn cilio o'r golwg yn llwyr. Pan ddaeth y tywyllwch teimlent yn swrth iawn, ac er pob ymdrech i gadw'n effro, syrthiasant i gysgu. Cymerodd dyn y lleuad hwy bob yn un yn ei freichiau, a chludodd hwy i ogof fawr dan fynydd uchel, rhag i un o'r cerryg mawr ddisgyn o'r gwagle uwchben a'u lladd yn eu cwsg. Buont yn cysgu'n hir, a'r dyn yn eu gwylio. Weithiau gwenent yn eu cwsg, ac weithiau gwelid dagrau'n disgyn i lawr eu gruddiau o'u llygaid caead, ac yn rhewi o un i un nes ymddangos fel rhes o berlau yn hongian oddiwrth flew eu llygaid. Dyna Foses yn y man yn neidio'n wyllt ar ei draed, ac yn rhoddi sgrech annaearol, neu, o leiaf, yn rhoddi ffurf sgrech. Ond er i'w wyneb fynd i bob ffurf, a'i enau agor fel popty, ni chlywid dim.
A welsoch chwi, rywdro, geiliog wedi colli'i lais yn canu? Naid i ben y domen, ysgwyd ei adenydd, estyn ei wddf, egyr ei enau, ac ymddengys fel pe'n gwthio darn o asgwrn o'i wddf,—a dyna'r cwbl. Ni chlywir na chân na griddfan ganddo. Cân ddiddorol yw cân ceiliog mud. Felly Moses. Edrychodd yn wyllt o'i amgylch yn y tywyllwch, heb oleu yn unman, ond rhyw adlewych gwan o oleu'r ddaear a dywynnai ar y lleuad o'r tuallan i'r ogof, ar y dagrau ar ruddiau'r ddau. Yr oedd ут hen ddaear garedig yn glynu yn eu dagrau hwy o hyd. Rhuthrodd Moses ymlaen, ac wrth basio yn ei ruthr, rhoddodd gic i Ddic a'i deffroes. Edrychodd Dic a'r dyn arno'n syn. Gwelent ar ei wefusau, rhyngddynt a genau'r ogof, mai'r hyn y ceisiai ei ddywedyd oedd,—
"Lle mae hi? Lle mae hi?"
Aeth Dic ato, rhoddodd ei law'n dyner ar ei ysgwydd, a chafodd ganddo eistedd. Daeth gwên hiraethus ar ruddiau Dic wrth weld yr hen ddaear, o enau'r ogof, yn goleuo dagrau Moses, a fuasai'n anweledig onibai am hynny, a chofio mai goleuni'r hen gartref ydoedd. Canys, erbyn hyn, edrychent ar y ddaear oll, o'r pellter hwn, fel eu cartref, fel yr edrych Cymro pan fo ymhell o dir ei wlad ar Gymru oll fel cartref iddo, er na welodd ef erioed mo'i hanner.
"Lle rydwi? Lle rydwi?" ebe Moses yn wyllt.
"Yn y lleuad, Moses bach, tawela, machgen i," ebe Dic.
Rhoddodd Moses ei ddwylo ar ei wyneb, a'i benelinoedd ar ei bennaugliniau, ac wylodd yn hidl. Disgynnai ei ddagrau'n un pistyll, a rhewent fel y disgynnent, nes eu bod wedi rhewi'n llinyn gan gydio'r llawr a llygaid Moses wrth ei gilydd, fel na allai symud. A gwelodd Moses, beth bynnag oedd ei ofid, mai callach oedd peidio ag wylo yno. Nid yw'n talu i wylo ymhob man. Ac nid oes eisiau wylo, mwy na rhywbeth arall, oni byddo'n talu. Dyna gyngor dyn y lleuad iddo.
Rhyddhaodd Dic a dyn y lleuad ef oddiwrth y llawr, taflasant ei ddagrau ymaith, a gwyliasant hwy'n ysboncio'n sionc fel peli bach, gan ddisgleirio tros y lle. Troes Dic at Foses,—
Be sy'n bod, Moses, was?" eb ef mor siriol ag y medrai.
Wedi dyfod ato'i hun dipyn, esboniodd Moses yr helynt i'r ddau,—
Breuddwydio 'roeddwn i," eb ef, "mod i 'n gweld y ddaear wedi dwad bron i'n hymyl ni, ac un o fynyddoedd mwya'r ddaear yn ymestyn ymlaen, nes inni fedru gweld ei dop o bron yn ymyl. Wedi dringo i ben y mynydd yr oedd yr eneth fach ddel â'r gwallt melyn hir hwnnw, oedd yn canu yn y Cyfarfod Plant dwaetha, sy'n paratoi at y 'Steddfod,—'O! tyred yn ôl,' ac a roddodd damed i brofi imi o'r cyfleth a brynodd hi efo'r geiniog a gafodd hi gan Miss Wynn. Dene lle 'roedd hi ar ben y mynydd, â'i llygid wedi llenwi, a thamed o gyfleth yn ei llaw, a'i cheg hi'n ddu ar ôl y peth oedd hi wedi fyta, ac yn canu na chlywest ti rotsiwn beth, fel tase hi wedi bod yn edrych amdana i am flynyddoedd, a newydd ddwad o hyd i mi. A'r geirie cynta a ddisgynnodd ar fy nghlustie i oedd,—
Dolurus fy nghalon, a gwelw fy mryd,—
Ple 'rwyt ti f'anwylyd yn aros cyhyd?'
Mi weles wrth iddi hi ganu fel hyn, y plant yn chware ar fuarth yr ysgol, ac yn methu dallt ble 'roedden ni. Ond yr hyn a dorrodd 'y nghalon. i, Dic bach, oedd clywed ei llais hi pan oedd hi'n canu,—
O! tyred yn ôl, O! tyred yn ôl,
Pe gwyddwn lle 'rydwyt ehedwn i'th nôl.'
A hithe hefyd yn edrych i fyw fy llygad i ar y pryd, fel tase hi'n gwybod yn iawn lle roeddwn i."
A thorrodd Moses i feichio crio wedyn, a chafodd Dic a dyn y lleuad y drafferth fwyaf i luchio'i ddagrau i ffwrdd fel y rhewent, rhag i'w wyneb gydio eto yn y llawr. Canys anghofiodd y perygl hwn gan faint ei ofid.
"O!" eb ef yn y man, "na chawn i fynd yn ôl ati, ac i ni'n dau efo'n gilydd orffen byta'r cyfleth hwnnw, a mynd wedyn i hel cnau,—i mi ddringo'r coed i'w hel nhw iddi hi, a hithe'n dal ei brat i'w derbyn nhw. Ond am y lle yma nid oes sôn am na phren cnau, na phren crabas, na dim byd." A thorrodd i wylo'n ddiobaith wedyn, a Dic yn edrych yn ddwys a myfyriol arno.
Gofynnodd Dic i'r dyn, toc, a oedd rhywun weithiau'n digwydd dyfod i'r lleuad, ac ai hwy oedd y rhai cyntaf erioed o'r ddaear i ddyfod yno. Meddwl yr oedd ynghylch y paham y dychmygodd neb erioed am y syniad o ddysgu Daearyddiaeth, os nad er mwyn adnabod gwahanol rannau'r ddaear o'r lleuad.
"Nage," ebe'r dyn, "nid chi ydi'r rhai cynta, y mae Shonto'r Coed, fy mrawd, yn dwad yma ar ei dro. Pan fydd y lleuad yn y cyflwr a alwch chi'n lleuad lawn rydwi'n mynd i'r ddaear weithie, pan gai arwydd odd'no. A phan fydd y ddaear yr hyn a alwaf finne'n ddaear lawn,— hynny ydi fel y deydes i o'r blaen, yn oleu drosti i gyd, mae ynte'n dueddol iawn i ddwad yma. Dene pam y mae'r Tylwyth Teg allan ar noson gannaid oleu leuad,—allan i nghroesawu i y mae nhw. 'Does dim byd difyrrach na llithro i'r ddaear ar belydryn o oleu'r lleuad, na dim difyrrach na llithro yma ar belydre'r ddaear. Mae ffyrdd erill i fynd yn ôl a blaen, megis neidio ar gwmwl, a neidio wedyn ar y ddaear, ond llithro ar belydryn o oleuni ydi'r ffordd ore os bydd hi'n hollol ddigwmwl. Ond feder neb neud hynny heblaw Shonto a finne."
Gloywodd llygaid Dic, a siriolodd Moses drwyddo, wrth feddwl am yr hyn a alwent yn "ffri-whilio " ar belydr y lleuad. Gwyddent yn dda beth oedd eistedd ar ganllaw'r Allt Hir a "ffri-whilio" i'r gwaelod, ond beth oedd hyn i "ffri-whilio" am filoedd o filltiroedd ar belydr goleuni'r lleuad a'r ddaear? Buasai hynny'n tynnu dwfr o ddannedd hyd yn oed Tomi'r Go, a "ffri-whiliodd " unwaith ar ei eistedd o dop Craig y Gwalch i'r gwaelod, ac a ddaeth i dipyn o helynt ar ddiwedd y daith. A serth iawn oedd Craig y Gwalch.
Glywsoch chi'r stori am Tomi'r Go, Rhys Llwyd?" ebe Moses wrth y dyn.
"Naddo wir, be ydi hi?" ebe'r dyn.
"Roedd hynny," ebe Moses, "pan oedd ene fechgyn mawr, mawr, yn yr ysgol. Mae'r plant wedi mynd i gyd yn fychin iawn rwan. Mi eisteddodd ar dop Craig y Gwalch, medde nhw, ac mi lithrodd i lawr, neu 'ffri-whilio' fel y byddwn ni'n galw'r peth. Ac i lawr â fo mor gyflym fel nad oedd neb yn ei weld o 'n mynd, dim ond gweld rhyw symud. 'Roedd o 'n mynd mor gyflym nes i'w drowsus o fynd ar dân ymhell cyn cyrraedd y gwaelod. Ac mi fase'n ddrwg iawn arno fo onibai bod afon—afon Pen Lan— yn y gwaelod, ac iddo fo lithro ar ei sgruth, a'i gael ei hun yn eiste'n gyfforddus yng nghanol honno. Ac mi fase wedi boddi, ond ei fod o 'n fachgen mawr,—cofiwch mai bechgyn mawr oedd yn yr ysgol yr adeg honno. Ar ôl mynd iddi mi fu o'r golwg am dipyn, sut bynnag, nid am ei fod o wedi mynd ar ei ben iddi, ond bod ei drowsus o wedi mynd ar dân, a'r tân a'r dŵr yn cydgyfarfod a gneud stêm. Ac mi fu Tomi o'r golwg yn y stêm am yn hir, a'r bechgyn yn methu dallt be oedd wedi dwad ohono fo, yn stemio felly. Meddwl 'roedden nhw, nes gweld yn wahanol, mai wedi chwysu 'roedd o wrth deithio mor gyflym."
"'Chlywes i rotsiwn beth," ebe'r dyn yn syn. Cofiodd Dic am dalent arbennig Shonto'r Coed, a ddangosodd ef wrth adrodd hanes yr adnod yn rhedeg ar ôl y bachgen, a thorrodd i mewn i helpu Moses â'r stori,—
"A phan gododd o i fyny, Rhys Llwyd," ebe Dic, â'i lygaid yn llydan agored fel llygaid bachgen diniwed, yn arfer â dywedyd y gwir, "'roedd pysgodyn wedi berwi yn glynu wrth ei goes o. A dene oedd yn rhyfedd, 'doedd Tomi ddim tamed gwaeth."
"Diar annwyl," ebe dyn y lleuad mewn braw. Chlywes i mo'r darn ene o'r stori o'r blaen," ebe Moses.
"Mae o 'n wired â'r pader i ti," ebe Dic.
Nid oedd Dic, wedi'r cwbl, am adael i ddyn y lleuad gredu bod galluoedd y Tylwyth Teg yn fwy na galluoedd plant dynion. Ac os oedd dywedyd anwiredd yn arwydd o dalent, yr oedd am roddi ar ddeall iddo nad oedd hynny chwaith wedi ei gyfyngu i'r Tylwyth Teg.
VI
DECHREU ESBONIO
O'R diwedd machludodd y ddaear a diflannodd ei goleuni, ond arhosodd y goleuni yn hir wedyn yn llygaid y bechgyn, gan ddangos o flaen eu llygaid luniau o'r hen gartref. Eithr cilio a wnaeth o'u llygaid hwythau hefyd, canys ni all goleuni'r ddaear aros yn hir iawn heb y ddaear ei hun. Er crwydro ohono oddiwrthi dros dro, rhaid yw iddo fynd adre'n ôl os mynn fyw, er yr erys mewn llygaid yn hwy nag mewn dim arall. Dyna paham y gwelwch hen olygfeydd sy'n annwyl i chwi ymhell ar ôl mynd o olwg yr hen wlad. Ond rhaid mynd i olwg yr hen wlad yn awr ac eilwaith os yw ei goleuni i barhau yn eich llygaid.
Wedi i'r pelydryn olaf o oleuni'r ddaear ddiflannu o lygaid Dic a Moses, dechreuodd hyd yn oed Dic, yntau, fynd yn drist a'i wefusau'n rhyw gychwyn crynu, a'i lygaid lenwi braidd.
Wedi aros yn hir yn fud,—
"Meddwl 'roeddwn i," eb ef wrth Foses, cyn ddewred ag y medrai, "am yr eneth honno a'm helpiodd i i ddeyd f'adnod y nos Sul cyn y dwaetha, hwyrach ei bod hi mewn rhyw gornel rwan yn dysgu un newydd." Ac edrychodd i fyw llygaid Moses, a Moses i fyw ei lygaid yntau, a'r ddau bron, bron hollti gan ysbryd wylo, a'r ddau hefyd am y goreu yn ceisio cadw'r gwir ynghylch hynny oddiwrth y llall. Canys peidiodd Moses â'i wylo di-obaith pan glywodd am stori "ffri-whilio " pelydr y ddaear a'r lleuad.
Gwelai'r dyn ei bod yn mynd yn ddrwg,— "Beth pe taswn i," eb ef, yn addo i chi ddangos rhyfeddode'r lleuad, a'u hesbonio nhw gore medra i, ac wedyn gadel i chi fynd adre os mynnwch chi?"
Llawenychodd y ddau trwyddynt, a neidiodd Moses ar ei draed fel pedfai am gychwyn y funud honno, ond dechreuodd Dic ryw dynnu'n ôl mewn hanner llawenydd, hanner ofn. Ac eb ef yn y man,—
'Does gen i ddim eisio mynd yn ôl."
"Pam?" ebe'r dyn, a Moses wedi ei syfrdanu.
"Am nad oes gen i ddim llais," eb ef. "Mi fydd y bechgyn a'r genethod yn chwerthin am fy mhen i 'n treio siarad, a dim byd yn dwad allan o ngheg i ond ymdumie. 'Does ene neb yma'n gwybod mod i 'rioed wedi bod yn wahanol. Cyfarfod â phobol fydd wedi 'nabod i 'n wahanol fase'n torri 'nghalon i, ac yn codi cwilydd arna i. Gan fod hi fel hyn, mae'n well gen i guddio 'nghwilydd yma."
Dechreuodd Moses wylo ar ei waethaf, oherwydd ni feddyliasai o'r blaen am yr agwedd yma ar bethau. A beth pedfai'r ferch fach a welodd yn ei freuddwyd yn canu "O! tyred yn ôl," yn'Does dim byd difyrrach na llithro i'r ddaear ar belydryn o oleu'r lleuad [Tud. 44.
lle ei groesawu pan ddeuai'n ôl, yn codi ei thrwyn arno a'i wawdio. Buasai hynny'n waeth nag aros ar hyd ei oes yn y lleuad, yn ffoi rhag cawodydd cerryg.
"Os fel ene mae hi arnoch chi," ebe'r dyn, "rydwi'n gweld bod yn rhaid i mi ddechre sbonio pethe ar unweth. Pan ewch chi i'r ddaear yn ôl mi welwch chi na bydd dim o'i le ar eich lleisie chi. Faswn i ddim am y byd, 'y mechgyn del i, yn gneud dim drwg i'ch lleisie chi, yn enwedig i lais Dic y Nicol"
Gwridodd Dic at fôn ei wallt, a dywedodd yn wyllt, "Nid Dic y Nicol ydi f'enw i, yr hen,—
"Rys Llwyd
Ar ei glwyd
Bron a marw
isio bwyd."
Dyma'r ffordd fwyaf llwyddiannus y medrai feddwl amdani i lasenwi'n ddifyfyr.
'Doeddwn i ddim yn meddwl dy ddigio di, Dic bach," ebe'r dyn yn dyner, "ond i fynd yn ôl at y pwnc. Pan oeddwn inne ar y ddaear 'roedd gen inne lais, ond rwan, fel y gwelwch chi, 'does gen i run. A 'does dim eisio i chi ddychrynu at achos y peth. Er na chlywch chi mohono i 'n siarad 'roeddech chi'n fy nghlywed i 'n iawn ar y ddaear, ac mi clywech fi eto rwan pe bawn ni a chithe yno. A wyddoch chi be sy'n gneud llais ?" Nid atebodd yr un ohonynt, ond awgrymodd Dic yn y man mai rhyw sŵn yn eich corn gwddf chwi oedd llais, a synasant ill dau yn ddirfawr pan ddywedodd y dyn nad oedd yn ddim byd o'r fath. "Dyma ydi llais," eb ef, "fuoch chi rywdro'n lluchio cerryg i lyn dŵr?"
"Do, ugeinie o weithie," ebe'r ddau ar unwaith.
Gedwch inni weld," eb ef, "mi ddychmygwn ni ein bod ni ar lan llyn dŵr llonydd ar y ddaear.'
"Llyn y Cae Isa!" ebe Dic, â'i wyneb yn gloywi. A dechreuodd llygaid Moses lenwi wedyn.
"Wyt ti'n cofio, Dic," eb ef, "i'r rhew dorri o danon ni pan oedden ni'n sglerio ar Lyn y Cae Isa?—ac mi faswn i wedi boddi onibai ti."
"Prun fase'n well gen ti, bod rwan yn hanner boddi yn Llyn y Cae Isa, neu bod yma'n ddiogel ar dir sych?" ebe Dic.
"Hanner boddi yn Llyn y Cae Isa," ebe Moses yn daglyd," a hynny hefyd ar ddiwrnod o rew."
Chwerthin a wnaeth Dic.
"Ia, Llyn y Cae Isa os mynnwch chi," ebe'r dyn. Dyma fo'n hollol lonydd. Lluchiwch garreg i'w ganol o. Dyma donne crynion yn rhedeg ar ôl ei gilydd yn gyflym tua'r lan o'r lle y disgynnodd y garreg, ac yn taro ar y traeth y naill ar ôl y llall—gwrandwch arnyn nhw,—' dlap, dlap, dlap.' Rydech chi wedi sylwi nad yden ni'n cymyd ein gwynt yn y lleuad yma, am y rheswm nad oes yma ddim gwynt i'w gymyd, fel y deydes i wrthach chi cyn i ni gychwyn o'r ddaear. Ac onibae am y fale lleuad mi fasech wedi marw ers meityn. Dene un gwahaniaeth mawr rhwng y lleuad a'r ddaear—mae digon o awyr, neu wynt, os mynnwch chi, i'w anadlu ar y ddaear, ond 'does dim tipyn o awyr yn y lleuad, neu 'dydw i ddim wedi cael hyd i ddim, beth bynnag, ac rydw i yma ers tro erbyn hyn. Mae ene un lle ag rydwi'n ame falle fod awyr ynddo, ond mae hi'n anodd mynd yno heb gwmni. Ac os mynnwch chi mi geisiwn fynd yno cyn bo hir. Ar y ddaear, fel y gwyddoch chi, mae awyr ymhobman,—o danoch chi, uwch eich penne, o'ch cwmpas chi, tumewn i chi,—'does dim lle heb awyr ar y ddaear. A'r awyr yma'n symud yn gyflym ydi'r gwynt, a'r awyr yma'n symud yn araf ydi'r awel." "Be ydi cysylltiad hynny â Llyn y Cae Isa?" ebe Dic.
