Brethyn Cartref/Yr Hen Gartref
← Twrc | Brethyn Cartref gan Thomas Gwynn Jones |
Sam → |
II. YR HEN GARTREF.
"DIOLCH am gael dwad o'r diwedd!" ebr dyn canol oed wrth ddisgyn o'r tren yn stesion Llanefron, tua deg o'r gloch un noson ym mis Awst.
Yr oedd Llanefron wedi altro yn arw yn ystod ugain mlynedd. Prin yr oedd yno ddim yr un fath yn union. Pentref bychan ydoedd gynt, a rhyw ddeucant o dai ynddo ar y goreu, y rhan fwyaf ohonynt yn fychain iawn, ac yn sal dros ben. Yr oedd yno ryw ddwy siop yn gwerthu bwyd a dillad, dwy dafarn, un capel ac un eglwys. Rhyw drichant o bobl oedd yn byw yno, y rhan fwyaf o'r dynion yn labro ar y ffermydd o gwmpas, a rhyw ddeg ar hugain neu ddeugain yn gweithio yn chwarel y Coed Bach, tua phum milltir oddi yno. Byddai rhyw ddwsin o'r bobl yn mynd i'r eglwys, rhyw ddeucant yn mynd i'r capel, a'r gweddill yn bwrw'r Sul heb fynd i unman.
Ond daeth tro ar fyd. Yr oedd y ffordd haearn yn rhedeg heibio'r lle, a gwelodd rhywrai fod yno gyfle i wneud arian. Yr oedd y môr yn agos, ac yr oedd yr ardal yn un iach. Daeth rhyw ŵr dieithr yno un diwrnod, ac aeth o gwmpas i weled y lle. Nid oedd fawr o gamp ar y pentref ei hun. Bychain a budron oedd oedd y rhan fwyaf o'r tai, ac arogl lludw a dŵr golchi lloriau yn llenwi'r awyr o'u cwmpas bob amser. Ni thalodd yr estron ond ychydig sylw i'r pentref, ond yr oedd yr ardal o'i gwmpas yn ei blesio yn fawr. Yr oedd y pentref yng ngwaelod y pant, ac afon fechan yn rhedeg drwy ei ganol. Ar du'r dwyrain, yr oedd y tir yn codi yn raddol nes cyrraedd cryn uchter, ac ar y llethr ddymunol honno yr oedd cryn nifer o dai bychain a gardd go helaeth yn perthyn i bob un ohonynt. Yr oedd pobl yn byw yn weddol daclus yn y tai hynny, ond nid yn ddi-drafferth ychwaith. Yr unig rai sydd yn medru byw yn ddi-drafferth yn y wlad hon yw'r rhai sy'n gwneud dim. Gweithwyr oedd yn byw yn y tai y soniwyd am danynt, ond trwy eu bod yn byw yn gynnil ac yn syml ac yn gwneud y goreu o'r ardd a'r cut mochyn, yr oeddynt yn medru talu eu ffordd yn lled dda. Yn eu plith yr oedd amryw yn berchenogion eu tai eu hunain. At y rhai hynny yr aeth y gŵr dieithr, a chyn pen ychydig amser yr oedd wedi prynu'r tai a'r gerddi am ychydig bunnau, a'r hen drigolion yn gorfod troi i chwilio am gartrefi ereill.
Yna dechreuodd Llanefron newid. Cyn pen blwyddyn yr oedd tai newyddion lle'r oedd y bythynod a'r gerddi gynt, a phobl ddieithr yn byw ynddynt. Saeson o rywle o ganol Lloegr. Yn fuan wedyn, yr oedd tai ereill yn y farchnad, a thai newyddion yn codi yn eu lle nes britho'r llethr a'i llenwi â thrigolion. Yr oedd diweddyno fasnach fywiog, yn enwedig yn yr haf, pan fyddai cannoedd o bobl yn dyfod yno i dreulio eu gwyliau ar lan y môr. Ychydig iawn o'r hen drigolion oedd yno mwyach. Yr oedd hyd yn oed yr hen bentref yn y gwaelod wedi diflannu, a chasgliad o dai newyddion wedi cymryd ei le. Nid oeddynt yn edrych mor fudron â'r hen dai, ac nid oedd yno gymaint o arogl lludw a dwfr budr ag a fyddai gynt. Ond nid oedd llawer o ddiolch am hynny, gan fod y lludw bellach yn cael ei gario ymaith bob dydd, a bod pibellau wedi eu gosod yn y ddaear i gario dwfr budr ymaith i'r môr, lle'r oedd y bobl fawr a fyddai yn dyfod yno yn yr haf yn ymdrochi, a'r hylif cymysg o heli a charthion yn ol pob tebyg yn gwneud lles mawr iddynt.
