Neidio i'r cynnwys

Branwen Ferch Llŷr (Tegla)/Cartrefi'r Hen Gymry

Oddi ar Wicidestun
Cynnwys Branwen Ferch Llŷr (Tegla)

gan Edward Tegla Davies

Y Tylwyth Teg

Cartrefi'r Hen Gymry.

NID oes dim mwy dymunol i ni nag olrhain ein teulu, a holi pwy oedd ein teidiau a'n neiniau, ein hen deidiau a'n hen neiniau, a pha fath ar bobl oeddynt, a sut yr oeddynt yn byw, a beth ydoedd eu credo, ac am ba bethau y meddylient. Ffurf arall ar y diddordeb hwn yw ein diddordeb yn ein cenedl, ac nid oes yr un ohonoch heb fod yn awyddus i wybod sut bobl oedd yr hen Gymry gynt, beth oedd eu dull o fyw, sut dduwiau oedd ganddynt, â pha genhedloedd yr oeddynt yn gyfeillgar, ac â pha genhedloedd yr oeddynt yn elynol. Eu gwaed hwy sy'n rhedeg yn ein gwythiennau ni, a chawn esboniad ar lawer nodwedd a berthyn i ni, llawer gwendid, a llawer cryfder, ond i ni wybod sut bobl oedd yr hen Gymry, ac am eu dull o fyw, ac o feddwl, a'u syniadau am y byd y trigent ynddo.

Eithr sut y deuwn i wybod amdanynt. Ni allent ysgrifennu, ac ni ddaeth y syniad o sgrifennu erioed i'w pennau. Amdanom ni, gall pobl y dyfodol pell wybod amdanom oddiwrth y llyfrau, yn llyfrau hanes a phob math arall ar lyfrau, a adewir ar ol gennym, ond amdanynt hwy, ni adawodd yr un ohonynt air yn unman wedi ei sgrifennu i ddywedyd hanes ei genedl. Yn wir, ni feddylient fawr o ddim am y dyfodol, a phe baent yn awyddus i'r dyfodol eu cofio ni wyddent o gwbl sut i gadw eu hanes yn fyw ar gyfer y bobl a ddeuai i'r byd ar eu holau..

Ac eto y mae llawer iawn o'u hanes ar gael gennym, a gwyddom yn bur dda erbyn hyn amdanynt hwy a'u harferion a'u credo. Sut y daethom i wybod hynny?

Un ffordd yw chwilio'r ddaear am olion ohonynt, trwy durio mewn lleoedd tebygol o ddyfod o hyd i'w holion yno. Daethpwyd o hyd i'w harfau, a'u hofferynnau gwaith, a'u beddau, a'u cartrefi yn y dull hwn. Dro'n ôl gwahoddwyd fi gan gyfaill i fynd i geibio i goed Cororion, Tregarth, am olion un ran o'r hen Gymry. Aethom i'r coed hynny, y naill â'i raw a'r llall â'i gaib ar ei ysgwydd. Ni welid dim i ddangos bod yr hen Gymry erioed wedi byw yn agos i'r fan. Ond yr oedd fy. nghyfaill yn ŵr cyfarwydd. Toc, sylwodd ar ddarn o dir yng nghanol y coed oedd wedi mynd yn siglen a heb bren yn tyfu arno,—rhyw ddarn o dir ychydig o lathenni ar ei draws. Sylwodd ar drwyn carreg o'r ddaear yn un pen iddo, ac wrth chwilio daeth trwyn carreg arall i'r golwg yn y pen arall, ac wrth chwilio mwy gwelwyd bod y cerryg hyn yn ffurfio cylch lled grwn.

"Dyma wàl y tŷ," ebe'r cyfaill, "y mae'r aelwyd rywle yn y canol."

A dyna ddechreu ceibio, heb fod dim mwy i'n calonogi na phe chwiliem am aelwyd ar y ffordd fawr. Ond dal ati a wnaethom. Wedi dyfod i ganol y darn tir, dyna daro carreg, ac yna dechreuasom chwalu'r tir yn fwy gofalus. Beth oedd yno ond carreg lydan wastad ar lawr, ac arni garreg gron gymaint a phen. Dyna ni wedi dyfod o hyd i felin yr hen Gymry, wedi cael llonydd yno ers dwy fil a hanner o flynyddoedd. Eu dull hwy o falu yd oedd ei roddi ar y garreg wastad hon a'i guro â'r garreg gron. Aethom ymlaen yn ofalus, a dyna ddyfod yn union o hyd i garreg wastad arall wedi ei gosod ar ei chyllell, ac un arall wedi ei gosod yn ei herbyn, ac un arall yn erbyn honno nes ffurfio tair ochr i sgwâr, fel hyn,—

"Dyma'r aelwyd a'r grât," ebe'r cyfaill. "Ac y mae'n debygol mai o flaen y lle agored yr eisteddent i dwymno." Rhwng y cerryg hyn gorweddai nifer o gerryg crynion cymaint â dwrn, ac wedi torri un gwelid ei bod yn ddu yn ei chanol.

"Dyma'r cerryg berwi," ebe'r cyfaill.

"Beth yw'r rheiny?" ebe finnau.

Ac aeth ymlaen i esbonio. "Yr oedd y Cymry hyn a drigai yma," eb ef, "yn dechreu dyfod yn ddigon gwareiddiedig i beidio â bwyta cig byw, ond berwent ef yn gyntaf. Eithr sut i'w ferwi â hwythau heb lestri ond llestri pridd? Ni ellid rhoddi y rhai hynny ar y tân. Eu cynllun oedd gosod y cig mewn llestr pridd, a dwfr arno wedyn. Cuddient ben y tân â'r cerryg crynion hyn, a gadawent hwy yno nes mynd ohonynt yn eiriasboeth. Yna taflent hwy i'r dwfr bob yn un, a dechreuai hwnnw ferwi, a daliai i ferwi fel y dalient hwy i daflu'r cerryg iddo nes i'r cig fod yn barod i'w fwyta."

Codwyd y cerryg crynion ac odditanynt yr oedd y pridd yn hollol ddu, arwydd sicr mai lludw coed wedi cymysgu â'r pridd yn ystod y canrifoedd ydoedd. Dyma ni wrth le tân yr hen Gymry felly, ac wedi dyfod o hyd i amryw o'u harferion, pobl oedd yn byw yng Nghymru ddwy fil a hanner o flynyddoedd yn ôl, cyn bod sôn am na haearn na phres, cyn bod sôn am ddefnyddio dim ond carreg a phren a llestr pridd.

Wedi dyfod o hyd i'r pridd du,-ôl llawer o hen danau, symudwyd ef, a daeth pwyd o hyd i glai. A chyn belled ag y chwiliem wedyn, ar y gwastad hwn, ni chaem ddim ond clai. Dyna ni o'r diwedd wedi dyfod o hyd i lawr y tŷ. Wele felly, gartref yr hen Gymry,-wàl gron, a pholion o'i phen at bolyn a safai ar ganol y llawr, a'r polion hyn wedi eu cuddio à thywyrch a changhennau a dail. Dyna eu cysgod. Ac wele o'r tu mewn eu haelwyd, a'u melin, ac olion eu dull o ferwi cig. Dyna lawer o wybodaeth, onide, trwy ddim ond turio?

Nodiadau

[golygu]