Rhys Llwyd y Lleuad/Neidio

Oddi ar Wicidestun
Dechreu Esbonio Rhys Llwyd y Lleuad

gan Edward Tegla Davies

Tan Gwyllt

VII

NEIDIO

WEDI stori dyn y lleuad paham na fedrent leisio siarad bu llonyddwch a myfyrdod hir. Mewn ogof fawr, dan gysgod un o'r mynyddoedd yr oeddynt, fel y gwyddoch, rhag ofn y cawodydd cerryg, ogof heb na ffrwd ddwfr, na llyffant, na malwen, nac ystlum, na hyd yn oed ddeilen rhedynen o'i mewn. Edrychasant tua genau'r ogof, a gwelsant ei bod yn bur oleu. Cododd Dic ar ei draed, ac aeth ymlaen i edrych, a gwelodd fod yr haul wedi codi.

Beth pe tasen ni'n mynd i weld tipyn o gwmpas, Rhys Llwyd?" eb ef. "Mae cymint i'w weld fel y daw hi'n nos cyn i ni hanner gweld yr hyn sydd i'w weld."

"Mi fydd dipyn eto cyn nosi," ebe'r dyn, 'wyddost ti be ydi hyd diwrnod yn y lleuad yma ? —pythefnos."

'Rargien fawr," ebe Moses, "dydi plant ddim yn mynd i'r ysgol, tybed, am y rhan fwya o bythefnos, heb symud odd 'no; a wedyn i'r Seiat,—wel, dene Seiat am awr mewn diwrnod o beder awr ar hugien,—mi fase hynny'n gymint â pheder awr ar ddeg allan o ddiwrnod o bythefnos. Ydi'r Seiat yn para yma am beder awr ar ddeg?"

"Be wyt ti'n feddwl wrth ddeyd bod Seiat yn para,'" ebe'r dyn, "'roeddwn i'n meddwl mai pethe byw oeddech chi'n ddeyd oedden nhw. Mi welodd Shonto un wedi marw o eisio bwyd, medde fo. Ddaru mi ddim dallt arnoch chi mai pethe bach byw yn pigo oedden nhw? A be ydi ysgol ac adnod, rwan yr yden ni'n sôn am y peth? Mae dywediad Shonto ei fod o wedi gweld adnod yn rhedeg ar ôl rhyw fachgen wedi dyrysu llawer arna i hefyd, yng ngoleuni rhyw bethe a glywes i gennoch chi."

Shonto sy'n deyd clwydde," ebe Dic.

Shonto! Shonto, 'mrawd i! Shonto'r mwya gwybodus a doeth yn y byd yn deyd clwydde! " ebe'r dyn yn wyn gan wylltineb, a thynnu'i wallt fel un wedi mynd o'i go. " Rhosa di, 'machgen i, i mi dy dynnu di'n greie," eb ef gan gyrraedd am Ddic, ond yr oedd Dic yn rhy gyflym iddo. I ffwrdd ag ef, â'r dyn ar ei ôl. Rhedasant ar ôl ei gilydd dros fynyddoedd a dyffrynnoedd,— Dic yn mynd i ben mynydd fel aderyn, a'r dyn ar ei ôl, yna'n neidio o dop y mynydd uchaf i'r gwaelod. A phan oedd y dyn yn yr awyr yn disgyn mewn naid o ben y mynydd ar ei ôl, neidiodd Dic i fyny i'w gyfarfod fel y gwelsoch geiliog ar fuarth fferm yn neidio i gyfarfod barcud oedd ar ddisgyn ar gyw, a gafaelodd yn ei draed, a throdd ef fel gwynt gerfydd ei draed o amgylch ei ben nes iddo benfeddwi'r hen ddyn yn llwyr. Gosododd ef wedyn ar wastad ei gefn ar lawr, ac eistedd ar ei frest, a galw ar Foses. Ond cofiasai Moses gyngor ei fam,—

"Moses bach, 'machgen i, paid byth â gneud dim os na fyddi di'n siwr o'r canlyniade," ac arhosodd yn ei unfan yn edrych yn frawychus arnynt.

Yr oedd y dyn wedi ei orchfygu'n llwyr, ac wedi ei ddyrysu'n lân wrth i Ddic ei droi felly fel chwrligwgan o amgylch ei ben.

Rwan," ebe Dic wrtho, chewch chi ddim codi ar ôl dangos yr ysbryd ene heb ddeyd y geirie yma ar f'ôl i. Ydech chi am addo?"

Nid oedd gan y dyn ddim i'w wneuthur ond addo, canys yr oedd Dic yn eistedd ar ei frest a'i ddwy law ar ei wddf.

"Rwan," ebe Dic, "dyma'r geirie,—' Mae Shonto 'mrawd,'
"Mae Shonto 'mrawd," ebe'r dyn.

"Yn deyd clwydde,'"ebe Dic.

Fe'i teimlai'r dyn ei hun yn tagu wrth geisio dywedyd y rhai hyn, ond fe deimlai hefyd fysedd Dic yn ei dagu'n fwy. O'r diwedd dywedodd,— "Yn deyd clwydde."