Felly yr oedd pethau bellach, y noswaith y daeth y dyn canol oed o'r tren yn y stesion ac y diolchodd am gael dwad o'r diwedd.
Dyn tua phump a deugain oed ydoedd, yn dal a golygus, ond a'i wallt yn wyn fel y llin. Yr oedd golwg iach ar ei dalcen. Yr oedd gydag ef ddynes tua'r un oed ag yntau, ac wrthi hi y llefarodd y geiriau a ddyfynnwyd ar y dechreu. Yr oedd hithau yn dal a shapus, ond yr oedd rhychau ar ei thalcen, a'i gwallt, a fu unwaith yn felyngoch, bellach wedi troi yn felynwyn.
"Ie," ebr hithau wrtho, "diolch am gael dwad o'r diwedd!"
Cerddodd y ddau allan o'r stesion mewn distawrwydd, ac aethant ymlaen tua'r hen bentref. Yr oedd y pellter tua milltir, a chynt nid oedd ond ffordd wledig, gul, yn arwain drwy ganol tir amaethyddol o'r stesion i'r pentref. Bellach, yr oedd yno ffordd lydan, a thai mawrion o bobtu iddi.
Safodd y dyn a'r ddynes toc, yng ngoleuni un o'r lampau trydan yno, ac edrychasant ar ei gilydd.
"Yden ni wedi colli'r ffordd, dywed, Elin?" meddai'r dyn.
"Wel, yden, ne ynte mae'r lle wedi altro yn ofnadwy," ebr hithau.
"O, ie, wrth gwrs," ebr yntau, "mae'n debyg mai dyna'r rheswm. Wedi bildio y maen' nhw. Tyrd yn dy flaen ynte, 'nghariad i."
Aeth y ddau ymlaen mewn distawrwydd am dipyn. Yr oedd y ffordd yn llydan o hyd a thai o bobtu yr un fath.
"Elin," meddai'r dyn, " 'ryden ni wedi i methu hi yn siwr i ti."
"Methu be, Dafydd?"
"Methu yr hen ffordd. 'Roeddwn i yn disgwyl gweld yr hen wrychoedd a'r hen lidiarde a'r hen gamfa, lle bydden ni yn sefyll cymaint ers talwm."
"Ie," ebr y ddynes, ac yna tawodd.
"A dyma be sydd yma!" meddai'r dyn, gan daflu ei law yn ddirmygus at y tai ar y naill ochr a'r llall i'r ffordd.
"Ie," ebr hithau, gan nesu ato a chydio yn ei fraich.
Cydiodd yntau am ei chanol, plygodd ei ben a chusanodd hi. Yna cerddodd y ddau ymlaen yn ddistaw eilwaith.
"Ble'r awn ni ynte, Dafydd?" meddai hi yn y man.
"Wn i ddim," ebr yntau, "waeth mo'r llawer ble. Ond i'r hen dafarn yr oedden ni wedi meddwl myud, onte? Waeth i ni fynd yno."
"Na waeth!" ebr hithau, gan bwyso yn drymach ar ei fraich o hyd.
Cerddasant ymlaen, a daethant i ddarn o'r ffordd oedd heb dai o bobtu. Ond yr oedd y ffordd yn y fan honno yn llydan, a gwal uchel o bobtu iddi, ac nid gwrychoedd.
"O," meddai'r dyn, "melldith arnyn nhw a'u hen walie hagr!"
"Ie," ebr y ddynes yn ddistaw.
Daethant o'r diwedd i'r hen bentref, ond nid oedd yntau yr un fath a chynt, mwy na'r hen ffordd."
Mae nhw wedi bod yma hefyd," meddai'r dyn. "Ple mae'r hen dafarn?"
"Wn i ddim ym mhle yr yden ni yn iawn," ebr y ddynes. "Mi ddylase'r hen dafarn fod draw yn y fan acw, os nad ydw i yn methu."
"Dylase," ebr yntau, "gad i ni fynd i chwilio ynte."
"Aeth y ddau hyd ystryd weddol lydan, a chroesasant yr afon, hyd bont fawr a'r trydan yn goleuo nes dangos y dwfr yn yr afon islaw yn llwyd-ddu a thipyn o ewyn budr hyd ei wyneb yma ac acw.
