Brethyn Cartref/Sam
← Yr Hen Gartref | Brethyn Cartref gan Thomas Gwynn Jones |
Ynghwsg ai yn Effro? → |
III. SAM.
Ci oedd Sam. Dwywaith erioed y gwelais ef, ond bu'n gyfaill pur i mi. A chofiodd fi yn hwy na llawer "cyfaill" arall a fu i mi. Y mae ugain mlynedd, oes, a rhagor, er hynny. Rhaid fod Sam wedi marw. Nid wn i ym mha le y claddwyd ef. Ond dyma air er cof am dano.
Hogyn deg oed oeddwn, ac yn ddieithr yn yr ardal. Yr oedd fy nhad wedi symud yno o ardal arall, ddeugain milltir i ffwrdd. Ffermwr ydoedd fy nhad. Yr oedd dydd Calanmai wedi dyfod, ac yr oeddwn i a'm brawd yn y ffarm newydd ers rhai dyddiau, a fy nhad wedi mynd ymaith i'r hen gartref i nol fy mam a'r brawd ieuengaf, y pryd hwnnw yn fachgen bychan penfelyn teirblwydd oed, ac erbyn heddyw yn ei fedd yn huno'n dawel yn ymyl ein mam.
Yr oeddwn i wedi cael gorchymyn i fynd i'r dref ar ryw neges neu gilydd, ac wedi mynd. Yr oedd y tywydd yn braf, yn wir, yr oedd yr haul yn boeth iawn a'r ffyrdd yn llychlyd, er nad oedd hi ond y cyntaf o Fai. Yr adeg honno, yr oedd y gwanwyn a'r haf yn dyfod yn gynharach ac yn llawer brafiach nag ydynt erbyn hyn. O leiaf, dyna fel y mae'n ymddangos i mi. Euthum i'r dref ar y neges. Nid oeddwn erioed wedi gweled tref gymaint o'r blaen, nag erioed dref a hen gastell ynddi, ac yr oedd mynd i'r dref yn beth pwysig. Bum yno hwyrach yn hwy nag oedd raid, yn cerdded o gwmpas ac yn fflatio fy nhrwyn ar ffenestri siopau. Bum hefyd yn edrych yn hir ar yr hen gastell, ac yn dychmygu faint o bethau rhyfedd a ddigwyddodd yn yr hen le mawreddog hwnnw erioed.
Ond o'r diwedd, cychwynnais adref, a'r neges gennyf. Torth a thipyn o de a siwgr ydoedd, os da'r wyf yn cofio, at wneud tamed i fy nhad a'm mam a'r brawd bach pan ddeuent. Pan oeddwn ar gwrr y dref ar fy ffordd adref, deuthum i brofedigaeth.
Yr oedd yno haid o hogiau yn chware yn ymyl capel. Gwelsant fi, a deallasant fy mod yn hogyn dieithr. Wrth gwrs, yr oedd am hynny yn ddyled arnynt luchio cerrig ataf. Gwnaethant hynny yn egniol. Os gwnaethant bob dyledswydd o hynny hyd hyn cystal, rhaid eu bod yn ddynion go lew.
Prun bynnag am hynny, pan ddechreuodd y cerrig ddisgyn yn gawod o'm cwmpas, teimlais fod gennyf finnau ddyledswydd. Dechreuais daflu'r cerrig yn ol atynt hwythau.
Gan fod yno o leiaf hanner dwsin ohonynt hwy a dim ond un ohonof finnau, bu raid i mi encilio yn raddol o flaen yr ymosod. Gwneuthum hynny gan ymladd oreu gallwn. Bu'r chwech wrthi am chwarter awr o leiaf yn fy ngyrru led cae, ond er fy mod yn dal fy nhir yn gyndyn, cilio yr oeddwn. Hyd hynny, nid oeddwn wedi cael fy nharo, er fod hynny wedi digwydd i un neu ddau o'r ymosodwyr. Haws taro un o chwech nag un ar ei ben ei hun, hwyrach. Prun bynnag, cyn bo hir, cefais ergyd yn fy mraich a'm gwnaeth yn llai abl i'm hamddiffyn fy hun. Ond fe'm creulonodd, ac yr oeddwn dipyn yn gyndynnach nag o'r blaen, ac yn lluchio yn ddygnach. Yr oedd y frwydr yn ffyrnicach, ond yr oeddwn yn encilio'n arafach, er mai encilio o hyd yr oeddwn.