"Wel," ebe'r dyn, "os tarwch chi'r awyr yma, rydech chi'n gneud tonne ynddo fo fel y tonne a wnaeth y cerryg ar y dŵr yn Llyn y Cae Isa. Ac y mae'r tonne yma'n teithio ar ôl ei gilydd am y cynta. Dydech chi ddim yn eu gweld nhw am na fedrwch chi weld gwynt. Mae nhw'n deyd na feder yr un creadur weld gwynt, ond mochyn, ac mai dene pam y bydd moch mor wyllt ar storm. Ac y mae Shonto'n deyd mai gweld pwff o wynt ddaru'r moch hynny yng ngwlad y Gadareniaid ers talwm pan redodd pob un ohonyn nhw dros y dibyn i'r môr yn hen fyd y ddaear."
"Be ŵyr Shonto am y stori honno?" ebe Dic, yn wên i gyd.
"'Roedd o yno ar y pryd, medde fo," ebe dyn y lleuad, "ac mi ŵyr teulu Shonto'n dda am foch, nhw sy'n ysgwyd y mês oddiar y coed derw iddyn nhw yn yr hydref, ac y mae'r rhai lleia a thlota o deulu Shonto'n gneud capie i'w gwisgo allan o'r cwpane mês. Ac 'roedd Shonto'n nabod y Mab Afradlon hefyd, a'i dad, medde fo, o achos mae moch yn dwad i mewn yn y stori honno yn rhywle, on 'does? A hen ŵr clên iawn oedd yr hen ŵr—tad y Mab Afradlon, medde Shonto. A hen siort iawn oedd y Mab Afradlon ei hun hefyd, medde fo, tase fo'n byhafio. Mi gaech unrhyw beth ganddo fo y leiciech chi ofyn amdano pan fydde fo yn ei ddiod.
Mi glywes stori moch y Gadareniaid a'r Mab Afradlon lawer gwaith gan Shonto. 'Roedd o 'n feistar ar eu deyd nhw.
"Ond fel y deydes i, fedrwch chi ddim gweld y tonne yma yn yr awyr, ond mae trefn arall i chi ddwad i wybod amdanyn nhw. Am donne Llyn y Cae Isa, 'roeddech chi'n eu gweld nhw, ac yn eu clywed, ond am donne awyr eu clywed nhw'n unig y byddwch chi. Tase chi'n cymyd chwip, a'i slasio hi'n sydyn, dene sŵn 'whiw' dros y lle. Y chwip ddaru neud tonne yn yr awyr wrth daro'r awyr. Fe red y tonne awyr yma, fel y rhai ar y llyn, ar ôl ei gilydd i bob cyfeiriad, ac y mae rhai ohonyn nhw yn taro ar eich clustie chi. Y tumewn i'ch clustie chi y mae peth bach a elwir yn ddrym' gan Shonto—
"'Rargien fawr," ebe Moses, "ydech chi n deyd fod drym yn ein clustie ni? Clywed y 'gloch bach' yn ei chlust mae mam o hyd, ac rydw inne'n ei chlywed hi weithie. Mae mam yn clywed y gloch bach bob tro y bydd rhwfun. yn marw. Dene'r gloch bach yn 'y nghlust i,' medde mam pan fynnoch chi, ac ryden ni'n sicir o glywed cyn bo hir fod rhwfun wedi marw."
"Y gloch bach?" ebe'r dyn, chlywes i rioed am honno. Rhaid imi ofyn i Shonto eto rhag ofn mod i 'n methu. Fo ddeydodd y stori yma wrtha i pan ofynnes i iddo fo pam yr oedd gen i lais ar y ddaear a dim ar y lleuad. Ond rydwi braidd yn siwr mai 'drym' ddeydodd o. Ond hwyrach na ŵyr ynte ddim byd am y gloch bach. 'Does neb byth yn marw yn y lleuad a gwlad y Tylwyth Teg."
"A hwyrach ei fod o 'n deyd clwydde," ebe Dic, yn wên o glust i glust."
"Shonto'n deyd clwydde! Machgen annwyl i, paid ag awgrymu peth felly," ebe'r dyn, "ond i fynd yn ôl at y stori,—Wrth i'r tonne awyr yma daro ar y drym sy'n eich clustie chi, mae o 'n crynu, fel y bydd y croen sy ar ddrym Band y Llan, neu'r lastig a roddwch chi weithie ar draws twll rîl, i ganu efo fo, yn crynu, wrth i chi daro'r drym neu chwythu drwy dwll y rîl. A dene ydi pob sŵn—tonne awyr yn taro ar y peth bach yma y tumewn i'ch clustie chi, a hwnnw'n crynu, a chario'r peth i'r ymennydd. Felly, yn eich clustie chi y mae'r sŵn, ac nid yn unman arall. Mi ddychrynes inne y tro cynta imi glywed fy llais ar y ddaear, ar ôl arfer cymint efo distawrwydd y lleuad. Pan fo dyn yn siarad, yr hyn sy'n digwydd ydi,—mae o 'n gyrru awyr trwy ryw linynne sydd yn ei gorn gwddw, a'r llinynne hynny yn ysgwyd ac yn creu gwahanol fathe o donne neu gryndode yn yr awyr, a'r tonne hynny'n taro ar ddrym eich clustie, a dene chi. Dyma i chi, rwan, pe lluchiech chi garreg fach i Lyn y Cae Isa, mi gewch un math o don, ond pe lluchiech garreg fawr, mi gaech fath arall,—y mae maint pob ton yn dibynnu ar faint y garreg. Felly efo sŵn. Yr oedd y gwahanol donne ar y llyn yn creu tonne yn yr awyr uwch eu penne, a'r tonne hynny'n wahanol fel hwythe, ac felly'n gneud sŵn gwahanol. Ac y mae gwahanol fathe o donne yn yr awyr hefyd yn ôl cymeriad y llinyn y gwthiwch chi wynt yn ei erbyn yn eich cym gyddfe. Felly yn y glust y mae'r sŵn ac nid yn y corn gwddw. Ac mi ddaw symudiad llinynne yng nghorn gwddw un dyn yn sŵn yng nghlust dyn arall, trwy fod y llinynne wrth ysgwyd yn creu tonne yn yr awyr, a hwythe'n taro ar glust y dyn arall."
"Felly," ebe Dic, "lle na bydd awyr ni bydd sŵn?"
"I'r dim," ebe'r dyn, "nid ar eich cyrn gyddfe chi y mae'r bai am na fedrwch neud sŵn yma, ond y lleuad sydd heb ddim awyr. Dene pam na chlywn ni mo'r cerryg mawr yma'n disgyn ar y lleuad. Pe na bae awyr yn eich byd chi—y ddaear—ni chlywech byth nac aderyn bach yn canu, na bwrlwm dŵr, na siffrwd y coed, na tharan, na gwenynen yn murmur hedeg, na llais eich mam, na bref oen bach, ac ni chlywe Moses byth mo'r eneth honno'n canu 'O! tyred yn ol.'"
VII
NEIDIO
WEDI stori dyn y lleuad paham na fedrent leisio siarad bu llonyddwch a myfyrdod hir. Mewn ogof fawr, dan gysgod un o'r mynyddoedd yr oeddynt, fel y gwyddoch, rhag ofn y cawodydd cerryg, ogof heb na ffrwd ddwfr, na llyffant, na malwen, nac ystlum, na hyd yn oed ddeilen rhedynen o'i mewn. Edrychasant tua genau'r ogof, a gwelsant ei bod yn bur oleu. Cododd Dic ar ei draed, ac aeth ymlaen i edrych, a gwelodd fod yr haul wedi codi.
Beth pe tasen ni'n mynd i weld tipyn o gwmpas, Rhys Llwyd?" eb ef. "Mae cymint i'w weld fel y daw hi'n nos cyn i ni hanner gweld yr hyn sydd i'w weld."
"Mi fydd dipyn eto cyn nosi," ebe'r dyn, 'wyddost ti be ydi hyd diwrnod yn y lleuad yma ? —pythefnos."
'Rargien fawr," ebe Moses, "dydi plant ddim yn mynd i'r ysgol, tybed, am y rhan fwya o bythefnos, heb symud odd 'no; a wedyn i'r Seiat,—wel, dene Seiat am awr mewn diwrnod o beder awr ar hugien,—mi fase hynny'n gymint â pheder awr ar ddeg allan o ddiwrnod o bythefnos. Ydi'r Seiat yn para yma am beder awr ar ddeg?"
"Be wyt ti'n feddwl wrth ddeyd bod Seiat yn para,'" ebe'r dyn, "'roeddwn i'n meddwl mai pethe byw oeddech chi'n ddeyd oedden nhw. Mi welodd Shonto un wedi marw o eisio bwyd, medde fo. Ddaru mi ddim dallt arnoch chi mai pethe bach byw yn pigo oedden nhw? A be ydi ysgol ac adnod, rwan yr yden ni'n sôn am y peth? Mae dywediad Shonto ei fod o wedi gweld adnod yn rhedeg ar ôl rhyw fachgen wedi dyrysu llawer arna i hefyd, yng ngoleuni rhyw bethe a glywes i gennoch chi."
Shonto sy'n deyd clwydde," ebe Dic.
Shonto! Shonto, 'mrawd i! Shonto'r mwya gwybodus a doeth yn y byd yn deyd clwydde! " ebe'r dyn yn wyn gan wylltineb, a thynnu'i wallt fel un wedi mynd o'i go. " Rhosa di, 'machgen i, i mi dy dynnu di'n greie," eb ef gan gyrraedd am Ddic, ond yr oedd Dic yn rhy gyflym iddo. I ffwrdd ag ef, â'r dyn ar ei ôl. Rhedasant ar ôl ei gilydd dros fynyddoedd a dyffrynnoedd,— Dic yn mynd i ben mynydd fel aderyn, a'r dyn ar ei ôl, yna'n neidio o dop y mynydd uchaf i'r gwaelod. A phan oedd y dyn yn yr awyr yn disgyn mewn naid o ben y mynydd ar ei ôl, neidiodd Dic i fyny i'w gyfarfod fel y gwelsoch geiliog ar fuarth fferm yn neidio i gyfarfod barcud oedd ar ddisgyn ar gyw, a gafaelodd yn ei draed, a throdd ef fel gwynt gerfydd ei draed o amgylch ei ben nes iddo benfeddwi'r hen ddyn yn llwyr. Gosododd ef wedyn ar wastad ei gefn ar lawr, ac eistedd ar ei frest, a galw ar Foses. Ond cofiasai Moses gyngor ei fam,—
"Moses bach, 'machgen i, paid byth â gneud dim os na fyddi di'n siwr o'r canlyniade," ac arhosodd yn ei unfan yn edrych yn frawychus arnynt.
Yr oedd y dyn wedi ei orchfygu'n llwyr, ac wedi ei ddyrysu'n lân wrth i Ddic ei droi felly fel chwrligwgan o amgylch ei ben.
Rwan," ebe Dic wrtho, chewch chi ddim codi ar ôl dangos yr ysbryd ene heb ddeyd y geirie yma ar f'ôl i. Ydech chi am addo?"
Nid oedd gan y dyn ddim i'w wneuthur ond addo, canys yr oedd Dic yn eistedd ar ei frest a'i ddwy law ar ei wddf.
"Rwan," ebe Dic, "dyma'r geirie,—' Mae Shonto 'mrawd,'
"Mae Shonto 'mrawd," ebe'r dyn.
"Yn deyd clwydde,'"ebe Dic.
Fe'i teimlai'r dyn ei hun yn tagu wrth geisio dywedyd y rhai hyn, ond fe deimlai hefyd fysedd Dic yn ei dagu'n fwy. O'r diwedd dywedodd,— "Yn deyd clwydde."
"A'r geirie yma hefyd," ebe Dic,—
"Rhys Llwyd."
"Rhys Llwyd," ebe'r dyn.
"Ar ei glwyd," ebe Dic.
"Ar ei glwyd," ebe'r dyn.
Bron a marw," ebe Dic.
Meddyliodd y dyn dipyn cyn dywedyd y rhai hyn. Ond ystyriodd yn y man mai mwy marw yr âi bob eiliad dan fysedd Dic,—
"Bron a marw," eb ef yn wannaidd.
"Eisio bwyd," ebe Dic.
"Eisio bwyd," ebe'r dyn.
"Ar ôl hynene," ebe Dic, "dim o'r ciamocs ene eto. Gwnewch addo."
Addawodd y dyn yn ostyngedig.
"Wel," ebe Dic, "dene ni'n ffrindie. Mi esbonia i rwan, fel un sy wedi diodde llawer oddiwrthyn nhw, bedi Seiat ac adnod. O achos 'does neb wedi gorfod gadel marbls a chware pegi a tharw parc mor amal â fi, i fynd i'r Seiat; na neb wedi gorfod bod yn dysgu adnod yn amlach na fi pan ddylwn i fod yn chware â Moses yma."
Ac esboniodd i ddyn y lleuad yn fanwl beth oedd Seiat ac adnod, ac wedyn beth oedd ysgol.
"Wel," ebe'r dyn yn addfwyn iawn, "mae'n rhaid bod Shonto wedi methu, a 'does ene 'run Seiat, nac adnod, nac ysgol yma, a dydwi'n dallt fawr o ddim eto amdanyn nhw. Ond mae diwrnod yma'n siwr i chi, fel y cewch chi weld, yn bedwar diwrnod ar ddeg o ddyddie'r ddaear. Dydi'r haul ddim yn mynd i lawr yma am bythefnos. Fasech chi'n leicio gwybod pam?"
Basen," ebe'r ddau fachgen.
"A glywsoch chi rywdro fod y ddaear yn troi ?" ebe'r dyn.
"Do," ebe hwythau.
"Pa mor amal y mae hi'n rhoi un tro," eb ef.
"Mewn diwrnod o beder awr ar hugain," ebe Dic. Gwelsai'r wybodaeth hon yn "Almanac y Miloedd" ar ddamwain, wrth chwilio am straeon. "Ac rydech chi'n cael un dydd ac un nos mewn peder awr ar hugain?" ebe'r dyn.
"Yden," ebe'r bechgyn.
"Pa mor amal y mae'r lleuad yn rhoi un tro?" eb ef.
Ni wyddai'r un ohonynt.
"Pa mor amal y mae'r lleuad yn llawn?" eb ef.
"Bob mis," ebe'r bechgyn.
Mae'r lleuad yn rhoi un tro, felly, bob mis," ebe'r dyn. "Mis ydi diwrnod y lleuad, felly —diwrnod o un dydd ac un nos. Mae'n ddigon hawdd i'r dyla bellach weld bod dydd y lleuad yn bedwar diwrnod ar ddeg o ddyddie'r ddaear, a'r nos yr un fath."
Edrychodd Dic a Moses ar ei gilydd mewn syndod mud.
"Dowch rwan i geg yr ogo," ebe'r dyn. Prin y gallent ddychmygu eu bod ar y lleuad yr arferasant gymaint â hi,—edrychai'r mynyddoedd mor uchel a'r dyffrynnoedd mor isel yng ngoleuni disglair, digwmwl, yr haul. Dyna fflach, ac un o'r cerryg aruthrol o'r gwagle uwchben yn disgyn fel saeth, nes dychrynu o'r ddau fachgen bron yn ddiymadferth.
"Peidiwch â dychryn," ebe'r dyn, "mae hi'n bur saff yma. A garech chi ddysgu sut i osgoi rhag y cerryg yma? Chlywch chi monyn nhw'n dwad, ond mi welwch y fflach. Mae nhw'n fflachio yn yr haul. Pan welwch chi fflach, neidiwch fel mellten i'r cyfeiriad arall. Ac mi ddowch yn y man i hoffi'r peth. Mae o 'n chware ardderchog."
A dyna hwy allan. Safasant i ddisgwyl. Dyna fflach fel mellten, a phob un yn neidio oddiwrtho fel mellten arall. A dyna garreg aruthrol yn disgyn o'r awyr. Ac yr oedd naid pob un o'r bechgyn dros ddeuddeg llath, a hynny'n ddidrafferth. Gwelsant mai chwarae ardderchog oedd osgoi'r cerryg mawr. Ac am y neidio yma, yr oedd yn gampus.
"Trueni," ebe Moses yn y man, wedi bywiogi trwyddo, "na fase Wil T'wnt i'r Afon, ddaru'n curo ni ar neidio yn nhê plant yr Ysgol Sul, yn ein gweld ni'n neidio rwan. Bedi dwylath wrth dros ddeuddeg llath?"
Dringasant i ben mynydd uchel. Yr oedd ei ben yn bigfain. Mynyddoedd uchel pigfain oedd yn y lleuad, gan mwyaf. Ar ben y mynydd hwn yr oedd twll mawr fel gwely hen lyn dwfr wedi sychu.
"Dyma le da i guddio wrth chware llwynog," ebe Dic.
Perswadiodd y dyn Foses i neidio i lawr. Nid oedd angen perswadio ar Ddic ar ôl y ras a fu rhwng y dyn ac yntau. Neidiodd Dic i lawr yn gyntaf, a Moses ar ei ôl, a daethant i lawr ill dau bron fel dwy bluen, o'u cymharu â'r fel y deuent i lawr pe'n neidio oddiar un o fynyddoedd y ddaear. A disgynasant ar y gwaelod yn o esmwyth ag ystyried bod y naid mor uchel.
"Lle braf ydi'r lleuad yma, wedi'r cwbwl," ebe Moses, "'does gen i ddim cymint o hiraeth am yr eneth oedd yn canu 'O! tyred yn ôl yng nghanol y neidio yma."
Daeth dyn y lleuad atynt. Dydi'r neidio mawr yma'n rhyfedd, deydwch? ebe Dic wrtho," pam yr yden ni'n gymint gwell neidiwrs yma nag ar y ddaear?"
"Gedwch imi weld be sy gennoch chi yn y'ch pocedi," ebe'r dyn. A dyna dynnu pethau allan, —y pethau rhyfeddaf mewn bod. Yng nghanol hen hoelion, a darnau llinyn, a matsis, a marbls, a thamaid o sialc glas, a botymau, a'u bath, o boced Dic, yr oedd dur tynnu pinnau wedi bachu mewn styrmant.
"Ga i weld hwn am funud?" ebe'r dyn, gan afael yn y dur, a dechreu chwarae ag ef. Gosodai bin yn ymyl y dur, a neidiai'r bin ato. Gosodai hi dipyn pellach, ond ni neidiai o'r pellter hwnnw.
"Mae gen i ddur cryfach na hwnene," ebe Moses, a thynnodd un mwy allan. Tynnai hwnnw binnau ato'i hun o gryn bellter.
