Breuddwydion Myfanwy/Pennod XIII

Oddi ar Wicidestun
Pennod XII Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod XIV


XIII

Dihunai f'ofn o dan f'ais, yna fel
Rhyw ofnus awel araf nesheais.
—R. WILLIAMS PARRY (Yr Haf).

Pysgod mawr yn gweu drwy'i gilydd
Yn nhawelwch du yr eigion.
—W. J. GRUFFYDD (Ynys yr Hud).

DIHUNWYD Mr. Luxton a Madame a Myfanwy bore drannoeth gan arogl pysgod yn rhostio.

"Cwyd, Myfanwy! Dere i wneud brecwast. Y mae'r tegell yn berwi," ebe Gareth.

Gwelai Myfanwy yn ei meddwl ford a lliain gwýn arni, llestri glân, te twym, bara menyn. Cododd ar unwaith ac aeth i weld pa syndod oedd gan y bechgyn iddi.

Yr oedd y ddau wedi bod yn brysur iawn. Codasent gyda'r wawr, a mynd i bysgota. Yna gwnaethai un dân, a'r llall yn glanhau'r pysgod. Pan ddaeth y tri eraill at y ford yr oedd brecwast hyfryd yn barod ar eu cyfer,—pysgod, bara ffres, digon o ffrwythau, a llaeth neu lemonêd. Medrodd hyd yn oed Madame fwynhau'r pryd cystal â phe bai'r llestri ceinaf a'r llieiniau meinaf o'i blaen. Rhoddai awyr yr ynys archwaeth dda iddynt bob un.

Yr oedd mordaith o'u blaen. Yr oeddynt bob un mor llawn o wefr a chyffro â phe baent yn mynd ar y môr am y tro cyntaf yn eu bywyd. Rhag ofn na fyddai bwyd yn eu cyrraedd ar y daith, aethant â stoc o ffrwythau a llond y bocs tin o ddŵr gyda hwy yn y cwch. Rhoddodd y bechgyn nifer o ddail bananau i mewn hefyd i fod yn gysgod rhag yr haul. Cymerodd Mr. Luxton un rhwyf a'r ddau fachgen y rhwyf arall bob yn ail. Madame oedd wrth y llyw.

Fel y gwelsom eisoes yr oedd eu gwersyll hwy yn agos at enau'r afon fach ac yn wynebu ar y Gorllewin. Aethant oddiyno tua chyfeiriad y Gogledd. Cadwasant mor agos ag y gallent i'r tir. Mewn rhai mannau plygai'r palmwydd cnau a choed eraill uwchben y dŵr. Pe dewisent, gallent dynnu cnau ac afalau a bara heb lanio. Gwelsant yn fuan fod yn rhaid iddynt fod yn ofalus iawn er fod y lagŵn mor dawel. Yr oedd eu cwch yn fawr. Rhaid oedd gofalu peidio â mynd i le rhy fâs yn agos at y tir. Ni feiddient chwaith fynd yn rhy agos at y rhibyn, rhag bod creigiau cwrel llym o'r golwg yn y dŵr. Dilynid hwy gan dyrfa o wylanod yn crio'n groch. Efallai na welsai'r gwylanod hynny o'r blaen greadur mor fawr â'r cwch yn nofio ar wyneb y lli.

Wedi tuag awr o rwyfo daethant at lecyn bychan clir. Darn tri chornel ydoedd, tuag ugain troedfedd o lêd gyda'r traeth a thua'r un pellter i'r big uchaf, Breuddwydion Myfanwy Edrychai'n union fel pe bai rhywun wedi ei wneud. Beth os oedd rhywun heblaw hwy yn byw ar yr ynys! Yr oedd ar Llew a Gareth awydd glanio a mynd i edrych. Cytunodd y lleill. Aed â'r cwch at y traeth bychan oedd ar eu cyfer, a rhoddwyd ef yn ddiogel wrth fôn coeden.