Yr oedd pethau yn edrych yn hagr arnaf, a'm braich yn brifo yn arw. Yr oeddwn yn dechreu meddwl mai rhedeg a fyddai ddoethaf. Pa beth allai un yn erbyn chwech? Ac yr oeddwn eisoes wedi gwneud mwy o ddifrod arnynt hwy nag a wnaethent hwy arnaf fi. Credwn rywfodd na byddwn yn rhyw lwfr iawn pe buaswn yn rhedeg.
Yr oeddwn ar droi a ffoi.
Yn sydyn, dyma gi heibio i mi. Rhoes ddau neu dri thro o'm cwmpas, cyfarthodd, ac yna, fel mellten, ymaith ag ef am yr hogiau ereill, gan gyfarth yn ffyrnig.
Gwell un ci da na chwe hogyn drwg.
Cyn pen eiliad, yr oedd yr hanner dwsin wedi troi a ffoi. Rhedasant yn gynt na chyffredin, a'r ci ar eu holau yn cyfarth ei hochr hi.
Yr oeddynt yn diflannu o'r golwg mewn tro yn y ffordd ym mhen dim amser. Yr wyf yn gweled eu sodlau y munud yma. Ie, dyna hwy wedi mynd, a'r ci ar eu holau.
Prin y cawswn amser i feddwl. Digwyddodd y cwbl mor sydyn. Wedi myned yr hogiau a'r ci o'r golwg, cerddais innau tuag adref, gan feddwl ynof fy hun ei fod yn beth rhyfedd iawn i gi dieithr felly gadw chware teg mor brydlon i mi. Byddwn bob amser yn ffrynd i gwn (yr wyf felly eto), a thybiais mai rhyw gi ydoedd hwn wedi cymryd ataf yn sydyn heb unrhyw reswm arbennig dros hynny, ond mai fi oedd y gwannaf.
Yr oeddwn yn cerdded tuag adref gan feddwl am y peth.
Yn sydyn, dyma gi heibio i mi drachefn. Troes o'm cwmpas nid wn i ba sawl gwaith, gan gyfarth ac ysgwyd ei gynffon, neidio a'i draed blaen ar fy mynwes a llyfu fy nwylaw.
O wir ddiolch iddo am ei gymwynas â mi yn fy nghyfyngder, rhoddes innau anwes iddo, ac yna, daeth yn ei flaen i'm canlyn fel pe buasem yn hen gydnabod.
Y mae'n resyn na fedrai cwn siarad. Yr wyf yn berffaith sicr eu bod yn ceisio eu goreu, ac yn gwbl sicr hefyd y byddai ganddynt lawer amgenach ysgwrs nag aml i ddyn. Ond ni roddwyd iddynt allu siarad, hyd yma; ac felly nid oeddwn innau fymryn nes i wybod pam y gwnaeth y ci hwnnw gymwynas â mi.
Cerddasom ill dau yn ein blaenau, ac yntau bob yn ail a pheidio yn llyfu fy llaw ac yn sefyll o'm blaen gan ysgwyd ei gynffon, a golwg mor gall a deallus arno.
Deuthom at fuarth y ffarm. Troais i mewn. Daeth y ci i'm canlyn. Euthom ymlaen at y ty. Aeth yntau o'm blaen, a phan oeddwn i yn cyrraedd y drws, yr oedd yntau yn mynd i mewn.
"Hylo, Sam, 'y ngwas i, o ble doist ti?"
Clywais y geiriau hyn. Gwraig yr hen denant oedd yno. Yr oeddynt yn mudo y diwrnod hwnnw, ac yr oedd hi wrthi yn gwneud llymed o de ar fwrdd bychan yn y gegin i'w yfed cyn cychwyn, a'r drol ar y buarth yn disgwyl i'w chymryd hi a'r bwrdd a'r ychydig fân bethau oedd eto ar ol, ymaith i'r lle newydd.