"Wel," ebe'r dyn, "fel hyn yr oedd Shonto——."
Edrychodd dan ei guwch ar Ddic, a thawodd am ennyd. Yr hyn yr oedd ar fin ei ddywedyd ydoedd, fel hyn yr oedd Shonto'n dangos imi."
Wel," eb ef, ceisiwch dynnu'r bin yrwan oddiar yr un gwanna, ac wedyn oddiar yr un cryfa. Oddiar prun y mae hi galeta i'w thynnu?'
"Oddiar y cryfa," ebe'r ddau ynghyd.
"Wel, rwan," eb ef, "beth pe tase'r ddwy bin yma'n fyw, a'r bin yma ar y dur gwanna yn medru neidio i fyny oddiarno fo ac yn ôl, a'r bin ar y cryfa yn medru neidio yr un fath, prun fedre neidio ucha?"
"Y bin oddiar yr un gwanna," ebe'r bechgyn wedyn.
"Pam?" ebe'r dyn.
"Y mae ene lai o dynnu arni hi'n ôl," ebe hwy, "am hynny y mae ei gallu hi i neidio yn cael mwy o chware teg.'
"I'r dim," eb ef. Rhyw binne o bethe ydech chithe ar wyneb y ddaear, neu wyneb y lleuad, ond y'ch bod chi'n fyw. Mae ene allu i dynnu'n ôl, fel y dur yma, yn y ddaear a'r lleuad, dene'r pam y disgynnwch chi'n ôl ati, wedi i chi neidio, yn lle codi am byth i'r awyr. A dene pam y dowch chi'n ôl i'r lleuad hefyd, yn lle mynd i fyny fel mwg,—y lleuad sy'n tynnu ati. Ond mae'r lleuad yn llawer llai na'r ddaear, ac am hynny y mae ei gallu i dynnu'n ôl yn llawer llai.
A phan neidiwch chi i fyny, 'does ganddi ddim cymint o allu i dynnu'n ôl. Felly mi fedrwch neidio yma ymhellach ac uwch. Mi ddychrynes inne y tro cynta y dois i 'n ôl i'r ddaear, wrth weld na fedrwn i neidio hanner cystal yno ag yma, nes i Shont—, nes imi arfer." Ac edrychodd wedyn yn swil ar Ddic.
Edrychodd y ddau fachgen ar ei gilydd. "Felly," ebe Dic, "nid ni sy'n well neidiwrs, ond y lleuad sy'n wannach i'n dal ni'n ôl na'r ddaear?"
"I'r dim," ebe'r dyn.
"Ac mi fase Wil T'wnt i'r Afon yn ein curo ni yma hefyd?" ebe Moses.
"Base," ebe'r dyn.
"Hidia befo," ebe Dic wrth Foses, gad i ni fynd i neidio eto, a chware osgoi cerryg mawr. 'Does gan Wil ddim siawns i neud hynny." Ac ymaith â hwy allan.
A throdd ef fel gwynt gerfydd ei draed. [Tud. 57.
VIII
TAN GWYLLT
DIWRNOD cyhyd â phythefnos, heb na glaw na gwynt, yr haul yn grasboeth uwchben, a chwithau heb ddim i'w wneuthur, ond chwarae, chwarae, o hyd,—oni fuasai'n ddifyr? At hynny, beth pe buasech wedi derbyn y gallu i neidio deuddeg llath a mwy ar dro,—medru neidio fel aderyn allan o gyrraedd pawb? A mwy na hynny, beth pedfai'ch tad neu'ch mam yn gweiddi ar eich ôl i fynd ar neges pan fyddech ar gychwyn i chwarae? neu gloch yr ysgol yn canu, a chwithau ym mhen pren crabas neu gnau, eto, chwi'n medru dywedyd na chlywsoch ddim oddiwrth yr un ohonynt yr galw, a dywedyd y gwir yn y fargen? Dyna'r byd yr oedd Dic a Moses ynddo yn y lleuad.
Nid oedd dim i'w wneuthur yno ond chwarae o'r bore gwyn tan nos, a'u diwrnod at hynny yn bythefnos o hyd. A mwy na hynny, nid oedd raid iddynt golli amser i fwyta. Cadwai'r afalau lleuad hwy'n fyw. A deuent ar draws rhyw chwarae newydd o hyd. Yr unig anfantais oedd ei bod yn llethol o boeth a rhaid oedd mynd i ryw ogof neu'i gilydd bob hyn a hyn i oeri. O bob chwarae, osgoi'r cerryg a lawiai ar y lleuad oedd y chwarae mwyaf diddorol a chynhyrfus. Cyn gynted ag y byddent wedi osgoi un, disgynnai'r llall bron wrth eu traed. Yr oedd mor ddiddorol ag osgoi peli eira, ac fel y gwyddoch, chwarae medrus iawn yw hwnnw. Wedi rhedeg a neidio, a neidio a rhedeg, am na wyddai neb pa hyd, a llochesu tipyn mewn ogofâu bob yn ail i oeri, heb ddim arwydd o nos yn agos, ciliasant i ogof wedi glân flino. Beth a welai'r dyn, yn y man, ond Dic yn ysgrifennu ar ddarn o garreg â charreg arall, a Moses yn torri rhyw ffigyrau ar damaid arall o garreg. Gwneuthur syms oedd Moses, ac nid oedd ond ychydig er pan ddiolchent eu bod wedi cael gwared o syms ac ysgrifennu am byth. Onid yw'n rhyfedd bod yn gas gennych bob amser yr hyn y bo'n rhaid i chwi ei wneuthur? ac y deuwch i'w hoffi'n iawn cyn gynted ag y bo'r gair "rhaid" wedi ei symud, a chwithau'n cael gwneuthur fel y mynnoch? Troes Moses at Ddic, a dywedodd,—
"Dic, a wyddost ti am yr adnod honno yn y Salme?" ac adroddodd adnod i Ddic, ac adroddodd Dic adnod yn ôl. A dyna lle bu hi am dipyn yn gystadleuaeth rhyngddynt am y goreu ddywedyd adnodau. Yr oedd dyn y lleuad yn eu gwylio ers meityn, heb ddywedyd gair. Toc, gofynnodd iddynt,—
"Yn enw pob rheswm, be ydech chi'n ei neud?"
Deyd adnode," ebe Dic yn swil.
Wel, wel," ebe'r dyn, "bechgyn rhyfedd ydech chi, eisio dwad o'r ddaear i gael gwared ag adnode a phethe felly, ac er mwyn cael chware heb stopio, a dyma chi'n mynd atyn nhw ohonoch eich hunen."
Ni ddywedodd yr un o'r ddau ddim, ond edrych trwy enau'r ogof yn hiraethus. Yna aethant allan ac edrychasant i fyny i'r gwagle, gan obeithio bod y ddaear yn y golwg yn rhywle yn y cyfeiriad yr edrychent iddo. Ac yr oedd golwg ar eu hwynebau fel pe na byddai byd heb ddim ond chwarae ynddo yn fêl i gyd.
Wrth eu gweld fel hyn, gofynnodd dyn y lleuad,—
Os ydech chi fel hyn, beth pe bae ni'n cadw ysgol, ac i chithe fy nghywiro i pan fyddai'n methu, gan na weles i rioed ysgol."
Yr oeddynt wrth eu bodd. "Ond y gwaetha ydi," ebe Dic wrth Foses, "nad oes yma run ffon i roi slap iddo fo pan fydd o 'n methu."
"Be ydi 'slap'? "ebe dyn y lleuad.
'Slap' ydi'r peth pwysica mewn ysgol,"’ ebe Dic, mae o 'n y'ch cadw chi'n gynnes yn y gaea, ac yn y'ch oeri chi yn yr ha."
"Thâl hi ddim, felly, heb i chi roi slap imi?" ebe'r dyn.
"Fydd hi ddim yn ysgol iawn felly," ebe Dic. "Oes dim posib rhoi slap imi heb ffon?" ebe'r dyn, "mi faswn i 'n leicio'n fawr cael un er mwyn deyd 'mod i wedi bod mewn ysgol iawn."
Oes, mae posib," ebe Dic, "ond fydd o ddim yn slap iawn heb ffon a thipyn o rawn ceffyl."
"Rhawn ceffyl?" ebe'r dyn, "I be mae hwnnw da?"
"I dorri'r ffon,—dene'r sport sy mewn slap," ebe Dic.
"Efo rhawn ceffyl y mae pobol yn torri ffyn ar y ddaear?" ebe'r dyn.
Nage, dydech chi ddim yn dallt," ebe Dic. "Mae'r bachgen sy'n cael slap yn dal ei law, â blewyn o rawn ceffyl ar draws ei law o. Wedyn y mae'r scŵl yn taro'i law o efo ffon, a dene'r ffon yn torri."
"Ydio ddim yn brifo?" ebe'r dyn.
Mae o 'n dibynnu," ebe Dic. "Dydi'r ffon ddim yn torri bob amser, ac y mae o 'n brifo tipyn yr adeg honno. Ond os tyrr y ffon mi fydd hynny'n gymint o hwyl nes i chi beidio teimlo'r boen. Dene'r chware."
"O!" ebe'r dyn, "rydwi'n dallt rwan,— chware ydi'r slap yma. Os tyrr y ffon, dene'r bachgen wedi ennill, ond os na thyrr hi, y scŵl fydd wedi ennill,—ond be ydi 'scŵl'?"
"Dene chi i'r dim," ebe Dic. "A'r scŵl ydi'r dyn sy'n cymyd gofal o'r ffon,—dene'i waith o."
"Ond y gwaetha ydi," ebe Moses, "mai'r scŵl sy'n ennill bron wastad."
"Wel, gan nad oes yma 'run ffon, 'does dim i'w neud ond bod heb y chware hwnnw," ebe'r dyn braidd yn siomedig, "mi ddechreuwn ni."
Yr oeddynt wrth eu bodd yn yr ysgol. Holodd y dyn hwy am y ddaear,—am eu cartrefi, a'r ysgol, a'r capel, a'r ffeiriau, a phopeth. A hwythau'n ateb, a gweld y gwaith yn felysach na hyd yn oed chwarae. "Rwan," ebe'r dyn, "holwch chi fi."
A dyna ddechreu. Y cwestiwn cyntaf oedd,— o ble yn y gwagle y deuai'r cerryg mawrion o hyd. Wel," ebe'r dyn, "mi ddeyda i chi gore y medra i, yn ôl fel rydwi'n cofio stori Shont—, fel rydwi'n cofio'r stori," ac edrychodd yn swil ar Ddic.
"Dowch i eiste'n y fan yma i enau'r ogo," eb ef, "a welwch chi'r seren ddisglair iawn acw?" "Gwelwn," ebe hwythau, a dyna'r tro cyntaf iddynt sylwi bod y sêr i'w gweld liw dydd o'r lleuad.
"Nid seren ydi hi," ebe'r dyn, "ond planed. Dydi seren a phlaned ddim yr un peth. Tân fel yr haul ydi seren, ond byd fel y lleuad, neu'r ddaear, ydi planed."
"Ond mae nacw'n goleuo," ebe'r ddau ynghyd. "Nag ydi," ebe'r dyn, "dydi'r blaned acw ddim yn goleuo, na'r ddaear, na'r lleuad yma. Fuoch chi rywdro'n chware â darn o ddrych yn yr haul? Yr ydech chi'n dal y drych yng ngolwg yr haul, a gwelwch fod gole'n disgleirio o'r drych ar le nad oes haul arno. Nid y drych sy'n goleuo, ond yr haul, a'r drych yn taflu neu adlewychu ei oleuni. Felly'r ddaear, a'r lleuad, a'r planede i gyd. Yng ngoleu'r haul y mae nhw, ac yn taflu'r gole ar ei gilydd. Dene y mae'r ddaear yn ei neud pan fydd hi fel lleuad lawn, a dene y mae'r lleuad yn ei neud pan fydd hi'n llawn,' fel y bydd pobol y ddaear yn galw'r peth."
"'Ond," ebe Dic, "dydi gwyneb y ddaear ddim yn wydyr."
" 'Nag ydi," ebe'r dyn, ond mae arni hi ddigonedd o ddŵr, a gweithia hwnnw fel gwydyr. Ac yn wir, y mae tipyn o allu ym mhopeth— yn y glaswellt, a'r cerryg, a dail y coed—i daflu goleuni'r haul ar bethe."
"Rydwi'n gweld rwan," ebe Moses, oedd wedi bod yn ddistaw'n hir, "ond dyden ni ar wyneb y ddaear ddim yn gweld y ddaear yn goleuo fel yr yden ni'n gweld y lleuad, ac fel ryden ni'n gweld y ddaear wedi i ni ddwad i'r lleuad."
"Nag ydech," ebe'r dyn, "ond meddyliwch chi am daflu bwceded o ddŵr ar lawr dros bob man, prun ai pan fydde fo felly, neu wedi ei roi yn y bwced y disgwyliwch chi gael yr olwg ddyfna arno fo?"
"Yn y bwced," ebe Dic, "mi fydde'n ddyfnach o lawer."
"Da iawn," ebe'r dyn, mae'r gole yr un fath. I bobol y ddaear mae'r gole wedi ei wasgaru dros hanner y ddaear i gyd, ac nid oes neb yno'n gweld ond tipyn bach, bach, o'r hanner hwnnw. I ni oddiyma dydi'r ddaear ddim yn rhyw lawer iawn mwy na phêl droed go fawr; gryn dipyn mwy, wrth gwrs, nag ydi'r lleuad o'r ddaear; ac yr yden ni'n gweld hanner y ddaear i gyd, a hwnnw dipyn mwy na phêl, a holl oleuni hanner y ddaear wedi ei grynhoi i'n golwg ni i gylch mor fach â hynny. Felly, 'does ryfedd ei bod hi mor ddisglair."
Ond," ebe Moses, "dydi hynny ddim yn sbonio'r cerryg mawr yma."
"At hynny rydwi'n dwad," ebe'r dyn.
"Mae'r ddaear a'r planede acw a'r lleuad yn fydoedd. Try'r lleuad o gwmpas y ddaear, a'r lleuad a'r ddaear o gwmpas yr haul, fel y gwyddoch chi. A thry'r planede i gyd, fel peli mawr, o gwmpas yr haul. Ond be pe tase un ohonyn nhw'n taro'n erbyn y llall, a'r ddau'n bostio?"
"Yn bostio?" ebe'r bechgyn yn wyllt.
"Ia, bostio," ebe'r dyn. "We! di, Dic, mae'n rhaid imi gael sôn am Shonto, dywed di a fynnot ti, o achos fo ddeydodd y pethe yma wrtha i."
"'Croeso i chi, ond i chi adael ei glwydde fo'n llonydd," ebe Dic. "Mi fedra i ei ddal o 'n eu deyd nhw, ond fedra i mo'ch diodde chi'n eu hail adrodd nhw. 'Does ene ddim blas ar gelwydd wrth ei ail adrodd o."
"Dene fo, felly," ebe'r dyn. "Fel hyn y gosododd Shonto'r peth,—deydwch chi fod ene garreg fawr yn rhywle, a rhywun yn gneud twll yni hi i'w chanol, a rhoi powdwr a thân ar hwnnw, be ddigwydde?'
"Bostio wnae hi, a chwalu i bobman," ebe'r bechgyn.
"Ia, bostio, neu ffrwydro," ebe'r dyn. "Wel, yrwan, beth pe tase rhyw un o'r bydoedd mawr, fel y ddaear, neu'r lleuad, yn bostio ar ei daith o gwmpas yr haul? Oni fase ene chwalfa?"
"Dy! base," ebe'r bechgyn efo'i gilydd, â'u llygaid bron allan o'u pernau gan ddiddordeb, "ond fase byd mawr ddim bostio."
Base," ebe'r dyn, ac mae ene rai wedi gneud. Rywdro, mae'n rhaid fod ene fyd mawr wedi bostio wrth droi o gwmpas yr haul, neu ddau fyd daro yn erbyn ei gilydd, fel dwy bêl yn yr awyr, ac wedi chwalu'n dipie i bob cyfeiriad, yn gawodydd a chawodydd o gerryg, a phopeth arall sy'n gneud byd. Ac yrwan, mae'r darne'n gwibio wrth y miliyne o gwmpas yr haul fel y mae'r ddaear yn troi o gwmpas yr haul, ac fel yr oedden nhwthe pan oedden nhw'n fyd efo'i gilydd cyn bostio. At hynny, mae'n wir fod ene hefyd lawer o ryw fân fydoedd—rhyw fabanod o fydoedd—na buon nhw rioed yn ddim mwy, yn troi o gwmpas yr haul. A chan eu bod nhw wedi chwalu i bob cyfeiriad daw'r ddaear a'r lleuad ar eu traws nhw o hyd. Wrth i'r ddaear a'r lleuad fynd o gwmpas yr haul, y mae nhw'n dwad ar draws y cawodydd cerryg yma, a dene ydi'r cerryg sy'n disgyn o hyd ar y lleuad—darne o ryw hen fyd ddaru fostio rywdro ar ei daith, neu ryw friwsion o fydoedd na fuon nhw rioed yn ddim mwy."
Yr oedd y bechgyn wedi glân syfrdanu. "Dy!" ebe Dic, pan gafodd o ei wynt ato, "tase'r peth yn bosib, oni fase fo'n chware da i fynd o gwmpas i fostio bydoedd?"
"A gneud tân gwyllt ohonyn nhw," ebe'r dyn. Ac nid ti ydi'r cynta, machgen i, i feddwl mai chware braf fase'r gwaith o fostio bydoedd."
"A gneud tân gwyllt ohonyn nhw," ebe'r dyn. "Ac nid ti ydi'r cynta, machgen i, i feddwl mai chware braf fase'r gwaith o fostio bydoedd."
"Gneud tân gwyllt? Sut hynny?" ebe Dic yn eiddgar.
"Fel hyn," ebe'r dyn, "mae'r ddaear hefyd yn dwad ar draws y cawodydd cerryg yma."
"Na," ebe Moses, "dyden nhw byth yn disgyn ar y ddaear."
"Yden," ebe'r dyn, "o hyd, o hyd."
"Weles i rioed 'run yn disgyn ar y ddaear," ebe Moses.
"Cyn mynd ymhellach," ebe Dic, "ydi'r pethe yma i gyd yn wir, neu ai rhai o glwydde Shonto yden nhw?"
"Mae nhw'n wir bob gair, 'rydwi'n siwr," ebe'r dyn yn hanner wylofus, "'roedd yn ddigon hawdd gweld hynny ar wyneb Shonto pan oedd o 'n eu deyd nhw. Ond pe tase tipyn bach o gelwydd rywle yn y canol i gydio pethe'n hwylus yn ei gilydd, be sy gennot ti yn erbyn y peth?"
"Dim byd," ebe Dic, "ond 'dydwi ddim yn leicio celwydd wedi'i ail dwymo. Mae o'n iawn yn ei le, os chi'ch hun sy wedi ei neud o. Ond mae o 'n colli'i flas wrth i rywun arall dreio'i law efo fo. Er mwyn i chi 'nallt i, rydwi'n arfer â meddwl am gelwydd fel cig gwydd,—mae o 'a iawn ar dro, ond i chi ofalu peidio â'i ail dwymo fo; ond y mae deyd y gwir fel cig moch, dydio ddim mor flasus, ond y mae o 'n glynu fel gele wrthach chi drwy'r flwyddyn. Rwan ewch ymlaen efo'ch stori."