"Dim golwg am yr hen dafarn," meddai'r dyn.
"Nag oes," ebr y ddynes; "yn y fan acw y dylase hi fod, goelia i."
"Ie, 'nghariad i, yn union yn y fan acw. 'Ryden ni yn ymyl y lle y buon ni—wyt ti yn cofio, Elin?"
"Ydw, machgen i."
Daeth llencyn heibio gan chwibanu un o'r pethau y bydd y Saeson yn eu galw yn gerddi digrif. Pasiodd o fewn dwylath i'r dyn a'r ddynes.
"Hanner munud," meddai'r dyn wrtho, "fedrwch chi ddeyd ym mhle mae'r hen dafarn—Y Dafarn Goch?"
"Pardon, syr," ebr y llanc.
Ail ofynnodd y dyn ei gwestiwn.
"I speaks no Welsh," meddai'r llencyn, braidd yn ysgornllyd.
"Nor English," ebr y dyn, a chan afael ym mraich y ddynes, aeth yn ei flaen.
Cyfarfuasant ereill, a holodd y dyn, ond nid oedd yno neb a allai ei ateb yn Gymraeg, nag yn Saesneg ychwaith o ran hynny, na neb yn gwybod dim am y Dafarn Goch. Nid oedd neb yn cofio ei gweled yno. Fel yr oedd ar y pryd yr oeddynt hwy yn cofio'r lle.
"Be wnawn ni?" meddai'r dyn.
"Wn i ddim," ebr y ddynes. "Waeth i ni heb fynd i chwilio am yr hen fwthyn, mae'n siwr."
"Na waeth, mi waranta. Ond gad i ni fynd. Hwyrach fod y cnafon wedi gadel y wlad fel yr oedd hi."
"Hwyrach!"
Aeth y ddau yn eu holau dros y bont, ac yna ymlaen tua'r llethr, ond ystrydoedd a thai oedd o'u cwmpas ym mhob man, a bron bawb a'u pasiai yn siarad rhyw fath o Saesneg—geiriau Saesneg a chystrawen ac acen Gymreig, peth i ferwino clustiau Cymro a Sais.
"Mi ddylen fod o gwmpas y lle," meddai'r dyn; " 'ryden ni yn cerdded ers ugien munud. Ond weli di, 'does yma ddim ond tai o gwmpas."
"Nag oes. Rhaid eu bod nhw wedi tynnu'r lle i lawr, Dafydd!"
"Y lladron!" meddai'r dyn.
"Nos dawch!" ebr hen wr cloff, gwargam, wrth basio.
"Nos dawch!" ebr y dyn. "Os gwelwch chi yn dda, fedrwch chi ddeyd wrtha i lle me Tyddyn Huwcyn?"
"Wel," meddai'r hen wr, " 'rydech chi yn sefyll tua'r fan lle'r oedd o gynt—mae'r stryd yma yn mynd drwyddo fo, fel tase."
" 'Roeddwn i yn meddwl! Diolch i chi."
"Ydech chi yn cofio'r lle, syr, fel yr oedd o?"
"O, ydw ugien mlynedd yn ol. Mae'r lladron wedi andwyo'r lle!"
"Wel, hwyrach yn wir. 'Roedd hi'n well arna i yn yr hen amser, sut bynnag. Ie, yr hen Dyddyn Huwcyn druan! Dyn byw, 'roeddwn i yn ffryndie hefo'r hen bobol, coffa da am danyn nhw. Oeddech chi yn eu nabod nhw, syr?"
"Oeddwn. Fy nhaid a nain."
"Yr holl allu! Nid Dafydd ydech chi?"
"Ie, siwr, a dyma Elin, fy ngwraig i, merch y Dafarn Goch ers talwm ——."
"Trugaredd fawr, wel, mae'n dda gen i'ch gweld chi! Ydech chi ddim yn cofio'r hen dowr, Huw Dafis y Towr?"
Ysgydwasant ddwylaw, a buont yn siarad yn hir am yr hen amser, a dywedodd yr hen wr mai fô oedd bron yr unig un oedd yn fyw o'r hen drigolion.
"Ac yr ydech chi wedi dwad yr holl ffordd o'r America i weld yr hen gartre?" meddai'r hen wr. "Wel! ac i ble'r ydech chi am fynd?"
"Yn ein hole rhag blaen," ebr Dafydd, "does yma ddim lle i ni! Tyrd, Elin!"
Ac ymaith a hwy.