Brethyn Cartref/Araith Dafydd Morgan

Oddi ar Wicidestun
Cariad Dico Bach Brethyn Cartref

gan Thomas Gwynn Jones

Elin eisiau Fôt


XIII. ARAITH DAFYDD MORGAN.

DAETH Dafydd Morgan yn sydyn i sylw mawr yn Llanygeiniog. Dyn cyffredin, fel y dywedir, ydoedd Dafydd, ond ei fod yn ddyn cyffredin go anghyffredin hefyd. Gweithiai yn y chwarel fechan oedd yn agos i Lanygeiniog, ac yr oedd yn adnabyddus yno fel dyn go ddigrif erg blynyddoedd, ond nid oedd neb ond y chwarelwyr yn gwybod rhyw lawer am dano. Un diwrnod, sut bynnag, daeth digwyddiad mawr i ran Dafydd Morgan. Ciafodd arian mawr o'r Siawnsri, a daeth rhag blaen yn ddyn o bwys yn y dref. Er fod yno amryw ddynion gweddol gefnog yn byw yn y dref, yr oedd Dafydd Morgan ar ol ei lwc yn ablach na neb o honynt.

Wrth gwrs, rhoes Dafydd y goreu i weithio yn y chwarel rhag blaen, ac i roi arbenigrwydd ar yr achlysur ac er mwyn dangos ei deimladau da at ei hen gydnabod, rhoes ginio ardderchog i'r chwarelwyr oll yn y Llew Coch, prif dafarn y dref. Yr oedd yn naturiol i rai o'r prif ddynion fod yn awyddus am fynd i'r cinio hwnnw, canys yr oedd Dafydd bellach yn ddyn nad ellid yn hawdd esgeuluso bod ar delerau da âg ef. Felly, llwyddodd amryw o fasnachwyr a phobl gefnog y dref i gael gwahoddiad i'r cinio, ac yn ystod y gweithrediadau, buont yn siarad yn ol eu harfer wrth gynnyg iechyd da'r Brenin a'i deulu, y fyddin a'r llynges, yr offeiriaid a'r gweinidogion, a Dafydd Morgan a'i deulu, a llwyddiant tref a masnach Llanygeiniog. Pan feddyliodd am y swper gyntaf, nid oedd gan Dafydd syniad yn y byd y byddai pethau fel hyn yn angenrheidiol. Ni bu erioed mewn cinio cyhoeddus o'r blaen, ac ni wyddai yr arferion. O'i ran ei hun, ni buasai yng nghinio'r chwarelwyr ddim ond bwyta ac yfed mewn distawrwydd, ond yr oedd y bobl fawr a wahoddwyd yno wedi meddwl am wneud y peth yn deilwng, ac wedi cynnyg i Dafydd yr aent hwy yn gyfrifol am wneud yr holl drefniadau. Mewn ffordd, yr oedd yn dda gan Dafydd gael rhywun i edrych ar ol, ac ymddiriedodd y mater yn llwyr i'r bobl fawr oedd yn arfer â phethau o'r fath, sef tri neu bedwar o'r prif fasnachwyr, yr offeiriaid, a dau neu dri o bobl yn byw ar eu harian, rhai o honynt hefyd yn aelodau o gyngor y dref. Gwnaethant hwythau bopeth yn drefnus, a dewisasent rai o'u plith eu hunain i gynnyg iechyd pawb oedd i gael ei anrhydeddu.

Ni wyddai Dafydd ddim am y trefniadau, er ei fod yno fel llywydd, wrth gwrs. Ar ol dechreu y dywedodd rhai o'r gwŷr cyhoeddus wrtho amcan pa beth oedd i ddigwydd, ac yr oedd Dafydd wedi synnu braidd, ond ni ddywedodd ddim yn erbyn y pethau a drefnwyd gan ei gyfeillion newyddion.

Yn y lle priodol, cynhygiwyd iechyd da'r Brenin a'i deulu, y fyddin a'r llynges, yr offeiriaid o bob math, ac yfwyd yn galonnog, a rhywun yn ateb dros y naill a'r llall, ond y Brenin, wrth gwrs. O'r diwedd, daethpwyd at y prif beth, sef cynnyg iechyd da Dafydd Morgan ei hun.