"Dene fo, felly," ebe'r dyn wedi codi ei galon. "A welsoch chi seren yn hedeg rywdro?"
"Do," ebe'r ddau.
"Be ydi seren yn hedeg?" eb ef.
"Wel, seren yn hedeg, debyg iawn," ebe Dic.
"'Nage," ebe'r dyn. Dyma sut y mae hi. Mae ene awyr o gwmpas y ddaear, fel y gwyddoch chi, ond dim o gwmpas y lleuad. Fuoch chi'n chwipio awyr yn gyflym rywdro?"
"Do," ebe'r ddau ynghyd.
Wedi i chi chwipio am dipyn, a theimlo'r chwip, mae hi'n boeth, on'd dydi hi?"
"Ydi," ebe hwythau.
Arwydd ydi hynny," eb ef, "fod awyr, wrth i chi ei daro'n sydyn, yn poethi pethe. Tarwch chi'r awyr efo rhywbeth yn gyflym, mae'r peth hwnnw'n cynhesu; tarwch yr awyr â fo'n gyflym iawn, â'n boeth; ond pe tarech chi'r awyr â fo'n gyflym iawn, iawn, iawn, iawn, â a'r dân. Yrwan at y cerryg mawr. Mae nhw'n taro'r ddaear yn gystal â'r lleuad. Ond y peth cynta y deuan' nhw ar ei draws o wrth geisio cyrraedd y ddaear ydi'r awyr o'i chwmpas hi. Mae hwnnw fel clôg am y ddaear. Ac mor gyflym y mae nhw'n taro'r awyr nes mynd ar dân, a llosgi'n lludw. A dene be ydi'r hyn a elwir yn sêr yn hedeg, y cerryg yma sy'n crwydro'r gwagle, ac yn dwad ar draws llwybyr y ddaear, a'r ddaear yn rhuthro i'r gawod gerryg. Ond nid y ddaear ei hun a darewir ganddyn nhw, ond yr awyr. Ac mor gyflym y gwnan nhw hynny nes mynd ar dân ymhell cyn cyrraedd y ddaear ei hun. A'r cwbwl a welwch chi o'r ddaear ydi'r cerryg hyn yn llosgi'n brydferth yn yr awyr, fel seren gynffon, yn hollol ddiberyg. Wedyn, mae nhw'n disgyn i'r ddaear, yn ara, yn llwch mân. Mae'r pethe fase'n lladd pobol ar y ddaear onibae am yr awyr, yn troi'n ddifyrrwch iddyn' nhw am fod ganddi hi awyr.
Am y lleuad yma, 'does dim awyr arni hi, ac felly nid oes dim i rwystro'r cerryg i'w chyrraedd. A'i chyrraedd a wnân nhw, ac mi welsoch drosoch eich hunen pa mor amal y disgynnan nhw arni hi."
Nid oedd gan y bechgyn ddim ychwaneg i'w ddywedyd. Cododd y ddau, aethant allan, a syllasant yn hir ar rimyn o oleu yn y gwagle fel lleuad newydd,—y ddaear newydd ydoedd,— ond ei fod yn fwy o gryn lawer, wrth gwrs, nag yr ymddengys y lleuad i ni. Ceisiodd y ddau ochneidio, ond ni allent ochneidio am na allent anadlu. Ac aethant yn ôl i'r ogof â'u pennau i lawr. Gofid oedd eu gofid hwy yn awr, na allai ddyfod i'r golwg mewn ochenaid, gofid a godwyd wrth i'r dyn sôn am hyfrydwch yr hen ddaear.
Ac eto yr oedd gan Ddic weledigaeth a gyflymai guriad ei galon nes iddi fod bron â'i dagu—gweled noson o rialtwch, ac yntau yng nghanol tyrfa o blant, yn eu diddori drwy fedru bostio bydoedd a throi'r darnau'n dân gwyllt.
"Mi fase hynny'n chware newydd spon, Rhys Llwyd", eb ef wrth ddyn y lleuad.
"Nid mor newydd, medde Shonto," ebe'r dyn yn brudd, "mae amryw wedi bod yn treio'u llaw efo fo."
"Pwy yden nhw?" ebe Dic.
Brenhinoedd, gan mwyaf," ebe'r dyn. A dechreuodd Dic edmygu brenhinoedd yn fawr iawn.
IX
GWELD Y WLAD
"Dowcн am dro i weld y wlad cyn iddi nosi," ebe dyn y lleuad wrth Ddic a Moses, wedi iddynt fod yn pensyfrdanu'n hir yn yr ogof uwchben y rhyfeddodau yr oeddynt yn eu canol,—y syniad o ffrwydro bydoedd a throi'r darnau'n dân gwyllt. Ac i ffwrdd â hwy.
Syllent o'u hamgylch ar y mynyddoedd pigfain a ymestynnai i bob cyfeiriad, a chylch o fynyddoedd yn eu hymyl â phantle fel cawg mawr rhyngddynt. A phobman yn glir,—yn annisgrifiol glir.
Pam y mae hi bob amser mor glir?" ebe Dic.
"'Does yma ddim awyr na dŵr, fel y dylech chi wybod erbyn hyn," ebe'r dyn. Felly 'does yma ddim llwch yn nofio o'ch cwmpas chi, am mai yn yr awyr y nofia llwch. A chan nad oes dŵr nid oes niwl, o achos o ddŵr y mae niwl yn dwad, y diferion dŵr a'r llwch yn cymysgu â'i gilydd."
Wedi cerdded ychydig dechreuodd camau'r bechgyn arafu, er ei bod yn ysgafnach o lawer i gerdded yno nag ar wyneb y ddaear. Ac mor flinedig oeddynt cyn bo hir fel y collasant bob blas ar yr hen chwarae osgoi cerryg mawr a lawiai o hyd oddiuchod.
"Diar mi, mae hi'n boeth yma hefyd," ebe Dic yn y man.
"Poeth fase hi ar y ddaear hefyd," ebe'r dyn, "pe dase'r haul yn tywynnu â'i holl egni arni hi am bythefnos yn ddi—stop, heb gwmwl na pheth i'w rwystro. Ac y mae hi'n boethach yma nag y basech chi byth yn meddwl. Onibae am y fale lleuad hynny, mi fasech wedi ffrio neu rostio neu doddi ers talwm. Mae hi'n ddigon poeth yma i rostio cig a berwi dŵr, a phoethach o lawer na hynny. Ond raid i chi ddim ofni,—mae'r fale hynny'n eich cadw rhag pob peryg,—ar hyn o bryd, beth bynnag."
Ymhle y mae'r fale lleuad yn tyfu?" ebe Dic, "o achos weles i ddim byd tebyg i bren er pan ydwi yma."
"Dyden nhw ddim yn tyfu," ebe'r dyn, "fi sy'n eu gneud nhw."
"Efo be?" ebe Dic.
Fi bia'r gyfrinach honno," eb ef, "ond be feddyliech chi o'r mynyddoedd hyn?
Ar y chwith iddynt yr oedd rhes aruthrol o fynyddoedd, fel gwal fawr, wastad, yn rhedeg cyn belled ag y gallent weled, er ei bod yn ddigon clir iddynt weled i unrhyw bellter bron. Ar draws y rhes fynyddoedd, o dro i dro, yr oedd agennau mawr, tywyll, i'r ochr arall. Ac mor dywyll a dwfn oedd yr agennau hyn oni chodent fraw ar y dyn cryfaf. Mynyddoedd pigfain; cylchoedd o fynyddoedd o amgylch dyfnder mawr; a'r rhes hir, lefn, hon o fynyddoedd ar y chwith iddynt, a welent ar bob llaw. Ac yr oedd yr agennau tywyll ar draws y rhes fynyddoedd yn ddychrynllyd.
"A gawn ni fynd i'r agen yma?" ebe'r dyn, dan sefyll o flaen y fwyaf a'r ddyfnaf ohonynt. Daeth arswyd ar y bechgyn, ac fe deimlai hyd yn oed Dic ei ddannedd yn crynu gan oerfel wrth edrych arni, er bod y gwres crasboeth yn dal cyn gryfed ag erioed.
"Ni fum i erioed yn yr un ohonyn nhw," ebe'r dyn wedyn, "dydio ddim yn lle rywfodd i neb fynd iddyn nhw ar ei ben ei hun. Ond mae gen i syniad y down ni o hyd i rywbeth na welson ni mono fo o'r blaen yn y lleuad os awn ni i mewn."
Aeth yn ei flaen i mewn i'r agen. A rhwng arswyd a pheidio dilynwyd ef gan Ddic a Moses.
"Peidiwch ag ofni," ebe'r dyn, mae gen i syniad go dda i ble y mae'r agen yn cyfeirio." Gafaelodd yn un llaw i Ddic, a dywedodd wrth Foses am afael yn llaw arall Dic, am y byddai'n anghyffredin o dywyll yn yr agen cyn bo hir.
Ac i mewn â hwy. Yr oedd hi'n dywyll fel y fagddu, ac yn ddistaw fel y bedd. Ni welent wefusau ei gilydd yn symud bellach. Aent ymlaen ac ymlaen, mewn tywyllwch dudew a thawelwch llethol. Ni chlywent gymaint â siffrwd troed er eu bod yn troedio cerryg caled. Gallent weld uwch eu pennau, trwy'r agen, y sêr yn disgleirio'n danbaid, yn llawer iawn tanbeidiach nag ar y ddaear, a chongl y ddaear yn disgleirio yn yr uchelder, fel lleuad newydd. Ond yr oeddynt yn rhy ddwfn i'r goleuni fod o unrhyw fantais iddynt. Ni ellwch ddychmygu am fod mewn cyflwr tebyg iddynt ond mewn breuddwyd,— yn mynd i lawr, i lawr, o hyd, heb weld rhithyn o ddim, a heb glywed y sibrwd lleiaf. Ac os digwyddent 'ollwng dwylo ei gilydd gallent fod ar goll am byth. Mewn lle tebyg i hyn ar y ddaear yr hwyl ydyw bloeddio, a chlywed ateb eich llais drosodd a throsodd drachefn. Ond nid oedd wiw iddynt weiddi yma, canys ni chlywid na siw na miw hyd yn oed oddiwrth y floedd fwyaf. Ac nid oedd ganddynt anadl i weiddi.
Teimlai'r ddau awydd wylo weithiau, ond ni allent ddywedyd eu hawydd i'w gilydd. Ac nid yw wylo'n cyrraedd ei amcan onibae bod rhywun yno i'ch gweled neu i'ch clywed. Dyna, o leiaf, oedd y fantais o wylo i Foses. Ni feddyliai ef fod wylo'n werth dim ond i ennyn cydymdeimlad. Am hynny gallodd ef ei orchfygu ei hun yn bur dda yma.
Yr oedd yn wahanol ynglŷn â Dic. Ni wylai ef am y byd, os byddai rhywun yn edrych. Fe'i teimlai ei hun yn ormod o ddyn i wneuthur peth mor fabïaidd â cholli dagrau. Bu'n anodd peidio lawer tro er pan oedd yn y lleuad, ond buasai'n well ganddo farw na gadael i ddyn y lleuad a Moses ei weld yn wylo. Eithr ni welai
Ac i mewn â hwy. [Tud. 79
ac ni chlywai neb ddim oddiwrtho yma. Yr oedd teimladau hiraethus am y ddaear yn ymgasglu yn ei fynwes ers tro, ond ei fod yn ceisio eu mygu. Fodd bynnag, yn y tywyllwch a'r distawrwydd ofnadwy hwn mentrodd feddwl yn rhydd am destunau ei hiraeth,—am ddringo coed, a rhedeg ôl cwnhingod, a physgota, a pheltio â chacimwci, a dringo tŵr yr Eglwys i ganu'r gloch ar gam amser, a chant a mil o bethau eraill,—a thorrodd allan i wylo o eigion ei galon. A dyna fel y teithient,—y dyn ar y blaen yn arwain Dic gerfydd ei law, a Dic yn arwain Moses, yntau, gerfydd ei law, y dyn yn teimlo braidd yn ofnus, Moses yn brudd ac mewn arswyd, a Dic yn wylo megis na wylodd erioed yn debyg o'r blaen, a dim un ohonynt yn gwybod dim am deimladau'r llall. Yr oedd yn ddistaw fel y bedd, drwy'r cwbl, a chyn dywylled â'r fagddu, a hwythau'n mynd ymlaen, ac ymlaen, ac yn ddyfnach a dyfnach o hyd, a'r dyn yn ofni bob munud y byddai'n ddiwedd y byd arnynt, a Dic yn wylo fel un heb obaith. Ac ni allai beidio, er bod ei ddagrau'n rhewi ei lygaid yn dynn, ac yntau'n methu â gollwng dwylo'r hen ddyn a Moses i'w symud ymaith. Yn hollol sydyn dyna sŵn, y sŵn cyntaf a glywsant er pan oeddynt ar y lleuad. Sŵn ochenaid riddfanllyd ydoedd, yn atseinio dros bob man, ac yn tarddu o ddyfnder calon rhywun oedd â'i galon ar hollti'n ddwy. Ochenaid Dic ydoedd, a dychrynodd gymaint ato'i hun fel y peidiodd â'i wylo cyn i'r un o'r ddau arall wybod mai oddiwrtho ef y daeth.
Safodd y tri, dyn y lleuad a Moses wedi fferru gan fraw.
"Ochenaid rhywbeth byw oedd nene,' ebe dyn y lleuad, "a wyddwn i ddim bod ene ddim byw ar y lleuad ond fi." Gwrandawsant drachefn, ond ni chlywsant ochenaid wedyn. Ac ni ŵyr neb hyd heddyw ddim amdani ond Dic ei hun. Eithr ychwanega at ddiddordeb stori Moses, wrth adrodd hanes ei daith i'r lleuad, pan sonia am y creadur dychrynllyd oedd yn ochneidio yn yr agen, na wyddai hyd yn oed dyn y lleuad ei hun ddim amdano.
Wedi tewi o'r ochenaid, dyna'r sŵn mwyaf dychrynllyd yn disgyn ar eu clyw wedyn. Ac er mai sŵn dychrynllyd ydoedd, yr oeddynt bron neidio gan lawenydd, oherwydd tybiai eu bod wedi dyfod o hyd i awyr, ac y gallent anadlu a chlywed ei gilydd bellach. A medrai Dic ollwng dwylo'r hen ddyn a Moses i daflu ei ddagrau ymaith.
"Be sy'n bod, ac ymhle yr yden ni?" ebe Moses. Yr oedd Dic yn rhy brysur yn ceisio ei lywodraethu ei hun i ddywedyd dim.
"Arhoswch dipyn bach i chi gymryd y'ch gwynt ar ôl dwad o hyd i beth," ebe dyn y lleuad. Gwelent ei gilydd gynt, ond ni allent glywed ei gilydd, clywent ei gilydd yn awr, ond ni allent weled ei gilydd.
"Dene 'roeddwn i'n lled-ddisgwyl ei gael," ebe'r dyn, toc, a hwythau'n ei glywed i'r dim. "Deydwch chi, rwan, fod dŵr y ddaear yn sychu. Ymhle y disgwyliech chi weld y tipyn dŵr ola cyn iddo sychu oddiar wyneb y ddaear yn llwyr?'
Wedi meddwl tipyn atebodd Dic,—" Yn y pylle isa yng ngwaelod y môr."
"Da iawn," ebe'r dyn, "ac mi fum i 'n meddwi y galle'r un peth fod yn wir am awyr, pe base awyr y ddaear yn darfod, y caech chi'r peth dwaetha ohono fo yn yr un fan. Mae pob tipyn o ddŵr oddiar wyneb y lleuad yma wedi darfod, ond y mae tipyn o wlybaniaeth ar y cerryg yma, teimlwch nhw."
Teimlodd y bechgyn hwy, ac yn wir yr oeddynt fel pe baech yn rhwbio cefn llyffant—yn llaith ac oer.
Clywent y dyn yn eu crafu â'i ewinedd. "Crafwch chithe nhw â'ch gwinedd," eb ef wrthynt, synnwn i ddim nad rhyw fath o fwswg ydi hwn, ac mai dyma'r unig beth byw ar y lleuad ond ni."
Wrth grafu teimlent fod rhywbeth yn dyfod oddiwrth y cerryg, ac yn glynu dan eu hewinedd.
"Peidiwch â'i rwbio oddiar eich dwylo," ebe'r dyn, "nes i ni fynd i le agored."
"Ac y mae'n debyg fod yr awyr fel y dŵr yn hyn o beth," eb ef wrthynt ymhen tipyn,— pan na bydd ond ychydig iawn ohono, casgl fel dŵr i'r lleoedd isa, fel y deydodd Dic. Mae'n rhaid ein bod ni rwan yng ngwaelod yr agen isa yn y lleuad, os nad oes ene rywbeth tebyg yng ngwaelod yr agenne erill, er na welais i rioed yr un oedd yn edrych mor ddychrynllyd â hon. Dyma waelod y cwm isa, os mynnwch chi, yn y lleuad. A chyn belled ag y gwn i, 'does dim awyr yn unman yn y lleuad ond yn y fan yma."
Balch iawn oedd y bechgyn o glywed ei gilydd yn siarad. A dechreuodd y ddau ganu tipyn. Mor falch oeddynt nes anghofio'r sŵn arall a ddeuai atynt,—sŵn ofnadwy, fel rhyfel mawr yn y pellter, a phawb yn saethu gymaint fyth. Deuai'r clecian, clecian, cyson, gwyllt, hwn o bob cyfeiriad, ac yr oedd yn llethol ar adegau.
"Peidiwch â dychryn," ebe'r dyn. "Mi ellwch fod yn dawel nad oes dim rhyfel yn y lleuad. Yr ydech chi mewn byd di-ryfel o'r diwedd. Mae eisio dau i ffraeo, a 'does dim ond un yn byw yma. Falle fod ene fydoedd erill nad oes dim ond un yn byw arnyn nhw. Dene'r unig fydoedd y gellwch chi fod yn siwr nad oes dim rhyfel ynddyn' nhw. Rydwi'n credu mod i 'n gwybod beth ydi'r sŵn. Mi weles rywbeth tebyg pan oeddwn i ar y ddaear am dro yn edrych am Shonto. Ryw nosweth mi ddaru o a finne lithro i lawr y simdde i dŷ'r hen Feti Llwyd y Bryn i roi arian daear ar yr aelwyd. Mae'r Tylwyth Teg yn gneud hynny i bobol dda. 'Roedd carreg fechan yn y tân, wedi mynd yno efo'r glo. Fedrwch chi ddeyd be ddigwyddodd iddi hi?"
Clecian dros y lle," ebe Dic.
"I'r dim," ebe'r dyn, dene ydi'r sŵn yma dybygswn i,—y cerryg yn clecian ar wyneb y lleuad yng ngwres yr haul. Y mae nhw felly o hyd, ond chlywch chi monyn nhw am nad oes dim awyr yn unman ond yn y fan yma, er bod eu cryndod nhw ar wyneb y lleuad o hyd. Cluda'r tir y cryndod hyd yma, neu'r sŵn os mynnwch chi, ac wedi iddo gyrraedd yma, a'i drosglwyddo i'r awyr, cluda'r awyr ef i'ch clustie chithe. Dene pam y clywn ni nhw yma. Ond gedwch i ni fynd ymlaen."
