Brethyn Cartref/Elin eisiau Fôt
← Araith Dafydd Morgan | Brethyn Cartref gan Thomas Gwynn Jones |
Ffrae Lecsiwn Llangrymbo → |
XIV. ELIN EISIAU FÔT.
'RYDW i mewn helynt dros fy mhen a'm clustiau. Feddyliais i erioed fod y fath beth yn bosibl. Petasai'r lleuad yn disgyn wrth fy nhraed i, fuaswn i ddim yn synnu mwy. Na fuaswn, na chymaint ychwaith. 'Roeddwn i bob amser yn meddwl ei bod hi yn berffaith gall. Yn wir, buaswn yn betio fy mhen na chafodd yr un dyn erioed un fwy synhwyrol na hi. Soniodd hi erioed am y peth o'r blaen yn fy nghlyw i, beth bynnag, ac yr ydw i bron yn siwr na chlywodd neb arall moni hi yn gwneud hynny chwaith. Ond erbyn hyn, y mae hi yn wyllt ulw. Pwy, ddywedsoch chi? Wel, pwy ond y wraig acw? Be sydd arni hi? Ond wedi mynd o'i chof yn lân deg y mae hi. Be sydd o'i le? Nid y fi fedr ateb, ond y mae hi wedi mynd i gredu fod yn angenrheidiol iddi hi gael fôt. A byth er hynny—wel, wn i ddim beth i'w ddeyd na'i wneud, os gwyr rhywun arall. Y mae hi'n ofnadwy acw.
Cyn iddi hi gael yr adwyth yma, yr oedd Elin yn ddynes gall, gyda'r gallaf yn y wlad. Fum i erioed mewn helbul hefo hi. Pan ddigwyddwn i ddwad adre dipyn yn hwyr, ni byddai acw helynt o gwbwl. 'Roedd hi yn gwybod sut i wneud i'r dim. Fyddai hi byth yn dywedyd gair cas, ond mi fyddai yn medru gwneud i mi feddwl yn fuan iawn fy mod i wedi aros yn rhy hwyr o lawer, ac mi fyddwn yn meddwl mwy ddwywaith o honi hi o achos fod ganddi ddull mor fedrus i fy nhrin i. Mi wyddwn o'r goreu mai dull i fy nhrin i oedd o, ond 'roeddwn i yn dotio ato, ac yn cymryd fy nhrin yn rhwydd. Wel, a pha bryd bynnag y down i adref, welais i erioed mo'r ty yn anrhefnus ganddi. Byddai popeth bob amser yn lân ac yn daclus, a thamed o fwyd blasus i'w gael heb fynd i'r drafferth o feddwl pa beth a fynnai ddyn i gael. Fyddai Elin byth yn poeni enaid dyn drwy ofyn iddo beth fynnai i'w ginio neu i'w swper. Nid allaf fi aros meddwl beth fuaswn i yn i leicio. Ac yr oedd Elin yn gwybod hynny. Peth arall oedd hi yn i wybod hefyd oedd beth fuaswn i yn i leicio. A dyma fyddai hi yn i wneud bob amser. Ac fel y gwyddoch, os gwyddoch rywbeth hefyd, 'does dim gwell gan ddyn na chael tamed o fwyd wrth i fodd heb orfod meddwl dim am dano ymlaen llaw. A dyna fyddai un gamp ar Elin. Peth arall, fel y dywedais i, oedd y byddai popeth yn lân ac yn daclus. Er nad da gan ddyn mo'r diwrnod golchi na'r diwrnod glanhau'r ty, y mae o yn leicio lle glân cyfforddus bob amser, ac mi fyddai Elin bob amser yn gofalu am le felly i mi. Yn wir, yr oeddwn i yn hapus dros ben taswn i yn gwybod hynny. Ond wyddwn i ddim ar y pryd. Mi wn erbyn hyn. Y mae hi wedi newid yn erchyll acw. Beth ydi'r drwg, meddech? Wel, mi gewch wybod.
Y mae ar Elin eisio fôt, dyna'r cwbl.