Wedi cyrraedd pen uchaf y llannerch, gwelsant fod llwybr yn arwain oddiyno i fyny trwy'r goedwig, neu o leiaf, fod llwybr wedi bod yno. Gellid yn hawdd ei ddilyn er bod y prysgwydd wedi tyfu drosto. Llwybr cul iawn ydoedd am ychydig lathenni ar y dechreu, yna ymagorai nes bod tua chwe troedfedd o lêd. Ymblethai cangau'r coed yn dew uwch ei ben nes ei wneud fel arcêd, a chau allan oleu'r haul bron yn llwyr. Arweiniai llwybrau eraill culach allan ohono, yma a thraw, ar dde ac ar aswy. Rhaid bod teithio mawr wedi bod ar y llwybrau hyn rywbryd, neu ni buasai eu hôl wedi aros. Gan bwy? I ba le? I ba beth? Dyna'r cwestiynau a lanwai feddyliau y pum teithiwr oedd yno yn awr.

Wedi troi a throi a dringo'n raddol o hyd, daethant allan i le gweddol wastad. Lle wedi ei glirio yn y diffeithwch oedd hwn hefyd, ond yr oedd y prysgwydd wedi ail-dyfu a chyrhaeddai at ysgwyddau Gareth a Llew pan geisient gerdded drwyddo. Yr oedd carreg fawr wastad ar y canol, bron â'i chuddio erbyn hyn gan lysiau a mwsogl. Yma a thraw o'i chylch gwelsant ddarnau o goed plethedig fel gweddillion hen fur. Trawodd troed Gareth yn erbyn rhywbeth rhyfedd iawn a hanner ymguddiai yn y prysgwydd. Bôn pren ydoedd wedi ei dyllu o'r tu mewn, ac wyneb dyn wedi ei gerfio arno o'r tu allan. Yr oedd tua thair troedfedd o hyd, ac edrychai yn rhywbeth ofnadwy iawn.

"O! beth ydyw? ebe Myfanwy'n frawychus.

"Drwm—ddelw,' ebe Mr. Luxton, ac edrych ar y tyst distaw hwnnw'n sýn.

"Y mae'n amlwg bod rhywrai wedi bod yn byw yma," ebe Llew.

"Y maent wedi mynd oddiyma er ys llawer dydd, a da hynny," ebe Madame.

Ar y funud cododd haid o barôtau gydag ysgrechain oer i'r awyr. Bu Madame a Myfanwy bron â llewygu gan ofn.

"Olion teml sydd yma, onide, Mr. Luxton?" ebe Llew. "Dyna yw fy marn innau," ebe Mr. Luxton.

"Diolch mai olion sydd yma. Y mae'n hawdd gweld na fu neb yma er ys tro.'

Ni ddywedodd Mr. Luxton y cwbl oedd ar ei feddwl. Yr oedd arno ofn gwneud y lleill, yn enwedig Madame a Myfanwy, yn anesmwyth. Nid oedd ef ei hun yn gwbl dawel ei feddwl. Darllenasai lawer gwaith am anwariaid yn dyfod o ynysoedd eraill i ryw ynys neilltuol lle'r oedd teml. Deuent â'u carcharorion gyda hwy. Yna byddai llu o seremoniau yn y deml, curo'r drymiau hyll, canu a dawnsio, ac yna, lladd y carcharorion, eu rhostio, a gwledda arnynt. Yn ddiddadl, un o'r lleoedd hynny oedd hwn. Lle'r glanio oedd y llannerch wrth y môr. Ar hyd y llwybrau llydain troeog y llusgent neu y gyrrent y carcharorion. Diben y llwybrau culach, oedd dyrysu rhyw druan a geisiai ddianc. "Pe medrai'r coed yma siarad," meddai Mr. Luxton ynddo'i hun, "byddai eu stori ryfedd yn ddigon i godi gwallt y dewraf." Am ryw reswm yr oeddynt wedi peidio â dyfod, ai am dymor ai am byth, pwy a wyddai? Yr oedd yn dda mai ar yr ochr hyn i'r ynys yr oedd y lle. Gallent ddyfod a mynd heb weld neb na chael eu gweld. Bu Mr. Luxton yn effro lawer nos wedi hyn yn dychmygu clywed bwm! bwm! y tabyrddau, a chanu pell yr anwariaid.