Ac oddiyno yr aethant gan siarad gymaint fyth. O dipyn i beth teneuai eu lleisiau, ac yna peidiasant, yn llwyr. Daethant wedyn i oleuni'r haul, ac i'r tawelwch. Edrychasant ar eu dwylo, ac yr oedd math ar gen dros eu cledrau, ac yn enwedig dan eu hewinedd.
"'Dyma'r unig fywyd sydd yn y lleuad, y mae'n debyg," ebe'r dyn,—" y cen ene, sy'n tyfu ar y cerryg yn nyfnder mwyaf yr agen fawr. Dene'r unig le ag awyr ynddo ar wyneb y lleuad, cyn belled ag y gwn i; a'r unig le ag unrhyw arwydd o wlybaniaeth ynddo. A garech chi fynd am dro yno'n ôl? "
Eithr ni charai'r bechgyn fynd yn ôl. Yr oedd y tywyllwch a'r sŵn mor ddychrynllyd nes teim!o ohonynt mai gormod o dasg fuasai ei wynebu eilwaith. Ac yr oedd hyd yn oed Dic ei hun yn teimlo hynny. A myfyriai'r dyn beth ydoedd y griddfan mawr oedd yn yr agen, canys ni allai beidio â chredu na allai neb ond bod tebyg i ddyn riddfan felly. A beth pedfai un arall, heblaw ef, wedi dyfod i fyw i'r lleuad? A'r un hwnnw, y Llotyn Mawr!
"Mi awn ni i chwilio am yr ogo y daethon ni ohoni hi, cyn iddi dwllu," ebe'r dyn. "Mi welwch fod yr haul yn nesu at fynd i lawr, ac yr yden ni wedi cael diwrnod da,—agos i bythefnos o hyd, ac y mae hi'n oeri'n gyflym."
A thua'r ogof yr aethant. Safodd Dic a Moses a dyn y lleuad am ychydig yng ngenau'r ogof i wylio'r haul yn machludo. Gwelent ef yn cilio, cilio, o'r golwg dros y gorwel yn araf, nes diflannu o'r rhimyn olaf, ac yn hollol sydyn daeth yn nos.
"Ymhle y mae'r min nos?" ebe Dic, "dydi hi ddim yn mynd yn dywyll yn hollol sydyn ar y ddaear?"
Ond nid atebodd neb ef, canys ni welai neb ei wefusau'n symud; ac am hynny ni wyddai neb ei fod yn siarad. Nid oedd goleuni ond goleuni'r sêr, a'r rhimyn daear newydd. Cofiwch, o hyd, mai'r ddaear oedd eu lleuad hwy.X
NOS A GWAWR
WRTH fynd i mewn i dywyllwch yr ogof, gafaelodd Moses, mewn dychryn, yn nyn y lleuad, a theimlai Dic yn ymbalfalu am wneuthur yr un peth, a'r dyn yn eu harwain yn dyner i gonglau yn yr ogof, a'u gosod i led—orwedd yno. Eisteddodd yntau rhyngddynt, gan roddi ei fraich am wddf pob un. Eu teimlad oedd yr unig foddion, bellach, iddynt wybod am ei gilydd, canys nid oedd obaith iddynt weled gwefusau ei gilydd yn symud nes i oleuni'r ddaear gynhyddu. Yr oedd Moses, wrth gofio'i brofiad yn yr agen fawr, bron llewygu gan ofn, a hanner disgwyliai glywed yr ochenaid riddfanllyd drosodd eto, ac yn ei ofn crynai fel deilen. A braidd yn grynedig oedd Dic hefyd. Ymwthiodd y ddau yn nes i'r dyn heb wybod iddynt eu hunain. Yn sydyn teimlai'r ddau iasau oerion yn eu cerdded. Rhoddodd Dic ei law ar ei esgid, ac yr oedd ei esgid fel darn o rew. Teimlodd ei wyneb, ac yr oedd hwnnw yr un fath. O dipyn i beth daeth syrthni trostynt, gwahanol iawn i'r teimlad cyffredin o gwsg. Aeth y syrthni'n drymach, drymach. Fe'u teimlent eu hunain yn rhyw grebachu i'w gilydd, ac yna collasant bob gwybod am bopeth. Aethant mor ddideimlad â cherryg, ac felly y buont am na wyddent pa hyd.
Rywbryd teimlasant rywun yn eu hysgwyd, a neid iasant ar eu traed, ond methent â symud mwy, canys yr oeddynt cyn stiffied â choed. Wedi iddynt ddeffro'n iawn gafaelodd y dyn yn eu dwylo, ac arweiniodd hwy i enau'r ogof. O'r tuallan tywynnai'r sêr a'r ddaear,—y ddaear erbyn hyn yn hanner llawn, fel y lleuad ar ei hanner olaf.
Edrychodd Dic a Moses o'u hamgylch yn hir, yn syn, a distaw. Trodd Dic yn sydyn at ddyn
lleuad a gofynnodd,—
"Deydwch i mi, oedd gennoch chi rywbeth i'w neud ynglŷn ag ysgrifennu'r Beibil?"
"Diar annwyl, nag oedd,—be ydi Beibil, deydwch?" ebe'r dyn.
"Wyddoch chi ddim am y llyfr mae nhw'n i alw'n Feibil? "" ebe Dic,—" sut y gwyddech chi am y moch yng ngwlad y Gadareniaid 'te, ac am y Mab Afradlon a'i dad, o achos straeon o'r Beibil ydi'r rheiny?"
"Shonto ddeydodd y straeon hynny wrtha i, fel y deydes i wrthat ti o'r blaen," ebe'r dyn, "ac 'roedd o 'n deyd nad oedd dim straeon mor boblogiedd ymysg dynion â nhw."
"O!" ebe Dic, "meddwl 'roeddwn i wrth edrych ar y 'ddaear newydd' pan oedd hi gynne fel y mae lleuad newydd ar y ddaear. A chlywes i rioed amdani, pan oeddwn i gartre, ond mewn adnod,—sôn yr oedd yr adnod am 'nef newydd a a daear newydd '—ac mae'n anodd meddwl fod neb ond chi a Shonto erioed wedi meddwl am y peth. Ydech chi'n credu bod meddwl am ddaear newydd yn bosib i neb ond dyn o'r lleuad, sy wedi'i gweld hi drosto'i hun?"
"Naddo'n wir," ebe'r dyn yn frawychus, "fu gen i ddim rhan erioed mewn ysgrifennu na Beibil na pheth. Rydwi'n hollol ddiniwed oddiwrth hynny, beth bynnag."
"Peidiwch â chymyd atoch," ebe Dic, "gallswn i feddwl na ddylase neb fod yn rhyw ddigalon iawn am fod ganddo fo ran yn ysgrifennu'r Beibil, er na feder yr un ohonyn nhw obeithio bod yn boblogiedd iawn efo plant. O achos y peth casa ynglŷn â'r gwaith ydi fod y bobol a'i sgrifennodd o wedi rhoi llawer o drafferth heb ei eisio i blant drwy ei sgrifennu o 'n adnode, yn lle hebddyn nhw, fel rhyw lyfr arall."
Nid oedd gan y dyn ddim i'w ddywedyd bellach. A phan oedd ef yn myfyrio fel hyn troes Dic at Foses a dywedodd,—
"Gad inni fynd allan am dro."
Aethant allan, gan adael y dyn yn yr ogof, ac oedd y ddaear hanner llawn yn goleuo'r wlad. Cododd Dic ddwy garreg a phoerodd ar un i rwbio'r llall ynddi i'w llyfnhau, ond cyn gynted ag y cyffyrddodd y ddwy yn ei gilydd glynasant yn dynn fel na allai eu tynnu oddiwrth ei gilydd, er tynnu â'i holl nerth. Y poer oedd wedi eu rhewi. Gafaelodd mewn carreg arall, poerodd arni, a rhoddodd hi ar un o'r lleill, a dyna'r tair wedi glynu'n hollol dynn yn ei gilydd.
"Moses," eb ef, edrych ar y rhein. Fedre ni ddim gneud cadwen ohonyn nhw, dywed?
A dyna ddechreu poeri'n wyllt a glynu'r cerryg yn un rhes yn ei gilydd. Wedi bod wrthi'n hir, edrychodd Dic ar bigyn mynydd uchel yn ymyl, a phigyn mynydd uchel arall gyferbyn ag ef. Daeth syniad newydd i'w ben,—
"Moses," eb ef, oes gen ti ddigon o boeri i ddal am ddeuddydd neu dri?"
Be sy'n bod?" ebe Moses.
Mi gei weld yn y man," eb ef.
A dyna lle buont yn cydio cerryg wrth ei gilydd am agos i wythnos o'n dyddie ni, nes bod ganddynt gadwyn gannoedd o lathenni o hyd. Ac mor dynn y glynai'r poer y cerryg ynghyd, fel na allai neb dorri'r gadwyn. Wedi ei gorffen ceisiasant ei chodi, a synasant weld ei bod mor ysgafn,—mor ysgafn â chadwyn o beli eira heb eu gwasgu'n dynn. Aethant i ymofyn help y dyn. Yna cariasant un pen iddi am frig y mynydd pigfain oedd yn eu hymyl. Ac wedi rhoi poer ar garreg flaenaf y gadwyn cydiasant hi wrth garreg arall iddi i amgylchu'r brig yn dynn â hi. Cariasant y pen arall a rhwymasant ef yr un fath am frig y mynydd pigfain arall. A dyna siglen ardderchog, yr oreu a welwyd gan neb erioed,—nid o bren i bren fel ar y ddaear, ond o ben mynydd i ben mynydd, a'i sigl yn rhyw hanner milltir o hyd. Ac ni bu erioed y fath siglo. Eisteddent arni bob yn ail,—un yn siglo a dau'n gwthio. Yna rhedent ar hyd-ddi, ac wrth lithro neidient iddi a gafaelent ynddi, a siglo mawr wedyn gerfydd eu dwylo. Bwrient draed dros ben gan afael ynddi â'u dwy law, a'u pennau a'u traed rhwng eu breichiau ymhob rhyw fodd. Ni bu'r fath siglo erioed â'r siglo hwnnw.
"Feddylies i rioed," ebe Dic, "y base gennon ni ddigon o boeri i neud un mor hir. Choelia'r plant byth, wyddost, os awn ni'n ôl, ein bod ni wedi medru gneud siglen efo poeri, ond dene rywbeth newydd i'w ddysgu iddyn nhw."
"'Does dim peryg iddyn nhw goelio," ebe Moses, "ond feddylies inne ddim chwaith y base ni'n medru ei gneud hi heb ofyn am fenthyg tipyn o boeri gan yr hen ddyn. Ond, ran hynny, 'roedd fy nannedd i'n rhedeg o hyd wrth feddwl am y siglo fydde ene ar ôl ei gneud hi. Ond pam yr oedd hi mor ysgafn dywed,—fel cadwen o beli eira?
Wyt ti ddim yn cofio'r dyn yn 'sbonio'r peth inni?" ebe Dic, ond dydwi ddim yn rhyw gofio'n dda beth oedd o."
Ar hyn dyma'r dyn heibio, ac yn dechreu siglo ar y siglen fel hogyn bach, yn ôl ac ymlaen, hanner milltir ar dro. Daeth oddiarni yn y man, ac eisteddodd i orffwys. Ac am ryw reswm edrychai'n brudd a siomedig.
"Sut y mae'r siglen mor ysgafn a hithe'n gerryg, Rhys Llwyd?" ebe Dic wrtho.
"Mi esbonies iti o'r blaen," ebe'r dyn yn swta.
'Dydwi ddim yn cofio'n dda," ebe Dic.
Wel," ebe'r dyn yn brudd, y mae trymder baich yn dibynnu ar y byd yr wyt ti ynddo fo pan fyddi di'n ei gario, wyddost. Dene dy dad yn dy gario di dros afon, a gŵr y drws nesa yn dy gario di, i brun ohonyn nhw y byddi di sgafna?"
"I nhad," ebe Dic.
'Felly!" ebe'r dyn.
Felly be?" ebe Dic.
"Felly," ebe'r dyn. Cododd ac aeth yn ei flaen â'i ben i lawr, a gadael Dic a Moses yn edrych ar ei gilydd mewn dyryswch.
Wedi aros tipyn yno aethant ar ei ôl, a gwelsant ef yng ngenau'r ogof yn edrych yn hiraethus ar y ddaear. Pan ddaethant ato siriolodd dipyn, ond nid oedd rhyw lawer i'w gael ganddo.
O dipyn i beth dechreuodd goleuni newydd ymddangos ar y gorwel, ac fel y cryfhâi, ymddangosai'r lleuad fel ped edrychech arni trwy wydr glas.
"Be ydi hwn?" ebe'r ddau fachgen ynghyd. "Y wawr," ebe'r dyn,—" yr haul sy'n codi." "Codi rwan?—'does dim gwerth er pan aeth o i lawr. Dechre gafael yn fy nghysgu yr oeddwn i pan ges i fy ysgwyd," ebe Dic.
"Mae pythefnos er pan aeth o i lawr," ebe'r dyn.
"Be, ddaru ni ddim cysgu am agos i bythefnos?" ebe'r ddau.
Do, a naddo hefyd, heblaw eich bod chi wedi treulio'r darn ola ohoni hi efo'r siglen," ebe'r dyn. "Nid cysgu fasech chi'n ei alw fo, ond fferru. Onibae am y fale lleuad mi fasech wedi hen farw. Mi glywsoch am y draenog, a'r twrch daear, a rhyw greaduried felly, sy'n gymint o ffrindie â'r Tylwyth Teg, fel y mae nhw'n cysgu trwy'r gaea—nid cysgu fel yr edrychir ar gysgu'n gyffredin y mae nhw chwaith. Eu gwaed nhw sy'n oeri, nes ei fod o bron wedi rhewi, ac y mae eu calonne nhw'n curo'n wan iawn, rhyw chwarter byw y mae nhw. Dene sut y mae nhw'n byw o gwbwl heb fyta am gymint o amser,—dydi eu cyrff nhw ddim yn treulio ond ychydig iawn arnynt eu hunen. Mae'u bywyd nhw wedi ei droi i lawr, megis, fel lamp. Mae Shonto'n gwybod y cwbwl amdanyn nhw. Corff sy'n treulio llawer arno'i hun sy'n byta llawer, wyddoch. Os ydech chi am fyw'n hir rhaid i chi fyw'n aradeg. Felly y bu hi arnoch chithe yn yr ogo. Yr oedd eich cyrff chi'n hollol oer, fel lwmp o rew, neu oerach. Rydech chi wedi rhewi am dros wythnos, ac nid cysgu."
Yr oedd y ddau wedi eu glân syfrdanu, ac mor fud â phe na bai eu tafodau wedi dechreu meirioli eto. Aeth dyn y lleuad yn ei flaen i siarad,—
"Mae hi mor oer ar y lleuad yma yn y nos ag ydi hi o boeth yn y dydd," eb ef, "Pe base dyn heb fyta fale lleuad yn dwad yma, mi rewai yn ddelw ymhen ychydig eiliade; ac yn lle eich bod chi'n gorfod cerfio carreg fedd iddo fo, mi fase'i gorff o 'n gneud carreg fedd iawn iddo fo'i hun, pa ddelw berffeithiach o ddyn na fo'i hun wedi rhewi? Y drwg ydi na fase'i goffa fo ddim. yn hir yma. Unweth y code'r haul mi feiriole'n llyn. Cofiwch, 'mhlant i, am fyw fel y meder eich coffa chi ddal gwres yr haul, wedi i'r nos gilio, ac i'r byd eich gweld chi yn y'ch lliw y'ch hunen. Pe gafaelai rhywun heb fyta fale lleuad mewn carreg yma yn y nos, mi fase'n serio ei law o fel tase hi'n lwmp o dân, gan mor oer ydi hi. Mae peth oer iawn, a pheth poeth iawn, yn gneud yr un peth i chi, wyddoch. Mi feder hyd yn oed chi, sy wedi byta fale lleuad, deimlo tipyn o'r dylanwad yma, os carech chi deimlo'r cerryg o'ch cwmpas, er nad yden nhw ddim mor oer ag oedden nhw ychydig funude'n ôl."
Plygodd Moses, a chyffyrddodd â charreg, ond neidiodd i fyny fel pedfai wedi ei saethu, gan drawo'i fys yn ei enau, a rhoddi'r peth tebycaf i sgrech ag a allai neb mewn byd di—sŵn. Yr oedd Dic ar wneuthur yr un peth pan ddigwyddodd hyn i Foses, a bu hynny'n ddigon iddo.
"Mae'r garreg yma'n boeth fel tân," ebe Moses pan ddaeth ato'i hun, "welwch fel mae hi wedi llosgi'n llaw i." Ac ar law Moses yr oedd llosg ffyrnig.
"Ddyle hi ddim gneud fel ene iti, chwaith," ebe'r dyn, mae'n rhaid fod dylanwad y fale lleuad yn dechre darfod arnat ti. Nid poeth fel tân ydi hi, ond oer fel rhew,—oerach o lawer iawn na rhew. Mi fase pethe yr un fath ar y ddaear pe tase hi bythefnos heb haul."
Ar hyn sylwodd y ddau fod y goleu glas yn cynhyddu, a gofynasant beth ydoedd mewn gwirionedd, canys nid oedd yn ddim tebyg i wawr. Gwelsai'r ddau'r wawr yn torri unwaith, wedi iddynt godi'n fore i fynd i gasglu bwyd y barcud.
"Dowch efo mi," ebe'r dyn, "i'w weld o 'n well." A chydag ef yr aethant i ben mynydd. Yr oedd popeth,—pob carreg, pob tipyn o lwch a thywod, pob bryn a mynydd, a gwastadedd a dyffryn, yn hollol las, ac yr oedd yr olygfa mor ddieithr fel nad oedd ganddynt ddim llai nag ofn.
"Y wawr ydi hi'n siwr i chi," ebe'r dyn, "nid coch, a phob lliw, ydi'r wawr yma, ond glas." 'Rargien, mae o 'n ole annaturiol," ebe Dic, â rhyw ias yn mynd drosto.
"Pam y mae'r wawr yn las yma, deydwch?" ebe Moses wrth y dyn, gan edrych yn ddyryslyd.
"Dydw i ddim yn glir iawn ar y peth fy hun," ebe'r dyn, "ond mi fu Shonto'n ceisio 'sbonio pethe imi pan weles i wawr y ddaear, a sylwi bod hi'n goch."
Edrychodd y dyn i fyny, a daliodd ei olwg yn hir a hiraethus ar y ddaear, oedd fel lleuad fawr ar fachlud. Aeth yn ddistawrwydd trwm. Toc, gwelent rywbeth du yn dyfod o'r gwagle o gyfeiriad y ddaear, fel mellten, ac yn dyfod yn union tuagatynt. Disgynnodd ar y lleuad, bron yn eu hymyl, ac i fyny'n ôl fel pêl, i lawr wedyn, ac i fyny wedyn. Pan oedd ar ddisgyn drachefn,—
"Pêl droed ydi o," ebe Dic, ac ar sgruth tuagato, a chic iddo nes disgyn ohono wrth ymyl Moses. Bywiogodd Moses trwyddo, a chic yn ôl tuagat Ddic, a Dic yn ôl wedyn tuagato yntau.