Ydw i yn erbyn? Nag ydw i, yn eno'r tad. Mi gae fy fôt i a chroeso, ond iddi hi fod fel o'r blaen. Ni waeth gennyf fi petae ganddi hi hanner cant o fotiau yr un dim, ond yr wyf yn cwyno yn gethin yn erbyn trefn bresennol pethau. Welsoch chi erioed y fath gyfnewidiad. Wn i ddim yn iawn sut y dechreuodd y drwg, ond yr wyf yn meddwl mai rhyw gyfarfod fu yn y dref acw a'i cychwynnodd o. 'Roeddwn i yn ameu ers tro fod Elin yn darllen mwy ar y papur newydd nag y byddai. 'Does dim yn erbyn hynny, wrth reswm. Y mae'n eitha peth i ferched ddarllen y papurau newyddion, ond 'does dim eisieu iddynt gredu popeth a ddarllenant ychwaith. Wel, sut bynnag, mi sylwais ryw ddiwrnod fod cyfarfod i'w gynnal yn y dref i gefnogi cael fôt i ferched. 'Doeddwn i yn meddwl fawr o'r peth. Yn wir, tueddu yr oeddwn i chwerthin am ei ben. Ond buasai yn well i mi beidio. Dywedodd Elin wrthyf un diwrnod fod arni eisiau i mi aros adref y prynhawn i edrych ar ol y plant.
"I be, nghariad i?" meddwn.
"I mi gael mynd i'r cyfarfod," ebr hi.
"Pa gyfarfod?"
"Y cyfarfod o blaid i ferched gael y fôt."
"I be'r ei di i hwnnw, dywed?"
"I glywed be sy gynnyn nhw i'w ddeyd."
Meddyliais na ddoe dim drwg o hynny, a dywedais yr edrychwn ar ol y plant. Felly fu. Aeth Elin i'r cyfarfod, ac arhosais innau adref i edrych ar ol y plant iddi.
Go drychinebus fu'r cais. 'Roedd y chwe hynaf yn chware yn yr ardd, a'r babi yn chware yn y ty. Ni phoenais ynghylch y rhai oedd yn yr ardd i ddechreu. Achos da pam. 'Roedd gennyf fwy na llond fy nwylo hefo'r gŵr bach oedd yn y ty. Ni ddychmygais erioed fod mor anodd i ddyn fod yn feistr yn i dŷ ei hun o'r blaen.
'Roedd y babi—y mae o yn bymtheng mis oed—yn eistedd yn i gadair fach pan aeth Elin i ffwrdd. Cyn hir, yr oedd o wedi darfod chware â'r papur newydd oedd ganddo, ac mi fynnodd gael cwpan de. Ni bu ddau funud nad oedd o wedi torri honno yn deilchion. Wedyn mi gymerodd ffansi at y tecell copr oedd ar y silff ben tân. Mynnodd gael hwnnw, ac mi taflodd o rhag blaen i ganol y llestri oedd ar y bwrdd nes oedd y rheiny yn chwilfriw. Ar ol hynny mynnodd gael dwad i lawr o'i gadair, a dyna lle bum i fel adyn yn crwydro hyd y tŷ ar i ol o am ddwyawr neu dair. 'Roedd o cyn pen hanner yr amser wedi troi popeth o'r tu chwith allan, ac wedi torri popeth potyn oedd yn i gyrraedd o yn yfflon mân. 'Roeddwn i yn dechreu blino ar i orchestion o, ac yn meddwl y buasai'r wialen fedw yn gwneud lles iddo. Euthum i chwilio am honno, ond tra bum i wrthi, 'roedd o wedi dwad o hyd i badell yn llawn o ddwr, ac wedi sefyll ar i ben yn honno. Digwydd cyrraedd mewn pryd ddarfu mi i'w achub rhag boddi. Ar ol ei gael allan o'r dwr, 'roedd o yn crio yn arw, a bu raid iddo gael benthyg fy oriawr cyn y tawai. Rhoes gost o chweugain ar honno cyn darfod â hi.
Erbyn hynny, 'roeddwn i yn meddwl ei bod hi yn amser rhoi'r plant eraill yn eu gwelyau. Felly, mi rwymais y babi wrth droed y bwrdd, ac euthum i'r ardd i nol y lleill. Cefais gryn drafferth i'w cael i'r tŷ, ond llwyddais o'r diwedd, ac ar ol gwneud iddynt fwyta dipyn o rual oedd mewn bowlen ar y bwrdd yn y gegin, gyrrais hwy i'w gwelyau. Deallais wedi hynny mai startsh oedd y grual, a dyna'r rheswm mae'n debyg fod y plant mor stiff drannoeth. Sut bynnag, mi gefais drafferth fawr i'w cadw yn ddistaw ar ol mynd i'w gwelyau. Yr oedd y cnafon bach yn ymladd ac yn ffraeo ac yn galw ei gilydd wrth enwau na chawsant erioed yn eu bedydd. 'Roedd y babi hefyd wedi gwneud cryn alanas tra bum i yn danfon y lleill i'r llofft. 'Roedd o wedi medru tynnu'r bwrdd i lawr ar ei gefn, ac yr oedd y gath yn digwydd bod o dano yntau. Ni chlywsoch erioed y fath dwrw rhwng y gath ag yntau a'r canibaliaid bychain yn y llofft.