"A'r geirie yma hefyd," ebe Dic,—

"Rhys Llwyd."
"Rhys Llwyd," ebe'r dyn.

"Ar ei glwyd," ebe Dic.
"Ar ei glwyd," ebe'r dyn.

Bron a marw," ebe Dic.

Meddyliodd y dyn dipyn cyn dywedyd y rhai hyn. Ond ystyriodd yn y man mai mwy marw yr âi bob eiliad dan fysedd Dic,—

"Bron a marw," eb ef yn wannaidd.

"Eisio bwyd," ebe Dic.
"Eisio bwyd," ebe'r dyn.

"Ar ôl hynene," ebe Dic, "dim o'r ciamocs ene eto. Gwnewch addo."

Addawodd y dyn yn ostyngedig.

"Wel," ebe Dic, "dene ni'n ffrindie. Mi esbonia i rwan, fel un sy wedi diodde llawer oddiwrthyn nhw, bedi Seiat ac adnod. O achos 'does neb wedi gorfod gadel marbls a chware pegi a tharw parc mor amal â fi, i fynd i'r Seiat; na neb wedi gorfod bod yn dysgu adnod yn amlach na fi pan ddylwn i fod yn chware â Moses yma."

Ac esboniodd i ddyn y lleuad yn fanwl beth oedd Seiat ac adnod, ac wedyn beth oedd ysgol.

"Wel," ebe'r dyn yn addfwyn iawn, "mae'n rhaid bod Shonto wedi methu, a 'does ene 'run Seiat, nac adnod, nac ysgol yma, a dydwi'n dallt fawr o ddim eto amdanyn nhw. Ond mae diwrnod yma'n siwr i chi, fel y cewch chi weld, yn bedwar diwrnod ar ddeg o ddyddie'r ddaear. Dydi'r haul ddim yn mynd i lawr yma am bythefnos. Fasech chi'n leicio gwybod pam?"

Basen," ebe'r ddau fachgen.

"A glywsoch chi rywdro fod y ddaear yn troi ?" ebe'r dyn.

"Do," ebe hwythau.

"Pa mor amal y mae hi'n rhoi un tro," eb ef.

"Mewn diwrnod o beder awr ar hugain," ebe Dic. Gwelsai'r wybodaeth hon yn "Almanac y Miloedd" ar ddamwain, wrth chwilio am straeon. "Ac rydech chi'n cael un dydd ac un nos mewn peder awr ar hugain?" ebe'r dyn.

"Yden," ebe'r bechgyn.

"Pa mor amal y mae'r lleuad yn rhoi un tro?" eb ef.

Ni wyddai'r un ohonynt.

"Pa mor amal y mae'r lleuad yn llawn?" eb ef.

"Bob mis," ebe'r bechgyn.

Mae'r lleuad yn rhoi un tro, felly, bob mis," ebe'r dyn. "Mis ydi diwrnod y lleuad, felly —diwrnod o un dydd ac un nos. Mae'n ddigon hawdd i'r dyla bellach weld bod dydd y lleuad yn bedwar diwrnod ar ddeg o ddyddie'r ddaear, a'r nos yr un fath."

Edrychodd Dic a Moses ar ei gilydd mewn syndod mud.

"Dowch rwan i geg yr ogo," ebe'r dyn. Prin y gallent ddychmygu eu bod ar y lleuad yr arferasant gymaint â hi,—edrychai'r mynyddoedd mor uchel a'r dyffrynnoedd mor isel yng ngoleuni disglair, digwmwl, yr haul. Dyna fflach, ac un o'r cerryg aruthrol o'r gwagle uwchben yn disgyn fel saeth, nes dychrynu o'r ddau fachgen bron yn ddiymadferth.

"Peidiwch â dychryn," ebe'r dyn, "mae hi'n bur saff yma. A garech chi ddysgu sut i osgoi rhag y cerryg yma? Chlywch chi monyn nhw'n dwad, ond mi welwch y fflach. Mae nhw'n fflachio yn yr haul. Pan welwch chi fflach, neidiwch fel mellten i'r cyfeiriad arall. Ac mi ddowch yn y man i hoffi'r peth. Mae o 'n chware ardderchog."

A dyna hwy allan. Safasant i ddisgwyl. Dyna fflach fel mellten, a phob un yn neidio oddiwrtho fel mellten arall. A dyna garreg aruthrol yn disgyn o'r awyr. Ac yr oedd naid pob un o'r bechgyn dros ddeuddeg llath, a hynny'n ddidrafferth. Gwelsant mai chwarae ardderchog oedd osgoi'r cerryg mawr. Ac am y neidio yma, yr oedd yn gampus.

"Trueni," ebe Moses yn y man, wedi bywiogi trwyddo, "na fase Wil T'wnt i'r Afon, ddaru'n curo ni ar neidio yn nhê plant yr Ysgol Sul, yn ein gweld ni'n neidio rwan. Bedi dwylath wrth dros ddeuddeg llath?"