"Pêl droed o'r diwedd, diolch am hynny," ebe Dic, a chic i'r bêl i fyny bron o'r golwg. Wrth iddi ddyfod i lawr daliwyd hi ar flaen troed Moses, ac i fyny â hi drachefn. A chicio'n ôl a blaen, ac i fyny ac i lawr, y buont am hydoedd. Ni sylwent ar ddyn y lleuad yn rhedeg yn ôl a blaen o'r naill i'r llall, ac ar ôl y bêl o hyd, fel pe am ei hachub rhagddynt. Eithr dyna a wnai. Neidiai a chwyfiai ei freichiau, a rhedai oddiamgylch fel pe gwelech ddyn yn y pellter mawr yn ceisio rhoddi arwydd bod ei dŷ ar dân, ond yn rhy bell i neb ei glywed. Eithr cyn iddo gyrraedd y bechgyn bob tro, dyna gic i'r bêl, a hwythau'n cael hwyl fawr eu hoes, gan mor uchel a phell y cicient hi. O'r diwedd, wrth iddi ddyfod ar ffrwst oddiwrth Foses at Ddic, dyna ef yn ei dal ar flaen ei droed, a chic iddi mor bell nes ei bod wedi sefyll yn ei hunfan ymhell cyn iddynt fedru ei chyrraedd. Wrth fynd ati gwelent y bel yn gwingo fel creadur byw mewn poen, a llaw yn codi oddiwrthi. A dyna'r ddau yn wylltach nag erioed tuagati. A beth ydoedd, o bawb ar wyneb y ddaear, a'r lleuad, ond Shonto'r Coed, wedi dyfod am dro o'r ddaear ar belydryn o oleuni.
Dyna ochenaid fawr riddfanllyd—a ffrwydriad. [Tud. 103.
A'r croeso a gafodd oedd ei wneuthur yn bêl droed. Disgwyliai'r dyn amdano ers tro, dyna'r paham yr edrychasai'n hiraethus a phrudd tua'r ddaear. Ac yr oedd wedi ei adnabod pan ddisgynnodd, dyna'r paham y rhedai'n wyllt yn ôl a blaen ar eu holau.
Yr oedd Shonto'n gleisiau i gyd, a buasai wedi marw onibai nad oes neb yn marw ymysg y Tylwyth Teg. Wedi i'r bechgyn ddangos digon o ofid, ac i Shonto ddyfod ato'i hun, dyna dynnu rhoddion iddynt o'i bocedi,—cnau daear, afalau surion, dail melys, a chig y brain.
"Shonto," ebe'r dyn, a fedri di 'sbonio'r wawr las yma i'r bechgyn?
"Wel," ebe Shonto, cyn belled ag yr ydw i 'n dallt, fel hyn y mae hi. Fuoch chi'n edrych ar oleuni'r haul trwy'r gwlith, a gweld chwech neu saith o liwie?"
"Do," ebe'r ddau, "mi welson hynny, nid drwy'r gwlith, ond drwy ein dagre pan oedden nhw wedi rhewi, ar y ffordd yma."
"Dene fo, felly," ebe Shonto. "Mae'r lliwie ene i gyd wedi eu plethu i neud gole'r haul, a chanlyniad y plethu ydi gneud gole gwyn. Rydwi'n gwybod, o achos mai'r Tylwyth Teg sy'n eu plethu nhw. Mae ene rai digon medrus yn ein mysg ni i neud hynny heb i'r pelydre blethu am eu coese nhw A darne o belydre goleuni o wahanol liwie wedi eu torri o'u blaene nhw, a'u plethu, ydi 'nghoron i fel brenin."
Ysgydwodd Dic Foses, a winciodd arno,—
"Wyt ti'n cofio stori'r adnod honno'n rhedeg ar ôl y bachgen," eb ef. 'Wyddost ti be?—mae o'n glwydde i gyd, ond mae o 'n ddifyr iawn hefyd."
Aeth Shonto yn ei flaen heb sylwi,—
"Wel, pan gyfyd yr haul," eb ef, "mae pob un o'r lliwie yma'n teithio am y cynta i'r ddaear, a'r lleuad, a rhai ohonyn nhw'n medru teithio'n gyflymach na'i gilydd, ond nid y rhai cyflyma ydi'r rhai cryfa i wthio trwy anawstere. Y cyflyma ydi'r lliw glas, a phan dyrr y wawr ar y lleuad, hwnnw sy'n cyrraedd yma gynta. A dene pam y mae'r wawr yn las yma. Ar y ddaear mae hi'n wahanol. Mae awyr ar y ddaear, a rhaid i'r pelydre yma o wahanol liwie wthio trwy'r awyr cyn cyrraedd y ddaear. A'r pelydre coch ydi'r cryfa at y gwaith hwnnw. Rhai da am wthio ydi pelydre coch, ac am hynny nhw sy'n cyrraedd y ddaear gynta, ac y mae'r wawr yno o ganlyniad yn goch."
"Sut y mae'r gole'n wyn tua chanol dydd, 'te?" ebe Dic.
"Mae'r pelydre i gyd wedi medru gwthio trwodd erbyn hynny, ac wedi'u plethu efo'i gilydd," ebe Shonto.
Diar mi," ebe Dic, "pwy fase'n meddwl am liwie'n rhedeg y ras?"
"Ac i feddwl," ebe Moses, "mai gole wedi ennill y ras ydi'r gole coch a welwn ni pan fydd y wawr yn torri."
"Mi af ar fy llw," ebe Dic, dan chwerthin, "mai dene pam y nillodd Bob y Felin y ras yn nhê parti'r Ysgol, am fod ganddo fo wallt coch. Ond be mae'r pelydre coch yn i gael yn wobr, tybed, am ennill y ras?"
Troes y dyn at Ddic gan edrych i fyw llygaid Moses, a dywedyd,—
"Wn i ddim, os nad cael bod y cynta i edrych ar wyneb yr eneth fach honno a ganodd 'O! tyred yn ôl.'"
A gwridodd Moses at fôn ei wallt. Ar yr eneth a'r darn cyflaith yr oedd ei feddwl ef o hyd, hyd yn oed ar doriad y wawr yn y lleuad.
XI
CYSGOD YR HEN GARTREF
BUONT ill pedwar yn eistedd yn hir, a Shonto'n eu difyrru â hanes y ddaear a'i helyntion er pan adawsant hwy hi. Wedi tipyn o ddistawrwydd troes dyn y lleuad at y bechgyn a dywedodd,—
"Fasech chi ddim yn leicio mynd i chwarae tipyn, fechgyn?"
Ac i ffwrdd â hwy ar eu hunion tua'r siglen fawr. Cododd dyn y lleuad ei ben, estynnodd ei fys at yr haul gan ddangos darn tywyll ar un ochr iddo, fel pedfai rhywun wedi cymryd tamaid ohono.
"Wel, Shonto," eb ef, â dagrau yn ei lais, "dacw gysgod yr hen gartref. Oes dim gobaith imi gael dwad yn ôl i'r hen ddaear annwyl i fyw, dywed, yn lle bod yma ar fy mhen fy hun o ganrif i ganrif? A lle buost ti mor hir y tro yma heb ddwad i edrych amdana i?"
"Cychwyn ar belydryn oedd heb fod yn dwad mor bell ag yma ddaru mi," ebe Shonto, "a glanio ar ryw bwt o fyd bach rhyfedda, a throi a throi ar hwnnw yn y gwagle fel styllen ar ddŵr, nes i belydryn basio oedd yn dŵad yr holl ffordd yma ar ei union. Ond faint sydd erbyn hyn er pan wyt ti yma, Rhys?"
Saith gant o flynyddoedd," ebe'r dyn.
Mae gen ti eisio tri chant ar ddeg eto, felly," ebe Shonto, os na feder un ohonon ni daro ar gynllun i gael pry genwair i ddawnsio."
Rydwi'n mynd i ofni mwy o hyd aros yma fy hun," ebe'r dyn, "a fedrwn i ddim cadw'r bechgyn yma am byth. Mi awn ar fy llw, hefyd, fod rhwfun yn byw ar y lleuad rwan, ond fi. 'Roedd yr ochenaid a glywes i yn yr agen yn debyg iawn i ochenaid y Llotyn Mawr pan fydd o yn ei ddiod. A gwae fi os ydi o yma."
"Efo ni 'roedd o pan gychwynnes i, beth bynnag," ebe Shonto, a mynd o ddrwg i waeth. Fedrwn ni neud dim ohono fo, ac y mae ar bawb ei ofn o."
"'Does dim llawer o obaith, felly," ebe'r dyn. "Mae gen i ofn nad oes," ebe Shonto, ŵyr neb ddim be all ddigwydd."
Yna bu distawrwydd hir.
Er mwyn i chwi wybod, un o'r Tylwyth Teg eu hunain oedd y Llotyn Mawr, a chafodd yr enw hwn wedi iddo fynd yn boen i bawb. Ni bu'n rhyw ffefryn erioed,—yr oedd arno bob amser eisiau ei ffordd ei hun. Wedi tyfu'n llanc âi'n fwy annioddefol bob dydd. A digwyddodd peth un diwrnod a'i gwnaeth yn fwrn ar bawb.
Wedi bod yn rhedegfeydd gwencïod yr ydoedd. Gwencïod yw eu ceffylau hwy, a'r Tylwyth Teg yn eu marchogaeth oedd y rhedegfeydd. Yr oedd y Llotyn yn rhedeg, a digwyddodd ennill y drydedd wobr. Daeth i mewn yn llanc i gyd, a gofynnodd am lymaid. Ac yn lle aros ei dro am wlith, fel pawb arall, beth a wnaeth ond cymryd poer y gog oddiar ddeilen yn ymyl, a'i yfed. A dyna a wnaeth y drwg. Gwyddoch fod poer y gog â'i hanner yn wynt. Byth wedyn ni wnai diod y tro i'r Llotyn, os na byddai digon o wynt ynddi. O'r diwedd aeth i beidio ag yfed dim ond gwynt, ac ar ambell adeg meddwai'n gorn arno. Caffai'r clwy hwn o yfed gwynt weithiau nes methu â pheidio; ac yfed, ac yfed a wnâi fel na wyddai ymhle yr ydoedd, na sut i gerdded. A gwae bawb a ddeuai i'w gyrraedd yr adeg honno. Gorweddai ar lawr, a breuddwydiai mai ef oedd brenin y byd i gyd, a bod pawb yn weision a morynion iddo. A'u gwaith oedd dyfod, bob un yn ei dro, heibio iddo, i'w ganmol, a gwneuthur yr hyn a ddymunai ef, heb feiddio barnu'n wahanol iddo. Fe'i teimlai ei hun yn ddifyr iawn yn y cyflwr hwn, ac ymddengys mai'r teimlad brafiaf a fu erioed yw teimlad un wedi meddwi ar wynt. Ond y gwaethaf oedd ei fod yn gwneuthur pawb arall yn wahanol. Nid oedd obaith i neb fod yn ddifyr arno pan fyddai'r Llotyn Mawr wedi meddwi, os na fyddai wedi meddwi mor drwm fel na fedrai symud na bys na bawd, na theimlo dim oddiwrtho'i hun, ac y gorweddai'n dawel a bodlon i gysgu. Eithr ni theimlai neb yn ddiogel hyd yn oed yr adeg honno, canys byddai wedi chwyddo allan o bob maint, a'r perygl fyddai iddo ffrwydro.
Ac yn y cyflwr hwn yr oedd pan ddaeth y digwyddiad mawr a achosodd gymaint o adfyd i'r Tylwyth Teg. Noson gannaid oleu leuad ydoedd, ac yr oedd rhialtwch yn eu mysg ar bob noson gannaid oleu leuad. Gallai pawb fforddio dringo pelydr y lleuad heb ofni drwg, canys nid oes digon o fywyd ym mhelydr y lleuad i blethu o amgylch coesau neb. Cynheuent goelcerthi i groesawu'r lleuad lawn, ac i gael pob rhyw hwyl. A dyma'r adeg y byddai'r Llotyn bob amser wedi meddwi'n gorn. Gorweddai'n farw feddw yn ymyl y llwyn y min nos hwn, wedi bod yn yfed gwynt ers deuddydd. Pwy a basiodd heibio â baich o goed ar ei gefn—drain crin gan mwyaf—wedi bod yn eu casglu at y goelcerth, ond y tywysog, brawd y brenin. Aeth yn ofalus heibio i'r Llotyn, ond ni sylwodd fod caws llyffaint yn tyfu wrth ei draed. Rhoddodd y tywysog ei droed ar hwnnw, a llithrodd ar wastad ei gefn ar y Llotyn, â'r baich drain dano. Dyna ochenaid fawr riddfanllyd—a ffrwydriad! A dyna'r ergyd fwyaf a fu erioed yng ngwlad y Tylwyth Teg. Rhedodd pawb yno ar ffrwst,— i weld y Llotyn yn hollol fflat, a gwynt yn chwibannu allan o ugeiniau o dyllau yn ei gorff, ac nid oedd sôn am na'r tywysog na'i faich. Y mae grym ofnadwy mewn gwynt a gymerir fel diod, os digwydd i'r yfwr ffrwydro.
Nid oedd sôn, fodd bynnag, am y tywysog na'i faich, a bu galar mawr ar ei ôl am fis. Cafwyd
tipyn o lonydd gan y Llotyn wedyn, canys ni allai feddwi nes i'r tyllau a wnaed gan y pigau drain gau. Ymhen y mis, ar noson leuad lawn, pwy a ddaeth i'w mysg ond y tywysog. Ei stori oedd ei fod wedi ei chwythu gan ffrwydriad y Llotyn i'r lleuad, ac wedi dyfod yn ei ôl ar belydryn o oleuni, ond na welodd ddim byth oddiwrth ei faich drain,—bod hwnnw wedi ei chwalu ar draws ac ar led y greadigaeth i bobman, a'i fod yn ofni mai anodd fyddai cael lle yn unman bellach heb bigau drain ar chwâl ynddo.
Eithr pan oedd ar ddechreu ei stori pwy a ddaeth yno, fel tarw gwyllt, am ei ladd, ond y Llotyn Mawr. Ac nid oedd dim iddo ei wneuthur ond ffoi'n ôl i'r lleuad am ei fywyd. Ei arogli a wnaeth y Llotyn, canys yr oedd aroglau'r caws llyffaint arno o hyd. Nid oedd obaith, mwy, iddo fedru cartrefu ar y ddaear heb i'r Llotyn ei arogli a'i erlid, os na chaffai ymadael â'r aroglau caws llyffaint, canys ar wynt y cludir aroglau. Nid oedd ond dau beth a allai ddifa'r aroglau,— aros mewn gwlad rew am fil o flynyddoedd (peth da iawn yw rhew am symud aroglau), neu gael ei rwbio drosto â chwys pryf genwair. Yr oedd y ddau amod yn anodd, canys annifyr yw bod mewn gwlad rew am fil o flynyddoedd, a phrin iawn, iawn yw chwys pryf genwair. Ni all pryf genwair chwysu ond pan fyddo'n dawnsio. Ac ni welodd neb erioed yr un yn dawnsio. Y mae'n rhaid cael offeryn cerdd na chrewyd mohono hyd yn hyn i'w gael i wneuthur hynny. Ni chwysa wrth weithio, canys nid oes asgwrn cefn ganddo. A llwydda creaduriaid diasgwrn cefn i fyw'n rhyfedd heb orfod gweithio digon i chwysu, yn bryfed a dynion, ebe Shonto'r Coed. Nid oedd wiw i'r tywysog ddyfod i fyw ar y ddaear ond o dan yr amodau hyn, heb fod mewn perygl bywyd oddiwrth y Llotyn Mawr. Nid oedd dim iddo ei wneuthur felly ond cartrefu yn y lleuad nes i rywun ddyfod ar draws chwys pryf genwair. A dyna sut y daeth un o dywysogion y Tylwyth Teg yn Rhys Llwyd y Lleuad, ac yn gyfaill i Ddic a Moses. Am y baich drain, rhywun wedi camddeall y stori a ddechreuodd ddywedyd bod y baich gydag ef yn y lleuad. Ar chwâl yn y greadigaeth y mae hwnnw, fel y deuwch i weled drosoch eich hunain bob yn dipyn. Ond rhaid oedd i ddyn y lleuad aros ar y lleuad am ddwy fil o flynyddoedd i ddifa'r aroglau, canys am bythefnos o bob mis y rhewa hi yno. Felly, rhaid oedd aros dwy fil o flynyddoedd i gael un fil o rew. A hynny i gyd o achos y Llotyn Mawr. Deuai, fodd bynnag, i'r ddaear ar ei dro, ar noson gannaid oleu leuad, pan fyddai'r Llotyn Mawr wedi meddwi ar wynt yn chwil gorn ulw, yn rhy feddw hyd yn oed i arogli. A rhoddid arwydd o hynny iddo gan Shonto ei frawd.
Dyna'r stori y soniai Shonto a dyn y lleuad amdani. Ac wedi ei thrin eisteddent yn ddistaw a syn i wylio'r tamaid du ar yr haul yn cynhyddu, cynhyddu, o hyd. Aeth y bechgyn i chwarae fel y gorchmynnwyd iddynt, ac at y siglen â hwy. Eithr er eu syndod nid oedd y siglen yno, dim ond rhes hir o gerryg ar lawr yn cyrraedd o fynydd i fynydd,—yr oedd yr haul wedi meirioli'r poer.
Eisteddasant am ymgom,—
"Wel," ebe Moses wrth Ddic, "'does gen i ddim eisio bod yma am nos arall. Mi dorrwn fy nghalon tase raid imi fynd drwy un arall."
"Fase'r hen ddyn ddim yn mynd â ni'n ôl, tybed?" ebe Dic, "ond wn i ddim chwaith. Digon o waith, o achos mae rhwfun fel hyn, wel di, yn leicio cympeini. Ac mae o 'n bur siwr ohonon ni rwan."
"'Doedd hi'n dda," ebe Moses, "bod o wedi rhoi'r fale lleuad inni cyn dwad yma, neu mi fasen wedi rhewi'n stiff yn ystod y nos ene. A gobeithio nad oedd o ddim yn ei le pan ddeydodd o eu bod nhw'n dechre colli eu dylanwad."
"Rhewi'n stiff?" ebe Dic, "gwaeth o lawer, was. Mi fasen wedi rhewi'n ddigon caled i'r hen frawd neud pyst llidiard ohonon ni, ac mi chwyse hyd yn oed yn yr oerfel hwnnw wrth dreio curo bache i mewn i ni."
"Mi dy goelia di'n hawdd," ebe Moses, "ond mae tipyn o amser cyn iddi hi ddwad yn nos eto."
Oes," ebe Dic, "ond rhosa di, mae hi'n rhyw dwllu rwan, a 'does dim cwmwl yn yr awyr i fod yma chwaith."
"Ydi wir," ebe Moses, "'drycha ar yr haul, da ti, mae o fel tase rhywbeth wedi cymyd tamed ohono fo."
Daeth rhyw ofn trostynt. Edrychasant ar ei gilydd, a'r tamaid du o'r haul yn cynhyddu. Aethant yn ôl at y dyn a Shonto heb ddywedyd gair. Erbyn eu cyrraedd yr oedd y lleuad yn llwyd—dywyll, y sêr yn ddisgleiriach nag y buont erioed yn y dydd, a'r haul â'i dri chwarter yn ddu.
Gwenai'r dyn a Shonto'n siriol wrth edrych arnynt yn brysio'n ôl, mewn cymaint benbleth.
"Mae'r nos yn dwad yn ei hôl," ebe Moses, dan ei lais.