Wrth fynd at y cwch cododd Myfanwy rywbeth o'r tywod sych yn ymyl y tir.

"O, edrychwch!" ebe hi wrth y lleill. "Beth yw hwn?"

Darn o asgwrn tua dwy fodfedd o hyd ydoedd.

Disgleiriai fel gwydr. Ar un pen iddo, wedi ei osod yn ofalus, yr oedd perl du mawr.

"O Myfanwy!" ebe Madame. "Byddwch chwi'n ferch gyfoethog ryw ddydd. Y mae'r perl yna yn werth arian mawr."

"Y mae'n werth can punt o leiaf," ebe Mr. Luxton.

Un o addurniadau rhyw ddyn gwyllt ydyw. Ie, dyma'r agen fechan yma ynddo. Tebig mai hongian wrth ei glust ydoedd."

"O, Mr Luxton! Beth a wnaem pe deuai'r dynion gwyllt yma eto?" ebe Myfanwy.

Nid yw'n debig y deuant eto," ebe Mr. Luxton yn gryf. Efallai eu bod wedi adeiladu teml ar ryw ynys arall, neu efallai bod cenhadwyr wedi dyfod atynt a'u troi oddiwrth eu hofergoeledd."

"Rhaid bod ynysoedd eraill heb fod ymhell oddi— yma," ebe Llew.

"Nid oes un yn y golwg," ebe Mr. Luxton.

"A oes bwlch gyferbyn â'r lle hwn?" ebe Gareth.

"Ie, dyna gwestiwn purion," ebe Mr. Luxton.

"Na, nid oes bwlch yna," ebe Llew, "Sut gallent ddyfod yma ynteu?"

"Drwy ein bwlch ni, wrth gwrs," ebe Gareth.

"O Gareth!" ebe Myfanwy.

"Onid gwell i ni gael cinio yma cyn mynd i'r cwch?" ebe Llew, ymhen ysbaid.

"Ni allaf i fwyta bwyd yn y lle hwn," ebe Madame, ac edrych ar Mr. Luxton. Gwyddai'r ddau eu bod hwy yn deall peth na ddeallai'r plant am y lle.

Fel y nesaent at ochr y dwyrain âi'r tir yn fwy a mwy creigiog. Yr oedd y rhibyn cwrel yn nes hefyd, a rhu'r môr oddiallan yn uwch, a glâs y lagŵn yn dywyllach. Syllai Gareth a Myfanwy dros ochr y cwch. Yr oedd golygfeydd rhyfeddach yn y lagŵn nag oedd ar y tir. Er ei bod mor ddwfn yr oedd y dŵr mor glir a thawel fel y gellid gweld y gwaelod. Yno yr oedd y cwrel byw yn ei ffurfiau a'i liwiau prydferthaf. Nofiai pysgod bach a mawr i fyny ac i lawr yn ddiflino. Yr oeddynt hwythau mor rhyfedd â'r cwrel yn eu ffurf a'u lliw. Dychrynai Myfanwy wrth weld maint rhai ohonynt.

Dychrynodd Gareth hefyd cyn hir. Gwaeddodd mewn cyffro—Mr.Luxton! Y mae siarc yma! ," Mi. Gwelaf ef yn eglur. O Mr. Luxton, a oes perigl?"