Dringasant i ben mynydd uchel. Yr oedd ei ben yn bigfain. Mynyddoedd uchel pigfain oedd yn y lleuad, gan mwyaf. Ar ben y mynydd hwn yr oedd twll mawr fel gwely hen lyn dwfr wedi sychu.

"Dyma le da i guddio wrth chware llwynog," ebe Dic.

Perswadiodd y dyn Foses i neidio i lawr. Nid oedd angen perswadio ar Ddic ar ôl y ras a fu rhwng y dyn ac yntau. Neidiodd Dic i lawr yn gyntaf, a Moses ar ei ôl, a daethant i lawr ill dau bron fel dwy bluen, o'u cymharu â'r fel y deuent i lawr pe'n neidio oddiar un o fynyddoedd y ddaear. A disgynasant ar y gwaelod yn o esmwyth ag ystyried bod y naid mor uchel.

"Lle braf ydi'r lleuad yma, wedi'r cwbwl," ebe Moses, "'does gen i ddim cymint o hiraeth am yr eneth oedd yn canu 'O! tyred yn ôl yng nghanol y neidio yma."

Daeth dyn y lleuad atynt. Dydi'r neidio mawr yma'n rhyfedd, deydwch? ebe Dic wrtho," pam yr yden ni'n gymint gwell neidiwrs yma nag ar y ddaear?"

"Gedwch imi weld be sy gennoch chi yn y'ch pocedi," ebe'r dyn. A dyna dynnu pethau allan, —y pethau rhyfeddaf mewn bod. Yng nghanol hen hoelion, a darnau llinyn, a matsis, a marbls, a thamaid o sialc glas, a botymau, a'u bath, o boced Dic, yr oedd dur tynnu pinnau wedi bachu mewn styrmant.

"Ga i weld hwn am funud?" ebe'r dyn, gan afael yn y dur, a dechreu chwarae ag ef. Gosodai bin yn ymyl y dur, a neidiai'r bin ato. Gosodai hi dipyn pellach, ond ni neidiai o'r pellter hwnnw.

"Mae gen i ddur cryfach na hwnene," ebe Moses, a thynnodd un mwy allan. Tynnai hwnnw binnau ato'i hun o gryn bellter.

"Wel," ebe'r dyn, "fel hyn yr oedd Shonto——."

Edrychodd dan ei guwch ar Ddic, a thawodd am ennyd. Yr hyn yr oedd ar fin ei ddywedyd ydoedd, fel hyn yr oedd Shonto'n dangos imi."

Wel," eb ef, ceisiwch dynnu'r bin yrwan oddiar yr un gwanna, ac wedyn oddiar yr un cryfa. Oddiar prun y mae hi galeta i'w thynnu?'

"Oddiar y cryfa," ebe'r ddau ynghyd.

"Wel, rwan," eb ef, "beth pe tase'r ddwy bin yma'n fyw, a'r bin yma ar y dur gwanna yn medru neidio i fyny oddiarno fo ac yn ôl, a'r bin ar y cryfa yn medru neidio yr un fath, prun fedre neidio ucha?"

"Y bin oddiar yr un gwanna," ebe'r bechgyn wedyn.

"Pam?" ebe'r dyn.

"Y mae ene lai o dynnu arni hi'n ôl," ebe hwy, "am hynny y mae ei gallu hi i neidio yn cael mwy o chware teg.'

"I'r dim," eb ef. Rhyw binne o bethe ydech chithe ar wyneb y ddaear, neu wyneb y lleuad, ond y'ch bod chi'n fyw. Mae ene allu i dynnu'n ôl, fel y dur yma, yn y ddaear a'r lleuad, dene'r pam y disgynnwch chi'n ôl ati, wedi i chi neidio, yn lle codi am byth i'r awyr. A dene pam y dowch chi'n ôl i'r lleuad hefyd, yn lle mynd i fyny fel mwg,—y lleuad sy'n tynnu ati. Ond mae'r lleuad yn llawer llai na'r ddaear, ac am hynny y mae ei gallu i dynnu'n ôl yn llawer llai.

A phan neidiwch chi i fyny, 'does ganddi ddim cymint o allu i dynnu'n ôl. Felly mi fedrwch neidio yma ymhellach ac uwch. Mi ddychrynes inne y tro cynta y dois i 'n ôl i'r ddaear, wrth weld na fedrwn i neidio hanner cystal yno ag yma, nes i Shont—, nes imi arfer." Ac edrychodd wedyn yn swil ar Ddic.

Edrychodd y ddau fachgen ar ei gilydd. "Felly," ebe Dic, "nid ni sy'n well neidiwrs, ond y lleuad sy'n wannach i'n dal ni'n ôl na'r ddaear?"

"I'r dim," ebe'r dyn.

"Ac mi fase Wil T'wnt i'r Afon yn ein curo ni yma hefyd?" ebe Moses.

"Base," ebe'r dyn.

"Hidia befo," ebe Dic wrth Foses, gad i ni fynd i neidio eto, a chware osgoi cerryg mawr. 'Does gan Wil ddim siawns i neud hynny." Ac ymaith â hwy allan.

A throdd ef fel gwynt gerfydd ei draed. [Tud. 57.

Nodiadau[golygu]