Cododd un o'r masnachwyr ar ei draed, a dywedodd fod ganddo orchwyl hynod bleserus i'w wneud, sef cynnyg iechyd da Mr. Morgan. Teimlai yn sicr y byddai pawb yn cydweled âg ef wrth iddo ddywedyd fod Mr. Morgan yn un o gymwynaswyr goreu y dref. Ar ol dyfod i feddiant o'r cyfoeth oedd yn gyfiawn eiddo iddo, yr oedd wedi cofio ei hen gyfeillion a dangos ei barch tuag atynt. Yr oedd hefyd yn wahanol i lawer wedi prynn tŷ yn y dref a phenderfynu byw yno a chefnogi masnach gartref yn hytrach na mynd ymaith i dreulio ei gyfoeth. Mewn amser, yr oedd o yn sicr y byddai Mr. Morgan yn cymryd dyddordeb blaenllaw yn amgylchiadau cyhoeddus y dref, ac y ceid y budd o'i brofiad a'i allu ar gyngor Llanygeiniog. Un fantais fawr o feddu eiddo ydoedd y gallai ei berchennog roddi ei wasanaeth yn rhad ac yn rhwydd i'w wlad ac i'w dref, ac yr oeddynt oll yn ddiameu yn sicr y byddai i Mr. Morgan wneud hynny hefyd. Ar ol dywedyd llawer o bethau tebyg, cynhygiodd y siaradwr "Iechyd da Mr. Morgan," ac yfwyd ato gyda hwyl a chymeradwyaeth fawr.

Yr oedd Dafydd Morgan wedi ei blesio yn fawr, ond ni wyddai fod yn ddyled arno ateb hyd nes dywedodd un o'i gyfeillion gwybodus wrtho. Ar ol iddo ddeall fod yn ofynnol iddo wneud araith, cododd Dafydd ar ei draed yn araf ynghanol cymeradwyaeth fyddarol, ac edrychodd o'i gwmpas yn fodlon. Ni wyddai ar y ddaear pa beth i'w ddywedyd, ond pan dawodd y gymeradwyaeth, gwelodd fod yn rhaid iddo ddywedyd rhywbeth, a dechreuodd arni rhag blaen.