"Nag ydi," ebe'r dyn, "wyddoch chi be ydio? —cysgod y ddaear. Mae hi'n ddiffyg ar yr haul.
"Yn y ddaear mae diffyg ar yr haul," ebe Dic.
"Ia," ebe Moses, "ac mae diffyg ar y lleuad yno hefyd."
"Oes," ebe'r dyn," ond diffyg ar yr haul a'r ddaear sydd yma."
"Ar y ddaear?" ebe'r ddau ynghyd, "be ydi diffyg ar y ddaear?"
Canys iddynt hwy, wedi eu halltudio o'r ddaear, yr oedd hi heb na brycheuyn na chrychni, nac ynddi ddiffyg byth yn bod.
"Rwan, 'te," ebe'r dyn, "sbonia iddyn nhw, Shonto."
"Wel," ebe Shonto, "be ydech chi'n ei feddwl ar y ddaear wrth ddiffyg ar yr haul neu'r lleuad?"
Ni wyddent.
"Dene'r anfantes o gashau dysgu." ebe Shonto. "Gedwch imi ddeyd wrthach chi, gan nad ydech chi ddim yn gwybod,—weithie mae'r lleuad wrth droi, yn mynd rhwng y ddaear a'r haul, ac y mae'r haul yn taflu ei chysgod hi ar y ddaear nes gneud y ddaear braidd yn dywyll, a hithe'n cuddio'r haul o olwg y ddaear,—dene, i bobol y ddaear, ydi diffyg ar yr haul, o achos mae goleuni'r haul yn cael ei guddio. Weithie mae'r ddaear yn mynd rhwng yr haul a'r lleuad, a'r haul yn taflu ei chysgod hi ar y lleuad, nes ei gneud hithe'n dywyll, dene, i bobol y ddaear, ydi diffyg ar y lleuad, o achos mae goleuni'r lleuad yn cael ei guddio. Dene sy'n digwydd rwan,—y mae'r ddaear yn mynd y funud yma rhyngon ni a'r haul gan guddio'r haul o'n golwg ni, ac yn rhoi diffyg ar yr haul ini. Ond pe dase chi ar y ddaear, ac ar ei hochor dywyll hi, mi welech ei chysgod hi'n twllu'r lleuad. Ei chysgod hi sy'n gneud y lleuad yma'n dywyll rwan. I bobol ochor dywyll y ddaear, neu'r lle y mae hi'n nos rwan, y mae hi'n ddiffyg ar y lleuad."
"Mae nhad a mam, felly," ebe Moses, yn gweld diffyg ar y lleuad rwan, pan yden ni'n gweld diffyg ar yr haul?"
"Yden," ebe Shonto, "os yden nhw ar yr ochor dywyll iddi hi, lle mae hi'n nos. Ond os yden nhw ar yr ochor ole, dyden nhw ddim yn gweld y lleuad yma o gwbwl, o achos gwynebu'r haul y mae nhw, ac y mae hi'n ddydd arnyn nhw." "Be ydi diffyg ar y ddaear?" ebe Moses wedyn, a'i lais yn crynu, ydio'n rhywbeth sy'n niweidio pobol y ddaear?"
"Nag ydi, debyg iawn," ebe Shonto, "mwy nag y mae hwn yn ein niweidio ni. Mae hwn i bobol y ddaear yn ddiffyg ar y lleuad."
"Sut felly?" ebe Dic yn ddyryslyd.
"Fel hyn," ebe Shonto. "Dene ydi diffyg ar y ddaear,—mi welsoch y ddaear pan oedd hi'n nos yn tywynnu arnon ni fel lleuad fawr. Weithie ar adeg felly, yr yden ni—y lleuad ydwi'n i feddwl —yn mynd rhyngddi hi a'r haul, a'r lleuad yn taflu'i chysgod arni, fel y mae hi—y ddaear—yn taflu ei chysgod arnon ni rwan. Mae hyn i ni yn ddiffyg ar y ddaear, ond iddyn' nhw diffyg ar yr haul ydio,—am fod y lleuad, sy'n cuddio'r ddaear o olwg yr haul, yn cuddio'r haul, hefyd, o olwg y ddaear. 'Does dim niwed mewn diffyg,— dydio'n ddim ond un peth yn taflu'i gysgod ar beth arall, a chadw'r gole oddiwrtho."
Edrychodd Shonto'n fyfyriol a phrudd, a daeth golwg hen iawn dros ei wyneb am ennyd, fel yr olwg ar wynebau'r bobl sydd bob amser yn eich cynghori. "Ia," eb ef yn araf, "dene ydi pob diffyg,—ar ddyn ac ar fyd,—rhywbeth neu rywun sydd yn dwad rhyngddyn nhw a'r gole. Ac y mae'ch hen gartre chi rwan yn cadw gole'r haul oddiwrthach chi. Teimlad chwithig, hefyd, yw meddwl bod y'ch cartre chi, o bopeth, yn sefyll rhyngoch chi a'r gole. Ond y mae hi felly weithie, 'mhlant i."
"Mi gwelwn ni hi rwan," ebe'r ddau ynghyd, "ac 'rydech chi'n siwr mai'r ddaear ydi'r peth du acw rhyngon ni a'r haul?"
"Ydw," ebe Shonto.
"Du neu beidio, mae hi'n iawn, os y ddaear ydi hi," ebe Dic, "ni waeth am y gole os bydd hi yn y golwg."
Gadawsant y dyn a Shonto. Dringasant i ben y mynydd uchaf o fynyddoedd y lleuad i gyd,—
"Wel," ebe hwy, y naill wrth y llall, ar ôl dringo i'w ben, yr yden ni mor agos ati hi rwan ag y mae'n bosib i ni fod."
Daethant i lawr yn eu holau. Safai'r dyn, yntau, yn edrych yn hiraethus tua'r ddaear, ond nid oedd Shonto yno.
"Ymhle mae Shonto, Rhys Llwyd?" ebe hwy.
'Pan ddechreuodd yr haul ail ddisgleirio," ebe'r dyn, "yr oedd y lleuad yn ddisglair i bobol y ddaear, yn goleuo iddyn nhw, fel y mae o rwan. Ac mi aeth Shonto'n ôl ar un o'r pelydre. Mi faswn inne wedi mynd am dro efo fo ond nad oeddwn i ddim am y'ch gadel chi ar ôl."
Aroshasant i wylio'r ddaear. Y mae'n wir na welent mo'r ddaear ei hun, dim ond duwch ar yr haul, a hwnnw erbyn hyn yn dechreu cilio. Ond daeth rhyw lwmp rhyfedd i wddf pob un o'r tri wrth syllu ar y duwch, a meddwl mai yn rhywle yn y gwagle, draw acw, yr oedd y pethau goleuaf oll iddynt hwy,—y ddaear a'i phobl oll, a'u cartrefi.
"Be mae ein tade ni a'n mame ni'n ei neud rwan, tybed?" ebe Moses.
"Os yden nhw ar ochor y nos," ebe Dic, "yn eu gwlâu y mae nhw,—hwyrach yn breuddwydio amdanon ni, a methu â gwybod yn lle ryden ni. Mi garwn i gael rhyw gipolwg ar y ddaear ei hun, hefyd, yn lle y twllwch acw."
Edrychasant ar y tywyllwch yn hir wedyn, heb ddywedyd dim. Ie, yn rhywle yn y gwagle, draw acw, rhyngddynt â'r haul, yr oedd eu tadau a'u mamau. A mwy na hynny, i Foses, yno yr oedd yr eneth fach honno a welodd yn ei gwsg, ag ôl cyflaith ar ei genau, yn canu "O! tyred yn ôl." "Pam na ddowch chi efo ni'n ôl i'r ddaear, yn lle cartrefu yn yr hen leuad yma, Rhys Llwyd? ebe Moses wrth y dyn, wedi iddynt fod yn hir yn syllu'n dawel ar y cysgod yn cilio oddiar yr haul, "wn i ddim pa bleser yr ydech chi'n ei gael yma ar eich pen eich hun."
Daeth y prudd-der rhyfedd, a welsant ar ei wyneb rai troeon o'r blaen, i guddio'i wyneb eto. Cymerodd hwy ato, arweiniodd hwy i'r cysgod o'r gwres, ac adroddodd iddynt sut y daeth gyntaf i'r lleuad, a hanes y Llotyn Mawr. Yna aeth i feddwl am yr ochenaid a glywodd yng ngwaelod yr agen fawr, canys credai o hyd fod a wnelai honno rywbeth â'r Llotyn.
XII
"O! TYRED YN OL"
Bu Dic a Moses yng nghwmni Shonto'r Coed mor hir y tro hwn, fel yr ofnaf iddo ddylanwadu'n anffafriol arnynt. Nid wyf felly'n mynd yn gyfrifol tros ddywedyd bod y rhan hon o'r stori'n hollol gywir, eu hanes yn dyfod yn ôl. Eithr cewch hi'n union fel y cefais i hi ganddynt hwy. Dic, gan mwyaf, oedd yn ei hadrodd.
Sefyll yn eu hunfan y bu Dic a Moses yn hir, ebe hwy, yn ceisio'n ofer lyncu'r lwmp rhyfedd a godai i'w gyddfau, wrth edrych ar y tamaid duwch ar gongl yr haul, a meddwl am bwy oedd yno. O dipyn i beth diflannodd y duwch yn llwyr, ac ni welid mwy ond yr haul yn disgleirio'n danbaid. Edrychodd Dic ar Foses, ac estynnodd ei fys tua'r fan y tybiai fod y ddaear ynddi. Edrychodd Moses arno yntau a nodiodd ei ben, ac edrychasant mor hir i'r rhan honno o'r gwagle nes anghofio pawb a phopeth. Erbyn hyn yr oedd y gwres wedi cynhyddu'n enbyd, nes ei bod yn boethach nag y cofient hi erioed ar wyneb y ddaear. Gan faint y gwres gorweddodd Dic ar ei hyd, â'i benelinoedd ar lawr, a'i ên rhwng ei ddwylo, ac edrychodd i fyny tua'r ddaear, a gwnaeth Moses yr un peth. Ac felly y buont yn hir, yn edrych i fyny, ar eu hyd ar lawr, a phob un â'i ên yn ei ddwylo. Ac yn ymyl, dan gysgod craig, hanner gorweddai dyn y lleuad, yn gwneuthur yr un peth. Heb yn wybod iddynt darfu dylanwad yr afalau lleuad arnynt yn llwyr, fel yr awgrymodd dyn y lleuad dro'n ôl.
Fe'i teimlodd Moses ei hun yn boeth arswydus cyn bo hir, yn enwedig ei goesau. Edrychodd arnynt, ac er ei ddychryn gwelodd eu bod wedi toddi'n llyn. Edrychodd ar Ddic, a gwelodd fod Dic yntau'n prysur doddi. Toddasai ef fwy na Moses. Nid oedd ond ei ben a'i goesau yn y golwg uwchlaw'r llymaid. Yr oedd y gweddill ohono'n llyn, a deallodd Moses eu bod ill dau, yn y gwres ofnadwy hwnnw, yn toddi, fel y gwelsant ddyn eira'n toddi ar wyneb y ddaear. Dyna'r olygfa fwyaf digalon sy'n bod, yw dyn eira'n toddi, a'r olygfa sy'n dangos mwyaf o ddewrder hefyd. Er i'w draed a'i goesau doddi'n llyn, a'i gorff wedyn, deil y dyn eira i wenu â'i bibell yn ei enau, a'i het ar ochr ei ben, fel pe na buasai dim o'i le yn digwydd. A phan dawdd ei ben o'r diwedd tawdd dan wenu ac ysmygu. Os ydych am ddysgu'n gynnar ar eich hoes sut i herio bywyd yn ei holl chwerwder pan ddeloch yn ddynion, gwyliwch ddyn eira'n meirioli. Teimlo y byddwn ofid mawr mai toddi'n ddwfr yw diwedd creaduriaid mor ddewr â dynion eira. Nid oedd Dic a Moses yn wynebu eu meiriol mor ddewr â hyn, yn enwedig Moses. Golwg go anobeithiol oedd ar eu hwynebau fel y toddent bob yn dipyn.
Yn y man nid oedd dim heb doddi ond corunau eu pennau, a nofiai'r rhai hynny yn ôl a blaen ar wyneb y llyn, fel ymenyn ar wyneb llaeth. O'r diwedd toddasant yn llwyr, ac nid oedd yno mwy ond dau lyn yn disgleirio yn yr haul lle yr oedd dau fachgen gynt. Toddasai eu cnawd, a'u hesgyrn, a'u gwallt, a'u dillad, a phopeth.
Eithr er toddi ohonynt ni pheidiasant â gwybod amdanynt eu hunain, ac am ei gilydd. Gwyddai'r llyn oedd yn weddillion Moses mai Dic oedd enw'r llyn yn ei ymyl,—dyna'r tro cyntaf yn hanes y byd i lyn gael ei alw yn "Dic." A gwyddai'r llyn oedd yn weddillion Dic mai Moses oedd enw'r llyn yn ei ymyl yntau,—a dyna'r tro cyntaf yn hanes y byd, hefyd, i lyn gael ei alw'n Moses"; ac i lynnoedd ac i lynnoedd wybod amdanynt eu hunain eu bod yn fyw. Gwyddent bopeth a wyddent o'r blaen, er mai llynnoedd oeddynt.
Wedi eu toddi'n llynnoedd, dechreuodd yr haul sychu'r llynnoedd fel y sych lynnoedd y ddaear, a chodasant yn araf, yn darth i'r gwagle uwchben. i'r llynnoedd ar y lleuad yn llai—lai o hyd, a hwythau'n esgyn o dipyn i beth yn darth. Fe'u teimlent eu hunain yn codi, a chodi, bob yn dipyn, nes i'r llynnoedd a fu gynt yn Foses a Dic sychu'n llwyr. 'Roedd y teimlad o godi yn darth o'r llyn, ebe Dic, y teimlad tebycaf a fu erioed i'ch gwaith yn eich teimlo'ch hunain yn chwyddo o dan ganmoliaeth. Gwyliwch rhag gormod o ganmoliaeth rhag ofn eich troi chwithau'n darth. Yr oeddynt bellach yn hofran yn y gwagle yn dameidiau o darth, ac yn esgyn, esgyn o hyd, fel mwg o simnai ar ddiwrnod tawel, neu darth yn codi oddiar fynydd pan gyfyd yr haul. A thrwy'r cwbl gwyddent yn iawn mai Dic a Moses oeddynt. Wrth esgyn, ac esgyn, fe'u teimlent eu hunain yn oeri, ac wrth oeri yn tewychu'n gymylau. A dyna lle yr oeddynt, bellach, yn ddau gwmwl yn esgyn, ac esgyn o hyd.
Ceisiodd Dic siarad â Moses, ond yr oedd mewn dyryswch newydd,—ni wyddai pa ran ohono'i hun oedd ei ben a pha ran oedd ei draed. Fe deimlai Moses, yntau, awydd mawr i siarad â Dic, ond yr oedd yntau yn yr un anhawster yn union.
Esgyn, ac esgyn, yr oeddynt o hyd, yn ddau gwmwl yn y gwagle, a rhyfedd oedd gweled dau gwmwl uwchben y lleuad gan fod yr awyr uwch ei phen hi bob amser mor rhyfeddol o glir, os priodol galw lle heb ddim awyr ynddo yn awyr." O'r diwedd, wedi esgyn ac esgyn, ymhell o gyrraedd y lleuad, deuent tua'r lle na symudent ynddo, nac yn ôl nac ymlaen, pan oeddynt ar eu ffordd i'r lleuad. Carent ofyn i'w gilydd i ble yr oeddynt yn mynd tybed, a gobeithient yn erbyn gobaith mai tua'r ddaear yn ôl yr oedd eu taith. sydyn, teimlent ryw ysgydwad ar eu hymylon, fel awel ysgafn, a phwy a welent yno, wedi teithio fel tân gwyllt ar eu holau, ond dyn y lleuad. A dyna'r adeg, wrth weld y dyn yn eu hymyl, y daethant i wybod ymhle yr oedd eu llygaid.
Yr oedd rhai Dic, eb ef, wedi nofio, yn rhan o'r cwmwl, i ymyl ei draed; a rhai Moses wedi crwydro y tu ôl i'w ben.
"Aethoch o'r lleuad yn sydyn iawn," ebe'r dyn wrthynt,—" cyn gynted ag y dechreues i bendympian ychydig." Ond nid atebasant air iddo. Ni fedr cwmwl siarad ond pan fo hi'n taranu. Llais y cwmwl yw'r daran. Ac yr oeddynt yn rhy ieuainc i fod wedi dysgu taranu. Pan â cymylau'n hen a thrymllyd y dysgant daranu. Ac yn ôl Shonto'r Coed, nid yw'n wahanol iawn ymysg dynion. Dyna ei wendid ef, bod fyth a hefyd yn cynghori a thynnu gwersi, arwydd arall o henaint.
"A wyddoch chi pam na symudech nac yn ôl nac ymlaen pan oeddech yn y cyfeiriad yma o'r blaen?" eb ef wrthynt dan wenu. Ond nid atebasant air iddo eto, a phrin yr oedd yntau'n disgwyl ateb ganddynt. A phe buasai rhywun dieithr yno credasai ei fod yn dyrysu yn ei synhwyrau,—yn siarad â dau gwmwl.
"Wel," eb ef, "gedwch i mi ddeyd wrthach chi. Y lle y safasoch chi ynddo, a'r lle yr ydech chi ynddo rwan, ydi hanner y ffordd rhwng dylanwad y ddaear arnoch chi, a dylanwad y lleuad. Pan fyddwch chi yma, y mae'r ddaear a'r lleuad yn tynnu'r un faint arnoch chi, ac felly fedrwch chi ddim symud yn ôl nac ymlaen ohonoch eich hunen. Dyma'r Trobwll Mawr."
Estynnodd y dyn ei freichiau a'i fantell, a dechreuodd wthio Moses ychydig ymlaen, gan ei fod yn symud yn rhy araf ganddo. Yna. gwnaeth yr un peth â Dic. Y rheswm iddo estyn ei fantell yn ogystal â'i freichiau oedd rhag gadael dim o'r bechgyn ar ôl. Canys anodd iawn yw symud cwmwl heb adael dim ohono ar ôl.
Dechreuasant symud wedyn, a hynny'n gyson i'r un cyfeiriad, a daethant i wybod cyn bo hir iawn mai tua'r ddaear yr aent. Fel yr enillai tyniad y ddaear arnynt, ac fel y gwanhâi tyniad y lleuad, cyflyment a chyflyment. O'r diwedd fe'u gwelsant eu hunain yn ddau gwmwl ymysg cymylau eraill, yn hofran uwchben y ddaear, A dyn y lleuad oedd wedi dyfod i'w hebrwng, yn ymguddio o'r tu ôl iddynt rhag i bobl y ddaear ei weld.
Buont yn hofran felly am ychydig uwchben y ddaear. Bob yn dipyn fe'u teimlent eu hunain. yn troi'n ddiferion mawr. Ac ni allent mwyach eu dal eu hunain wrth ei gilydd. Disgynnent i lawr tua'r ddaear yn ddiferion glaw. O drugaredd nid oedd yn noson stormus, ac am hynny gallasant ddisgyn heb fynd ormod ar chwâl.