'Roeddwn i yn dechreu mynd i anobaith, ac yn credu fod rhyw ddamwain wedi digwydd i Elin, onite y base adref cyn hynny. Cefais gryn drafferth cael y babi a'r gath a'r bwrdd yn rhydd oddi wrth ei gilydd. Yr oeddynt rywsut fel pe buasent wedi mynd yn gymysg. Ond wedi hir ymdrech, medrais eu gwahanu. Euthum â gweddillion y gath allan. Yr oedd y babi hefyd yn crio yn arw am fod y gath cyn i'r pwysau roi diben arni wedi plannu ei hewinedd ynddo. Y bwrdd oedd y distawaf o'r tri a'r hawsaf i'w drin o lawer. Ar ol rhoi'r babi yn ei gadair, euthum i geisio clirio tipyn ar y llawr, oedd wedi ei orchuddio â darnau o lestri te, a phethau ereill yr oedd y babi wedi eu malu, ond yr oedd y babi yn cadw cymaint o swn fel y daeth gwraig y tŷ nesaf i mewn i ofyn a oedd rhywbeth yn ceisio'i ladd o. Dywedais nad oedd, ond mai fo oedd yn ceisio fy lladd i, a'i fod agos iawn wedi medru hefyd. Chwarddodd y ddynes, ond 'doedd o ddim yn fater chwerthin ychwaith.
'Roeddwn i yn disgwyl yn eiddgar am weled Elin, ond 'doedd dim golwg am dani er i bod bellach yn hanner awr wedi saith. Bum yn yr helynt am awr wedyn, a thua hanner awr wedi wyth, dyma hi adref.
"Mi fum mewn pwyllgor ar ol y cyfarfod," meddai, "ac mi aeth yn o hwyr."
"Do, ddyliwn," meddwn innau.
Pan ddaeth hi i mewn a gweled yr olwg oedd ar y babi a phopeth arall, mi gafodd dipyn o fraw.
"Beth ar y ddaear ydech chi wedi wneud, deydwch?" ebr hi.
"Gofynnwch iddo fo," meddwn innau, "y fo ydi'r mistar."
"Welis i rioed y fath beth," ebr hi.
"Na finne."
"Dydi dynion ddim ffit," ebr hi, ac yna ychwanegodd, "ac i feddwl eu bod nhw yn gwrthod fôt i ferched!"
"Ie, wir," meddwn innau.
"Ple mae'r plant erill?" ebr hi.
"Mae nhw yn eu gwelyau."
Yr oedd y cnafon bach wedi tawelu erbyn hyn.
Ymosododd Elin arni i wneud trefn ar y babi o'r diwedd, ac yna gwnaeth i mi ei ddal ac aeth hithau i'r llofft i weled sut olwg oedd ar y lleill. Gyda'i bod hi yno, mi glywn rhyw ebychiad o syndod.
"John," ebr hi, "ble mae'n plant ni?"
"Be wn i, ydyn nhw ddim yna?" meddwn.
"Nag ydyn—o leiaf, dim ond dau o honyn nhw. Rhyw blant diarth ydi'r lleill! Be gebyst oedd arnoch chi, deydwch?"
Erbyn edrych, yr oeddwn wedi rhoi pedwar o blant rhywun arall yn y gwelyau gyda dau o'n plant ni.
Bu raid i mi ei gwadnu hi i chwilio am y lleill, a bum tan hanner awr wedi naw heb gael hyd iddynt. Dygais hwy adref, ond erbyn hynny, yr oedd acw barti o ferched o gwmpas y bwrdd yn yfed te ac yn son am ormes dynion a'r cam yr oeddynt yn ei wneud â merched. Gyrrais y plant i'r gegin i'w canol ac euthum fy hun ar fy union i'r dafam agosaf. Bum yno tan amser cau. Erbyn i mi fynd adref, 'doedd yno na swper na dim yn fy aros, a bu raid i mi ei wneud fy hun.
Y mae mis er hynny bellach, ac y mae pethau yn mynd yn waeth bob cynnyg. Y mae'r ty yn anrhefnus a'r plant yn fudron, waeth dywedyd y gwir na pheidio, ac y mae acw bwyllgor bob yn eildydd, ac ni fedraf ddywedyd mai myfi biau fy nhy fy hun. Ydi, ŵyr dyn, y mae hi yn ddrwg gynddeiriog acw.