"Wel," eb efô, "yr hen ffrindie sydd yn fy nabod i er pan oeddwn i yn hogyn ac yn ffrindiol hefo fi pan oeddwn i yn y chwarel yn faw ac yn rhwbel, a chithe y ffrindie newyddion fuo mor garedig a dwad i fy nabod i mor dda ar ol i mi gael yr arian, mae'n dda iawn gen i 'ch gweld chi yma fel hyn wrth y byrdde yma yn cael llond y'ch bolie am unweth, o leia, a barnu wrth fel rydech chi'n claddu'r trugaredde yma o'r golwg. Yn enwedig y saim paen yna, fel maen nhw yn i alw fo,—wn i ar y ddaear pam chwaith. Wel, 'doeddwn i ddim yn disgwyl am yr arian yma, ond gan eu bod nhw wedi digwydd i mi, rydw i am drio gneud y gore ohonyn nhw, wrth reswm. Roedd Mr. Jones y Siop Ucha yn deyd mod i yn un o gymwynaswyr gore'r dref yma. Wel, er na fum i ddim yn delio yn i siop o hyd yma, rydw i yn ddiolchgar iddo fo am i air da, ac mi alla ddeyd wrtho fo rwan nad anghofia i ddim fod gynno fo siop, rwan ar ol i mi gael arian. O'r blaen, fyddwn i ddim yn mynd yno am fod i bethe fo dipyn yn ddrud, er eu bod nhw yn dda iawn, mae'n siwr. Deyd yr oedd o hefyd fy mod i wedi cofio fy hen gyfeillion a dangos fy mharch tuag atyn nhw. Wel, do, ac mi faswn yn fy nghyfri fy hun yn rhyw gadi ffan garw petaswn i yn eu hangofio nhw, welwch chi. Mi fuon yn eitha ffrindie i mi, a pheidio â son am ambell i ffrae o dro i dro, ar hyd y blynydde, cyn i mi drwy lwc ddwad yn ddigon o ddyn i gael ffrindie erill. Ond er mod i wedi cael rhai newyddion, peidiwch a meddwl mod i am dawlu'r hen rai heibio, chwaith. Na, rydw i am gofio mai hen chwarelwr oeddwn i cyn fy ngeni, fel tase, ac mai dyna fydda i ar ol fy nghladdu hefyd. Deyd yr oedd Mr. Jones hefyd fy mod i wedi prynu tŷ yn y dref a chefnogi masnach gartref hefyd. Wel, mae hynny yn wir, os oes rhyw ddaioni ynddo. Well gen i fyw yma nag yn unman arall, am y rheswm nad wn i fawr am unlle ond yma; ac am fasnach gartre, wel, fel y deydis i o'r blaen, mae gen i rwan ddigon o fodd i dalu chwaneg i Mr. Jones am bethe, os ydyn nhw yn wir yn well na phethe rhatach. Fydda i yn meddwl ond ychydig o'r bobol yma sy'n mynd a'u harian i ffwrdd i'w gwario, ac 'rydw i yn gobeithio y bydd siopwrs y dref yma o hyn allan yn cadw stwff cartre—yn enwedig brethyn—yn lle rhyw stwff sal o rywle o Loegr ne ryw wlad arall. Os oeddwn i yn i ddallt o yn iawn, 'roedd Mr. Jones yn rhyw led awgrymu y gwnawn y tro i fod yn un o'r Gorfforaeth yma. Wel, 'does gen i fawr o feddwl o honof fy hun, a deyd y gwir yn blaen i chi. Nag o'r gorfforaeth chwaith, ran hynny. 'Dydw i ddim yn meddwl na wnawn i lawn cystal cownsler a'r cyffredin o honoch chi, a gwell hwyrach nag amal i un. 'Roedd Mr. Jones yn deyd mai un fantes fawr o fod yn gyfoethog ydi medru rhoi gwasanaeth yn rhad i'r wlad neu i'r dref. Mae hynny yn ddigon gwir, tae o'n wir hefyd. Cyn belled ag y sylwes i, eu bod nhw yn gyfoethog ydi'r unig beth fedrwch chi ddeyd o blaid y rhan fwyaf o'r bobol sy'n gwasanaethu eu gwlad heblaw y gellwch chi ddeyd eu bod nhw yn gyffredin yn gneud i'w gwlad eu gwasanaethu nhwythe hefyd. Ar yr un pryd, 'dydw i ddim yn deyd na ddylen nhw gael rhyw gydnabyddiaeth am roid cymaint o'u hamser i edrych ar ol eu manteision eu hunen a rhyw dipyn o fanteision pobol erill pan ddigwyddan nhw gofio am hynny. Os byddwch chi yn meddwl ryw dro y medra i wneud rhyw ddaioni ar y Corporasiwn, mi fydda'n barod i drio, cyn belled âg y gwela i yrwan. Ond mae yma lawer o bethe wedi eu deyd yma heno y baswn inne yn leicio deyd gair arnyn nhw. Roedd y gŵr bonheddig gynhygiodd iechyd da'r Brenin cystal a deyd fod eisio crogi'r bobol yma sydd yn erbyn brenhinieth. 'Dydw i ddim o'r un farn â fo. Cyn belled ag y gwela i, mae'r Brenin yma yn eitha dyn rwan, ond mae o yn cael gormod o gyflog o heth cethin, ne ynte mae pawb arall a adwen i yn cael rhai cannoedd o filoedd yn rhy chydig am eu gwaith. Mi ddeydwyd hefyd y base hi yn o ddrwg arnon ni oni bae am y fyddin a'r llynges a'r offeiriaid o bob math. Synnwn inne ddim. Fasen ni byth yn medru ffraeo cymaint, mae'n siwr. Ond dyma fi yn mynd i siarad gormod, mi wn. 'Does gen i ond diolch ichi bawb am ddwad yma fel hyn. Stwffiwch y pethe yma i gyd o'r golwg, ac os na fedrwch chi eu rhoi nhw yn eich stumoge, rhowch nhw yn eich pocede i fynd adre!"

Dyna araith gyntaf Dafydd Morgan. A'r olaf.

Nodiadau[golygu]