Wel, Dic annwyl," ebe Moses, ryden ni'n troi'n law cyn wired â'r pader." Ond ni chlybu Dic ond sï fel si glaw'n llithro trwy'r awyr. A throi'n law a wnaethant, a'u glawio eu hunain ar y ddaear. O'r diwedd yr oeddynt wedi eu glawio'u hunain i gyd, yn ddiferion, tros ddwy ran o'r wlad. Wedi gorffen eu glawio'u hunain, dechreuodd y diferion redeg yn fân ffosydd at ei gilydd, nes bod y ddau, unwaith yn rhagor, yn ddau lyn, ond yn llynnoedd ar wyneb y ddaear, ac nid yn y lleuad.
Wedi bod felly am dipyn, fe'u teimlent eu hunain yn cael eu rholio'n ôl a blaen, a deallasant mai'r gwynt a chwythai arnynt gan eu rholio a'u pobi. Yr oedd wedi codi'n awel er pan ddisgynnodd y ddau ar wyneb y ddaear. Nos ydoedd, ac yr oedd yn oer echryslon, ond yn gannaid oleu leuad. O dipyn i beth fe welent ryw bethau'n gwibio fel sêr yn ôl a blaen yn yr awyr o'u hamgylch, a deallasant yn union mai Shonto'r Coed a'i deulu oedd yn arwain y gwynt wrth ei waith. A gwelsant, ebe Dic, nad oedd stori Shonto am ei ddylanwad ei hun ar y gwynt a phethau eraill, gymaint allan o'i lle, wedi'r cwbl. Ac fe'u teimlent eu hunain yn caledu, a phob yn dipyn yn cymryd ffurf newydd.
"Rargien fawr, ryden ni'n rhewi, a 'does yma ddim fale lleuad chwaith i'n rhwystro ni," ebe Moses.
A rhewi yr oeddynt, neu'n fwy cywir, caledu'n ôl, a chael eu hail bobi'n fechgyn. Rholiai'r gwynt hwy, dan arweiniad Shonto a'i deulu, a chaledent fel y rholient, nes dyfod bob yn dipyn yn eu holau'n fechgyn. Neidiasant ar eu traed, a rhedasant at ei gilydd,—
Wel, Dic annwyl," ebe Moses. Ac er eu syndod gwelsant eu bod yn clywed ei gilydd yn siarad i'r dim. Edrychasant oddiamgylch yn wyllt, a lle y gwelsant eu hunain ynddo ond yn ymyl y fan y cychwynasant ohoni,—rhwng dau hen glawdd, yn ymyl yr hen dwll tywod, dan gysgod y Wal Newydd, wrth Goed y Tyno. Rhedasant am eu bywyd tua'r Llan, a beth a welent ond y capel yn gannaid oleu, a sŵn hwrê mawr, a churo dwylo, yn dyfod ohono. Rhuthrasant tuag ato, ac i borth y capel â hwy, a heibio i ddau ddyn oedd yno'n gofyn i bawb am docynnau. "Be sy'n bod?" ebe hwy, â'u gwynt yn eu dyrnau.
Yr eneth fach wallt gole a llygad glas acw sy newydd fod yn canu 'O! tyred yn ôl,' ac wedi ennill," ebe rhywun wrthynt, "ac mae'r bobol yn gweiddi, er gwaetha'r beirniad, am ei chael hi i ganu eto."
"Be sy 'ma?" ebe Dic.
"'Dwyt ti ddim yn gwybod mai 'Steddfod sy 'ma," ebe rhywun, yn wyllt a diamynedd.
Yn gweld rhai yno heb wybod dim am y 'Steddfod enwog dechreuodd rhyw lashogiau oedd yn y porth rythu arnynt,—
"Helo, Dic a Moi, y gweilch," ebe un ohonynt, "lle rydech chi wedi bod cyhyd, a phawb yn y wlad yn edrych amdanoch chi?"
Ond ar hyn dyna'r eneth fach ymlaen i ganol y llwyfan drachefn, ac yn canu nes bod y ddau fachgen wedi eu swyno gymaint fel y methent â symud na bys na bawd,—
Dolurus fy nghalon, a gwelw fy mryd,— Ple 'rwyt ti f'anwylyd yn aros cyhyd?
yn union fel y clywsai Moses hi yn ei freuddwyd yn y lleuad. Pan ddaeth hi i'r geiriau,—
O! tyred yn ôl, O! tyred yn ôl, Pe gwyddwn lle 'rydwyt ehedwn i'th nól,
fe'i hanghofiodd Moses ei hun yn lân. Rhedodd ymlaen tua'r llwyfan, a gwaeddodd,—" Wel, dyma fi'n dwad." Edrychodd yr eneth fach tuagato, gwelodd ef, gwyrodd ei phen yn sydyn, gwridodd at ei chlustiau, ac ni allai ganu mwyach.
Meddyliodd rhan fwyaf y gynulleidfa mai ffwlbri bachgen direidus oedd gwaith Moses yn gweiddi felly, a dechreuasant chwerthin. Cyn iddynt ddyfod atynt eu hunain, a gwybod yn wahanol, rhedodd Dic at Foses, ac eb ef wrtho'n wyllt,—
"Tyrd allan odd'ma, a phaid â dangos i bawb dy fod ti wedi bod yn byw yn y lleuad."
Ac allan â hwy am eu bywyd.
Ryw fin nos, wedi iddynt fod gartref ers tro, a'r stori amdanynt yn mynd ar goll wedi ei hanghofio, aeth y ddau am dro tua'r Tyno. Pan oeddynt yn siarad yn ddifyr am hyn a'r llall, â'u cefnau ar y Wal Newydd, dyna chwerthin tros y wlad yn eu hymyl. Troesant eu hwynebau tuagato, a phwy oedd yno'n dawnsio, gan wenu arnynt o glust i glust, ond hen ddyn y lleuad.
"Helo, Rhys Llwyd," ebe Dic, "ers pryd yr ydech chi wedi dwad yma?"
"'Des i ddim yn f'ôl ar ôl y'ch hebrwng chi," eb ef. "Mi redes i edrych am Shonto y nosweth honno, ac yno rydwi byth."
"Beth am y Llotyn Mawr?" ebe Moses.
"Does dim sôn amdano fo," ebe dyn y lleuad. "'Roedd o wedi mynd cyn imi gyrraedd yno'r nosweth honno. Mae'n ymddangos mai fel hyn y bu hi,—'Roedd o wedi bod am dros wythnos heb neud dim ond yfed gwynt. O'r diwedd mi feddwodd ac mi syrthiodd, ond dal i yfed yr oedd felly, nes iddo chwyddo tuhwnt i bob maint, ac yn fwy nag y gwelodd neb erioed o. A dene lle 'roedd o yn gorwedd ar gwr y llwyn. Ac felly y bu am ddyddie heb wybod dim oddiwrtho'i hun. 'Roedd rhialtwch mawr y nosweth leuad lawn wedyn, a phawb yn canu a dawnsio. Pan ddaeth y lleuad yn union uwchben galwodd rhywun am floedd o groeso iddi. A dene floeddio a neidio na chlywyd erioed eu tebyg. Pan oeddynt ar ganol bloeddio dene ffrwydriad o gwr y llwyn, a grynodd y ddaear, ac a foddodd y sŵn bloeddio. Rhedodd pawb yno mewn braw, ond nid oedd sôn am y Llotyn Mawr. 'Roedd o wedi ffrwydro'n dipie mân, a'r darne, medde Shonto, wedi chwalu dros y byd i gyd. A 'chlywyd byth ddim amdano fo. Gobaith mawr teulu Shonto ydi y deuir o hyd i'r darne, a'u claddu, cyn iddyn nhw ddechre gwenwyno'r awyr i blant dynion, o achos 'does ar deulu Shonto ddim eisio, ar unrhyw gyfri, i'r drwg oedd arno fo ddechre ymosod ar blant dynion. A 'does gen inne ddim chwaith, ar ôl y'ch nabod chi'ch dau. Ond y mae galar trwm yng ngwlad y Tylwyth Teg am i ymddygiad y Llotyn Mawr ei ladd, a thrwy hynny achosi i farwolaeth ddechreu yn eu plith."
Balch iawn oedd Dic a Moses, fodd bynnag, o glywed am ddiwedd y Llotyn Mawr, er mwyn i ddyn y lleuad gael aros ar y ddaear, iddynt hwy fedru mwynhau ei gwmni'n awr ac eilwaith. A gobeithient na wnai dim darn o'r Llotyn Mawr wenwyno'r awyr, rhag iddynt hwy byth orfod ffoi i'r lleuad o ffordd neb tebyg iddo, neu gael eu chwythu yno ganddo. Ac eto, lled ofnai Dic ei fod wedi gweld amryw o blant dynion yn ddiweddar heb fod yn rhyw annhebyg iawn iddo.
Dechreuasant sôn ill tri am daith y bechgyn i'r lleuad, a'u troi'n gymylau er mwyn medru dyfod oddiyno, a'u gwaith yn hofran felly am dro uwchben y byd,—
"Welwch chi'r cymyle acw sy uwchben heno, Rhys Llwyd?" ebe Dic, ydech chi'n meddwl mai dynion yden nhw?
"Wn i ddim, yn siwr," ebe'r dyn,"ond mi ofynna i Shonto. Os rhai wedi bod yn ddynion, ac eisio'u troi'n ôl yden nhw, mae'n siwr y bydd llawer iawn o waith ail bobi a chledu ar bethe sy gymint ar chwâl â'r rhai acw. Mae gen i ofn bod yn rhaid iddyn nhw aros fel y mae nhw, o achos mae troi pethe fel ene'n ddynion yn ormod o drafferth hyd yn oed i deulu Shonto." A gwelodd y bechgyn mai gwaith medrus a blinderus iawn yw gwneuthur dyn, gan fod hyd yn oed teulu Shonto mor amharod i ymosod ar y gwaith, â digon o ddefnydd wrth law.
Ar hyn gwelent ddau gysgod yn y pellter, rhyngddynt a'r awyr, tebyg i ddau ddyn, yn dyfod tuagatynt, ac un ohonynt yn honni wrth y llall, gan siglo cerdded, mai ef oedd meistr pawb oll, a bod pob rhinwedd yn cydgyfarfod ynddo. A chan ofni mai'r Llotyn Mawr ydoedd, neu'n fwy tebyg, rhywun o blant dynion wedi ei wenwyno gan ddarn ohono, rhedodd pob un adref am y cyntaf, rhag ofn mai gorfod mynd i'r lleuad yn ôl fyddai eu hanes, os digwyddai iddo ddyfod o hyd iddynt.
GEIRFA
ADLEWYCH-U: Reflection, reflect.
AGEN-NAU Cleft, clefts.
ALAR (GALAR): Sorrow.
ANHYGOEL: Unbelievable.
ANNAEAROL: Unearthly.
ANNATURIOL: Unnatural.
ANTURIASANT: They ventured.
ARSWYD: Dread, awe.
ARUTHROL: Huge, of a very great size.
BARCUD: Hawk.
BENBLETH (PENBLETH): Perplexity. of uncertain mind.
BENDRO (PENDRO): Giddiness.
BENDYMPIAN (PENDYMPIAN): To doze, to slumber.
BENFEDDWI (PENFEDDWI): To become giddy.
BIG DLAWD (PIG DLAWD): Sorry face, to be about to weep.
BINSIED (PINSIED): Pinch.
BLINDERAU: Troubles.
BRYCHEUYN: Spot, speck.
BWCH GAFR AR DARANAU: Ymadrodd yn disgrifio un wedi dychrynu'n fawr, fel bwch gafr yn neidio'n wyllt o graig i graig mewn braw pan glywo daranu.
BWYD Y BARCUD: Mushrooms.
CANNAID: Bright, shining.
CAWG: Basin.
CAWS LLYFFAINT: Toadstool.
CIAMOCS: Capers.
COSI: To tickle, itch.
CRABAS: Crab apples.
CRASBOETH: Parching hot, scorching.
CREBACHLYD: Wrinkled, shrunk.
CWRS Y WLAD: The nature or character of the country.
CYFLAITH (CYFLETH) Treacle toffee.
CYSEGR: Sanctuary, chapel, church.
CHACI-MWCI (CACI-MWCI): The great burdock. Y mae'r blodeuyn yn nodedig am ei allu i fachu ym mhopeth.
CHIG Y BRAIN (CIG Y BRAIN): Blaenau tyner, ieuanc, canghennau rhosynnau gwylltion.
CHRYCHNI (CRYCHNI): Curliness, wrinkle.
CHWILFRIW: To be smashed to bits.
CHWRLIGWGAN: Offeryn yn troi'n gyflym anghyffredin.
CHWYRN: Rapid, swift.
CHWYRNELLU: To whirl, to whiz.
DAEARYDDIAETH: Geography.
DALENT (TALENT)
ARBENNIG: Special talent, capacity or ability.
DALLT Deall, understand.
DAN EI LAIS: To whisper.
DARTH (TARTH): Mist.
DAWDD (TAWDD): It thaws.
DENE: Dyna.
DIAU: Certainly, surely.
DIOD GADARN: Strong drink, intoxicating drink.
DIPIAU In bits, smashed to atoms.
DI-RAS: Ungodly, graceless.
DIRGELWCH: Mystery, secret.
DIREIDUS: Mischievous.
DOLENNU: To double up.
DRITHRO (TRITHRO): Three turns.
DRYBINI (TRYBINI): Trouble.
DUR TYNNU PINNAU: Magnet.
'DWYR: Ni ŵyr.
'DYDECH-DYDEN: Nid ydych, nid ydym,
DYHEU: To long for, to yearn for.
DDIFYFYR (DIFYFYR): Impromptu, without previous thought.
DDIFYRRWCH (DIFYRRWCH): Amusement, fun.
DDIYMADFERTH (DIYMADFERTH): Helpless.
DDRYCH (DRYCH): Mirror, looking-glass.
ECHRYSLON: Horrible, shocking.
EDMYGU: Admire, think much of.
EIDDGAR: Eager.
EIGION EI GALON: The depths of his heart.
ENE: Yna.
ENFYS: Rainbow.
ENNYD: Moment, while.
ENNYN: To kindle.
ESGEULUSO: Neglect, to disregard.
FAGDDU, Y: Utter darkness, hell.
FALLE: Efallai.
FEICHIO CRIO (BEICHIO): To cry bitterly.
FWRN (BWRN) Burden.
FFEFRYN: Favourite.
FFERU: To freeze, to congeal.
FFRI-WHILIO: To free wheel, to slide.
FFRWYDRIAD-FFRWYDRO: Explosion, explode.
GALWEDIGAETH: Vocation, trade, calling.
GELE: Leech. Pryfyn â'i allu i lynu a sugno yn gryf dros ben.
GLASENWAU: Llysenwau, nicknames.
GLASONNEN: Gair llafar gwlad am ffon i guro â hi.
GLOCH BACH, Y: Sŵn main fel sŵn chwibanogl, a glywir weithiau yn y glust. Credid gynt mai arwydd ydoedd fod perthynas neu gymydog agos yn mynd i farw'n fuan.
GOELCERTH (COELCERTH): Bonfires.
'GOM: Ymgom.
GORWEL: Horizon.
GREADIGAETH (CREADIGAETH) Creation, universe.
GREBACHU (CREBACHU): To shrink.
GREIE: Careiau.
GRWCWD (CRWCWD): Squatting, sitting on one's heels.
GRWM (CRWM): Crooked.
GWAL: Warren.
GWASTATIR: Level land, a plain.
GWEILCH: Rogues, rascals. O'r gair "gwalch."
GWENCI: Weasel.
GWINGO: To wriggle.
GWYMP (CWYMP): A fall.
GYFRINACH (CYFRINACH): Secret.
GYNHYRCHWYD (CYNHYRCHWYD): Produced.
GYNNE Gynneu, some time since.
HALLTUDIO (ALLTUDIO): To banish.
HEIDIO: To swarm, to throng, to crowd about one.
HONNI: To assert, to pretend.
LOERGAN (LLOERGAN): Moonlit. Defnyddir y gair yn aml gan ychwanegu'r gair "lleuad " ato.
LASHOGIAU (GLASHOGIAU): Raw youths.
LLED-GREDAI: He rather believed.
LLEITHTER: Dampness.
LLETHOL: Oppressive, overpowering.
LLESOL Beneficial, advantageous.
LLEWYGU: To swoon, to faint.
LLOCHESAU: Shelters, hiding-places.
LLOTYN: Na, yn wir, ni ddywedaf beth yw tarddiad y gair hwn.
LLYMAID Liquid.
LLYMED: O'r gair "llwm."
LLYSYWEN: Eel.
MEIRIOLI: To thaw, to melt.
MES: Acorns.
MIG: The game of "bo-peep."
MOESENAIDD: Pertaining to Moses.
MYFYRDOD-MYFYRGAR: studious. Meditation, study, meditative,
NENE: Hyn yna.
OCHENAID RIDDFANLLYD: A groaning sigh.
OFNATSEN: Gair yn pwysleisio'r gair y mae'n gysylltiedig ag ef, megis "oer ofnatsen," braf ofnatsen," etc.
PEDFAI: If he, if she, if it.
PEGI: Chwarae lle y ceisir taro â ffon ddarn o bren crwn (tua chwe modfedd o hyd, ac o hanner modfedd i fodfedd o led, wedi ei flaenllymu yn y ddau ben), o fan a nodir i fan a nodir. A'r un â'i tery yno gyntaf yw'r enillwr.
PELYDR: Lluosog o paladr, pelydryn, beams (sunbeams).
PENSYFRDANU: To stun, to daze.
PETRUSTER: Hesitation.
POBI: To knead.
'RARGIEN Ymadrodd yn dangos syndod mawr.
'RIALTWCH (RHIALTWCH): Festivity, jollification.
'ROTSIWN: Erioed ffasiwn, erioed y fath.
RUTHR (RHUTHR): Rush.
RYGNAI (RHYGNAI): To grate, to jar.
RYTHU (RHYTHU): To stare.
RHAWN Blew garw cynffon a mwng ceffyl.
RHIMYN: Rim, edge, narrow strip.
RHITHYN: Atom, particle.
SCŴL: Gair plant am "ysgolfeistr."
SERTH: Steep.
SGLERIO: To slide.
SGRUTH: Ar ei sgruth with a rush.
SIALC: Chalk.
SIGL: The swing of (its swing).
SIGLEN: A swing.
SILLAF Syllable.
SIW NA MIW: Not a murmur or whisper.
STYRMANT: Jews' harp.
SWRTH SYRTHNI: Drowsy. sleepy, drowsiness, sleepiness.
SYFRDANU: To stun, to daze.
TAN GWYLLT: Wildfire, fireworks.
TEWYCHU: To slacken, to condense.
TROBWLL MAWR: Great whirlpool.
THARW PARC (TARW PARC): Chwarae lle y ceisia nifer redeg o'r naill iâl (goal) i'r llall ac un yn y canol yn ceisio eu dal. A phob un a ddelir yn ei helpu i ddal y gweddill.
YDEN Ydym.
YMBALFALU: To grope in the dark.
YMDUMIE: Ystumiau, contortions, grimaces.
YSBAID YSBEIDIAU: Space (of time).
YSTLUM: bat.
Y DIWEDD.
Nodiadau
[golygu]Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1929, ac mae felly yn y parth cyhoeddus o dan gyfreithiau hawlfraint UDA, y wlad lle mae Wicidestun yn cael ei gyhoeddi. |