A'r funud honno, cofiais innau fy mod wedi gweled Sam o'r blaen.
Hanner blwyddyn cyn hynny, yr oeddwn yn y ffarm gyda fy nhad, sef Galan Gaeaf, pan oedd rhan o'r tir yn dyfod gyntaf i feddiant y tenant newydd. Yr oedd fy nhad a minnau wedi dyfod yno ar dro, ac yr oeddwn i yn digwydd bod yn sefyll ar y buarth ym mrig yr hwyr, pan ddaeth gwas yr hen denant adref gyda'r wedd o'r ffarm yr oedd hwnnw yn symud iddi. Yr oedd y gwas a'r wedd wedi bod yn y lle hwnnw am fis, o leiaf. Yr oedd Sam gydag ef yno ar hyd yr amser, a phan gafodd ei hun unwaith yn rhagor yn ei hen gartref, teimlodd yn ddiau yn falch ac yn llawen.
Danghosodd ei falchter drwy roi rhyw gyfarthiad a dechreu rhedeg o gwmpas. Tybiodd yr ieir a'r hwyaid oedd ar y buarth mai rhedeg ar eu holau hwy ydoedd ei amcan, a dechreuasant esgyllio o gwmpas gan wichian yn arw. Yr oedd y gwas wrthi yn dadfachu'r wedd oddi wrth y drol ar y buarth. Tybiodd yntau, fel y cydnabu wrthyf wedyn, mai rhedeg ar ol yr ieir yr oedd Sam, a chymerodd y chwip a fflangellodd ef.
Rhaid fod y gwas hwnnw mewn tymer go ddrwg ar y pryd neu ynte ei fod yn un creulon wrth natur, canys chwipiodd y ci yn llawer gwaeth nag y dylasai, hyd yn oed a chaniatau ei fod wedi rhedeg yn fwriadol ar ol yr ieir a'r hwyaid.
Gwaeddodd Sam yn druenus, a chiliodd tuag ataf fi a'i gynffon yn ei afl ac un droed i fyny, a'r llanc ar ei ol a'r chwip yn ei law.
"Peidiwch, peidiwch," meddwn innau, gan sefyll rhyngddynt, "wnaeth o ddim i'r ieir—rhyw chware yr oedd o, dyna'r cwbwl."
"Chware yn wir, mi dysga i o!" ebr y gwas, gan fynd yn ei ol yn anfoddog.
Anwesais innau y ci, a daeth yntau gyda mi i'r ty. Bu yn gorwedd ar lawr wrth fy nhraed drwy'r dechreunos, ac yn cael tamed o'm swper. Weithiau, gwthiai ei drwyn i'm llaw, tynnwn innau fy llaw hyd ei ben, a llyfai yntau hi yn hir ac yn dyner. Buom felly yn ffryndiau mawr hyd nes euthum i gysgu y noswaith honno.
Erbyn i mi godi drannoeth, yr oedd Sam wedi myned ymaith drachefn i'r lle arall i ganlyn y meistr a'r gwas, ac ni welais innau mohono mwy hyd nes daeth o hyd i mi yn fy nghyfyngder ac yr achubodd fi rhag llid yr hogiau drwg y diwrnod hwnnw, dros chwe mis ar ol yr amser y cedwais i chware teg iddo yntau.
Dyna hanes fy nghydnabyddiaeth i a Sam. Ni welais byth mohono ar ol y diwrnod hwnnw, ond nid anghofiaf byth am dano. Ci defaid ydoedd, ci cryf, braf, a blewyn melyn, sidanaidd, llaes arno, ci bonheddig, call, a chywir. Dywedais yr hanes wrth aml i un ar ol hynny. Gwelais rai yn gwenu, ac yna byddent yn awgrymu nad oeddynt yn rhyw barod iawn i'w gredu. Nid gwaeth gennyf fi, ond mi wn un peth. Ni wyddai y personau hynny ddim am gwn. Nag am ddynion ychwaith