'Nid oes perigl tra byddom yn y cwch. Pe gadech eich coes neu eich braich i hongian dros ymyl y cwch yn y dŵr ni byddai'r siarc yn hir cyn gafael ynddi. Y mae'n hoff iawn o gnawd dynion. "Dacw un arall!" gwaeddai Gareth. "Y mae'r lle yma'n fyw ohonynt."

Ni feiddiai Mr. Luxton a Llew aros ar eu rhwyfau na symud o'u lleoedd i edrych rhag ofn dymchwelyd y cwch. Dywedodd Madame fod yn well ganddi hi beidio â gweld y creaduriaid rheibus. Rhwyfasant ymlaen yn ddistaw a daethant yn fuan i ochr ddeheuol yr ynys. Nid oedd y creigiau mor uchel a gwgus yno. Yr oedd yno hefyd ambell fan bach hyfryd rhwng y creigiau. Daethant i dir mewn hafan fach ddymunol. Yr oedd eisiau gorffwys ar y rhwyfwyr ac eisiau bwyd ar bawb.

Ni allai'r plant fod yn llonydd yn hir. Dringodd Gareth a Myfanwy un o'r creigiau ac aethant i mewn i'r wig i edrych beth a welent. Daethant yn ôl yn fuan iawn a nifer o wrysg pytatws a gwreiddiau mawr gymaint â'u dyrnau yn hongian wrthynt, Teimlent bob un yn falch o'r darganfyddiad pwysig. Aeth Llew yn ôl gyda hwy i'r un lle, a daeth y tri â chymaint ag a fedrent eu cario o'r pethau gwerthfawr, er mwyn eu cymryd gyda hwy yn y cwch. Addawodd y bechgyn ddal digon o bysgod fel y caent swper iawn ar ddiwedd y dydd.

Pwy garai fynd hyd at y rhibyn yn awr ar ein ffordd yn ôl?" ebe Mr. Luxton.

"Y mae ofn yr hen bysgod mawr yna arnaf i," ebe Myfanwy.

Ofn pysgod!" ebe Gareth. "Ni ddaw'r pysgod o'r dŵr."

"Beth pe bai'r cwch yn taro yn erbyn y creigiau sydd o'r golwg?" ebe Madame. "A beth pe baem yn mynd allan trwy'r bwlch i'r môr mawr?" ebe Myfanwy.

'Dyna rai ofnus yw merched!" ebe Gareth. "Na, nid ydym yn ofnus. Dewch, Myfanwy," ebe Madame. Rhwyfasant ymlaen nes dyfod i olwg y bwlch. Deallent erbyn hyn wrth liw'r dŵr pa le yr oedd lle bâs a pha le yr oedd creigiau. Pan ddaethant at fan cyfleus, neidiodd Llew i ben y graig a gwnaeth y cwch yn ddiogel. Yna daeth Mr. Luxton a Gareth allan, a thrwy eu help hwy, Madame a Myfanwy.

O, dyna olygfa! Teimlad rhyfedd oedd sefyll felly yn ymyl y dyfnder dig. Ond nid craig gul, beryglus oedd y rhibyn fel y tybiasai Myfanwy ei fod. Yr oedd digon o le i gerdded arno, a rhai coed a llysiau yn tyfu arno yma a thraw. Dyna hardd yr edrychai yr ynys o'r pellter hwn! Dyna liwiau gogoneddus! Pan edrychent arni gydag edmygedd, gwaeddodd Llew mewn cyffro,—

"O, beth sydd fan draw? Ai cwch ydyw?"

Atebwyd ei gwestiwn ar y funud. Cododd cynffon enfawr o'r dŵr, a chwythwyd dau bistill hir o ddŵr i'r awyr. Morfil oedd yno.

"O dir! Dewch yn ôl," ebe Myfanwy.

Chwerthin a wnaethant am ofn Myfanwy, ond yr oeddynt bob un yn barod i fynd yn ôl erbyn hyn. Mwynhasant eu swper ar ôl dydd mor gyffrous.

Nodiadau[golygu]